Skip to Main Content

Gofynnir i breswylwyr a busnesau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt i ddilyn gwybodaeth bwysig wrth i waith glanhau barhau ar draws y sir.

Mae dros 100 o gartrefi a nifer o fusnesau wedi dechrau ar eu prosesau adfer ar ôl y dinistr yn dilyn llifogydd a achoswyd gan Storm Dennis. Mae llawer o beryglon yn dod yn sgil llifogydd yn cynnwys halogiad a risg y bydd ysgyrion yn parhau unwaith y ciliodd y dŵr.

Gofynnir i unrhyw un y mae’r llifogydd arnynt ddilyn yr arweiniad islaw:

·        Yr un ffordd fwyaf effeithlon o atal haint yw golchi eich dwylo ar ôl trin unrhyw beth a fu mewn cysylltiad gyda dŵr llifogydd neu laid a mwyd.

·        Os ydych yn defnyddio peiriant golchi pwysedd i lanhau, gwisgwch fasg wyneb i atal mewnanadlu erosol

·        Dylid defnyddio menig rwber i drafod unrhyw lygod marw a gwaredu â nhw mewn bagiau plastig cadarn

·        Tynnu gorchuddion meddal ar gelfi a ffitiadau sydd wedi difrodi ac mewn cyflwr rhy wael i gael eu trwsio

·        Cael gwared â chymaint o laid a dŵr brwnt ag sydd modd.

·        Golchi’r holl arwynebau gyda dŵr sebon twym nes byddant yn amlwg lân.

·        Dylid glanhau ardaloedd paratoi bwyd, cypyrddau bwyd ac oergelloedd gyda dŵr sebon twym ac yna’u dadheintio yn defnyddio can. Dylid taflu unrhyw fyrddau ac offer cegin pren.

·        Taflu unrhyw fwyd sydd wedi’i halogi, yn cynnwys unrhyw beth sydd wedi dadmer.  

·        Caniatáu i bob arwyneb sychu – bydd hyn hefyd yn helpu i ladd germau.

·        Cysylltu â thîm Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir Fynwy i gael mwy o gyngor www.monmouthshire.gov.uk/environmental-health-2/

Mae Cyngor Sir Fynwy hefyd yn annog pobl i ddefnyddio canolfannau gwastraff ac ailgylchu y sir i gael gwared ag unrhyw eitemau a allai fod wedi eu dinistrio gan y llifogydd.

Gellir gofyn am gyngor pellach gan asiantaethau partner yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol.

Dywedodd Peter Fox, Arweinydd y Cyngor: “Wrth i ni ddechrau symud i’r gwaith adfer ar ôl y llifogydd ofnadwy hyn, mae’n bwysig bod preswylwyr a busnesau yn cymryd y cyngor y gwnaethom ei roi i sicrhau eu bod yn eu cadw eu hunain yn ddiogel a gostwng y risg o broblemau eraill posibl megis lledaenu afiechyd. Mae digonedd o gyngor ar gael a byddwn yn annog pawb i gymryd sylw o’r rhybuddion a roddwyd.”