Skip to Main Content

Mae gan Gyngor Sir Fynwy angen brys am fwy o ofalwyr maeth i ateb y galw cynyddol i ddarparu cartrefi i blant lleol. Mae’r cyngor yn galw ar fwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth yn 2020 wrth iddo lansio  #20Rheswm –  ymgyrch i annog pobl o fewn eu hardal leol i ystyried maethu.

Mae Sir Fynwy yn un o naw awdurdod lleol sydd wedi uno i greu #20Rheswm. Mae’r ymgyrch yn defnyddio gofalwyr maeth go iawn a’u cymhellion am faethu i hysbysu ac ysbrydoli mwy o deuluoedd i ystyried gofalu am blentyn neu berson ifanc.

Mae’r 20 rheswm i faethu yn amrywio o wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn drwy roi ymdeimlad o gariad, perthyn a sicrwydd iddynt; i fod yn rhan o adeiladu dyfodol cadarnhaol a helpu i gadw plentyn yn eu hardal leol fel y gallant aros yn yr ysgol ac yn agos at eu ffrindiau.

Dywed Tîm Gofal Maeth Sir Fynwy fod angen pob math o ofalwyr maeth ond yn neilltuol rai a fyddai’n ystyried maethu pobl ifanc yn eu harddegau, gofalwyr therapiwtig, gofalwyr seibiant, gofalwyr argyfwng, grwpiau siblingiaid a phlant gydag anghenion ychwanegol.

Mae Tammy yn un o’r gofalwyr maeth sy’n cefnogi’r ymgyrch. Bu’n ofalwr maeth am bron saith mlynedd. Ar ôl blynyddoedd o geisio cael eu plentyn eu hunain, dewisodd Tammy a’i phartner gymryd dull gweithredu gwahanol drwy faethu.

Dywedodd Tammy: “Sylweddolais fod cynifer o blant angen cartref cariadus ac roedd gen i gymaint o gariad i’w roi i blentyn felly roedd yn gwneud synnwyr mai dyma sut y gallwn adeiladu ein teulu.

“Mae gen i gwlwm gwirioneddol agos gyda’r holl blant rwyf wedi eu maethu. Mae un o’n plant maeth bellach yn 17 oed ac nid yw’n byw gyda ni erbyn hyn ond mae’n dal i ddod draw am ginio dydd Sul bob wythnos. Mae ein plant maeth hirdymor presennol hyd yn oed yn ein galw yn mam a dad, ac nid oes teimlad gwell na hynny mewn gwirionedd.”

Dywedodd y Cyng Penny Jones, Aelod Cabinet Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd: “Mae blwyddyn newydd yn golygu cyfleoedd newydd gwych a gallai hyn fod y flwyddyn yr ydych yn maethu plentyn yn Sir Fynwy. Mae gennym angen brys am fwy o ofalwyr maeth i gynnig cartref i blant a phobl ifanc ar draws y sir. Mae maethu gyda ni yn golygu y gallwch helpu i gadw plentyn lleol yn eu hysgol a hefyd gefnogi person ifanc nad yw bob amser wedi cael y dechrau gorau mewn bywyd. Aiff yr ymgyrch ymhellach na dim ond 20 rheswm i faethu – dyma’r cyfle i wneud rhywbeth a all newid bywyd rhywun arall yn llwyr. Byddwn yn annog unrhyw un sydd wedi ystyried maethu, beth bynnag eich rhyw, oedran, cefndir, i godi’r ffôn neu ymweld â’n gwefan i weld sut y gallwch ddechrau cais gyda ni.”

Os ydych wedi bod yn ystyried maethu neu yr hoffech fwy o wybodaeth ewch i: www.monmouthshire.gov.uk/fostering