Skip to Main Content

Chef cartref gofal yn y Fenni i gystadlu mewn rownd derfynol genedlaethol Bydd Carmine Tarquilio yn cynrychioli Cymru yn rownd derfynol cystadleuaeth Chef Gofal Cenedlaethol y Flwyddyn a gynhelir ar 3 Mehefin yng Ngholeg Stratford Upon Avon yn Swydd Warwick. Cafodd Carmine, sy’n paratoi prydau bwyd ar gyfer preswylwyr yng Nghanolfan Adnoddau Parc Mardy Cyngor Sir Fynwy yn y Fenni, ei ddewis yn Chef Gofal y Flwyddyn Cymru mewn cystadleuaeth a gynhaliwyd yng Ngholeg Penybont ar 13 Mawrth. Cynlluniwyd y gystadleuaeth i herio chefs i greu bwydlen flaengar a blasus o brif brydau a phwdinau addas ar gyfer rhywun mewn gosodiad gofal sy’n dangos yn glir ddealltwriaeth o’r cynhwysion a ddefnyddiwyd, dawn a gallu wrth gyfuno blasau, gweithredu technegol a chyflwyno. Cyfyngir pob pryd i gyllideb gyfyng o ddim ond £2.25 y pen gyda pharatoi mewn dim ond 90 munud! Wedi’i threfnu gan Gymdeithas Genedlaethol Arlwywyr Gofal (NACC), bydd rownd derfynol Brydeinig y gystadleuaeth yn dod ynghyd â chefs yn gweithio yn y sector gofal o bob rhan o’r wlad. Dywedodd Pauline Batty, Cadeirydd Rhanbarthol NACC Cymru: “Mae’r gystadleuaeth yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae maeth a phrydau bwyd yn ei gael ar iechyd a llesiant corfforol ac emosiynol yr henoed a’r bregus mewn gosodiadau gofal.” Ychwanegodd Penny Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am ofal cymdeithasol: “Rwy’n falch iawn y bydd Carmine yn cynrychioli Cymru yn y rownd derfynol genedlaethol ym mis Mehefin a ddymuno pob llwyddiant iddo. Mae’r cyngor yn cydnabod fod arlwyo yn elfen bwysig mewn darparu gofal a bod gan fwyd maethlon blasus ran hollbwysig ym mywydau ein preswylwyr a defnyddwyr gwasanaeth.”