Skip to Main Content

 Bydd cymorthfeydd galw heibio am ddim a noddir gan Fanc Datblygu Cymru, Busnes Cymru a Chyngor Sir Fynwy yn anelu i helpu entrepreneuriaid a pherchnogion busnesau i ddarganfod mwy am gyllid ar gyfer twf. Cynhelir cymhorthfa galw heibio Cyllid ar gyfer Twf yng Nghas-gwent ddydd Mawrth 3 Mawrth rhwng 9.30am a 3.30pm gyda chyfnodau apwyntiad hanner awr ar gael ar sail un-i-un. Bydd Claire Vokes, gweithredydd cynorthwyol buddsoddi benthyciadau micro ar gael yn Llyfrgell Cas-gwent (NP16 5EN) i drafod yr amrywiaeth o gyllid sydd ar gael gan y Banc Datblygu. Dywedodd Ms Vokes: “Gall ein benthyciadau micro hyblyg helpu busnesau lleol i dyfu. Mae’n gyflym a syml cael mynediad iddynt a gellir defnyddio’r arian i gyllido prynu amrywiaeth o anghenion busnes bach yn cynnwys stoc, cyfarpar, offer neu hyd yn oed safleoedd newydd. Gallai hefyd gefnogi llif arian i brynu busnes arall. “Drwy weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Fynwy a Busnes Cymru gallwn ddarparu benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 ar gyfer busnesau lleol. Mewn gwirionedd, os oes gennych fusnes a fu’n rhedeg am ddwy flynedd, gallwn gynnig benthyciadau hyd at £25,000 gyda phenderfyniad mewn dim ond dau ddiwrnod gwaith. “Rydym yn awyddus i siarad gyda cynifer o berchnogion a rheolwyr busnesau lleol ag sydd modd felly dewch draw i’n cymhorthfa galw heibio nesaf.” I drefnu apwyntiad 30 munud dylai busnesau anfon neges e-bost at: Claire.Vokes@developmentbank.wales Ychwanegodd y Cynghorydd Bob Greenland, Aelod Cabinet Menter ar Gyngor Sir Fynwy: “Rydym yn awyddus i gefnogi ac annog twf busnes a chreu swyddi. Rydym yn falch iawn i argymell y gweithdai defnyddiol hyn i unrhyw un sy’n gobeithio hybu eu busnesau.”