Rydym yn falch i gadarnhau y bydd pob ysgol ar agor yfory – dydd Mercher 13 Rhagfyr. Diolch i chi am eich amynedd dros y dyddiau diwethaf, ond roedd yn rhaid i ni roi blaenoriaeth i iechyd a diogelwch disgyblion a staff. Gofynnir i chi gymryd pwyll wrth deithio ar y ffyrdd a’r palmentydd gan eu bod yn dal i fod yn llithrig iawn mewn mannau.

Mae staff Cyngor Sir Fynwy wedi gweithio i gefnogi’r gymuned wrth i dymheredd ostwng a’r eira ddisgyn. Bu’r sir yn debyg i olygfa hardd o Narnia, ond gall y tywydd oer godi ofn ar bobl fregus – dyna le daeth y cyngor i mewn i gefnogi pawb.

Er gwaethaf y tywydd garw, llwyddodd gwasanaeth prydau cymunedol Sir Fynwy Bwyd Sir Fynwy i wneud pob dosbarthiad a drefnwyd ar gyfer preswylwyr bregus, llawer ohonynt yn byw mewn ardaloedd gwledig anghysbell. Dywedodd Pauline Batty, Rheolwr Arlwyo: “Bu’r staff yn wych gydag un aelod yn dod i mewn o wyliau blynyddol i helpu llanw dros y rhai na allai gyrraedd oherwydd yr eira. Cysylltwch â ni os gwyddoch am unrhyw un sydd angen pryd twym o fwyd – rydym yn hapus i helpu.”

Roedd yr ysbryd cymunedol yn amlwg iawn yng Ngofilon lle helpodd Samariad Trugarog i balu fan Bwyd Sir Fynwy allan o’r eira. Dywedodd Mrs Francs Baines o Lôn yr Ysgol a welodd y gymwynas: “Chwe modfedd o eira’r bore yma ac ni wnaeth ffordd heb ei graeanu atal ein gyrrwr Sir Fynwy dewr rhag dosbarthu bwyd twym i’r henoed yng Ngofilon heddiw. Roedd angen ychydig o help i gael ei fan allan o Gilgant Steven, ond mewn dim o dro roedd wrthi’n ôl ar ei rownd. Rwy’n credu ei bod yn haeddu ei chanmol am ei gwaith ardderchog heddiw.” Ychwanegodd Pauline Batty: “Hoffem ddiolch i’r Samariad Trugarog a helpodd i balu ein fan o’r eira yng Ngofilon heddiw gan alluogi ein gyrrwr i ddosbarthu gweddill y prydau ar y fan.”

Bu gwasanaethau gofal cartref y sir yn gweithio’n galed i leinhau ymyriad gyda staff yn gwneud llawer o waith ar droed gan gydlynu gyda theulu a chydweithwyr i sicrhau fod pawb yn ddiogel ac yn cael cefnogaeth. Defnyddiodd y cyngor ei gerbydau 4×4 i gyrraedd pobl mewn ardaloedd anghysbell.

Bu gwasanaeth Careline Sir Fynwy yn cefnogi teulu lleol drwy osod offer ar gyfer cleient bregus yn gynt na’r disgwyl er mwyn galluogi teulu i fynd adref ddiwrnod ynghynt yn y tywydd garw. Dywedodd Sarah Turvey-Barber: “Mae’n wych medru cefnogi’r gymuned – gall y tywydd oer godi ofn mawr ar rai pobl. Gall unrhyw un sy’n byw yn Sir Fynwy gael mynediad i gynnyrch Careline. O 65c y dydd gallwch gael rhaff fywyd wedi’i gosod yn eich cartref yn cynnwys pendant y gellir ei wisgo o amgylch y gwddf neu’r arddwrn.”

Roedd gwasanaethau dydd yn safleoedd gwasanaethau cymdeithasol Parc Mardy y Fenni a Severn View Cas-gwent ddydd Llun a chysylltwyd gyda phawb oedd yn gysylltiedig, a darparwyd cefnogaeth ychwanegol lle bo angen. Ymdopodd timau gwasanaethau preswyl y cyngor ym Mharc Mardy a Severn View yn dda gyda staff yn cerdded i’r gwaith neu rywun yn mynd i’w nôl os na fedrant yrru.

Dywedodd y Cynghorydd Penny Jones, aelod cabinet Sir Fynwy dros ofal cymdeithasol ac iechyd: “Bu ein timau yn wych ar draws pob gwasanaeth – prydau cymunedol, preswyl, gofal dydd a gofal gartref. Hoffwn hefyd sôn am ein cydweithwyr yn y timau nyrsio cymunedol. Maent yn rhan hollbwysig o’n gwasanaethau integredig ac maent yn gyson yn mynd yr ail filltir.”

Erbyn prynhawn dydd Llun roedd priffyrdd pwysicaf y sir yn glir yn ogystal â llawer o ffyrdd eilaidd a ffyrdd eraill. Mae timau priffyrdd yn gweithio drwy nos a dydd i hybu’r broses, gan ddod ag adnoddau ychwanegol i helpu. Roedd llawer o ffyrdd ochr ar dir uchel wedi eu trin erbyn dydd Mawrth. Dros y cyfnod, bu deuddeg lori yn chwalu halen, yn gweithredu fel erydr eira ac yn patrolio ffyrdd, gyda chymorth contractwyr gydag erydr eira ac yn clirio coed wedi cwympo a pheryglon. Roedd yn ymdrech tîm go iawn gyda gyrwyr bws wedi’u trefnu i ddarparu cludiant i ysgolion a gafodd eu cau yn camu mewn i gefnogi’r gymuned drwy glirio ffyrdd a phalmentydd. Fe wnaeth timau casglu gwastraff hefyd glirio ffyrdd i gadw pawb yn ddiogel.

Daw gwaith y cyngor yn patrolio ac yn lledaenu halen 24 awr i ben nos Fawrth a bydd yn dychwelyd i’r drefn arferol o ddarparu timau sydd ar gael i ledaenu halen ymlaen llaw pan fo angen. Bu staff ailgylchu a chasglu sbwriel yn cefnogi cydweithwyr priffyrdd ar dractorau i glirio’r eira o feysydd parcio, canol trefi ac adeiladau cymunedol ddydd Sul. Bu’r adborth gan breswylwyr yn wych gyda Larry Stoter o The Narth yn dweud ar Facebook: “Ar ôl gorfod gyrru o’r tu allan i Lundain i Drefynwy ddoe – a gymerodd bron wyth awr – roedd ffyrdd Sir Fynwy yn llawer gwell na llawer o leoedd eraill. Da iawn chi a diolch i bawb.”

Cafodd sbwriel ac ailgylchu ar draws y sir ei gasglu y diwrnod dilynol ac eithrio llwybrau gwledig. Bu anhawster gyda chasgliadau yn y Fenni a’r cylch er fod ffyrdd wedi clirio ar gyfer casgliad dydd Mawrth. Bydd y cyngor yn ymdrechu i ddal lan mewn ardaloedd anghysbell drwy gydol yr wythnos ond bydd yn rhoi blaenoriaeth i gasgliadau sbwriel ac ailgylchu bwyd an ofyn i breswylwyr, lle’n bosibl, i gadw eu hailgylchu ar gyfer yr wythnos nesaf.

Roedd y canolfannau gwastraff cartref ac ailgylchu yn Llanfihangel Troddi, Llan-ffwyst a Brynbuga ar gau ddydd Sul. Ail-agorodd Llanfihangel Troddi a Llan-ffwyst ddydd Llun gyda safle Brynbuga wedi agor erbyn dydd Mawrth. Arhosodd safle Five Lanes ger Caerwent yn agor fel arfer.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Jones, aelod cabinet gweithrediadau’r sir: “Mae ein criwiau casglu a chynnal a chadw tiroedd yn gweithio’n agos gyda staff rheng-flaen arall i glirio ysbytai, safleoedd pensiynwyr a chanol trefi. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i gasglu sbwriel ac ailgylchu ar y diwrnod cywir ond gofynnwn i chi fod yn amyneddgar a dim ond ein hysbysu am gasgliadau a gollwyd os yw’n hollol hanfodol. Gofynnwn i bobl leol aros yn ddiogel a pheidio gyrru os nad yw’n hollol hanfodol – gall cerbydau wedi’u gadael achosi problemau ychwanegol i gerbydau graeanu a gwasanaethau argyfwng.”

Mae gwasanaeth addysg Sir Fynwy wedi ymdopi’n dda. Erbyn 7.30pm fore Llun roedd pob ysgol wedi cadarnhau p’un a fyddent ar agor neu ar gau. Rhoddodd hyn ddigon o gyfle i rieni, plant a staff i baratoi ar gyfer y sefyllfa. Pwysleisiwyd diogelwch disgyblion a staff – yn fwyaf arbennig oherwydd yr eira trwm a’r iâ peryglus – yn ogystal â’r ffaith fod llawer o staff yn byw mewn ardaloedd lle roedd teithio i’r gwaith heb risg niwed yn fater difrifol.

Gogledd y sir ddioddefodd waethaf ond erbyn dydd Mawrth dim ond tair ysgol oedd yn dal ar gau. Roedd rhestr lawn o’r ysgolion ar gau ar gael ar wefan y cyngor ers bore Sul: http://www.monmouthshire.gov.uk/school-closures

Diolch i bolisi gweithio ystwyth y cyngor, gallodd llawer o staff na fedrai deithio i’w gweithle arferol ddydd Llun a dydd Mawrth fewngofnodi unrhyw le gyda wi-fi yn defnyddio eu gliniaduron. Mae hybiau cymunedol, canolfannau hamdden a swyddfeydd y cyngor yn darparu ardaloedd gwaith ystwyth fel y gall staff weithio o bell – yn cynnwys eu cartrefi – lle medrir cysylltu â nhw dros y ffôn, drwy e-bost a gwahanol wasanaethau negeseuon fel Skype. Fel canlyniad, ni chafodd y tywydd difrifol effaith neilltuol ar y gwasanaeth a ddarparwyd gan yr aelodau hyn o staff.

Roedd tair amgueddfa’r cyngor ar gau yn y Fenni, Cas-gwent a Threfynwy ddydd Sul oherwydd pryderwch am ddiogelwch y cyhoedd a’r staff yn teithio i sefyllfaoedd. Ail-agorodd Trefynwy a Chas-gwent ddydd Llun gyda’r Fenni yn ail-agor ddydd Mawrth.

Roedd rhai hybiau cymunedol a llyfrgelloedd yn gweithredu llai o wasanaeth ar y dydd Llun ond roedd y cyfan yn ôl i’r arfer erbyn dydd Mawrth er i siop un stop y Fenni gau am yr awr ginio oherwydd prinder staff tra caeodd Hyb Cymunedol Trefynwy yn y prynhawn am hyfforddiant oedd wedi’i gynllunio ymlaen llaw.

Bu staff yn brysur ar y cyfryngau cymdeithasol yn anfon bwletinau rheolaidd ar Facebook a Twitter ac roedd “tudalen sblash” gaeaf y cyngor ar waith fel bod pawb yn ymweld â gwefan Sir Fynwy yn cael eu cyfeirio tuag at y cynlluniau ar gyfer tywydd gwael – gweler @MonmouthshireCC ar Facebook a Twitter am fanylion.

Dywedodd Peter Fox, arweinydd y Cyngor: “Rwy’n ddiolchgar iawn i staff y cyngor am wneud eu dyletswyddau’n effeithiol ac effeithlon yn yr eira trwm a’r iâ – gwaith tîm gwych. Diolch i’r holl breswylwyr fu’n anfon adborth hyfryd atom ac yn rhannu’r lluniau hudolus o’n sir hardd y gaeaf yma. Mae adegau fel hyn yn gwneud i mi deimlo’n falch iawn.”

Cyngor yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gwneud cynlluniau wrth gefn i sicrhau fod gwasanaethau hanfodol ar gael drwy gydol cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Mae hefyd wedi cyhoeddi amserau agor ei ganolfannau hamdden, amgueddfeydd a hybiau cymunedol.

Bydd nifer o wasanaethau’r cyngor yn rhedeg drwy gydol cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Bydd y tîm prydau cymunedol a staff gofalu yn gweithio bob dydd yn cynnwys Dydd Nadolig a bydd nifer o weithwyr cymdeithasol ar ddyletswydd gydag eraill ar alwad ar sail 24 awr.

Bydd timau graeanu’r cyngor yn barod ar hyd cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd i weithio pryd bynnag mae ffyrdd angen eu trin. Caiff staff priffyrdd eu cynorthwyo gan gydweithwyr o dimau tiroedd a gwastraff ac ailgylchu’r cyngor os bydd angen. Bydd staff cynnal a chadw yn safle’r cyngor yn Rhaglan hefyd ar gael i sicrhau bod cerbydau’n gweithio’n iawn a bydd aelodau’r tîm Gwasanaethau Eiddo ar gael i ddiogelu adeiladau a seilwaith.

Gwneir trefniadau ar gyfer casglu gwastraff ac ailgylchu dros gyfnod y gwyliau a rhoddir y manylion mewn datganiad i’r wasg yr wythnos hon.  Mae manylion ar http://www.monmouthshire.gov.uk/recycling-and-waste.

Bydd canolfannau hamdden y cyngor ar agor rhwng 8.15am a 3.30pm ar Noswyl Nadolig ond byddant ar gau Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a dydd Mercher 27 Rhagfyr. Byddant ar agor fel arfer ar 28, 29 a 30 Rhagfyr gydag oriau cyfyngedig – 8.15am i 3.30pm – ar Nos Calan. Bydd pob canolfan ar gau Ddydd Calan ond ar agor fel arfer ddydd Mawrth 2 Ionawr. Bydd dosbarthiadau ffitrwydd yn rhedeg tan ddydd Gwener 22 Rhagfyr 2017 cyn ailddechrau ddydd Mercher 3 Ionawr tra bydd pwll nofio Canolfan Hamdden Cas-gwent ar gau am gynnal a chadw hanfodol rhwng 27 Rhagfyr a dydd Sadwrn 6 Ionawr.

Bydd amgueddfeydd y sir yn y Fenni, Cas-gwent a Threfynwy ar agor ar Noswyl Nadolig ond ar gau am y tridiau dilynol. Byddant yn ail-agor fel arfer o ddydd Iau 28 Rhagfyr ond ar gau Ddydd Calan.

Bydd y cyngor yn cau ei ddau brif adeilad swyddfa – Neuadd y Sir ym Mrynbuga a Thŷ Arloesedd ym Magwyr – yn y cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad gyda staff a bydd yn arbed arian i’r cyngor. Mae polisi gweithio ystwyth y Cyngor yn golygu y gall staff sydd yn y gwaith ddydd Iau 28 a dydd Gwener 29 Rhagfyr weithredu fel arfer o un o hybiau cymunedol y sir, Canolfan Hamdden Cil-y-coed neu Lyfrgell y Fenni. Bydd Swyddfa’r Cofrestrydd ger Neuadd y Sir ar agor fel arfer ar y ddau ddiwrnod.

Dylai preswylwyr sydd eisiau ymweld ag un o hybiau cymunedol y cyngor nodi y byddant ar agor yn ystod eu horiau arferol ond y byddant ar gau Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, dydd Mercher 27 Rhagfyr a Dydd Calan. Mae manylon ar gael yn

http://www.monmouthshire.gov.uk/community-hubs-libraries

Dywedodd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Bydd y rhan fwyaf ohonom yn mwynhau seibiant haeddiannol dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd ond ni ddylem anghofio am y gweithwyr hanfodol hynny sy’n dal ati i wasanaethau’r gymuned p’un ai’n sicrhau diogelwch y ffyrdd, gofalu am y bregus yn ein cymdeithas neu gydlynu mewn argyfwng gyda’r gwasanaethau brys.”

Mae mwy o fanylion ar gael ar www.monmouthshire.gov.uk

Mae’n bwrw eira trwy Sir Fynwy heddiw. Byddwch yn ofalus – paid ag gyrru oni bai bod angen.

Mae gan breswylwyr, busnesau a sefydliadau tan ddydd Mercher 20 Rhagfyr i gymryd rhan mewn arolwg ar ddyfodol Parc Bailey yn y Fenni. Cynlluniwyd yr arolwg i wella cyfleusterau yn y parc i ddiwallu anghenion y dref yn y dyfodol.

Mae grwpiau lleol o’r Fenni, Cyfeillion Parc Bailey a Thîm Tref y Fenni wedi paratoi’r arolwg ac yn gweithio’n agos gyda grwpiau cymunedol lleol, cyngor y dref a’r cyngor sir i roi oes newydd i barc sy’n annwyl iawn i lawer.

Mae sylwadau a theimladau preswylwyr lleol ac ymwelwyr i’r parc yn hollbwysig i’w ddyfodol i’w wneud yn ofod mwy hygyrch a bywiog ar gyfer pob oedran. Mae Parc Bailey yn ferw o weithgaredd drwy’r flwyddyn gyda llawer o grwpiau chwaraeon fel Clwb Rygbi y Fenni a Chlwb Bowls Parc Bailey yn defnyddio’r cyfleusterau i gystadlu, hyfforddi a chymdeithasau. Bydd y grwpiau hyn a llawer arall yn hanfodol yn y broses ymgysylltu.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Bryan Jones: ‘Mae Parc Bailey mor bwysig ar gyfer iechyd a llesiant pobl lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae’n hanfodol gwrando ar leisiau sefydliadau cymunedol lleol a chymunedau yn yr ardal o amgylch yn hanfodol i ddarganfod sut yr hoffent weld y gofod yn cael ei wella ac rydym yn annog pawb i lenwi’r arolwg.’

