Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ailgadarnhau ei ymrwymiad i weithio gyda’n cymuned lluoedd arfog, ynghyd â’n pump Cyngor Tref (Y Fenni, Trefynwy, Brynbuga, Cil-y-coed a Chas-gwent) a lofnododd y Cyfamod am y tro cyntaf. Mae hyn yn golygu mai Sir Fynwy yw’r unig awdurdod lleol ym Mhrydain lle mae’r prif awdurdod a phob un o’r cynghorau tref wedi llofnodi’r cyfamod ar yr un pryd.

Mae’r Cyfamod Lluoedd Arfog yn cynrychioli addewid gan y genedl y caiff y rhai sy’n gwasanaethu neu a wasanaethodd, a’u teuluoedd, eu trin yn deg. Nod y cyfamod yw dod â’r gymuned lluoedd arfog a’r gymuned sifilian ynghyd ar lefel leol, meithrin cyd-ddealltwriaeth a chodi ymwybyddiaeth o faterion a wynebir gan y lluoedd arfog. Mae’n ymrwymiad ein bod, gyda’n gilydd, yn cydnabod a deall y dylai’r rhai sy’n gwasanaethu neu a wasanaethodd yn y lluoedd arfog, a’u teuluoedd, gael eu trin gyda thegwch a pharch yn y cymunedau, economi a chymdeithas a wasanaethant gyda’u bywydau.

Cynhaliwyd y seremoni lofnodi yn Siambr y Cyngor yn Neuadd y Sir yn ystod cyfarfod o’r cyngor llawn. Llofnodwyd yr ymrwymiad gan y Cyng Sheila Woodhouse fel Cadeirydd y Cyngor a’r Lt Col JPR Gossage RE ar ran Peirianwyr Brenhinol Sir Fynwy Frehnhinol (Milwrol). Yn llofnodi ar ran y Cynghorau Tref oedd Cas-gwent, Cyng Tom Kirton (Maer), Cil-y-coed: Cyng Dave Evans (Maer), Trefynwy: Cyng Richard Roden (Maer), Brynbuga: Cyng Christine Wilkinson (Maer), y Fenni: Cyng Tony Koniecvzny (Maer).

Mae gan y cyngor ddyfarniad Arian yng Nghynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwyr Amddiffyn ac mae wedi datgan diddordeb mewn sicrhau statws Aur eleni. Dyfernir y wobr i gyflogwyr sy’n ymrwymo, dangos neu hybu cefnogaeth i amddiffyn a’r gymuned lluoedd arfog ac sy’n ysbrydoli eraill i wneud yr un fath.

Dywedodd y Cyng. Laura Jones, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Sir Fynwy: “Mae mor bwysig cydnabod gwaith ac ymrwymiad ein cydweithwyr yn y lluoedd arfog. Mae llofnodi’r cyfamod hwn yn cadarnhau ymroddiad Sir Fynwy i sicrhau bod ein cydweithwyr yn y lluoedd arfog yn parhau i dderbyn cefnogaeth a diolchgarwch.”

Meddai’r Lt Col JPR Gossage RE: “Mae’r digwyddiadau hyn yn anhygoel o bwysig i’r gymuned filwrol sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd ac i gyn-aelodau wrth arddangos ymrwymiad a chefnogaeth barhaus i aelodau’r Lluoedd Arfog a’u teuluoedd ar draws Sir Fynwy. Mae fy Nghatrawd yn falch iawn o’n treftadaeth yn cario enw’r sir, ac yn gwirioneddol werthfawrogi cefnogaeth Meiri a Chynghorwyr Sir Fynwy.”

I gael mwy o wybodaeth am y Cyfamod Lluoedd Arfog neu os hoffech gymryd rhan, cysylltwch ag ArmedForces@monmouthshire.gov.uk