Skip to Main Content

Mae plant personél y lluoedd arfog yn Sir Fynwy yn cael budd o becyn newydd o gymorth i helpu gyda’u cyrhaeddiad a’u datblygiad diolch i gyllid a swyddog cymorth penodol.

Mae’n dilyn cais llwyddiannus Cyngor Sir Fynwy am grant o Gronfa Cymorth Addysg y Weinyddiaeth Amddiffyn i gyflogi Swyddog Cymorth Addysg Lluoedd Ei Mawrhydi (HMF), sy’n gweithio ar draws addysg a gyda chyrff trydydd sector i godi ymwybyddiaeth o’r heriau unigryw a all wynebu plant personél milwrol.

Mae’r Swyddog Cymorth Addysg HMF, a ddechreuodd yn y swydd ym mis Ebrill 2019, yn cefnogi 98 o blant yn Sir Fynwy a hefyd yn llywio ysgolion drwy geisiadau cyllid am adnoddau tebyg i staff ychwanegol, deunyddiau dysgu a hyfforddiant.

Mae plant y mae eu rhieni yn y Lluoedd Arfog neu a fu ynddynt yn y gorffennol yn aml yn fwy hyblyg ac annibynnol ac yn gallu addasu’n rhwyddach gan eu bod wedi arfer gyda newid, ond gallant hefyd wynebu heriau a achosir gan effeithiau symud neu adleoli.

Mae cyflwyno’r Swyddog Cymorth Addysg HMF yn enghraifft arall eto o ymrwymiad Sir Fynwy i gefnogi ein cydweithwyr yn y lluoedd arfog. Mae’r cyngor wedi ennill dyfarniad Arian yn y cynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwyr Amddiffyn a hefyd wedi llofnodi’r Cyfamod Lluoedd Arfog, sy’n addewid gan y genedl y caiff y rhai sydd yn gwasanaethu neu a wasanaethodd, a’u teuluoedd, eu trin yn deg.

Sicrhaodd tair ysgol yn y sir gyllid o grantiau ‘Cefnogi Plant Gwasanaeth mewn Addysg’. Mae Ysgol Gynradd Gilwern, sydd â naw o blant gwasanaeth yn yr ysgol, yn defnyddio’r cyllid i helpu plant drwy lythrennedd emosiynol a datblygu gwytnwch.

Dywedodd Sue Marles, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Gilwern: “Rwy’n credu ei bod yn hanfodol adnabod pob plentyn o fewn sefydliad er mwyn medru mynd â’r dysgwyr hynny ymlaen a chael y gorau allan o’r dysgwyr hynny a dyna oedd fy nghymhelliant dros wneud cais am y grant. Drwy’r cyllid hwn gallwn brynu adnoddau i hyrwyddo’r ymyriadau rydym yn eu rhoi ar waith i helpu’r plant hyn a’u teuluoedd.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Laura Jones, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Sir Fynwy: “Rwy’n falch iawn fod Sir Fynwy yn parhau i ddangos ei bod yn wych wrth gefnogi ein cydweithwyr yn y lluoedd arfog a’u teuluoedd. Gwyddom fod llawer mwy o blant ar draws Sir Fynwy fydd yn manteisio o’r ffrydiau cyllid hyn a help Swyddog Cymorth Addysg HMF. Byddwn yn annog pawb, p’un ai ydych o’r sector addysg, iechyd neu gorff trydydd sector, i gysylltu â ni i ganfod mwy am y cyllid a’r gefnogaeth sydd ar gael.”

I gael mwy o wybodaeth am gyllid a chefnogaeth ar gyfer plant gwasanaeth cysylltwch â Swyddog Cymorth Addysg HMF drwy

emma.ashmead@newport.gov.uk