Bydd canlyniadau’r arolwg yn rhoi tystiolaeth o’r gymuned ac yn sail i gamau nesaf cais am gyllid i wella’r parc a’i gyfleusterau.

Mae’r arolwg ar gael ar wefan Cyngor Sir Fynwy http://tinyurl.com/yce8fe8x ac mae’n rhaid eu llenwi erbyn dydd Mercher 20 Rhagfyr. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Mark Cleaver ar 07976 791031 neu MarkCleaver@monmouthshire.gov.uk

Bydd Hyb Cymunedol Cas-gwent yn gynnal noswaith o ddathliadau’r Nadolig ddydd Mercher 20 Rhagfyr o 7pm gyda Grŵp Canu Cas-gwent a darlleniadau tymhorol.

Mae’r mynediad am ddim ac mae croeso i bawb fynychu. Darperir lluniaeth gan Gyfeillion Llyfrgell Cas-gwent. Mae Hyb Cymunedol Cas-gwent ger Stryd Gymreig, yn agos at ganol y dref gyda digonedd o barcio am ddim ar gael gerllaw o 5pm.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am hybiau cymunedol: “Edrychwn ymlaen at groesawu pobl i’r digwyddiad tymhorol hwn yn hyb cymunedol Cas-gwent ychydig ddyddiau cyn y Nadolig. Rwy’n siwr y bydd yn noswaith difyr a hyfryd.

I gael manylion pellach cysylltwch â Sally-Anne Powell – SallyAnnePowell@monmouthshire.gov.uk – neu ffonio 01291 635730.

Bydd gwasanaeth cymorth busnes Cyflymu Cymru i Fusnesau yn cynnal gweithdy cyfryngau cymdeithasol am ddim ar gyfer busnesau Sir Fynwy rhwng 9am a 1.30pm ddydd Mercher 13 Rhagfyr yng Ngwesty’r Angel, y Fenni. Bydd gweithdy Ennill gyda’r Cyfryngau Cymdeithasol, a gyllidir yn llawn gan Cyflymu Cymru i Fusnesau, yn rhoi’r gallu i gynhyrchu ymgyrchoedd llwyddiannus ar y cyfryngau cymdeithasol a chynnig yr offer sydd eu hangen i sicrhau twf.

Bydd y gweithdy yn cynnwys cyfarwyddiadau ar ysgrifennu gwell negeseuon na’r gystadleuaeth, sut i greu strategaeth cyfryngau cymdeithasol i ddenu busnes a chyngor da i helpu mesur beth sy’n gweithio a beth nad yw’n gweithio.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet dros fenter ar Gyngor Sir Fynwy: “Mae angen i fusnesau feddwl am greu strategaeth cyfryngau cymdeithasol yn awr. Gall marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol fod yn ffordd wirioneddol gost-effeithlon o godi eich proffil, denu cwsmeriaid newydd ac ennill busnes newydd. Bydd bron dair biliwn o bobl yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ym mhedwar ban byd erbyn 2020 ac mae’n well gan 75% o berchnogion busnes ymwneud gyda busnesau sydd â phresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol.”

Gall busnesau gofrestru ar-lein drwy fynd i: https://wales.business-events.org.uk/en/events/superfast-business-wales-winning-with-social-media/

Gall entrepreneuriaid yn Sir Fynwy sy’n dymuno cynyddu eu sgiliau fanteisio o weithdai busnes am ddim drwy gydol mis Rhagfyr. Nod y cyrsiau hyn, a drefnwyd gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, yw rhoi’r wybodaeth a’r dulliau i bobl gychwyn, rhedeg a thyfu eu busnesau eu hun yn llwyddiannus.

Cyflwynir y gweithdai gan gynghorwyr gyda chyfoeth o brofiad diwydiant a busnes, a gafwyd mewn swyddi uwch mewn sefydliadau byd-eang neu tra’n cynnal eu busnesau eu hunain.

Mae’r cyrsiau’n canolbwyntio ar amrywiaeth o bynciau yn cynnwys cynllunio busnes ac ariannol, marchnata, prisio, cyrchu cyllid, recriwtio, materion cyfreithiol a chydymffurfiaeth, a chawsant eu cynllunio i roi gwybodaeth fanwl a’r sgiliau busnes i’r rhai sydd yn mynychu i ddechrau busnes, a hefyd gynyddu eu hyder i wneud llwyddiant ohono.

Cynhelir y gweithdai ym mis Rhagfyr fel sy’n dilyn:

Trefynwy

  • Cychwyn a Rhedeg Busnes – Mentro Arni: 9.30am i 4pm, dydd Llun 11 Rhagfyr
  • Treth a Chadw Llyfrau: 9.30am i 12.30pm, dydd Mercher 13 Rhagfyr
  • Ennill a Chadw Cwsmeriaid: 1.30pm i 4.30pm, dydd Mercher 13 Rhagfyr

Casnewydd

  • Ennill a Chadw Cwsmeriaid: 9.30am i 12.30pm, dydd Mawrth 12 Rhagfyr
  • Cyfrif Maint y Farchnad: 1.30pm i 4.30pm, dydd Mawrth 12 Rhagfyr

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet Sir Fynwy sy’n gyfrifol am fenter: “Mae hwn yn gyfle gwych i fusnesau lleol gael mynediad i’r cymorth hyfforddiant sydd ar gael gan Busnes Cymru.”

Ychwanegodd Melanie Phipps, Cynghorydd Busnes Cymru ar gyfer Sir Fynwy: “Mae annog sefydlu busnesau newydd a chreu swyddi ledled Cymru yn flaenllaw yn ein gwaith yn Busnes Cymru. Credwn y dylai pawb sydd â syniad busnes weithredu arno ac felly rydym yn rhoi anogaeth gref i entrepreneuriaid lleol sydd eisiau mynd â’u syniad ymhellach neu dyfu eu busnes i ddod draw.”

I gael mwy o wybodaeth ar leoliadau ac i archebu lleoedd ewch i https://wales.business-events.org.uk/, e-bost southwales@businesswales.org.uk neu ffonio 01656 868500.

  • Mae Busnes Cymru, a gyllidir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, yn cefnogi twf cynaliadwy mentrau bach a chanolig ar draws y wlad drwy gynnig mynediad i wybodaeth, arweiniad a chymorth busnes. I ganfod sut y gall Busnes Cymru helpu i gychwyn neu ddatblygu busnes, ffoniwch  03000 6 03000 dilyn @_busnescymru neu @_businesswales neu edrych ar www.busnescymru.llyw.cymru neu www.businesswales.gov.wales/ i gael mwy o wybodaeth.

Cynhaliwyd gwobrau blynyddol Cyflawniad Gwirfoddolwyr Sir Fynwy a noddwyd gan GAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent) a Chyngor Sir Fynwy yn Neuadd Côr Cil-y-coed yn ddiweddar. Ffocws y noswaith ddathlu oedd ymroddiad ysbrydoledig gwirfoddolwyr o bob cefndir sy’n rhoi’n rhydd o’u hamser a rhannu eu sgiliau i gael effaith enfawr ar bob adran o gymunedau’r sir.

Mynychwyd y digwyddiad gan y Brigadydd Robert Aitken CBE, Arglwydd Raglaw Gwent, Kevin Thomas Ysw YH, Uwch Siryf Gwent, y Cynghorydd Maureen Powell, Cadeirydd Sir Fynwy, Edward Watts, Cadeirydd GAVO a’r Cynghorydd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, ymysg llawer o bobl eraill. Cafwyd yr adloniant gan Darren Graceland Jones, a enillodd nifer fawr o wobrau fel act teyrnged Elvis, gyda naws ofalgar!

Dywedodd Clare Jones, Rheolwr Tîm Gwirfoddoli GAVO: “Llongyfarchiadau i’r holl wirfoddolwyr ymroddedig sy’n chwarae rôl mor hanfodol yn ein cymdeithas. Y Gwobrau Gwirfoddolwyr yw’n ffordd ni o rannu straeon rhai pobl wych ledled y sir sy’n cael effaith fawr ar fywydau pobl eraill”.

Ychwanegodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am arloesedd: “Mae gwirfoddolwyr yn rhannu miloedd o oriau ar draws ein sir, yn gwella bywydau pobl a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt. Mae’r noswaith Gwobrau Cyflawniad Gwirfoddolwyr yn rhoi cyfle i ni gydnabod a rhoi sylw i’w gwaith a’r effaith fuddiol a gânt. Diolchaf iddynt o waelod calon am eu cyfraniad gwych.”

Diolchodd y trefnwyr i’r noddwyr am gyflwyno’r gwobrau. Yr enillwyr oedd:

  • Person Ifanc yn Gwirfoddoli – Ellie Hall (noddwyd y wobr gan Heddlu Gwent)
  • Oedolyn yn Gwirfoddoli – Nick Cann (noddwyd y wobr gan Carling in the Community)
  • Amgylcheddol – Gwirfoddolwyr Sadwrn Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Fynwy (noddwyd y wobr gan Gyngor Cymuned Rogiet)
  • Ymddiriedolydd – Jon Williams (noddwyd y wobr gan GAVO)
  • Grŵp – 21 Plus (noddwyd y wobr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan)
  • Taith Bersonol – Tracy Bartlett (noddwyd y wobr gan GAVO)
  • Ysbrydoledig – Meirion a Sarah Howells (noddwyd y wobr gan Hill & Co Financial Advisers)
  • Gwobr Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy – Bethanie Headworth (noddir y wobr gan Gyngor Sir Fynwy)

Gall preswylwyr sydd â diddordeb mewn ymwneud â’r gymuned gael mwy o wybodaeth am gyfleoedd drwy edrych ar www.volunteering-wales.net  neu ffonio Canolfan Gwirfoddolwyr Sir Fynwy ar 01633 241566.  Mae manylion llawn am weithgareddau gwirfoddoli enillwyr y gwobrau a’r rhai a gafodd gymeradwyaeth uchel ar wefan GAVO www.gavowales.org.uk/volunteering

Disgwylir llanw uchel. Byddwn yn cadw golwg ar y sefyllfa ac, os oes angen, byddwn yn trefnu cau’r A466 drwy Dyndyrn am gyfnodau byr ar y dyddiadau ac amserau dilynol:

Dydd Llun 4 Rhagfyr Rhwng 07:45 – 08:15  (tua)

Rhwng 20:10 – 20.40 (tua)

Dydd Mawrth 5 Rhagfyr Rhwng 08.30 – 09.00 (tua)

Rhwng 20.50 – 21.20 (tua)

Dydd Mercher 6 Rhagfyr Rhwng 09:15 – 09.45 (tua)

Bydd y mannau cau fel sy’n dilyn:

Cau Pen Gogleddol: Cyffordd Heol Tryleg

Cau Pen Deheuol: Cyffordd y Royal George.

Amcangyfrifir yr amserau cau yn seiliedig ar y rhagolygon o amserau llanw. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw golwg ar y sefyllfa ac yn cyhoeddi Rhybuddion Llifogydd fel sydd angen. Dim ond dros dro y caiff y ffordd ei chau a dim ond pan fydd dŵr llanw yn llifo ar y briffordd. Bydd y ffordd yn ail-agor cyn gynted a bod y dŵr wedi cilio o’r briffordd.

Mae tîm hamdden Cyngor Sir Fynwy yn cynnig hyrwyddiad aelodaeth arbennig yn y cyfnod cyn y Nadolig. Mae ymuno â Hamdden Mynwy cyn 23 Rhagfyr yn sicrhau aelodaeth am ddim tan ddiwedd mis Ionawr. Mae’r cynnig yn cynnwys popeth sydd ei angen i ragori ar ddisgwyliadau iechyd a ffitrwydd wrth i’r Nadolig a’r Flwyddyn newydd agosáu.

Mae Hamdden Mynwy yn darparu amrywiaeth ragorol o weithgareddau a dosbarthiadau gyda chynlluniau ffitrwydd personol a sesiwn hyfforddiant personol am ddim gyda phob aelodaeth. Gyda hyfforddwyr cyfeillgar gyda chymwysterau llawn, yn ogystal ag offer o’r math diweddaraf rhwydd eu gweithredu, mae eu tair canolfan hamdden yn cynnwys popeth mae rhai sy’n hen gyfarwydd â mynd i gampfa a dechreuwyr llwyr ei angen mewn amgylchedd croesawgar.

Mae aelodaeth Hamdden Mynwy yn rhoi mynediad i dros 130 o ddosbarthiadau ffitrwydd, tri phwll nofio (i gyd gyda hoistau a stepiau hygyrch), pedair campfa, cyfleusterau newid i’r anabl a pharcio am ddim ym mhob safle.

Mae’r cyfleusterau eraill yn cynnwys:

o             1 llain 3G gyda llifoleuadau a gymeradwywyd gan FIFA yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed

o             4 cwrt sboncen (Y Fenni x 2 a Chil-y-coed x 2)

o             4 llain wyneb Astro maint llawn

o             4 neuadd chwarae amlbwrpas gyda phedwar cwrt

o             1 campfa amlbwrpas (Y Fenni)

o             3 ardal gemau aml-ddefnydd awyr agored pedwar cwrt (Y Fenni, Cil-y-coed a Chas-gwent)

o             1 llain gemau aml-ddefnydd awyr agored ar gyfer pêl-droed, pêl-fasged, pêl-rwyd neu denis (y Fenni)

o             2 sauna (Y Fenni a Chas-gwent)

o             3 ystafell newid arbennig i’r anabl gyda hoist trac nenfwd, bwrdd newid y gellir addasu ei uchder a chawod hygyrch

o             gwahanol leiniau glaswellt awyr agored

Mae pob un o’r tair canolfan hamdden yn agor yn ddigon cynnar i roi amser ychwanegol i bobl cyn diwrnod prysur i ddod. Mae’r canolfannau hamdden – yn y Fenni, Cil-y-coed a Chas-gwent – yn rhoi croeso cynnes gyda chefnogaeth yn ogystal â chyfleusterau cymunedol, cyfleus gyda llawer i’w gynnig am bris gwych.

I gael manylion aelodaeth cysylltwch â’ch canolfan leol:

  • Canolfan Hamdden y Fenni – 01873 735360
  • Canolfan Hamdden Cil-y-coed – 1291 426850
  • Canolfan Hamdden Cas-gwent – 01291 635745

I gael mwy o wybodaeth ewch i http://www.monmouthshire.gov.uk/promotions-at-monleisure

 

 Bydd Hyb Cymunedol Brynbuga yn cynnal ei Farchnad Nadolig ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr rhwng 10am a 3pm.

ydd stondinau marchnad yn gwerthu crefftau, sgarffiau, canhwyllau, teisennau a bwydydd pobi, cardiau, celf, addurniadau mosaig, addurniadau pren Nadoligaidd, seidr a pherai lleol o Three Saints Perry and Cider o Lantrisant ger Brynbuga a llawer mwy. Bydd lluniaeth ar gael yn ogystal â thriniaeth coluro ewinedd a gwefusau a gweithgareddau hwyliog i blant.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am hybiau cymunedol y sir: “Mae Marchnad Nadolig Brynbuga yn un enghraifft ymhlith llawer o sut y gall pump hyb y cyngor ddod â phobl at ei gilydd a chefnogi gweithgaredd cymunedol lleol.”

Mae hyb cymunedol Brynbuga yn 35 Stryd Maryport ac mae dau faes parcio cyfleus.

I gael manylion pellach cysylltwch â Louise Greaves, Uwch Gymhorthydd Gwybodaeth – LouiseGreaves@monmouthshire.gov.uk – 01291 426888 neu 07971 828422.

Drwy gydol mis Rhagfyr a mis Ionawr bydd Cyngor Sir Fynwy yn cynnal ystod eang o weithgareddau i bobl o bob oedran eu mwynhau yn ystod cyfnod yr Ŵyl.

Bydd yr hwyl tymhorol yn cychwyn gyda Noson Barti yn Neuadd y Sir nos Wener 1 Rhagfyr. Mae’r noswaith yn cynnig dewis eang o opsiynau i helpu cynifer o bobl ag sydd modd i ddechrau ar y dathliadau mewn steil. Archebwch le a pharatoi i gael eich gwefreiddio gyda chwrs 2 bryd, disgo a dawnsio, pris y person £30.00. Gall grwpiau o 10-12 o bobl drefnu profiad bwyta preifat am £40.00 y person neu ddod â’r noswaith i ben gyda dawns am £10.00 y person. Bydd yr hwyl yn cychwyn am 7pm a bydd y dawnsio’n parhau tan 12.00pm. I gael mwy o wybodaeth ffoniwch Neuadd y Sir ar

01600 775257 neu edrych ar y wefan www.shirehallmonmouth.org.uk

Teithiwch yn ôl mewn amser ar gyfer gwledd ganoloesol yng Nghastell Cil-y-coed ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr 7pm-11.30pm. Bydd cerddorion a chantorion yn diddanu ynghyd ag amrywiaeth ag arlwy o gerddoriaeth, dweud straeon a gwledda moethus. Cysylltwch â Chastell Cil-y-coed ar gyfer noswaith wirioneddol unigryw: www.caldicotcastle.co.uk.

 

Ymunwch â Siôn Corn am orymdaith llusernau yn Nhrefynwy ddydd Gwener 8 Rhagfyr 6.30pm-8.00pm. Mae’r orymdaith yn dechrau tu allan i Tŷ Handyman a bydd yn symud ymlaen drwy’r dref ac yn dod i ben yn Neuadd y Sir.

