Rydym wedi bod yn gweithredu rhaglen datblygu ysgolion ers 2002, ac hyd yma mae wedi gwario dros £50m wrth adeiladu ysgolion newydd a chyflawni prosiectau estyn ac addasu mewn ysgolion presennol. Mae’r prosiectau hyn wedi cael eu cyflawni i’r safonau uchaf, ac mewn sawl ffordd y maent ar flaen y gad o ran datblygu cyfleusterau addysg a chynllunio ysgolion.
Bellach, rydym yn cysylltu â Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru er mwyn mynd â ni ymlaen i’r dyfodol. Mae rhaglen o waith sy’n werth £80m bellach wedi cael ei chymeradwyo, a bydd hon yn ein galluogi i ailddatblygu pedair ysgol uwchradd brif ffrwd y sir a chynnal gwaith ychwanegol yn y sector cynradd. Eisoes, mae gwaith dichonoldeb a pharatoawl yn digwydd ar gyfer y rhaglen, a fydd yn dechrau ym mis Ebrill 2014.
Y prosiect diweddaraf i gael ei gwblhau yw Ysgol Gynradd a Meithrin newydd Llanddewi yng Nghil-y-coed, sy’n disodli Ygsol Iau Green Lane ac Ysgol Fabanod West End.
Ysgol Gynradd a Meithrin Llanddewi yw’r ysgol gyntaf yn y DU i ddefnyddio ‘plazau dysgu’ yn lle ystafelloedd dosbarth traddodiadol. Mae’r plazau dysgu hyn yn fannau mawr a fydd yn caniatáu trefniadau dysgu hyblyg, ac maent wedi disodli ystafelloedd dosbarth traddodiadol.
Mae prosiectau eraill a gwblhawyd yn ddiweddar yn cynnwys:
- Estyniad newydd i blaza dysgu yn YsgolGynraddCastlePark yng Nghil-y-coed
- Ysgol Gynradd Rogiet
- Ysgol Gynradd Llan-ffwyst
- Ysgol Gynradd Kymin View (Wyesham)
Anfonwch e-bost at dîm ysgolion yr 21ain ganrif i gael rhagor o wybodaeth.