Skip to Main Content

Mae Safonau Masnach Sir Fynwy yn rhybuddio pobl i fod yn ymwybodol o fasnachwyr twyllodrus sy’n targedu preswylwyr y mae’r llifogydd diweddar wedi effeithio arnynt.

Nid yw’n anghyfreithlon i fasnachwyr edrych am waith yn y ffordd hon ond mae’n bwysig fod pobl yn ofalus ac nad ydynt yn gwneud penderfyniadau brysiog am gytuno i gael gwaith wedi’i wneud gan fasnachwyr sy’n dod yn uniongyrchol at garreg eu drws. Mae masnachu twyllodrus ar garreg y drws yn broblem barhaus ym Mhrydain a gall gwaith neu wasanaeth a wneir fod yn ddiangen, o safon wael, yn llawer drutach na’r dyfynbris gwreiddiol neu heb gael ei wneud o gwbl.

Os cafodd eich cartref ei ddifrodi gan y llifogydd neu wyntoedd uchel diweddar, byddwch eisiau cael eich tŷ  wedi’i drwsio cyn gynted ag sydd modd. Mae gan Safonau Masnach Cyngor Sir Fynwy y cyngor dilynol i’ch helpu i wneud yn siŵr y caiff gwaith unioni ei wneud mor llyfn ag sy’n bosibl.

Peidiwch â chytuno i gael eich gwaith wedi’i wneud gyda unrhyw un sy’n galw’n ddiwahoddiad neu’n cnocio ar ddrws eich cartref

Anaml mae pobl sy’n galw’n ddiwahoddiad yn rhoi eu manylion cyswllt i ddeiliaid tai na rhoi manylion iddynt am eu hawl gyfreithiol i ganslo contract o fewn 14 diwrnod. Gallant hefyd ddweud wrthych fod angen gwaith pan nad yw hynny’n wir. Os aiff pethau o chwith, mae’n annhebyg y byddwch yn gallu cysylltu â’r masnachwr eto ac ni fydd gennych unrhyw warant am y gwaith.

Cael o leiaf dri dyfynbris am y gwaith

Mae cael dewis o ddyfynbrisiau ysgrifenedig yn sicrhau y gallwch gael amser i asesu a cymharu pris y gwaith ac y gallwch wneud dewis gwybodus am ba grefftwyr i’w defnyddio.

Gwirio cymeradwyaeth neu ardystiad corff masnach

Os yw masnachwr yn hawlio bod yn aelod o gorff masnach neu gynllun cymeradwy, gwiriwch os yw hyn yn wir ar wefan y cynllun neu gorff. Mae manteision i ddefnyddio masnachwr sy’n aelod o gorff masnach neu gynllun cymeradwy gan y byddant wedi eu gwirio ac mae’n debygol y bydd trefn gwynion neu gyflafareddu yn ei lle os aiff unrhyw beth o chwith.

Ar gyfer gwaith neilltuol, megis gwaith trydan neu nwy, mae’n rhaid i fasnachwyr fod â chymwysterau a bod wedi eu cymeradwyo fel bod yn gymwys i wneud y gwaith hwnnw. Ar gyfer gwaith nwy, mae’n rhaid i fasnachwyr fod wedi cofrestru gyda Gas Safe a gallwch edrych pwy sydd wedi cofrestru ar wefan Gas Safe . Ar gyfer gwaith trydan, rhaid i fasnachwyr fod wedi cofrestru gyda NICEiC neu ELECSA a gallwch edrych pwy sydd wedi cofrestru drwy wefan NICEIC a drwy wefan ELECSA . Dylech wirio bob amser cyn eich bod yn cyflogi crefftwr fod ganddynt yr awdurdodiad priodol i gwblhau gwaith yn ddiogel a’i ardystio i Reoliadau Adeiladu. Yn ogystal â sicrhau fod y gwaith yn ddiogel, bydd angen i chi gael ardystiad os gwerthwch eich cartref yn y dyfodol.

Peidiwch talu’r pris contract llawn ymlaen llaw

Fel arfer ni fydd crefftwyr dilys yn disgwyl cael unrhyw dâl nes bod gwaith wedi’i orffen a’ch bod yn fodlon gydag ef. Gall fod angen i chi dalu swm ymlaen llaw os yw’r gwaith yn cynnwys rhannau neu osodiadau drud ond dim ond ar ôl i’r gwaith gael ei orffen y dylech dalu’r swm llawn. Os nad yw gwaith yn foddhaol, mae’r gyfraith yn eich galluogi i atal canran resymol i adlewyrchu unrhyw ddiffygion yn y gwaith.

Siarad gyda’ch cwmni yswiriant

Os oes gennych yswiriant, gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad gyda’ch cwmni yswiriant cyn trefnu i’r gwaith gael ei wneud. Efallai y bydd gan y cwmni yswiriant eu rhestr eu hunain o gontractwyr cymeradwy neu byddant eisiau gweld dyfynbrisiau cyn y byddant yn cytuno i dalu am y gwaith.

·        Gobeithiwn fod popeth yn mynd yn dda gyda’r gwaith trwsio i’ch cartref, ond os ydych angen cyngor mwy penodol ar unrhyw gam gallwch ffonio llinell gymorth Gymraeg Defnyddwyr Cyngor Dinasyddion ar 0808 223 1144 neu yn Saesneg ar 0808 223 1133. Fel arall, gallwch gysylltu’r Llinell Gymorth drwy eu gwefan. Mae gan wefan Cyngor Dinasyddion hefyd ganllawiau ar ffyrdd i ganfod masnachwr y gallwch ymddiried ynddo.