Bydd hefyd ganu carolau ar y ffordd ac yna stondinau gwych yn Neuadd y Sir yn cynnig siopa hwyr gwych tan 8pm.

Bydd hybiau yn Sir Fynwy yn darparu ystod eang o weithgareddau i gysylltu holl aelodau’r gymuned.

Bydd gwledd ar gael yn Hyb y Fenni ddydd Gwener 8 Rhagfyr 11.00am-2.00pm.. Bydd caffe cymuned Fy Niwrnod Fy Mywyd yn gweini rholiau twrci poeth a diodydd blasus. Bydd adloniant a cherddoriaeth gan yr orsaf radio leol Able Radio, mae’r orsaf yn cynnig cyfleoedd i bobl gydag anabledd dysgu i ddysgu sgiliau newydd ac arddangos eu sgiliau cyflwyno a chynhyrchu.

Cynhelir Marchnad Nadolig Hyb Brynbuga ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr rhwng 10.00am-3.00pm. Bydd crefftau lleol ar werth, teisennau cartref a gweithgareddau ar gyfer pob oedran. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â 01291 426888.

Bydd Hyb Cil-y-coed yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau ym mis Rhagfyr a mis Ionawr. Gall plant 4 i 8 oed wneud amrywiaeth o grefftau Nadoligaidd a mwynhau stori dweud straeon ddydd Sadwrn 9 Rhagfyr rhwng 10:30 a 11:30am.

Ar ddydd Mercher 13 Rhagfyr 9:00am i 12:00pm bydd Hyb Cil-y-coed yn cyflwyno Ffair Nadolig Masnach Deg mewn partneriaeth gyda Co-op Cil-y-coed. Mae croeso i breswylwyr flasu mins pei a choffi tra’n gwrando ar Ddarlleniadau Nadolig rhwng 10:30am-11.30am.

Cynhelir Gweithdy Lego ddydd Mercher 3 Ionawr rhwng 10.30am a 11.00am yn Hyb Cil-y-coed ar gyfer plant 5 i 9 oed.

Mae Gemau Sir Fynwy poblogaidd yn ôl gan roi cyfle i blant a phobl ifanc 5-12 oed i gwrdd â ffrindiau newydd a chadw’n heini a iach. Bydd y Gemau’n dechrau ddydd Mawrth 2 Ionawr ac yn dod i ben ddydd Gwener 5 Ionawr. Mae dau opsiwn ar gael 9.00am-3.00pm, £16.00 y dydd a hefyd sesiwn estynedig yn cychwyn am 8.00am-5.00pm am £19.50 y diwrnod. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan www.monmouthshire.gov.uk neu galwch heibio un o ganolfannau hamdden Sir Fynwy.

 

Dywedodd y Cyng Bob Greenland, ‘Mae’r Nadolig yn Sir Fynwy yn amser hudolus i bobl o bob oed. Rydym mor lwcus i gael amrywiaeth eang o weithgareddau a digwyddiadau ar draws y sir. Cynhelir y digwyddiadau yn ein safleoedd hanesyddol gwych, ein hybiau a chanolfannau hamdden gyda chefnogaeth swyddogion creadigol ac ymroddedig. Rwy’n annog preswylwyr i ymweld ac ymchwilio’r sir yn y cyfnod cyn tymor yr ŵyl. Mae mwy o weithgareddau ar gael ar wefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Fynwy yn www.monfis.org.uk/christmas-monmouthshire.

 

 

Daeth cynrychiolwyr sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus ar draws Sir Fynwy at ei gilydd ym Mrynbuga ar 27 Tachwedd i godi ymwybyddiaeth o effeithiau trychinebus a phellgyrhaeddol trais yn erbyn menywod. Trefnwyd y digwyddiad mewn cysylltiad gyda Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod, a elwir hefyd yn Ddiwrnod Rhuban Gwyn, ar 25 Tachwedd.

Cafodd yr Ymgyrch Rhuban Gwyn ei chreu i roi cefnogaeth uniongyrchol i Ddiwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod i annog dynion i wrthwynebu trais yn erbyn menywod a genethod drwy ymrwymo eu cefnogaeth a gwisgo rhuban gwyn Caiff ei arwain gan ddynion sy’n fodlon cymryd safiad a bod yn fodelau rôl cadarnhaol i ddynion eraill yn y gymuned.

Ymysg y rhai’n bresennol oedd cynrychiolwyr o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Heddlu Gwent a Chyngor Sir Fynwy, gyda detholiad o gerbydau eu sefydliadau. Gyda nhw roedd Huw Jakeway, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, y Prif Arolygydd David Morgan o Heddlu Gwent a’r Cynghorydd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy. Dangosodd pob un ohonynt eu cefnogaeth i’r ymgyrch drwy ddangos datganiadau ysgrifenedig yn dweud pam eu bod eisiau dileu trais dynion yn erbyn menywod a drwy wisgo ruban gwyn.

Mae’r Ymgyrch Rhuban Gwyn yn canolbwyntio ar y gred mai dim ond pan fydd dynion yn derbyn eu cyfrifoldeb i wneud newidiadau y bydd newid yn digwydd. Mae’n rhoi cyfle i’r dynion hynny sy’n gofalu am y menywod yn eu bywydau i gymryd cyfrifoldeb i sicrhau fod menywod yn byw’n rhydd o drais ac ofn. Yn draddodiadol, mae baich gweithio tuag at ddileu trais dynion yn erbyn menywod wedi disgyn bron yn llwyr ar fenywod.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am gydraddoldeb: “Gwnaeth yr arddangosiad o gefnogaeth argraff fawr arnaf ac mae’n anfon neges uchel a chlir fod trais yn erbyn menywod a genethod yn annerbyniol ac nad oes lle iddo yng nghymdeithas yr unfed ganrif ar hugain. Galwn ar bawb – dynion a menywod – i wneud safiad a chodi llais am hyn.”

Ychwanegodd Geoffrey Williams o’r Fenni, technegydd meddygol argyfwng ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn seiliedig yn Nhrefynwy: “Bwlïod a llwfrgwn yw dynion sy’n ymosod ar fenywod”.

Mewn ymateb i’r ymgyrch, cafodd dros 350 o gerbydau Cyngor Sir Fynwy eu brandio gyda logo’r Rhuban Gwyn i atgoffa’n barhaus am y gwaith pwysig i ddileu trais yn erbyn menywod mewn cymdeithas.

 Mynychodd gofalwyr o bob rhan o Sir Fynwy ddigwyddiad yr wythnos hon (dydd Mercher 22 Tachwedd) a gynhaliwyd ar y cyd gan y cyngor sir a Phrosiect Gofalwyr Sir Fynwy i nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr. Wedi’i gynnal yng Ngwesty Glen-yr-Afon ym Mrynbuga, cododd y digwyddiad ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth gwasanaethau, cefnogaeth a gwybodaeth sydd ar gael i ofalwyr yn ogystal â chydnabod a diolch i ofalwyr am eu cyfraniad enfawr i gymdeithas.

Agorodd y Cynghorydd Penny Jones, aelod cabinet gofal cymdeithasol ac iechyd ar Gyngor Sir Fynwy, raglen y dydd. Dywedodd, “Mae’n bleser mawr bod yn bresennol yn Niwrnod Hawliau Gofalwyr Sir Fynwy. Mae achlysuron fel hyn mor bwysig wrth gydnabod a chefnogi ein gofalwyr gwych a chodi proffil gwaith tîm gofalwyr a sefydliadau cymorth y cyngor. Rwy’n credu’n gryf y dylai gofalwyr fod yn weladwy ac y dylem wrando arnynt gan eu bod yn rhan ganolog o gymdeithas. Hoffwn ddiolch i’r tîm am drefnu’r digwyddiad yma.”

Treuliwyd y bore yn trafod Strategaeth Gofalwyr Sir Fynwy. Mae llais gofalwyr o bob rhan o’r sir yn amlwg o fewn y strategaeth gan iddynt fod â rhan sylweddol a hanfodol yn y broses ymgynghori i greu’r ddogfen. Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar wyth blaenoriaeth ac mae’r tîm gofalwyr wedi rhoi diweddariad ar gynnydd yn gweithredu hyn.

Gwrandawodd gofalwyr ar gyflwyniadau defnyddiol am nifer o faterion a gredant yn bwysig. Mae seibiant yn flaenoriaeth bwysig a theimladwy iawn a hysbysodd nifer o gyflwyniadau y gofalwyr am yr amrywiaeth opsiynau sydd ar gael.

Ymysg y siaradwyr yn rhoi help a chyngor oedd Claire Morgan, Cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru a Gareth Howells, Prif Swyddog Gweithredol, Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru.

Trafododd Mick Logan o’r Adran Gofal Cymdeithasol Oedolion a Beccy Williams o brosiect Codi Pontydd sut mae eu cynllun yn cael effaith gadarnhaol ar lesiant rhieni sy’n ofalwyr. Mae prosiect Codi Pontydd yn cynorthwyo pobl ifanc gydag anghenion ychwanegol i ddod yn annibynnol a datblygu sgiliau newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog a chwrdd â ffrindiau newydd. Croesawodd rhieni sy’n ofalwyr y cyfle i gael amser rhydd gwerthfawr gan wybod fod eu plentyn yn hapus, yn cael hwyl ac yn ddiogel.

Roedd cyflwyniadau eraill yn seiliedig ar y blaenoriaethau yn y cynllun yn cynnwys gwybodaeth a chyfathrebu a mynediad i gludiant.

Rhoddodd Huw Jones o Uned Cludiant Teithwyr y cyngor wybodaeth ar Grass Routes, cyngor cludiant cymunedol y sir. Caiff Grass Routes ei weithredu gan yrwyr gwirfoddol yn Sir Fynwy a Chasnewydd ac mae’n darparu gwasanaeth sydd wedi ei deilwra i anghenion y gymuned.

Un o uchafbwyntiau’r dydd oedd cyflwyniad gwobr Buddsoddwyr mewn Gofalwyr cyntaf y sir i feddygfa Tudor Gate, y Fenni. Derbyniodd Gail Johnson y wobr gan Dr Brian Harris, Arweinydd Rhwydwaith Gofal Cymdogaeth De Sir Fynwy. Mae hyn yn dilyn partneriaeth rhwng y cyngor a Phrosiect Gofalwyr Sir Fynwy i lansio’r rhaglen Buddsoddwyr mewn Gofal ar gyfer meddygfeydd yn Sir Fynwy.

I gael mwy o wybodaeth ar Strategaeth Gofalwyr Sir Fynwy ac am y gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr cysylltwch â Kim Sparrey, Rheolwr Datblygu y Gwasanaeth Gofalwyr – kimsparrey@monmouthshire.gov.uk.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn darparu parcio am ddim ar y penwythnosau yn y Fenni, Cas-gwent a Threfynwy yn y cyfnod cyn y Nadolig. Bydd hwn yn hwb a groesewir ar gyfer siopau’r dref, yn helpu i atgoffa pobl am y dewis gwych o fanwerthwyr annibynnol yn y sir ac annog siopwyr i brynu’n lleol. Bydd parcio am ddim ar ddyddiau Sadwrn ar gael yn y tair tref ar 9, 16 a 23 Rhagfyr.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Jones, aelod cabinet Cyngor Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am feysydd parcio’r sir: “Bu parcio am ddim ar y penwythnosau yn y cyfnod cyn y Nadolig dros y chwe blynedd ddiwethaf felly mae’n iawn ei ail-adrodd. Mae hyn yn costio tua £19,000 mewn refeniw a gollir bob blwyddyn ond wrth gwrs mae ein trefi yn cael budd enfawr o gynnydd mewn busnes mewn siopau a bwytai. Mae hefyd yn atgoffa pobl am y dewis gwych o siopau sydd gennym yn ein trefi.”

Mae siopau Sir Fynwy yn cynnwys llawer o fusnesau teuluol hir-sefydlog ac amrywiaeth o farchnadoedd lleol yn cynnig dewis eang o nwyddau i breswylwyr ac ymwelwyr. Bydd y cyngor yn hysbysebu’r dyddiadau parcio am ddim yn ei feysydd parcio ac mae wedi cynhyrchu poster y gellir ei lawrlwytho o wefan y cyngor.

Cafodd dyn o’r Fenni ei erlyn gan Gyngor Sir Fynwy ar 17 Tachwedd yn Llys Ynadon Casnewydd am dipio nifer o dunelli o wastraff gardd yn anghyfreithlon ar fynydd y Blorens fis Mai diwethaf. Plediodd Mr Shane Ewers yn euog i ddau gyhuddiad o dipio anghyfreithlon a chario gwastraff rheoledig pan nad oedd wedi cofrestru. Roedd swyddogion o dîm iechyd yr amgylchedd wedi cyfweld Mr Ewers ar ôl dod o hyd i dystiolaeth o fewn y gwastraff yn ei gysylltu gyda’r digwyddiad a gosododd yr ynadon ddirwy o £200. Fe wnaethant hefyd orchymyn Mr Ewers i dalu costau’r cyngor o bron £2,000.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy yn gyfrifol am iechyd yr amgylchedd: “Roedd hwn yn ddigwyddiad difrifol iawn ac yn torri’r gyfraith yn ddifrifol yn arbennig o gofio am faint o wastraff a adawyd a’r lleoliad mynyddig hardd. Mae’r erlyniad hwn yn dilyn pwerau newydd a roddwyd i gynghorau Cymru yn ddiweddar i helpu mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon, gan alluogi swyddogion y cyngor i roi hysbysiadau cosb sefydlog. Fodd bynnag, nid oedd maint y digwyddiad neilltuol hwn yn golygu fod hysbysiad cosb sefydlog yn ddigonol. Er mai dim ond nifer fach o bobl sydd yn troseddu yn y ffordd hon diolch byth, mae’r achos hwn ac erlyniadau llwyddiannus eraill mewn blynyddoedd diweddar yn dangos ein bod yn benderfynol dal i gyfrif y bobl sy’n gyfrifol am y gweithredoedd gwrthgymdeithasol yma.”

Mae’n ddyletswydd ar bobl i sicrhau eu bod yn cael gwared yn gywir â gwastraff ac os ydynt yn gofyn i berson arall ei wneud drostynt, dylent sicrhau fod y contractwr yn gludydd cofrestredig. Gallwch ffonio Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000 neu edrych ar www.cyfoethnaturiolcymru.llyw.uk i wirio os yw person wedi cofrestru i gludo gwastraff.

Mae mwy o wybodaeth ar dipio anghyfreithlon ar dudalennau gwefan y cyngor

www.monmouthshire.gov.uk/recycling-and-waste/fly-tipping

Mae Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Sir Fynwy yn croesawu adborth ar nifer o flaenoriaethau sydd wedi’u nodi i wella lles yn ein cymunedau a sicrhau ein bod yn meddwl am y dyfodol. Mae ymgynghoriad y Cynllun Lles yn digwydd mewn partneriaeth â phob corff cyhoeddus yn Sir Fynwy ac mae’n rhedeg tan 7fed Chwefror 2018.

Datblygwyd y cynllun i helpu gwasanaethau cyhoeddus i weithio gyda’i gilydd ac yn cymryd persbectif hirdymor ar rai o’r materion pwysicaf y mae’r cymunedau wedi bod yn eu dweud wrthym amdanynt. Ledled Cymru, mae sefydliadau fel cynghorau lleol, byrddau iechyd, yr heddlu a chymdeithasau tai wedi ymuno mewn partneriaeth i ffurfio cyrff o’r enw Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC).  Nod pob BGC yw gwella lles ei ardal.

Datblygwyd Cynllun Lles Sir Fynwy gan ddefnyddio adborth oddi wrth gymunedau ynghyd ag ystadegau a gwybodaeth am arferion profedig o feysydd eraill er mwyn cynhyrchu asesiad lles a greodd lun o les cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Sir Fynwy. Yn 2016, lansiodd BGC Sir Fynwy ‘Ein Sir Fynwy’ a oedd yn annog pobl o bob oedran i rannu gyda’r BGC yr agweddau gorau o’u cymunedau a beth allai eu gwella.

Gan ddefnyddio gwybodaeth o’r Asesiad Lles, nododd partneriaid BGC yr heriau a’r cyfleoedd a oedd yn wynebu Sir Fynwy yn y dyfodol, cytunwyd ar Gynllun Lles a chynhyrchwyd pedwar prif amcan:

 

  • Rhoi’r cychwyn gorau posibl mewn bywyd i blant a phobl ifanc.  Mae cael iechyd da, addysg dda a phobl gariadus a chefnogol yn eu bywydau yn hollbwysig i roi sylfaen gadarn i blant.

 

  • Ymateb i’r heriau sy’n gysylltiedig â newid demograffig.  Mae gan Sir Fynwy boblogaeth sy’n heneiddio a lleihad o ran y niferoedd o bobl ifanc.  Mae pobl ifanc yn cael trafferth fforddio prynu tŷ yn y sir, ac mae gan bobl hŷn lawer i’w gyfrannu trwy wirfoddoli er y bydd angen gofal arnynt hefyd yn y dyfodol.

 

  • Diogelu a gwella gwydnwch ein hamgylchedd naturiol wrth ei liniaru a’i addasu oherwydd effaith newid yn yr hinsawdd.  Mae tirwedd a chefn gwlad Sir Fynwy yn brydferth ac yn bwysig ar gyfer twristiaeth, amaethyddiaeth, hamdden, coedwigaeth a mwy, ond mae angen gofalu amdanynt yn arbennig yn wyneb bygythiadau fel newid yn yr hinsawdd a phwysau eraill.

