Skip to Main Content

Bydd pymtheg o fannau gwefru cyflym ar gyfer cerbydau trydan ar gael ar draws Sir Fynwy cyn hir.

Dechreuodd gwaith i osod 65 man gwefru cerbydau trydan mewn 34 safle ar draws Gwent, yn cynnwys chwe safle yn Sir Fynwy. Mae’r cyngor yn un o bump awdurdod lleol yng Ngwent i gael cyfran o £459,000 gan y Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel (OLEV) gydag arian cyfatebol gan bob un o’r pump awdurdod. Cyfrannodd Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru gyllid at astudiaeth ddichonolrwydd i gefnogi datblygiad y prosiect.

Caiff y gwaith gosod ei wneud gan gwmni Cymreig o’r enw Silverstone Green Energy. Bydd y cwmni hwn hefyd yn rheoli ac yn cynnal y mannau gwefru tan 2025.

Mae’r chwe maes parcio yn Sir Fynwy lle gosodir mannau gwefru cerbydau trydan yn:

  • Iard y Bragdy, y Fenni
  • Teras y Drindod, y Fenni
  • Woodstock Way, Cil-y-coed
  • Castle Dell, Cas-gwent
  • Stryd Glyndŵr, Trefynwy
  • Stryd Maryport (De), Brynbuga

Gall y mannau a osodir wefru rhwng 7kW a 22kW yn dibynnu ar y capasiti sydd ar gael adeg gwefru. Y nod yw i’r holl gyfleusterau fod yn barod erbyn 31 Mawrth 2020, gyda’r mannau gwefru yn weithredol o 1 Ebrill 2020.

Cafodd y safleoedd a gynigir ar draws Gwent eu dethol yn dilyn astudiaeth ddichonolrwydd  ranbarthol Gwent ar gyfer mannau gwefru cerbydau trydan, a edrychodd ar yr holl feysydd parcio y mae awdurdodau lleol yn berchen arnynt er mwyn penderfynu pa rai sy’n ateb gofynion Cynllun Mannau Gwefru Preswyl Ar y Stryd OLEV. Roedd Western Power Distribution hefyd yn gysylltiedig fel rhan o’r astudiaeth i benderfynu ar addasrwydd safleoedd a chostau i ddarparu’r cyflenwad trydan. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus hefyd i benderfynu ar y galw cyfredol a galw’r dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, Aelod Cabinet dros Seilwaith Gwyrdd: “Rwyf wrth fy modd y bydd Sir Fynwy yn derbyn y mannau gwefru cyflym hyn yn dilyn y cais llwyddiannus am gyllid. Rydym eisiau annog pawb i feddwl beth fedrant ei wneud i helpu gostwng yr effaith ar newid hinsawdd. Mae troi at gerbydau trydan yn un ffordd o wneud hynny ac mae darparu’r mannau gwefru newydd hyn yn mynd ymhell i gefnogi pobl sydd eisoes yn defnyddio cerbydau trydan.”

Y ffordd orau i chwilio am fannau gwefru yw defnyddio Zap Map https://www.zap-map.com/live/ ac edrych ar ardal yr awdurdod lleol perthnasol.