Skip to Main Content

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd llifogydd difrifol ar gyfer yr Afon Gwy yn Nhrefynwy.

Mae hyn yn golygu y bernir bod lefelau dŵr yn beryglus tu hwnt a rhagwelir y byddant yn cyrraedd lefelau uwch nag a gofnodwyd erioed.

Cafodd preswylwyr sy’n byw ger yr Afon Gwy ac ar ffyrdd cyfagos eu symud o’u cartrefi.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cau Pont Gwy yng nghanol y dref ac yn rhybuddio cerddwyr a modurwyr i gadw i ffwrdd o’r ardal.

Gofynnir i unrhyw un y mae cau’r bont neu’r llifogydd wedi effeithio arnynt i ddefnyddio’r ganolfan orffwys a agorwyd yn Neuadd y Sir yng nghanol Trefynwy.

Mae’r cyngor yn parhau i weithio gydag asiantaethau partner, yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a’r gwasanaethau argyfwng i asesu’r sefyllfa ac i sicrhau bod yr holl breswylwyr yr effeithir iddynt yn cael gwybodaeth a chefnogaeth.