 

  • Datblygu cyfleoedd i gymunedau a busnesau fod yn rhan o sir sy’n economaidd ffyniannus ac wedi’i chysylltu’n dda.  Mae swyddi, hyfforddiant a chyfleoedd i bawb yn bwysig, yn awr ac yn y dyfodol.  I gael economi lleol gref, mae angen cyfathrebu a thrafnidiaeth dda arnom hefyd.

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Fynwy, Paul Matthews: ‘Mae hwn yn alwad i chi weithredu. Eich teuluoedd, eich pentrefi a’ch trefi, eich anwyliaid chi a fydd yn cael eu heffeithio gan yr hyn a wneir. Rydym yn gofyn i chi ymuno â ni a gwneud cyfraniad. Rydym yn gofyn i chi gynnig yn ôl i’ch cymunedau’r pethau yr ydych mewn sefyllfa unigryw i’w cynnig. Rydym yn gofyn i chi ymuno â ni a’n helpu ni i osod llwybr ar gyfer y sir hardd hon wrth i ni ddechrau meddwl am y 22ain ganrif. Nid ydym yn gofyn i chi gyfrannu dim mwy na beth ydych yn gallu ac yn barod i’w gynnig. Gyda’n gilydd, gallwn ni greu amodau i Sir Fynwy barhau i fod yn lle sy’n llawn ‘cymunedau cynaliadwy a gwydn’.

Dim ond os yw cyrff cyhoeddus yn gweithio mewn partneriaeth â busnes, y sector gwirfoddol a’r gymuned ehangach y gellir cyflawni’r amcanion. Hoffai BGC Sir Fynwy ddarganfod sut mae trigolion yn teimlo ac os oes ganddynt unrhyw syniadau er mwyn sicrhau bod yr amcanion yn cael eu bodloni. Cynhelir sesiynau ymgysylltu â’r cyhoedd:

 

  • Dydd Llun 27ain Tachwedd        Hyb Cil-y-coed                                   10.30am – 2.30pm
  • Dydd Mawrth 28ain Tachwedd       Siop Un Stop y Fenni                      10.30am – 1.00pm
  • Dydd Mawrth 28ain Tachwedd       Llyfrgell y Fenni                                 1.30pm – 4.00pm
  • Dydd Mercher 29ain Tachwedd  Hyb Trefynwy                                    10.30am – 2.30pm
  • Dydd Llun 4ydd Rhagfyr          Hyb Cas-gwent                                 10.30am – 2.30pm
  • Dydd Mercher 6ed Rhagfyr    Hyb Brynbuga                                    10.30am – 2.30pm

 

I’r trigolion nad ydynt yn gallu mynychu sesiwn galw heibio, mae’r Cynllun Lles ac arolwg byr ar gael ar wefan Cyngor Sir Fynwy: www.monmouthshire.gov.uk/our-monmouthshire.

 

Mae’r BGC yn croesawu adborth trwy gyfryngau cymdeithasol ar Twitter @MonmouthshireCC gan ddefnyddio #einsirfynwy – neu gyfrif Facebook Sir Fynwy. Daw’r ymgynghoriad i ben ar Ddydd Mercher 7fed Chwefror.

 

Bydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Domestig Llanfihangel Troddi ar gau ddydd Mercher 22 a dydd Iau 23 Tachwedd. Mae hyn oherwydd gwaith trwsio hanfodol na fedrir ei osgoi ac sydd ei angen fel mater o frys i’r cywasgydd gwastraff yn y Ganolfan Ailgylchu.

Bydd y Ganolfan Ailgylchu yn agor fel arfer ddydd Llun 20 a dydd Mawrth 21 Tachwedd ond gofynnir i chi nodi y gall fod oedi a chau safle oherwydd angen newid sgipiau llawn yn amlach nes bydd y gwaith trwsio wedi ei orffen.

Disgwylir y bydd y safle yn agor fel arfer ddydd Gwener 24 Tachwedd.

Os oes angen i chi gael gwared â gwastraff domestig dros y cyfnod gallwch ymweld â’n canolfan ailgylchu arall:

Llanffwyst – Ffordd Blaenau’r Cymoedd A465, mynediad ar Heol Merthyr, Llan-ffwyst,  y Fenni LP7 9AQ.

  • Mae Cyngor Sir Fynwy a Viridor yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleuster..

Mae tîm Menter Ieuenctid Cyngor Sir Fynwy wedi dathlu Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang 2017 gyda gweithdy ysbrydoledig ar gyfer dros 60 o ddisgyblion Blwyddyn 9 yn Ysgol Cil-y-coed ddydd Mercher 15 Tachwedd.

Clywodd disgyblion am deithiau personol entrepreneuriaid lleol a sut y gwnaethant droi hobi yn fusnesau llewyrchus. Bu’r cyfarwyddwr asiantaeth hysbysebu James Robinson o Hello Starling, yr awdur straeon arswyd lleol Tim Lebbon, yr artist David Charles a’r perchennog siop goffi a recordiau finyl annibynnol Sophie Smith yn rhannu eu straeon gyda’u myfyrwyr o sut y gwnaethant droi’r hyn y maent yn credu ynddo yn fusnesau llwyddiannus.

Cefnogwyd y digwyddiad gan Gyngor Sir Fynwy a Syniadau Mawr Cymru, cynllun twf swyddi Llywodraeth Cymru.

Cymerodd disgyblion ran mewn gweithdy rhyngweithiol lle cawsant eu hannog i feddwl am syniad busnes yn deillio o’u hobi neu ddiddordeb eu hunain.

Roedd modelau rôl Syniadau Mawr Cymru, y gwneuthurwyr ffilm Nathan Webb a Janet Mier, Richard Selby o Pro Steel Engineering ac Aaron Reeks, gwerthwr tai lleol a chyfarwyddwr Tîm Tref Cil-y-coed yn bresennol i roi cyngor a gwybodaeth i ddisgyblion yn ystod y gweithdy.

Yn ystod y sesiynau gwahoddwyd aelodau i feddwl am yr amrywiaeth o sianeli marchnata sydd ar gael. Tanlinellodd y sesiwn bwysigrwydd cyfryngau cymdeithasol fel sianel i gyrraedd marchnad fyd-eang. Cyflwynodd disgyblion eu syniadau i’r panel beirniaid gyda gwobr i’r tîm buddugol.

Mae Tîm Menter Cyngor Sir Fynwy yn anelu i weithio gyda phobl o bob oed yn Sir Fynwy i helpu a chefnogi datblygiad a chynaliadwyedd busnesau lleol. Drwy weithio gyda disgyblion lleol, mae’r tîm yn gobeithio annog a dangos y posibiliadau di-ben-draw i bobl ifanc gael yr hyder i sefydlu busnes y maent yn angerddol amdano.

Dywedodd y Cyng Richard John, Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc: “Roeddwn wrth fy modd i gymryd rhan mewn diwrnod mor ysbrydoledig. Rhannodd ein disgyblion rai syniadau gwych am sut y gallent droi eu hobïau eu hunain yn fusnesau. Edrychaf ymlaen at gymryd rhan mewn digwyddiadau yn y dyfodol. Rwy’n credu’n gryf mai gwrando a dysgu o lygad y ffynnon yw’r ffordd orau i ysbrydoli a chodi disgwyliadau. Yma yn Sir Fynwy mae gennym fusnesau gwych y gall ein disgyblion ddysgu ohonynt.”

I gael mwy o wybodaeth am Dîm Menter Ieuenctid Cyngor Sir Fynwy, cysylltwch â Hannah Jones HannahJones@monmouthshire.gov.uk neu ffonio  01633 644913, symudol 07738 340 418.

Sbardunodd pobl ifanc o bob rhan o Sir Fynwy drafodaeth gyda Chynghorwyr Sir yn Niwrnod Democratiaeth Pobl Ifanc, Neuadd y Sir, Brynbuga ddydd Gwener 17 Tachwedd. Cynlluniwyd y digwyddiad hwyliog ac anffurfiol gan bobl ifanc i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o Wythnos Democratiaeth Leol. Rhoddodd gyfle iddynt ganfod mwy am ddemocratiaeth leol a holi aelodau etholedig ar faterion sy’n bwysig iddynt.

Cynlluniwyd y diwrnod gan bobl ifanc o Engage 2 Change, Fforwm Ieuenctid Cyngor Sir Fynwy. Gwahoddwyd pobl o Ysgol Brenin Harri VIII, Ysgol Cil-y-coed, Ysgol Cas-gwent ac Ysgol Trefynwy i’r digwyddiad. Nod y diwrnod oedd canfod mwy am ddemocratiaeth a dod i adnabod cynghorwyr lleol.

Bu’r bobl ifanc yn gwrando ar gyflwyniad diddorol am hanes democratiaeth a gwleidyddiaeth, oedd yn cadarnhau pwysigrwydd cael llais ar y lefel leol a chenedlaethol.

Cymerodd y bobl ifanc ac aelodau etholedig ran mewn trafodaeth  fywiog yn rhannu barn ar amrywiaeth o faterion agos i galonnau pobl ifanc. Teimlai pobl ifanc yn gryf am gefnogaeth ar gyfer pobl ifanc gyda phroblemau iechyd meddwl, effeithlonrwydd y cwricwlwm ysgol presennol i baratoi pobl ifanc ar gyfer y dyfodol ac effaith Brexit ar bobl ifanc.

Bu’r bobl ifanc yn holi cynghorwyr lleol mewn sesiwn cwestiynau ac atebion, gyda’r bobl ifanc yn gofyn cwestiynau perthnasol am addysg ac iechyd meddwl.

Dywedodd Breaghanna Mcmahon, Cadeirydd Engage 2 Change, Cyngor Ieuenctid Sir Fynwy: ‘Rwy’n gobeithio i bawb ddaeth draw heddiw fynd â rhywbeth i ffwrdd o heddiw y byddant yn ei ddefnyddio yn y dyfodol. Rwy’n wirioneddol falch bod yn rhan o Engage 2 Change ac yn rhyfeddu am y gwaith a roddodd pawb i wneud heddiw’n gymaint o lwyddiant. Rydym bob amser yn edrych am aelodau newydd felly os ydych rhwng 11-18 oed, dewch draw i un o’n cyfarfodydd’.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Mae’n hollol wych gweld cynifer o bobl ifanc yn y siambr heddiw. Rwyf mor falch fod pobl ifanc yma heddiw i drafod democratiaeth. Mae mor bwysig siarad a gwrando ar bobl ifanc i’w helpu i ddeall pwysigrwydd pleidleisio a rhoi llwyfan iddynt rannu eu barn. Pobl ifanc yw dyfodol democratiaeth yn Sir Fynwy ac edrychaf ymlaen at fwy o gyfleoedd fel hyn yn y dyfodol.’

I gael mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau yn y dyfodol neu i ddod yn aelod o Engage 2 Change, cysylltwch â Jade Atkins, Gweithiwr Ieuenctid drwy ffonio  07790 355724  neu e-bost Charlie-JadeAtkins@monmouthshire.gov.uk

 

Mae Sir Fynwy wedi canolbwyntio’n ddiweddar ar les pobl ifanc y sir wrth nodi’r Wythnos Wrth-fwlio ac Wythnos Genedlaethol Diogelu – oedd ill dwy yn rhedeg o 13 Tachwedd.

Bu Ysgol Gynradd Goetre Fawr yn gweithio drwy’r wythnos ar weithgareddau gwrth-fwlio gyda phob dosbarth yn cynnal trafodaeth arbennig ac yn cwblhau gweithgaredd gyda neges wrth-fwlio. Ysgrifennodd disgyblion Blwyddyn Pump gerddi o safbwyntiau’r bwli, y rhai a gaiff eu bwlio a’r rhai sy’n sefyll ar y naill ochr. Creodd Blwyddyn Chwech ffeithlun yn defnyddio ystadegau am fwlio ac ystyriodd y plant ieuengaf beth sy’n gwneud cyfaill da a darllen straeon am gyfeillgarwch. Dywedodd Lisa Wilkinson, Pennaeth Gweithredol: “Rydym yn cymryd gwrth-fwlio o ddifrif yn ystod yr wythnos yma a thrwy gydol y flwyddyn.”

Nododd Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair, Cas-gwent yr Wythnos Wrth-fwlio gyda phum diwrnod o weithgaredd i hysbysu disgyblion am heriau bwlio a phwysigrwydd parchu ei gilydd.

Ddydd Mercher bu disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn dathlu Diwrnod Parch a chreu celf a rhyddiaith fynegiadol i ymchwilio themâu hawliau dynol, parch personol a chydraddoldeb. Yn y cyfamser, gwnaeth dosbarthiadau cyfnod sylfaen yr ysgol grefftau ar bynciau cariad a pharch. Caiff y rhain eu cynnig ar werth i rieni a’r gymuned ehangach, gyda’r arian a godir yn mynd i achosion da elusennol. Daeth gweithgareddau’r wythnos i ben mewn Cynulliad Cyfeillgarwch arbennig, a drefnwyd gan gyngor yr ysgol gydag aelodau o staff yn ogystal â’r corff llywodraethwyr yn cynorthwyo.

Mae tîm trwyddedu y cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth gyda’r heddlu ers nifer o flynyddoedd i hyrwyddo diogelu drwy roi hyfforddiant gorfodol i yrrwyr tacsis trwyddedig am arwyddion o gamfanteisio ar blant. Mae troseddwyr yn aml yn defnyddio tacsis i gludo plant ar gyfer tweithgaredd anghyfreithlon. Cynigir hyfforddiant hefyd i reolwyr tafarndai a bwytai y sir ac mae’r cyngor wedi croesawu’r ymateb brwdfrydig.

Mae staff trwyddedu y cyngor wedi cydweithio’r wythnos hon gyda Heddlu Gwent i lansio Operation Makesafe – cynllun i sicrhau fod pobl sy’n gweithio yn y sector busnes yn gwybod am rybuddion cynnar camfanteisio’n rhywiol ar blant. Mae staff trwyddedu wedi dosbarthu deunyddiau cyhoeddusrwydd yn cynnwys posteri, llythyrau i gwmnïau ac aer-aroglyddion wedi’u brandio ar gyfer tacsis i hyrwyddo’r neges fod camfanteisio’n rhywiol ar blant yn gamdriniaeth ddifrifol.

Bu canolfannau hamdden y sir hefyd yn cymryd rhan yn hyrwyddo Operation Mikesafe drwy arddangos taflenni a phosteri ac mae rheolwyr canolfannau yn ogystal â llywodraethwyr ysgol wedi derbyn hyfforddiant ar ddiogelu.

Canolfan Drybridge yn Nhrefynwy oedd y lleoliad yn ystod yr wythnos ar gyfer Fforwm Ymarferwyr Rhwydwaith Diogelu Lleol Sir Fynwy, corff sy’n cysylltu gweithwyr proffesiynol o wahanol asiantaethau. Ar yr agenda oedd lansiad Operation Makesife a chyflwyniad i ddiogelu yn y gwasanaethau prawf a throseddu ieuenctid.

Dywedodd y Cyng Penny Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am ddiogelu: “Gall effaith gronnus bwlio effeithio ar iechyd meddwl a llesiant plant ac oedolion fel ei gilydd felly dyna pam ein bod yr wythnos yma yn rhoi sylw i’w ganlyniadau a sut y gallwn leihau ei effaith. Mae Sir Fynwy wedi cymryd camau mawr mewn blynyddoedd diweddar i flaenoriaethu diogelu ac wrth i Heddlu Gwent lansio Operation Makesafe, rydym yn hynod falch i weithio gyda nhw ac asiantaethau eraill i gael gwared â phla camfanteisio’n rhywiol ar blant”.

I gael mwy o wybodaeth ewch i: http://www.monmouthshire.gov.uk/education/safeguarding-and-protecting-children

Mae’r prosiect i ddarparu Canolfan Hamdden newydd yn Nhrefynwy yn golygu y bydd y safle yn cau o ddydd Gwener 15 Tachwedd tra caiff adeilad newydd £7.5m ei godi. Yn y cyfamser, bydd gan gwsmeriaid fynediad i neuadd chwaraeon dros dro ar safle’r ganolfan hamdden ar gyfer archebion ysgolion a chymunedol a bydd campfa dros dro yn Hen Neuadd y Farchnad drws nesaf at amgueddfa’r dref yn cynnig amrywiaeth o offer ffitrwydd a dosbarthiadau ymarfer.

Bydd y neuadd chwaraeon dros dro a’r gampfa dros dro yn agor ddydd Llun 20 Tachwedd.

Bydd y gwaith adeiladu ar gyfer y ganolfan hamdden newydd hefyd yn cychwyn ddydd Llun 20 Tachwedd a chaiff y prosiect ei gwblhau mewn dau gam. Disgwylir i’r holl waith llawr cyntaf yn cynnwys yr ardal chwarae newydd a’r caffe fod yn barod ym mis Mehefin 2018 gyda chwblhau’r ail gam – y pwll nofio a’r ystafell ffitrwydd – ar y gweill ar gyfer Tachwedd 2018. Mae’r prosiect yn cynnwys pwll nofio newydd 25 metr gydag ardal arsylwi, canolfan chwarae dan do i blant ac ystafelloedd ffitrwydd gyda chyfleusterau stêm, sauna a jacuzzi yn ogystal â stiwdio droelli arbennig. Bydd y cyfleusterau newydd hefyd yn cynnwys caffe cynllun agored, campfa fawr o’r math diweddaraf un, ystafell triniaeth ac ystafell gyfarfod aml-ddiben.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am hamdden: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ganolfan hamdden newydd fydd yn cyfrannu at sicrhau bywyd iach ac egnïol i breswylwyr Trefynwy a’r cylch. Pan fydd pobl yn profi’r cyfleusterau newydd, rwy’n gobeithio y byddant yn ystyried ei bod wedi bod yn llawn werth yr aros!”

