Skip to Main Content

Cynhaliwyd Cynhadledd Chwaraeon blynyddol Llysgenhadon Ifanc Sir Fynwy yn Neuadd y Sir, Brynbuga ddydd Mercher 23 Hydref. Amcan y diwrnod oedd darparu sgiliau arweinyddiaeth chwaraeon i genhedlaeth newydd o ddisgyblion cynradd blwyddyn 6; un agwedd yn unig oedd hwn o raglen arweinyddiaeth chwaraeon Playmaker Cyngor Sir Fynwy. Cafodd 69 o ddisgyblion – sef dau ddisgybl blwyddyn 6 o bob ysgol gynradd – ddealltwriaeth werthfawr a fydd yn cael ei ddefnyddio i rymuso eu cyd-ddisgyblion.

Cymerodd disgyblion ran mewn amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys bingo dynol a helpodd yr arweinwyr ifanc i ryngweithio gyda’i gilydd. Wedyn fe fuon nhw’n gwrando ar weithdai ysbrydoledig gan Masnach Deg Sir Fynwy a esboniodd bwysigrwydd cydraddoldeb ym mhob agwedd o fywyd, a chawsamt glywed negeseuon gan swyddogion ac aelodau etholedig ar sut i fod yn fodelau rôl cadarnhaol.

Aeth y bobl ifanc i Goleg Gwent, cae chwaraeon Brynbuga y drws nesaf i Neuadd y Sir, i wella’u sgiliau hyfforddi gyda chymorth y tîm pêl-droed Ail Gynghrair lleol, Newport County. Gyda help hyfforddwyr datblygi cymunedol y tîm, cymerodd y disgyblion ran mewn chwaraeon gan ddysgu sgiliau newydd a datblygu technegau a fydd yn cael croeso gan bawb yn ôl yn eu maes chwarae eu hunain.

Ers 2017 mae mwy na thair mil o ddisgyblion Blwyddyn 5, 6 a 7 wedi cymryd rhan yn rhaglen Arweinyddiaeth Chwaraeon ‘Playmaker’, y rhaglen sy’n cael ei chydnabod fel un arfer gorau, yn cael ei hailadrodd yn genedlaethol a rhyngwladol ac yn dysteb i’r swyddogion sy’n arwain y rhaglen i addysgu a galluogi plant a phobl ifanc.  

Rhaglen Playmaker a llysgenhadon ifanc efydd yw dechrau’r daith i lawer o bobl ifanc, gyda phedair academi arweinyddiaeth wedi ei sefydlu ar draws pob ysgol gyfun yn Sir Fynwy. Mae’r academïau yn parhau i gefnogi gweithgaredd corfforol o fewn eu hysgol a’r gymuned leol. Gydag 85% o weithlu presennol y tîm wedi dod trwy’r drefn wirfoddoli mae llwybr clir i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau a sicrhau cyfleon cyflogaeth. 

Dywedodd Frances O Brien, Prif Swyddog Bywyd Mynwy: “Mae’r tîm Datblygu Chwaraeon wedi gwneud ymdrech ymwybodol i fuddsoddi llawer o amser mewn datblygu cyfleon arweinyddiaeth i’n pobl ifanc. Mae rhaglenni fel cynhadledd y llysgenhadon ifanc a’r nifer cynyddol o staff hamdden a gychwynnodd au taith ar y rhaglen Arweinyddiaeth Playmaker ac sydd bellach yn staff cyflogedig yn arwydd clir fod y broses yn gweithio ac rydym yn datblygu cyfleon cadarnhaol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rwy’n edrych ymlaen at weld pa effaith a gaiff ein llysgenhadon efydd ifanc, gyda chefnogaeth ein Playmakers Chwaraeon Mynwy, ar wella llesiant ar draws ein haddysg gynradd yn Sir Fynwy.”

I gael mwy o wybodaeth am  raglenni Datblygu Chwaraeon ar draws y ddarpariaeth Addysg, Hamdden a Chymunedau cysylltwch â’r tîm drwy sport@monmouthshire.gov.uk