Skip to Main Content

Disgwylir llanw uchel. Byddwn yn cadw golwg ar y sefyllfa ac, os oes angen, byddwn yn trefnu cau’r A466 drwy Dyndyrn am gyfnodau byr ar y dyddiadau ac amserau dilynol:

  • Dydd Sadwrn 31 Awst Rhwng 21.25 – 21.55 (tua)
  • Dydd Sul 1 Medi Rhwng 9.55 – 10.25 (tua)
  • Dydd Sul 1 Medi Rhwng 22.10 – 22.40 (tua)
  • Dydd Llun 2 Medi Rhwng 10.40 – 11.10 (tua)
  • Dydd Llun 2  Medi Rhwng 22.55 – 23.25 (tua)

Bydd y pwyntiau cau fel sy’n dilyn:

Cau Pen Gogleddol: Cyffordd Heol Tryleg

Cau Pen Deheuol: Cyffordd Royal George

Amcangyfrif yw amserau cau’r ffordd yn seiliedig ar yr amserau llanw a ragwelir. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro’r sefyllfa ac yn cyhoeddi Rhybuddion Llifogydd fel sydd angen. Dim ond dros dro y caiff ffyrdd eu cau a dim ond pan fo’r dŵr llanw yn llifo ar y briffordd. Bydd y ffordd yn ailagor cyn gynted ag mae’r dŵr wedi cilio o’r briffordd.