Bydd y gampfa dros dro oar agor ar yr amserau dilynol:

  • Dyddiau Llun – 6.30am i 9pm
  • Dyddiau Mawrth – 8am i 9pm
  • Dyddiau Mercher – 6.30am i 9pm
  • Dyddiau Iau – 8am i 9pm
  • Dyddiau Sadwrn – 8.15am i 3.15pm
  • Dyddiau Sul – 8.15am i 3.15pm

Mae mwy o wybodaeth ar Ganolfan Hamdden Trefynwy ar gael yn:

http://monmouthleisuredevelopment.co.uk/

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn ymgynghori gyda’r gymuned am reoli parc gwledig Cil-y-coed. Mae’r cyngor yn datblygu cynllun hirdymor rheoli seilwaith gwyrdd ar gyfer ei holl safleoedd gwledig a bydd yn cynnal dau ddigwyddiad galw heibio yn y prif faes parcio yng Nghastell Cil-y-coed. Cynhelir y rhain ddydd Gwener 17 Tachwedd rhwng 3pm a 7pm ac ar ddydd Sadwrn 18 Tachwedd rhwng 10am a 12 canol-dydd yn uned arddangosfa symudol y cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Jones, aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am wasanaeth cefn gwlad Sir Fynwy: “Croesawn eich sylwadau, p’un ai ydych yn defnyddio Parc Gwledig Cil-y-coed ar gyfer cerdded, loncian, rhedeg, ymarfer eich cŵn, mynd am bicnic, peintio, edmygu ei amgylchiadau hardd neu unrhyw reswm arall. Gofynnwn i chi fynychu’r digwyddiadau ymgynghori a sicrhau y caiff eich llais ei glywed.”

Caiff yr ymgynghoriad ei ystyried yn rhan bwysig yn y broses o annog y gymuned i helpu cynllunio a llunio dyfodol y parc gwledig. Nod y cynllun rheoli yw “diogelu Parc Gwledig Cil-y-coed gyda’i ofodau gwyrdd cysylltiedig, tra’n adlewyrchu nodweddion arbennig ei dreftadaeth a’r amgylchedd naturiol ac felly gyfoethogi ansawdd bywyd a chyfrannu at hunaniaeth a llesiant cymunedol.”

 I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad ymgynghori cysylltwch ag Anna Bransden, Swyddog Bioamrywiaeth ac Ecoleg –  annabransden@monmouthshire.gov.uk – neu 01633 644850

Mae gwasanaeth gosod Cyngor Sir Fynwy yn cynnig dêl gyfeillgar, brofiadol a phroffesiynol i landlordiaid yn yr ardal. Mae gan Wasanaeth Gosod Sir Fynwy – rhan o dîm tai y cyngor – ddeng mlynedd o brofiad mewn rheoli eiddo ac mae’n darparu gwasanaeth am ddim heb ffi, gwasanaethau cefnogi tenantiaid cynhwysol a gwiriadau cynhwysfawr ar gyfer pob darpar denant. Mae’r Gwasanaeth hefyd yn cynnig archwiliadau eiddo am ddim bob chwarter, gwasanaeth trwsio heb fod yn argyfwng, galw allan argyfwng tu allan i oriau swyddfa a thaliadau rhent wedi’u gwarantu. Yn ychwanegol, am gyfnod cyfyngedig, caiff landlordiaid gynnig taliad arian ‘croeso aur’ o hyd at £1,200.

Mae’n ddyletswydd ar y cyngor i helpu atal digartrefedd mewn aelwydydd lleol ac, yn neilltuol, gyfyngu’r defnydd o lety Gwely a Brecwast sy’n ariannol gostus a hefyd yn annerbyniol yn gymdeithasol i’r aelwyd ddi-waith. Mae rôl y sector rhent preifat mewn darparu opsiynau fforddiadwy yn hollbwysig ar gyfer cyflawni ein dyletswyddau statudol ar ddigartrefedd a darparu annedd i rai a all fod yn ei chael yn anodd cael mynediad i annedd cymdeithas tai neu fod heb yn gallu fforddio prynu.

Fodd bynnag, mae’r sector rhent preifat yn Sir Fynwy yn fach a drud ac allan o gyrraedd fel opsiwn tai ar gyfer mwyafrif helaeth yr aelwydydd sy’n cyflwyno fel digartref. I fynd i’r afael â’r mater, bu Sir Fynwy yn llwyddiannus wrth wneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru fydd yn cynorthwyo wrth ymgysylltu a rhoi cymhelliant i landlordiaid weithio’n fwy agos gyda’r cyngor. Gall y cyngor hefyd gynnig ‘croeso aur’ iddynt yn ôl am ddefnydd eu heiddo.

Mae’r cyngor yn rhagweld y bydd y ‘croeso aur’ ynghyd â chymhellion ariannol pellach ar gyfer landlordiaid sy’n fodlon cynnig cyfnodau hirach o lety wedi setlo yn cynyddu nifer yr anheddau sydd ar gael ar gyfer aelwydydd sy’n ei chael yn anodd canfod llety yn eu cymunedau cartref.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Bob Greenland, aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am dai: “Dylai landlordiaid gydag eiddo yn Sir Fynwy sy’n edrych am brofiad gosod dim ffi, dim trafferth siarad gyda thîm Gwasanaeth Gosod Sir Fynwy. Mae’n asiantaeth gosod gyda gwahaniaeth lle gwerthfawrogir y landlord a thenant a chlywir eu llais yn gyfartal gyda thryloywder ac onestrwydd yn hanfodol yn ei arferion gwaith. Bydd y tîm yn gweithio gyda chi i helpu trin a hysbysebu eich eiddo yn ogystal â chanfod tenantiaid wedi’u dilysu i chi.”

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Lindsay Stewart, Swyddog Cydlynu Sector Preifat – lindsaystewart@monmouthshire.gov.uk – neu ffonio 01291 635713.

Ddydd Iau 16 Tachwedd bydd tîm Gofal Maeth Cyngor Sir Fynwy yn St Pierre Marriott Cas-gwent rhwng 10.00am – 12.00pm ac 7.00pm – 9.00pm  i gwrdd a chyfarch preswylwyr Sir Fynwy sydd â diddordeb mewn dod yn ofalwyr maeth.

Mae plant yn sir Fynwy angen teuluoedd yn sir Fynwy. Mae angen dybryd am ofalwyr maeth i ofalu am fabanod, plant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau ar sail tymor byr neu hirdymor. Mae angen gofalwyr i ddarparu gwyliau byr ar gyfer plant gydag anableddau; yn yr un modd, mae angen gofalwyr i ofalu am bobl ifanc yn eu harddegau sy’n symud ymlaen i annibyniaeth ar sail llety â chymorth.

Mae angen enfawr am fwy o ofalwyr maeth ac mae’r tîm yn gobeithio y bydd y sesiynau cwrdd a chyfarch yn annog mwy a mwy o bobl i ystyried gwneud penderfyniad mor bwysig.

Gall unigolion na fedrant fynychu’r sesiwn cwrdd a chyfarch gael gwybodaeth ac arweiniad ar y camau sydd angen iddynt eu cymryd i wneud gwahaniaeth i blentyn yn Sir Fynwy drwy wefan

www.monmouthshire.gov.uk/fostering

Bu’r tîm Gofal Maeth mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau mewn wythnosau diweddar megis Tân Gwyllt Cil-y-coed a Sioe Brynbuga yn siarad gyda phobl a chwalu’r rhwystrau a’r canfyddiadau y gall pobl fod â nhw am faethu. Mae llawer mwy o sesiynau cwrdd a chyfarch ar y gweill ar gyfer y misoedd nesaf a bydd manylion ar y wefan.

Dywedodd Penny Jones, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd: “Rwy’n credu’n gryf fod gan ein babanod, plant a phobl ifanc yn Sir Fynwy bob hawl i gael y dechrau gorau mewn bywyd. Gall teuluoedd Sir Fynwy helpu i wneud y gwahaniaeth hwn i’n plant. Mae’r tîm maeth yn gwneud gwaith gwych yn cysylltu gyda chymunedau i gefnogi ein plant. Rwy’n annog y rhai sy’n ystyried dod yn ofalwr maeth i ddod draw, edrych ar y wefan neu ffonio’r tîm.’

I wneud gwahaniaeth ewch i www.monmouthshire.gov.uk/fostering neu ffonio 01873 735950

 

Mynychodd mwy na 6,900 o bobl yr arddangosiad tân gwyllt blynyddol yng Nghastell Cil-y-coed ar noswaith glir oer ond sych.

Wedi’i drefnu gan Gyngor Sir Fynwy, grwpiau cymunedol a chorff twristiaeth Ymweld â Sir Fynwy mewn partneriaeth hir-sefydlog gyda’r orsaf radio Capital FM, roedd y digwyddiad yn y castell hardd a’i diroedd yn llwyddiant enfawr. Bu tîm o 16 o wirfoddolwyr lleol gyda gwirfoddolwyr o blith staff y cyngor yn helpu i sicrhau noswaith ddifyr.

Roedd yr arddangosiad yn hwyl i’r holl deulu, yn cynnwys ffair, cerddoriaeth gan Capital FM a bwytawyr tân.

Mynychodd tîm maethu’r cyngor yr arddangosiad gyda stondin i roi cyhoeddusrwydd i’r angen am fwy o ofalwyr maeth. Dywedodd Angela McElane, Rheolwr Tîm Lleoli Plant: “Roedd yr arddangosiad tân gwyllt yn gyfle gwych i roi cyhoeddusrwydd i’r angen brys am fwy o ofalwyr maeth i ddarparu cartrefi ar gyfer plant sy’n derbyn gofal yn Sir Fynwy. Cawsom drafodaethau cadarnhaol gyda nifer o deuluoedd yn ogystal â llawer o gefnogaeth gan y gymuned. Byddem yn croesawu unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod yn ofalwr maeth neu edrych am fwy o wybodaeth yn ein digwyddiad Cwrdd a Chyfarch nesaf. Mae hyn ar ddydd Iau 16 Tachwedd yng Ngwesty a Chlwb Gwledig St Pierre Marriott ger Casgwent ac mae’n rhedeg o 10am i ganol-dydd gyda sesiwn ddiweddarach o 7pm i 8pm.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn http://www.monmouthshire.gov.uk/fostering neu drwy ffonio: 01873 735950.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Bob Greenland, aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am hamdden a thwristiaeth: “Dyma’r bumed flwyddyn i ni gynnal arddangosiad tân gwyllt ysblennydd yma ac roedd yn wych gweld cynifer o deuluoedd yn mwynhau ein hunain. Cawsom wledd yn ein harddangosiad mwyaf eto, gydag adloniant eto. Unwaith eto, roedd Castell Cil-y-coed yn edrych yn fendigedig ac roedd yn lleoliad perffaith ar gyfer y digwyddiad. Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i bawb a chwaraeodd eu rhan yn ei wneud yn gymaint o lwyddiant ac yn ddigwyddiad mor gofiadwy.”

Mae mwy o wybodaeth ar Gastell Cil-y-coed ar gael yn

www.visitmonmouthshire.com/caldicot-castle/

Daeth dros ddeg ar hugain o bobl ifanc o Sir Fynwy at ei gilydd ym mhencadlys gwasanaeth addysg awyr agored y sir ym Mharc Hilston, Ynysgynwraidd yn ddiweddar (dydd Iau 2 Tachwedd) i lansio Strategaeth Gofalwyr Ifanc y cyngor.

Mae’r strategaeth yn ganlyniad ymgysylltu rhwng y cyngor a phobl ifanc y sir sy’n gofalu am aelodau eu teuluoedd. Mae’n amlinellu’r help a’r gefnogaeth y gall y cyngor eu rhoi yn ogystal â chynnig mwy o ddealltwriaeth a chydnabyddiaeth o’r gofal a’r gefnogaeth a roddir gan ofalwyr ifanc.

Agorwyd y digwyddiad gan y Cynghorydd Maureen Powell, Cadeirydd Sir Fynwy a siaradodd am y pwysau sy’n wynebu gofalwyr ifanc a’r gefnogaeth effeithlon a gynigir gan y strategaeth. Dywedodd: “Mae fy edmygedd ohonoch i gyd yn ddi-ben-draw a wn i ddim sut y byddem yn ymdopi heb eich cyfraniad gwych.”

Treuliodd y gofalwyr ifanc y dydd mewn gweithdai yn rhannu gwybodaeth ac yn edrych sut y gellid gweithredu a gwella’r strategaeth. Roedd gwerthfawrogiad fod y strategaeth yn dangos fod pobl yn awr yn gwrando ac yn cydnabod yr heriau sy’n wynebu gofalwyr ifanc. Er y trafodwyd nifer o bynciau pwysig, roedd elfen ysgafn i’r diwrnod gan fod nifer o blant a staff wedi eu gwisgo fel uwch-arwyr neu gymeriadau ffilm yn cynnwys Superman, The Incredibles, The Teenage Ninja Mutant Heroes ac Olaf o Frozen. Hefyd, bu staff addysg awyr agored y safle’n annog cyfranogiad gydag ymarferion cynhesu lan i ddechrau a gynlluniwyd i gyflwyno’r bobl ifanc i’w gilydd a gwneud iddynt deimlo’n gartrefol.

Roedd y Cynghorydd Penny Jones, aelod cabinet gofal cymdeithasol ac iechyd Sir Fynwy hefyd yn bresennol yn y digwyddiad.  Ychwanegodd: “Rwy’n awyddus y bydd y Strategaeth Gofalwyr Ifanc yn cynnig cefnogaeth briodol a dyna pam y byddwn yn dal i wrando ar ein gofalwyr ifanc. Gobeithiaf y bydd y strategaeth yn gwneud gwahaniaeth buddiol i’r gofalwyr ifanc a hefyd y rhai y mae ganddynt gyfrifoldeb amdanynt.”

I gael mwy o wybodaeth ar Strategaeth Gofalwyr Ifanc Sir Fynwy 2017-2020 cysylltwch â Kim Sparrey, Rheolwr Datblygu Gwasanaeth Gyrfaoedd – kimsparrey@monmouthshire.gov.uk

Bydd pwerau newydd a roddir i gynghorau Cymru yn helpu mynd i’r afael â phroblem tipio anghyfreithlon. Daeth y pwerau i rym ar 25 Hydref ac maent yn galluogi swyddogion cynghorau i osod hysbysiadau cosb sefydlog pan maent yn fodlon fod person wedi tipio’n anghyfreithlon. Mae’r gosb yn amrywio o £150 i £400.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am iechyd yr amgylchedd: “Rydym yn croesawu’r mesur hwn fydd yn ein helpu i fynd i’r afael â’r gweithredoedd gwrthgymdeithasol yma sy’n creu dolur llygad lle bynnag maent yn digwydd. Rydym wedi erlyn troseddwyr yn llwyddiannus mewn blynyddoedd diweddar gyda chosbau trwm drwy weithredu llys a bydd hyn yn parhau i fod yn brif ffocws i ni, ond bwriadwn ddefnyddio’r holl bwerau sydd ar gael i ni. Felly gall gosod hysbysiad cosb sefydlog fod yn addas mewn rhai achosion lle mae symiau bach o wastraff fydd yn rhoi cyfle i’r troseddwr i dalu’r ddirwy ac osgoi gweithredu llys. Dim ond nifer fach o bobl sy’n tipio’n anghyfreithlon ond mae ein swyddogion yn rhagweithiol a byddant yn cymryd camau gorfodi lle bynnag sy’n bosibl.”

Mae’n ddyletswydd ar breswylwyr i sicrhau eu bod yn gwaredu’n iawn â gwastraff ac os ydynt yn ymddiried y swydd i berson arall, dylent sicrhau fod y contractwr wedi cofrestru fel cludydd. Ffoniwch Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000 neu edrych ar www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  i wirio os yw person wedi cofrestru i gludo gwastraff.

Mae mwy o wybodaeth ar dipio anghyfreithlon ar dudalennau gwe arbennig y cyngor:

www.monmouthshire.gov.uk/recycling-and-waste/fly-tipping

 

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi dathlu deuddeg mis o’i ap ar-lein gyda raffl am ddim yn cynnig gwobrau gwych. Cafodd preswylwyr sy’n cofrestru ar neu’n lawrlwytho ap Fy Sir Fynwy y cyngor ddiwedd mis Hydref gynnig cyfle i gymryd rhan yn y Cwis Pen-blwydd ‘Apus, gan roi cyfle iddynt ennill iPad, pum pâr o docynnau i arddangosiad tân gwyllt Castell Cil-y-coed, MoT am ddim yn Nepo’r cyngor yn Rhaglen, taleb parcio car, aelodaeth campfa a thrwydded gwastraff gwyrdd.

Ers lansio Fy Sir Fynwy ym mis Hydref 2016 mae preswylwyr wedi lawrlwytho, llofnodi a chofrestru drwy stôr apiau neu wefan y cyngor i gael eu rhoi mewn cysylltiad uniongyrchol gydag ystod eang o swyddogaethau’r cyngor.

Gellir defnyddio Fy Sir Fynwy i dalu am wasanaeth, rhoi adroddiad am broblem a chael mynediad i wybodaeth ar amrywiaeth o bynciau. Cafodd ei groesawu gan breswylwyr ar draws y sir.

