Skip to Main Content

Yn 2020 bydd Busnes Cymru, prif gwasanaeth cymorth busnes Llywodraeth Cymru, yn parhau i gyflwyno gweithdai cychwyn busnes ‘Mentro Arni’ am ddim i bobl yn Sir Fynwy sy’n dymuno cychwyn eu busnesau eu hunain.

Nod y cyrsiau yw cefnogi darpar entrerpeneuriaid yn y sir drwy roi dealltwriaeth o brif agweddau troi eu syniadau busnes neu hobïau yn fusnesau hyfyw.

Mae’r gweithdai yn rhoi sylw i amrywiaeth o bynciau yn cynnwys datblygu syniad busnes, cyrchu cyllid, cynllunio busnes, prisio a marchnata, ac fe’u cynhelir rhwng 9.15am a 4pm yng Nghanolfan Bridges yn Nhrefynwy ddydd Mawrth 28 Ionawr ac yng Nghanolfan Ieuenctid (Hen Heol Henffordd) y Fenni ddydd Mercher 19 Chwefror.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, Aelod Cabinet dros Fenter yng Nghyngor Sir Fynwy:

“Un o flaenoriaethau’r cyngor yw cefnogi busnes a chreu swyddi. Rydym mor falch fod Busnes Cymru yn cynnig gweithdai am ddim i breswylwyr Sir Fynwy. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â syniad busnes i ddod i gysylltiad a mynychu gweithdy. Gobeithiaf mai 2020 fydd y flwyddyn pan fydd llawer o bobl yn dechrau ar eu taith eu hunain o hunan-ddarganfyddiad.”

Dywedodd Melanie Phipps, Cynghorydd Busnes gyda Busnes Cymru: “Mae ein gweithdai ar sefydlu busnes, a gyllidir yn llawn, yn fan dechrau gwych ar gyfer pobl a allai fod â syniad busnes ond na wyddant sut i’w droi yn fusnes neu rai sydd angen ychydig yn fwy o help ac anogaeth i fentro arni.

“Ar draws gwasanaeth Busnes Cymru, gwyddom fod cyfradd goroesi pedair blynedd busnesau newydd bellach yn 85%, o gymharu â 41% ar gyfer rhai nad ydynt yn manteisio ar ein cymorth. Felly, os ydych yn byw yn Sir Fynwy ac yn ystyried dod yn hunangyflogedig, dewch draw.” Caiff holl weithdai Busnes Cymru eu cyllunio a’u cyflwyno gan gynghorwyr profiadol ac maent yn rhoi cyfle i ofyn cwestiynau a rhwydweithio gyda phobl o’r un anian. I gael mwy o wybodaeth ar leoliadau ac archebu lleoedd, anfonwch e-bost at

southwales@businesswales.org.uk neu ffonio 01656 868500.

Mae Busnes Cymru, a gaiff ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, yn cefnogi twf cynaliadwy mentrau bach a chanolig ar draws y sir drwy gynnig mynediad i wybodaeth, arweiniad a chymorth busnes. I ganfod sut y gall Busnes Cymru helpu i ddechrau neu ddatblygu eich busnes, ffoniwch

03000 603000, dilyn @_busnescymru  neu@_businesswales neu edrych ar  www.busnescymru.llyw.cymru/  neu www.businesswales.gov.wales/ i gael mwy o wybodaeth.