Skip to Main Content

Blaenoriaeth Cyngor Sir Fynwy yng nghyswllt y llifogydd am weddill 17 Chwefror yw’r Afon Gwy sy’n rhedeg drwy Drefynwy.

Mae’r lefelau’n uchel ar hyn o bryd ac mae modelu’n awgrymu y bydd yn codi ymhellach yn yr  ychydig oriau nesaf. Mae’r Cyngor yn rhoi blaenoriaeth i waith dosbarthu sachau tywod i gartrefi yn yr ardal.

Caiff y cyhoedd eu cynghori i gadw’n ddiogel oddi wrth yr afon am y 24 awr nesaf, gan y disgwylir  i’r dŵr godi i lefel beryglus.

Mae pobl eisoes wedi gadel eu cartrefi mewn ardaloedd a ystyrir i fod mewn perygl gyda chanolfan orffwys wedi ei hagor yn Neuadd y Sir yn y Dref. Mae’r ganolfan orffwys hon ar gael i unrhyw un sydd wedi gorfod gadael eu cartref ac mae staff yno i helpu.

Gofynnir i bobl fod yn neilltuol o wyliadwrus yn Riverside Park, Hadnock Road, Redbrook Road, Beech Road a Wyesham Road tra bydd y rhybudd yn parhau mewn grym.

Wrth i lefelau dŵr barhau i godi mae’n debygol y caiff Pont Gwy ei chau heno. Mae hyn yn debygol o fod rhwng 18:30 – 19:00.