Dywedodd Janice Morgan o Gil-y-coed, a enillodd yr iPad: “Roeddwn wrth fy modd i ennill yr iPad oherwydd mae fy hen un yn cyrraedd pen ei daith. Bydd yr un newydd yn fy helpu i gael fy negeseuon e-bost, yn cynorthwyo ymchwil a sicrhau fy mod yn cadw mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau drwy gyfryngau cymdeithasol.

“Dros y deuddeg mis diwethaf cefais yr ap Fy Sir Fynwy yn ddefnyddiol i gael gwybodaeth am weithgareddau lleol, sut i adnewyddu fy nhocyn bws ac edrych ar amserlenni bws. Mae’n dda gwybod y gallaf, drwy’r ap, hefyd edrych ar geisiadau cynllunio a chyflwyno gwrthwynebiad os oes angen.”

Dywedodd y Cynghorydd Paul Murphy, aelod cabinet dros adnoddau Sir Fynwy: “Rwy’n falch iawn fod cynifer o breswylwyr wedi cofrestru ar gyfer yr ap. Mae’r gallu i dderbyn gwasanaethau dros ffôn neu ddyfais llechen yn dangos ein parodrwydd i gysylltu gyda’n preswylwyr. Mae dros 29,000 o breswylwyr eisoes wedi cofrestru ac rwy’n hyderus y bydd y nifer yma’n cynyddu’n sylweddol yn y dyfodol.”

Dylai ymgeiswyr sy’n dymuno cofrestru ar gyfer ap Fy Sir Fynwy fewngofnodi ar:

http://monmouthshire.mycouncilservices.com/ neu lawrlwytho o stôr apiau eu ffôn symudol.

Mae grwpiau lleol o’r Fenni, Cyfeillion Parc Bailey a Thîm Tref y Fenni yn gofyn am farn cymunedau lleol i helpu llunio dyfodol Parc Bailey. Cynlluniwyd arolwg i ganfod sut gellir gwella’r cyfleusterau presennol yn y parc i ddiwallu anghenion y dref yn y dyfodol. Mae grwpiau cymunedol lleol yn gweithio mewn partneriaeth gyda chyngor y dref a Chyngor Sir Fynwy i roi oes newydd i’r parc sy’n annwyl i lawer iawn o bobl.

Mae sylwadau a theimladau trigolion lleol ac ymwelwyr i’r parc yn hanfodol ar gyfer dyfodol y parc i’w wneud yn ofod hyd yn oed mwy hygyrch a bywiog ar gyfer pob oedran. Mae Parc Bailey yn ferw o weithgaredd drwy’r flwyddyn gyda llawer o grwpiau chwaraeon lleol megis Clwb Rygbi y Fenni a Chlwb Bowls y Fenni yn defnyddio’r parc i gystadlu, hyfforddi a chymdeithasu. Bydd y grwpiau hyn a llawer eraill yn ganolog i’r broses ymgysylltu gyda Chyfeillion Parc Bailey a Thîm Tref y Fenni.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Bryan Jones: “Mae Parc Bailey mor bwysig ar gyfer iechyd a llesiant pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae llais mudiadau cenedlaethol lleol a chymunedau cyfagos yn hanfodol i siarad am sut yr hoffent weld y gofod yn cael ei wella ar gyfer y dyfodol ac rydym yn annog pawb i gwblhau’r arolwg.”

Bydd canlyniadau’r arolwg yn rhoi tystiolaeth o’r gymuned ac yn sail camau nesaf cais am gyllid i wella’r parc a’i gyfleusterau.

Mae’r arolwg ar gael drwy wefan Cyngor Sir Fynwy http://tinyurl.com/yce8fe8x i’w lenwi erbyn dydd Mercher 20 Rhagfyr. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Mark Cleaver 07976 791031 MarkCleaver@monmouthshire.gov.uk

 

Annog clybiau chwaraeon Sir Fynwy i wneud cais am gyllid hyd at £1,500

Caiff clybiau chwaraeon cymunedol ar draws Sir Fynwy eu hannog i wneud cais am gyllid o hyd at £1,500 o gronfa Cist Gymunedol Chwaraeon Cymru.

Gellir defnyddio cyllid i gynyddu cyfranogiad a chodi safonau clybiau neu brosiectau yn Sir Fynwy. Gellir cwblhau’r cais ar-lein ac mae’n ffordd rwydd i sicrhau mwy o gyllid i helpu chwaraeon lleol.

Dywedodd y Cyng  Bob Greenland, Aelod Cabinet dros Hamdden: “Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd clybiau chwaraeon lleol yn gwneud cais am y cyllid. Mae cynlluniau cyllid fel hyn yn hanfodol wrth helpu i gefnogi llesiant preswylwyr yn awr ac yn y dyfodol.”

Meddai Paul Sullivan, Swyddog Datblygu Chwaraeon Sir Fynwy:

“Rydym yn hapus i helpu unrhyw glybiau neu brosiectau i lenwi’r ffurflen gais.  Mae’r Gronfa Cist Gymunedol mor bwysig ar gyfer clybiau lleol gan y gall helpu i ennyn diddordeb mwy o blant, pobl ifanc ac oedolion mewn chwaraeon.’

I wneud cais ewch i wefan Chwaraeon Cymru: http://sport.wales/funding–support/our-grants/community-chest.aspx.

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn dydd Mercher 10 Ionawr. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â sport@monmouthshire.gov.uk neu Paul Sullivan, Swyddog Datblygu Chwaraeon ar 07825 853882.

 

Bydd Castell Cil-y-coed yn cymryd cam yn ôl i’r gorffennol y Nadolig hwn wrth iddo gynnal dwy noswaith o wleddoedd canoloesol gan roi dathliad gwreiddiol ar gyfer tymor yr Ŵyl eleni. Mae’r castell yn fan delfrydol ar gyfer achlysuron o’r fath ac mae ei ardaloedd bwyta moethus yn ogystal â’i leoliad hardd yn cynnig awyrgylch hudolus, yn arbennig ar yr adeg arbennig hon o’r flwyddyn.

 Bydd adloniant gyda cherddorion a chantorion yn mynd â’r sawl sy’n dathlu yn ôl mewn amser gydag amrywiaeth o adloniant, caneuon a straeon. Ar y bwrdd bydd platiaid rhannu o gigoedd oer a chawsiau lleol gyda ffrwythau gyda chawl Cymreig cartref blasus i ddilyn, a Phwdin Sir Fynwy gyda hufen a medd i ddod â’r fwydlen i ben. Bydd dewis llysieuol ar gael a gellir darparu ar gyfer dietau arbennig. Bydd bar llawn ar gael.

 Cynhelir y ddau ddigwyddiad rhwng 7pm a 11.30pm ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr a dydd Sadwrn 16 Rhagfyr. Mae tocynnau ar gael am £50 yr un neu £40 ar gyfer parti o 20 neu fwy. I gael tocynnau neu fanylion ffoniwch 01291 426405.

 Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am hamdden: “Mae Castell Cil-y-coed gyda’i holl awyrgylch yn lle delfrydol i ddathlu’r Nadolig. Mae’r gwleddoedd hyn yn argoeli bod yn uchafbwynt yn nhymor yr Ŵyl.”

 

Bydd y gwasanaeth cymorth busnes Cyflymu Cymru i Fusnesau yn cynnal gweithdy am ddim i fusnesau Sir Fynwy rhwng 9am a 1.30pm ddydd Mawrth 14 Tachwedd yng Ngwesty’r Angel, y Fenni. Bydd yn cynnig cyngor cadarn ac arbenigol ar ddefnyddio optimeiddio peiriant chwilio (SEO) i osod eu mentrau ar ben safleoedd peiriannau chwilio.

Bydd y gweithdy’n cynnig awgrymiadau ymarferol i wella amlygrwydd gwefannau a denu mwy o fusnes. Ymysg ei nodweddion mae dynodi geiriau allweddol i wneud i fusnesau sefyll allan, creu cynllun gweithredu SEO ymarferol gyda strategaeth hirdymor a chyngor da a thechnegau effeithlon i hybu safleoedd chwilio.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am fenter: “Gall y gweithdy hwn helpu i gynyddu gwerthiant a hybu ymweliadau i wefannau yn ogystal â denu a chadw cwsmeriaid. Bydd hefyd yn gyfle gwych i fusnesau lleol rwydweithio a chefnogi ei gilydd.”

Dylai busnesau sy’n dymuno mynychu’r gweithdy fynd i https://wales.business-events.org.uk/en/events/superfast-business-wales-winning-with-seo/

Mae Victoria Evans, Pennaeth Ysgol Gynradd Brynbuga’r Eglwys yng Nghymru, wedi canmol y gymuned leol am ei hymateb i fandaliaeth sied a ddefnyddir fel ardal chwarae rôl awyr agored o fewn tiroedd yr ysgol. Difrodwyd yr adeilad ar ôl i rywun dorri mewn yn ystod gwyliau’r haf ond gall disgyblion yn awr gario ymlaen fel arfer diolch i nifer o gymwynasau hael sydd wedi arwain at gyfrannu nid un ond dwy sied newydd.

Dywedodd Mrs Evans: “Roeddem yn drist iawn i ddarganfod y difrod ond cawsom ein calonogi gan y ffordd y gwnaeth cymuned Brynbuga ymateb. Cawsom nifer fawr o gynigion help i adfer y sied a ddifrodwyd, ond yn anffodus roedd ei chyflwr yn rhy wael. Helpodd grŵp o rieni – y teuluoedd Davies, Lewis, Yeoman ac Abbeglen – helpu i glirio’r annibendod ac fe wnaeth y ddyfeisgar Mrs Kay Peacook, ein swyddog croesi ysgol a garddwr, gychwyn ymgyrch cyfryngau cymdeithasol  i godi arian ar gyfer sied newydd.”

Tynnodd yr ymgyrch sylw’r gwerthwyr coed lleol ALS Trading a gyfrannodd dŷ chwarae newydd a’r cyfreithwyr Collingbourne Hennah Law o Gasnewydd a roddodd gyfraniad sylweddol, gan alluogi’r ysgol i brynu sied newydd ar gyfer ei gardd lewyrchus. Roedd y ddau adeilad yn eu lle ychydig dros fis ar ôl y fandaliaeth.

Ychwanegodd Mrs Evans: “Mae’r ysgol yn ddiolchgar tu hwnt i ALS Trading Cyf a Collingbourne Hennah Law am roi dwy sied newydd hyfryd i ni sydd eisoes wedi cael defnydd da. Rydym wrth ein bodd gydag ymateb y gymuned leol a hoffem sôn yn arbennig am gyfraniad Mrs Peacock yn arwain yr ymgyrch i gael adeilad newydd. Roedd y disgyblion yn siomedig iawn am y fandaliaeth difeddwl ond maent wrth eu bodd gyda’r siediau newydd. Maent yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd fel ardal dysgu awyr agored y Cyfnod Sylfaen a rhandir yr ysgol.”

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cau ffyrdd y tu allan i hen dafarn y Britannia yn y Fenni yn dilyn cyngor gan beiriannydd strwythurol. Cafodd Stryd Frogmore a Stryd Baker eu cau i ddechrau tra bod peirianwyr yn asesu’r risg ond mae Stryd Frogmore wedi ailagor i draffig erbyn hyn. Mae Stryd Baker yn dal ar gau i draffig a cherddwyr ar hyn o bryd ac yn disgwyl adroddiad pellach gan y peiriannydd strwythurol. Fodd bynnag mae swyddogion yn obeithiol y bydd y stryd ar agor i gerddwyr o leiaf erbyn yfory.

Rhoddwyd ffens o gwmpas yr hen dafarn a gosodwyd arwyddion i rybuddio’r cyhoedd.

Mae’r safle yn adeilad rhestredig gradd II o fewn Ardal Cadwraeth y Fenni. Cafodd chwe chais eu hystyried a’u cymeradwyo ar gyfer y safle.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Jones, aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am weithrediadau’r sir: “Rydym yn ymateb i bryderon fod hen dafarn y Britannia yn ansefydlog. Rydym yn gweithio i sicrhau diogelwch y cyhoedd drwy gau Stryd Baker ac wedi cau Stryd Frogmore yn rhannol tu allan i’r safle. Caiff cynlluniau i ddargyfeirio cerbydau a cherddwyr eu datblygu unwaith y bydd natur a chyfnod y risg yn hysbys.”

Bu myfyrwyr hŷn o Ysgol Cas-gwent yn mynychu gweithdy ddydd Mawrth 17 Hydref yn trafod datrysiadau heddychlon a blaengar i wrthdaro rhwng Palestiniaid ac Israeliaid. Cynhaliwyd y gweithdy gan Solutions Not Sides, sefydliad heb fod yn cymryd ochr sy’n annog myfyrwyr ym Mhrydain a Gorllewin Ewrop i wneud cyfraniad cadarnhaol at drafodaethau ar gysylltiadau rhwng Israel/Palestina.

Roedd gan fyfyrwyr ddiddordeb mawr a chawsant eu hysbrydoli gan y deunydd a gyflwynwyd gan staff Solutions Not Sides ar ôl trafod y sefyllfa yn fanwl, fe wnaethant fwynhau yn grwpiau i chwilio am ddatrysiadau adeiladol i’r gwrthdaro.

Dywedodd Emma Mellen, pennaeth cynorthwyol Ysgol Cas-gwent: “Roedd adborth y myfyrwyr yn wych. Roeddent yn teimlo eu bod wedi dysgu cymaint a gwnaeth profiadau llygad y ffynnon a straeon y trefnwyr argraff fawr arnynt. Yn yr un modd, gwnaeth gwybodaeth, aeddfedrwydd a diddordeb ein myfyrwyr argraff ar y trefnwyr. Dywedwyd mai hon oedd yr ysgol gyntaf iddi ymweld â hi ac  mae canmoliaeth o’r falch yn ein gwneud yn falch iawn.

“Yn Ysgol Cas-gwent, ystyriwn ei bod yn gyfrifoldeb arnom i baratoi myfyrwyr ar gyfer y dyfodol a rhoi’r offer maent eu hangen i wneud gwahaniaeth i’r byd ar ôl bywyd yn yr ysgol. Fe wnaeth y gweithdy yn union hynny.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am gydraddoldeb: “Rwy’n falch fod ein myfyrwyr wedi manteisio cymaint o’r trafodaethau am y gweithdy ac wedi trafod datrysiadau i’r gwrthdaro rhwng yr Israeliaid/Palestiniaid yn seiliedig ar barch hawliau dynol i bawb.”

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi trefnu amrywiaeth wych o weithgareddau ar gyfer plant dros hanner tymor yr hydref.

Ddydd Iau 2 Tachwedd rhwng 11am a 12 canol–dydd bydd sesiwn dweud straeon yn Hyb Cymunedol Cas-gwent ar gyfer plant pump i wyth oed yn seiliedig ar y llyfr Room on the Broom gan yr awdur plant poblogaidd Julia Donaldson. Wedyn, gall plant wneud crefftau’n gysylltiedig â’r stori. Cysylltwch â Sally Anne Powell – SallyAnnePowell@monmouthshire.gov.uk – 01291 635730 i gael manylion.

Bydd Hyb Cymunedol Brynbuga hefyd yn cynnwys gweithgareddau Room on the Broom am 10am ddydd Iau Tachwedd yn ogystal ag addurno io-io yn ystod oriau agor. Bydd Hyb Brynbuga ar agor ddydd Sadwrn (9am i 12.4pm), dydd Llun i ddydd Mercher (9am i 5pm) a dydd Iau (9am i 7pm).

Bydd gweithgaredd poblogaidd Gemau Sir Fynwy yn dychwelyd i bedair canolfan hamdden y sir dros y gwyliau hanner tymor ar gyfer pobl ifanc i ddysgu sgiliau newydd, datblygu hyder, cwrdd â phobl newydd ac, yn bwysicaf oll, cael hwyl drwy chwaraeon! Bydd pob diwrnod yn llawn o weithgareddau chwaraeon ar gyfer plant 5 i 12 oed gyda gweithgareddau’n cynnwys nofio, pêl-droed, pêl-rwyd, pêl-fasged, caiacio, criced, hoci, golff, badminton, Gynnau Nerff, tenis, rhedeg milltir bob dydd, rownderi a rygbi. Y costau yw £16 y dydd (9am i 3pm) neu £19.50 (8am i 5pm). I gael manylion pellach edrychwch ar: http://www.monmouthshire.gov.uk/things-to-do/monleisure

Mae gwasanaeth ieuenctid Sir Fynwy wedi trefnu cyfres o weithgareddau ar gyfer pobl ifanc. Ar ddydd Llun 30 Hydref – os yw’r tywydd yn caniatáu – bydd cromen wynt a chastell sboncio ar gae Owain Glyndŵr ym Mrynbuga rhwng 11am a 4pm gyda cherddoriaeth, celf a chrefft Calan Gaeaf, peintio wynebau, brodio gwallt a gweithgareddau chwaraeon. Cynhelir digwyddiad tebyg ar safle Hen Orsaf, Tyndyrn ddydd Iau 2 Tachwedd. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â YouthService@monmouthshire.gov.uk neu ffonio 07827 880055.

Yn Nhrefynwy rhwng canol-dydd a 5pm ddydd Gwener 3 Tachwedd bydd parc sglefrio’r dref yn cynnwys gweithgareddau gyda thema Calan Gaeaf yn cynnwys cystadleuaeth sglefrio a sgwtio a chromen wynt y gwasanaeth ieuenctid gyda cherddoriaeth a pheintio wynebau. Rhoddir gwobrau am y wisg ffansi orau.

Ar ddydd Mawrth 31 Hydref bydd trip gan y gwasanaeth ieuenctid i safle adloniant Thorpe Park yn Surrey. Mae’r tocynnau yn £25 yr un ac yn cynnwys cludiant a mynediad ac maent ar gael o ganolfannau hamdden Cil-y-coed a Chas-gwent, Clwb Ieuenctid Attik Trefynwy, Ysgol Brenin Harri VIII a Chlwb Ieuenctid y Fenni.

Mae Amgueddfa Cas-gwent yn cynnig ei brynhawniau crefft galw heibio poblogaidd ddydd Iau 26 Hydref a dydd Iau 2 Tachwedd rhwng 2pm a 4pm yn y Neuadd Dril yn Stryd yr Eglwys Isaf. Gyda chalan gaeaf a noson tân gwyllt ar y gorwel, bydd pethau arbennig i’w gwneud yn cynnwys “llysnafedd lloerig” a syniadau eraill i danio’r dychymyg! Yn addas ar gyfer plant o bob oed, mae’n rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn – hyd at dri phlentyn fesul oedolyn – ac mae croeso iddynt am y prynhawn cyfan neu alw heibio am gyfnod byr. Croesewir cyfraniadau tuag at gost deunyddiau a lluniaeth – mae’r amgueddfa’n awgrymu £2 y plentyn. Gall plant hefyd ddilyn llwybr arbennig Calan Gaeaf yn yr amgueddfa yn ogystal â chymryd rhan mewn nifer o weithgareddau. Mae’r amgueddfa ar agor bob dydd rhwng 11am a 4pm.

Bydd Amgueddfa’r Fenni ar agor bob dydd dros hanner tymor heblaw dydd Mercher rhwng 11am a 4pm. Gall plant gymryd rhan mewn helfa ysbrydion, darlunio, lliwio dalenni ar wahanol themâu, jig-sos, gemau, rhwbio arian, gwisgo dillad o wahanol gyfnodau a darganfod tiroedd a hanes y castell gyda help baciau cefn Fforiwr Castell.

Mae arddangosfa arbennig bresennol Amgueddfa Trefynwy gan yr RNLI, “Hope in the Great War” yn dathlu dewrder criwiau cychod achub o bob rhan o Brydain dros yr oesoedd. Mae’n llawn gweithgareddau cyfeillgar i’r teulu. Mae’r amgueddfa ar agor rhwng 11am a 4pm, heblaw dyddiau Mercher.

Mae llawer o’r gweithgareddau yn rhad ac am ddim. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â hybiau cymunedol, amgueddfeydd a chanolfannau hamdden y cyngor neu edrych ar wefan y cyngor – www.monmouthshire.gov.uk.

Mynychodd dros hanner cant o ddisgyblion o bob un o ysgolion cynradd Sir Fynwy gynhadledd undydd yn Neuadd y Sir, Brynbuga ddydd Mawrth 17 Hydref i ysgogi syniadau newydd i ennyn diddordeb plant mewn chwaraeon a rhannu arfer da. Rhoddodd y gynhadledd gyfle i blant gymysgu gyda phlant eraill o amrywiaeth o ysgolion gyda nod o sefydlu Tîm Llysgenhadon Efydd Ifanc i’r sir.

Mae’r rhaglen Llysgenhadon Efydd Ifanc yn gynllun arweinyddiaeth chwaraeon cyffrous sy’n cynnig cyfle i ddisgyblion ym Mlwyddyn Chwech i ddatblygu eu sgiliau a rhoi’r wybodaeth iddynt fod yn llysgennad ar gyfer addysg gorfforol a chwaraeon ysgol. Mae Llysgenhadon Efydd Ifanc yn gyfrifol am gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn ogystal â hyrwyddo ffordd iach o fyw (yn cynnwys bwyta’n iach) a gwerthoedd cadarnhaol chwaraeon a gweithgaredd corfforol. Maent hefyd yn fodelau rôl, yn hyrwyddo addysg gorfforol a chwaraeon ysgol ac yn cynrychioli lleisiau eu cyd-ddisgyblion.

Mewn llawer o ysgolion caiff y rôl yr un statws â phrif eneth neu brif fachgen a bydd y llysgennad yn ddolen hanfodol rhwng myfyrwyr, athrawon a swyddogion datblygu chwaraeon y cyngor. Mae tîm datblygu chwaraeon Sir Fynwy hefyd yn hyfforddi disgyblion Blwyddyn Pump y sir i gefnogi Llysgenhadon Efydd Ifanc ac mae’n anelu i ddatblygu timau arweinyddiaeth ym mhob ysgol gynradd. Sir Fynwy yw’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyflwyno dyfarniad Playmaker Sport Leaders UK ar y raddfa hon – bydd dros fil o blant yn ennill y dyfarniad y tymor hwn.

Roedd y gynhadledd yn cynnwys trafodaethau yn siambr y cyngor gyda gweithgareddau corfforol yn dilyn yn y prynhawn.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am hamdden: “Rydym yn neilltuol o falch o’n cyfraniad tuag at gynyddu diddordeb mewn chwaraeon ac yn falch iawn i gynnal cyfarfod heddiw yn dod â chynrychiolwyr o bob un o ysgolion cynradd y sir at ei gilydd. Mae’r rhaglen Llysgenhadon Efydd Ifanc yn cyd-fynd â’n hethos o annog chwaraeon ar gyfer mwynhad, cynyddu hyder a gwaith tîm a buddsoddiad mewn iechyd.”

Mae Grŵp Gweithredu Lleol Dyffryn Wysg wedi comisiynu arolwg i fesur y galw am ofodau cydweithio a dargedwyd at y sectorau technegol, digidol a chreadigol yn yr ardal. Mae’r grŵp yn neilltuol yn dymuno cael barn pobl sy’n rhedeg busnes o’u cartrefi a all fod yn teimlo’n ynysig ac a fyddai’n manteisio o rwydweithiau neu rannu adnoddau gyda chydweithwyr o’r un anian.

Bydd yr arolwg yn ymchwilio os oes dymuniad i rannu gofodau gweithio creadigol neu un neu fwy o leoliadau yn Sir Fynwy ac ardaloedd gwledig Casnewydd, ac os cânt eu darparu, sut y gallent arwain at gyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio seiliedig ar waith.

Mae’r arolwg ar gael yn http://www.cowork.wales/ ac yn ogystal â rhannu sylwadau am ofodau cydweithio posibl, gall ymatebwyr ofyn am dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar ymchwil a chyfleoedd cysylltiedig.Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw dydd Mercher 8 Tachwedd.

Derbyniodd yr ymchwil gyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a gaiff ei gyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gwneud cynnydd cadarnhaol wrth gyflawni’r amcanion a osododd ar gyfer 2016/17, yn ôl cynllun a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn adolygu ei berfformiad.

Gosododd Cynllun Gwella y Cyngor ar gyfer 2016/17 bum amcan gwella y byddai’n canolbwyntio arnynt am y flwyddyn. Roedd y rhain yn cynnwys gwella addysg, diogelu pobl a gostwng dibyniaeth ar ofal cymdeithasol, galluogi’r sir i ffynnu, cynnal gwasanaethau hygyrch lleol a sicrhau bod y cyngor yn effeithiol ac effeithlon. Mae rhai o’r camau a gymerodd y cyngor i gyflawni’r amcanion yn cynnwys:

  • Buddsoddi mewn technoleg gwybodaeth a chyfathrebu mewn ysgolion i gynyddu effaith technoleg ar gyfer dysgu a datblygu
  • Ffocws ar hyrwyddo a chefnogi llesiant ac atal yr angen am wasanaethau gofal cymdeithasol
  • Y cyngor yn dod yn bartner ym Margen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ynghyd â naw awdurdod lleol arall yn y De Ddwyrain
  • Cytuno ar gynlluniau’r dyfodol ar gyfer y gwasanaeth ailgylchu a’r cyngor yn parhau i fod ag un o’r cyfraddau uchaf ar gyfer ailgylchu yng Nghymru

Wrth siarad am gyhoeddi’r cynllun dywedodd y Cynghorydd Paul Jordan, aelod cabinet dros lywodraethiant: “Rwy’n gobeithio y bydd y cynllun gwella yn helpu pobl Sir Fynwy i ddeall cynnydd y cyngor yn 2016/17. Rwy’n falch fod y cynnydd a gyflwynir yn y cynllun yma, ynghyd â’r data perfformiad cenedlaethol, sy’n lleoli Sir Fynwy fel un o’r cynghorau sy’n perfformio orau yng Nghymru, yn dangos sut yr ydym wedi parhau i ddarparu llawer o wasanaethau cyngor yn dda, er bod gennym lai o adnoddau. Mae rhai meysydd sydd angen eu gwella ac mae gennym gynlluniau ar waith i gyflawni hyn a byddwn yn parhau i gadw golwg agos ar gynnydd.

“Mae cynnal neu wella perfformiad ein gwasanaethau, fel sir wledig gyda chynnydd mewn galw a chyllideb sy’n gostwng, yn her sylweddol ac un y byddwn yn parhau i weithio’n galed arni. Rydym yn y broses o ddatblygu cynllun i nodi’n glir yr hyn y byddwn yn canolbwyntio arno dros y cyfnod nesaf i wella llesiant yn y sir a byddwn yn parhau i gysylltu gyda phobl Sir Fynwy ar y materion sy’n bwysig iddynt.”

Gellir gweld y cynllun llawn “Sut y gwnaethom berfformio 2016/17” yn

www.monmouthshire.gov.uk/improvement

Mae Cyngor Sir Fynwy yn hysbysu rhieni a gwarcheidwaid plant sydd i gychwyn ysgol uwchradd fis Medi nesaf fod y dyddiad cau i wneud cais am leoedd ysgol yn agosáu.

Bydd plant sy’n mynychu Blwyddyn 6 mewn ysgol gynradd yn trosglwyddo i ysgol uwchradd ym Medi 2018 a chaiff rhieni eu hannog i gwblhau eu ceisiadau cyn y dyddiad cau o 30 Tachwedd. Hyn fydd yn rhoi’r cyfle gorau iddynt o sicrhau fod eu plentyn yn mynychu eu dewis ysgol. Mae’n rhaid i rieni sy’n byw yn Sir Fynwy wneud cais i’r cyngor hyd yn oed os yw eu dewis ysgol tu allan i ffiniau’r sir (ac eithrio ysgolion yng Nghasnewydd lle dylid gwneud ceisiadau yn uniongyrchol i gyngor y ddinas).

Gall rhieni wneud cais yn defnyddio system gais ar-lein y cyngor. I gael mwy o wybodaeth, ewch i: www.monmouthshire.gov.uk

Yn lle hynny, gall rhieni ofyn am becyn cais drwy ffonio tîm derbyn y cyngor ar 01633 644508 neu e-bost: schoolandstudentaccessunit@monmouthshire.gov.uk

Mae llenwi ffurflen gais yn mynegi dewis ysgrifenedig ar gyfer ysgol yn angenrhaid cyfreithiol a nodir yng Nghod Ymarfer Derbyn Ysgolion. Yn ychwanegol, er bod pob ysgol o fewn y sir yn gwasanaethu dalgylch penodol, ni all rhieni neu warcheidwaid dybio y bydd eu plant yn cael eu derbyn yn awtomatig. Bydd rhieni sy’n cyflwyno ffurflenni cais erbyn y dyddiad cau o 30 Tachwedd 2017 yn cael eu hysbysu erbyn 1 Mawrth 2018 pa ysgol y bydd eu plentyn yn ei mynychu.

Dywedodd y Cynghorydd Richard John, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am ysgolion a dysgu: “Mae’n hollbwysig fod rhieni’n gwneud cais am leoedd ysgol mewn pryd. Caiff ceisiadau nas cyflwynir erbyn y dyddiad cau eu hystyried ar ôl y rhai a dderbynnir ar amser. Mae hyn yn golygu fod rhieni sy’n gwneud cais yn hwyr mewn mwy o risg y dyrennir lle i’w plentyn mewn ysgol heblaw’r un o’u dewis – hyd yn oed os oes ganddynt blant eraill yn yr ysgol eisoes.”

Gellir cysylltu â’r Uned Ysgolion a Derbyn Myfyrwyr ar 01633 644508 neu e-bost schoolandstudentaccessunit@monmouthshire.gov.uk i gael mwy o wybodaeth.

Mae Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, wedi mynegi siom am setliad ariannol Sir Fynwy gan Lywodraeth Cymru am y flwyddyn 2018/19. Galwodd ar y llywodraeth i seilio cyllid ar system decach, gan gydnabod y problemau sy’n wynebu siroedd gwledig wrth ddarparu gwasanaethau.

Mae’r swm a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru – £93m – 1% yn is na’r flwyddyn flaenorol ac mae’r setliad yn parhau cyfres wyth mlynedd o ostyngiadau gwir dermau i gyllid llywodraeth leol yng Nghymru. Nid yw hyn yn rhoi ystyriaeth i’r gyfradd chwyddiant bresennol o 2.7% ac mae felly’n ostyngiad o 3.7% mewn gwir dermau mewn cyllid. Er mai 0.5% yw toriad cyfartalog cynghorau Cymru, mae gostyngiad Sir Fynwy a phum sir arall o 1%, yr uchaf yng Nghymru.

Yn ychwanegol, mae dyraniad y sir fesul pen gan Lywodraeth Cymru yr isaf yn y wlad. Y cyllid y pen cyfartalog yng Nghymru yw £1,339 o gymharu gyda £1,001 yn Sir Fynwy.

Gan alw’r cyhoeddiad yn “siom”, roedd y Cynghorydd Fox yn awyddus i bwysleisio bod siroedd gwledig fel Sir Fynwy yn wynebu heriau neilltuol wrth gynnig gwasanaethau fel gofal cymdeithasol, casglu gwastraff, trafnidiaeth a phriffyrdd mewn ardal eang. Yn wir, mae’r cyngor wedi cydnabod yr anawsterau hyn drwy roi blaenoriaeth i gynnal gwasanaethau lleol hygyrch i atal arwahanrwydd cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig.

Meddai’r Cynghorydd Fox “Mae hwn yn setliad siomedig i lywodraeth leol ar draws Cymru. Dewisodd Llywodraeth Cymru ddefnyddio arian ychwanegol a drosglwyddwyd iddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig mewn ffyrdd nad ydynt yn diwallu anghenion pobl Cymru yn y ffordd orau. Mae Sir Fynwy, unwaith eto, wedi derbyn un o’r setliadau gwaethaf yng Nghymru gyda thoriad gwir dermau o 3.7%, gan olygu fod yn awr wahaniaeth o £338 rhwng ein cyllid y pen a’r cyfartaledd ar gyfer Cymru. Ymddengys nad oes ddim dealltwriaeth o gwbl ym Mae Caerdydd o’r hyn sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig lle mae cost byw yn uwch nag mewn ardaloedd trefol. Mae angen cael gwared â’r fformiwla gyllido hen ffasiwn yma ac mae angen i ni ganfod ffordd decach a mwy cytbwys o ddiwallu anghenion dinasyddion sy’n byw yn ein hardaloedd gwledig. Os na wnawn hynny, byddwn yn gweld diboblogi pellach yng nghefn gwlad sy’n ganlyniad ofnadwy.”

Mae Ysgol Gynradd Gilwern ger y Fenni wedi ennill Dyfarniad Ansawdd Cenedlaethol Ysgolion Iach – cynllun gan Lywodraeth Cymru a gaiff ei reoli gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Hi yw’r drydedd yn unig o ysgolion cynradd Sir Fynwy i ennill yr achrediad.

Mae Dyfarniad Ansawdd Cenedlaethol Ysgolion Iach yn cydnabod rhagoriaeth am hybu iechyd mewn ysgolion.

I ennill y dyfarniad, datblygodd staff a disgyblion ymagwedd ysgol gyfan at fwyd a ffitrwydd, iechyd a llesiant meddwl ac emosiynol, datblygiad personol a pherthnasoedd, defnyddio a chamddefnyddio sylweddau, yr amgylchedd, iechyd a hylendid. Caiff y meysydd pwnc iechyd eu cynnwys o fewn y cwricwlwm a’u cadarnhau drwy weithgareddau all-gwriciwlaidd, grwpiau disgyblion a chysylltiadau gyda grwpiau cymunedol lleol a phartneriaid. Mae ethos a threfniadaeth yr ysgol yn dangos undod a gofal. Mae staff yn gyfeillgar ac agos at y disgyblion a chaiff gwaith tîm ardderchog ei gefnogi gan y corff llywodraethu yn ogystal â rhieni a gofalwyr.

Rhoddir blaenoriaeth uchel i ymgyfraniad disgyblion mewn gwneud penderfyniadau gyda nifer o grwpiau disgyblion yn cefnogi ac yn datblygu negeseuon allweddol hybu iechyd. Caiff ddisgyblion gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau cymunedol a thwrnameintiau chwaraeon lleol.

Mae hawliau plant yn sylfaenol i ethos yr ysgol yn ogystal â chysylltiadau rhyngwladol cryf a chyswllt â’r rhaglen Ysgolion Eco sydd wedi cyfrannu at ennill y dyfarniad.

Dywedodd Roger Guy, Pennaeth yr ysgol: “Rwyf wrth fy modd ein bod wedi ennill y dyfarniad pwysig yma. Rwy’n falch iawn fod holl gymuned yr ysgol yn parhau i gydweithio i hyrwyddo llesiant disgyblion a staff yma yn Ysgol Gynradd Gilwern.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Maureen Powell, Cadeirydd Sir Fynwy: “Mae’n bleser mawr cyflwyno’r dyfarniad haeddiannol yma i Ysgol Gynradd Gilwern. Mae disgyblion, staff a chymuned ehangach yr ysgol wedi datblygu gwerthoedd sy’n rhoi blaenoriaeth i iechyd corfforol, meddyliol a chymdeithasol. Rwy’n falch iawn o lwyddiannau pobl ifanc yn Sir Fynwy”.

Mae dros 5,000 o breswylwyr eisoes wedi cofrestru ar gyfer ap Fy Sir Fynwy Cyngor Sir Fynwy ers ei lansio ym mis Tachwedd. Mae’r ap yn galluogi pobl i gysylltu gyda’r cyngor yn rhwydd, cael mynediad i wybodaeth yn gyflym a gallu gofyn am eitemau megis blychau a bagiau ailgylchu. Gellir lawrlwytho’r ap yn gyflym ac yn rhwydd ar unrhyw ffôn clyfar neu ddyfais llechen drwy fynd i’r Stôr apiau, chwilio am Fy Sir Fynwy a chofrestru ar gyfer yr ap.

Mae manteision allweddol Fy Sir Fynwy yn cynnwys:

  • Y gallu i gyfathrebu gyda’r cyngor unrhyw adeg o’r dydd, o unrhyw leoliad, heb fod angen ffonio neu ymweld â hyb cymunedol lleol.
  • Os yw pobl yn gweld rhywbeth yr hoffent roi adroddiad arno, gallant dynnu llun a chysylltu â’r cyngor ar unwaith.
  • Derbyn y newyddion diweddaraf gan y cyngor, drwy gofrestru ar gyfer amrywiaeth o hysbysiadau a gwybodaeth.
  • Mae’r offer mapio lleol yn galluogi preswylwyr i gael gwybodaeth benodol i’w cartref megis gwybodaeth am ailgylchu, gorsaf bleidleisio a chynllunio. Mae’n rhwydd defnyddio adran Mapio Lleol yr ap drwy roi cod post a gallant hefyd gael gwybodaeth am ddigwyddiadau yn y sir.

Cafwyd adborth cadarnhaol gan bobl y sir. Dywedodd rhywun sy’n byw yn Gilwern ‘Fe wnes symud i’r ardal yn ddiweddar ac rwyf eisoes wedi lawrlwytho ap Fy Sir Fynwy. Bu’n ffordd wirioneddol ddefnyddiol i gael gwybodaeth am beth sy’n digwydd yn cynnwys casgliadau sbwriel ac mae wedi fy helpu i gofrestru i dalu fy nhreth gyngor ar-lein.”

Dywedodd y Cyng Bob Greenland, Aelod Cabinet Arloesedd, Menter a Hamdden: “Mae’n wych gweld cynifer o’n preswylwyr yn cofrestru ar gyfer ap Fy Sir Fynwy. Mewn cymdeithas cynyddol ddigidol, mae ap Fy Sir Fynwy yn galluogi preswylwyr i reoli’r wybodaeth a gânt ac yn rhoi dull arall eto i gyfathrebu gyda’r awdurdod lleol. Mae’r ap yn datblygu’n barhaus a chaiff mwy o swyddogaethau eu hychwanegu yn y dyfodol gyda swyddogion yn gwrando ar adborth gan breswylwyr am yr hyn yr hoffent ei weld. Gobeithiwn y bydd mwy a mwy o bobl yn cofrestru.’

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Fynwy yn ddiweddar wedi lansio gwefan gwedd newydd, hollol ddwyieithog i ddarparu gwybodaeth hanfodol ar gyfer rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.

Mae’r wefan – www.monfis.org.uk – yn cynnwys gwybodaeth am bob math o ofal plant ar draws y sir, manylion sut i wneud cais am addysg gynnar a chyllid, rhestri gwasanaethau i deuluoedd, yn cynnwys beichiogrwydd a chefnogaeth i rieni newydd, cefnogaeth anghenion ychwanegol, adloniant partïon pen-blwydd, cefnogaeth rhianta a llawer mwy. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut i fod yn ofalwyr plant, yr hyn i edrych amdano wrth ddewis gofal plant a sut i ganfod help ar gyfer costau gofal plant. Gall sefydliadau annibynnol gyflwyno manylion gwasanaethau a digwyddiadau ar gyfer eu hystyried, rhoi gwybodaeth am swyddi gwag ar y safle a chael sylw ar faner newyddion sy’n sgrolio ar y dudalen gartref.

Bu Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Fynwy ar gael ers 2003 dan enw’r Gwasanaeth Gwybodaeth Plant. Caiff y gwasanaeth ei redeg gan y cyngor a’i arwain gan Lywodraeth Cymru ac mae ei angen i ddarparu gwybodaeth i rieni am ofal plant. Dros gyfnod ehangodd y gwefan i gynnwys yr holl wasanaethau sydd ar gael i deuluoedd a rhoi sylw i weithgareddau gwyliau ysgol, digwyddiadau hwyl i’r teulu, cyrsiau cymorth cyntaf, gwasanaethau a phrosiectau teulu lleol a chenedlaethol.

Defnyddir tudalen Facebook boblogaidd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (www.facebook.com/moncfis)
mewn cysylltiad â’r wefan gan ei gwneud yn rhwydd i bobl ddarganfod gwybodaeth newydd ac yn rhwydd i ddarparwyr hyrwyddo eu gwasanaethau.

Dywedodd y Cynghorydd Richard John, aelod cabinet dros Blant a Phobl Ifanc: “Mae ein gwefan ragorol Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn cynnwys llwyth o ddeunydd defnyddiol yn cynnwys gofal plant, addysg gynnar a’n cynlluniau Dechrau’n Deg a Phroseict Acorn, help gyda chyllid, swyddi gwag a hyfforddiant. Mae’n sionc, deniadol ac yn wirioneddol ddefnyddiol ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â magu teulu”.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn hysbysu rhieni a gwarcheidwaid plant sydd i ddechrau addysg gynradd fis Medi nesaf mai’r dyddiad cau i wneud cais am leoedd ysgol yw 12 Ionawr 2018.

Mae plant a anwyd rhwng 1 Medi 2013 a 31 Awst 2014 yn gymwys i gychwyn mewn dosbarthiadau derbyn ym mis Medi 2018 a gofynnir i rieni gwblhau eu ceisiadau cyn y dyddiad cau o 12 Ionawr 2018. Hyn fydd yn rhoi’r cyfle gorau iddynt o sicrhau fod eu plentyn yn mynychu eu hysgol dewis cyntaf. Mae’n rhaid i rieni sy’n byw yn Sir Fynwy wneud cais i’r cyngor hyd yn oed os yw eu hysgol dewis cyntaf y tu allan i ffiniau’r sir (ac eithrio ysgolion yng Nghasnewydd lle dylid gwneud ceisiadau yn uniongyrchol i gyngor y ddinas).

Gall rhieni wneud cais yn defnyddio system gais ar-lein y cyngor. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.monmouthshire.gov.uk neu gall rhieni ofyn am becyn cais drwy ffonio tîm derbyn y cyngor ar 01633 644508 neu e-bost: schoolandstudentaccessunit@monmouthshire.gov.uk.

Mae llenwi ffurflen gais yn mynegi dewis ysgrifenedig ar gyfer ysgol yn rheidrwydd cyfreithiol a nodir yng Nghod Ymarfer Derbyn Ysgolion. Yn ychwanegol, er bod pob ysgol o fewn y sir yn gwasanaethu dalgylch penodol ni all rhieni neu warcheidwaid dybio y bydd eu plant yn cael mynediad yn awtomatig. Caiff rhieni sy’n cyflwyno ffurflenni cais erbyn y dyddiad cau o 12 Ionawr eu hysbysu erbyn 16 Ebrill 2018 fan bellaf pa ysgol y bydd eu plentyn yn ei mynychu.

Dywedodd y Cynghorydd Richard John, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am ysgolion a dysgu: “Mae’n hollbwysig fod rhieni’n gwneud cais am leoedd ysgol mewn pryd. Caiff ceisiadau nas cyflwynir erbyn 12 Ionawr eu hystyried ar ôl y rhai a dderbyniwyd ar amser. Mae hyn yn golygu fod rhieni sy’n gwneud cais hwyr mewn mwy o risg y caiff lleoedd mewn ysgolion heblaw eu dewis cyntaf eu dyrannu ar gyfer eu plant – hyd yn oed er bod ganddynt blant eraill eisoes yn yr ysgol.”

Cysylltwch ag Uned Ysgolion a Mynediad Myfyrwyr ar 01633 644508 neu e-bost schoolandstudentaccessunit@monmouthshire.gov.uk i gael mwy o wybodaeth.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch i gefnogi a chodi ymwybyddiaeth o Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd ddydd Mawrth 10 Hydref gyda chyfres o ddigwyddiadau llesiant sy’n cefnogi thema eleni o Iechyd Meddwl yn y Gweithle.

Cynhelir y sesiynau Llesiant ar draws y sir i helpu staff i adnabod arwyddion o straen a hefyd roi gwybodaeth am yr ystod o ffyrdd a all helpu a chefnogi cydbwysedd gwaith bywyd cadarnhaol.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn credu fod iechyd meddwl a chorfforol yn hanfodol ar gyfer gweithle hapus ac effeithiol.

Cynhelir y sesiwn cyntaf ddydd Mawrth 10 Hydref ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Caiff staff o bob rhan o’r gweithlu eu hannog i fynychu’r sesiwn wybodaeth fer fydd yn rhoi gwybodaeth iddynt i gynnal iechyd meddwl cadarnhaol.

Mae’r cyngor yn credu fod cadw ac aros yn iach yn feddyliol a chorfforol yn bwysig iawn i bawb yn Sir Fynwy. Mae gan Sir Fynwy gyfoeth o sefydliadau a grwpiau sy’n helpu a chefogi unigolion a theuluoedd. Mae bod yn egniol a chreadigol yn rhai o’r ffyrdd y gall cymunedau wella iechyd a llesiant meddwl.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cynhyrchu tair ffilm fer sy’n dangos y gweithgareddau sydd ar gael ar draws y sir ar gyfer preswylwyr a fu mewn risg o ddioddef salwch meddwl ac a fanteisiodd o ddysgu sgiliau newydd a chanfod cyfeillgarwch. Bydd y ffilmiau ar gael ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Bydd, dydd Mawrth 10 Hydref ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor, Facebook a Twitter.

Dywedodd Sara Jones, Aelod Cabinet Cyfiawnder Cymdeithasol a Datblygu Cymunedol:

“Mae llesiant ein cymunedau a staff mor bwysig. Rwy’n angerddol am hyrwyddo iechyd meddwl ac fel awdurdod rydym yn awyddus i gefnogi’r nifer fawr o sefydliadau yn ein sir sy’n cael cymaint o effaith ar iechyd meddwl ein preswylwyr. Drwy godi ymwybyddiaeth o’r nifer fawr o ffyrdd i wella iechyd a llesiant, bydd mwy o bobl yn sylweddoli y gall pethau bach wneud gwahaniaeth mawr. Mae ymuno â chlwb, cwrdd â phobl newydd neu ymchwilio ein sir hardd yn ffyrdd bach i gael effaith.’

Bydd Castell Cil-y-coed yn cynnal ei sbloet tân gwyllt flynyddol ddydd Sul 5 Tachwedd gyda’r clwydi’n agor am 4.30pm a’r arddangosiad yn cychwyn am 7pm. Bydd y tân gwyllt yn parhau am tua 20 munud. Wedi’i drefnu gan grwpiau cymunedol, Castell Cil-y-coed a’r sefydliad twristiaeth Ymweld â Sir Fynwy ac mewn partneriaeth hir gyda’r orsaf radio Capital FM, mae’r digwyddiad blynyddol yn denu torfeydd mawr a daeth yn gynyddol boblogaidd.

Mae tocynnau sy’n costio £7.50 ar gyfer oedolion a £4.50 ar gyfer plant ar gael drwy ymweld â www.caldicotcastle.co.uk. Mae’r mynediad yn rhad ac am ddim i blant dan dair oed ond byddant yn dal i fod angen tocyn i fynychu. Mae’r trefnwyr yn pwysleisio fod yn rhaid cael tocynnau ar gyfer y digwyddiad ac na fydd unrhyw docynnau ar gael ar y glwyd. Mae’n rhaid i blant dan 13 oed fod yng nghwmni oedolyn.

Gellir parcio yn yr archfarchnad Asda leol, safle Mitel ger y castell a maes parcio Ffordd Jiwbilî yng nghanol Cil-y-coed. Yn ogystal â’r tân gwyllt, bydd adloniant gan Capital FM, bwytawyr tân a ffair. Bydd bwyd a diod ar gael yn cynnwys bar trwyddedig, ond ni chaniateir i’r rhai sy’n mynychu ddod â’u bwyd a diod eu hunain gyda nhw.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Bob Greenland, aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am hamdden a thwristiaeth: “Dyma’r bumed flwyddyn i ni gynnal sbloet tân gwyllt yma ac mae Castell Cil-y-coed yn lleoliad perffaith ar gyfer y math yma o achlysur. Gall teuluoedd edrych ymlaen at arddangosiad gwych ac adloniant rhagorol.”

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.visitmonmouthshire.com/fireworks-FAQ.

Mae dwy elusen leol wedi manteisio o gyllid a gasglwyd er budd apêl cyn Gadeirydd Sir Fynwy.
Cafodd yr elusennau Gofal Hosbis Dewi Sant a Tŷ Hafan eu dewis fel elusennau’r Cynghorydd Jim Higginson yn ystod ei gyfnod yn y swydd (Mai 2016 i Mai 2017) ac roedd yn falch iawn i deithio i bencadlys y ddau sefydliad i gyflwyno sieciau am £2,386.96.
Dywedodd Gemma Sandhu, codwr arian cymunedol/digwyddiadau Gofal Hosbis Dewi Sant ar gyfer ardal Sir Fynwy a Chasnewydd: “Ar ran pawb yng Ngofal Hosbis Dewi Sant, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Jim Higginson a’i dîm am ddewis cefnogi ein helusen drwy gydol 2016/17. Gwneir defnydd da iawn o’r swm gwych o arian a godwyd i ofalu am ein cleifion yn yr uned newydd i gleifion mewnol. Rwyf mor falch i mi fedru dangos Mr Higginson o amgylch ein hadeilad newydd gwych.
“Y digwyddiad codi arian cyntaf oedd y te prynhawn hyfryd yng Nghastell Cil-y-coed. Roedd yn bleser mawr cwrdd â’r cynrychiolydd o Tŷ Hafan a’r llu o westeion yn y digwyddiad. Rwy’n gwybod y cafodd swm gwych o arian ei godi.
“Llawer o ddiolch unwaith eto am ddewis Gofal Hosbis Dewi Sant i fanteisio o’r holl waith caled yn ystod y flwyddyn.”
Mae Tŷ Hafan yn darparu cysur, gofal a chefnogaeth i deuluoedd sydd â phlant gyda chyflyrau sy’n cyfyngu bywyd. Mae’r elusen yn cefnogi dros 12 teulu o ardal Sir Fynwy ar hyn o bryd. Dywedodd Kelly Dibble, rheolwr codi arian rhanbarthol: “Bu’n bleser gweithio gyda’r Cynghorydd Higginson ac fe wnaeth hyd yn oed ymuno â ni yn yr hosbis ar gyfer ein panto Nadolig! Mae’r cyfraniad hael yma’n golygu y gallwn barhau i gefnogi’r teuluoedd yma yng Nghymru sydd fwyaf ein hangen. Diolch i chi gyd am eich holl waith caled!”
Meddai’r Cynghorydd Higginson: “Rwy’n falch iawn i gefnogi gwaith gwych Tŷ Hafan a Gofal Hosbis Dewi Sant a hoffwn ddiolch i Pauline, fy Nghonsort, am fy nghefnogi drwy gydol y flwyddyn ac i’r aelodau, staff a chefnogwyr niferus o’r cyngor a wnaeth ein dyletswyddau yn gymaint haws tra’n cynrychioli Sir Fynwy yn ogystal â fy nghydweithwyr o awdurdodau eraill.
“Dewisais fy nwy elusen oherwydd eu cymorth rhagorol i deuluoedd sydd ag anwyliaid yn dioddef salwch difrifol. Heb yr help hwnnw, ni fyddai’r teuluoedd hynny yn cael fawr ddim seibiant, neu ddim seibiant o gwbl, ar yr adegau pan maent fwyaf ei angen.”

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gosod ei bwynt gwefru cyhoeddus cyntaf ar gyfer ceir trydan yng Nghas-gwent ac yn anelu creu cyfleusterau tebyg mewn trefi eraill. Mae’r pwynt gwefru yn yr ardal parcio am ddim yn y Stryd Gymreig ac mae ei logo glas llachar yn golygu ei fod yn rhwydd ei adnabod.

Mae tocynnau i gael cyflenwad o drydan ar gael yn ystod oriau swyddfa o hyb cymunedol y cyngor sy’n gyfagos a hefyd o Hotel Greenman Backpackers yn y dref yn Sgwâr Beaufort gerllaw tan 10pm. Mae’r tocynnau’n costio £5 a chaiff ceir barcio am ddim tra’u bod yn defnyddio’r pwynt gwefru. Mae hyn yn cydnabod y bydd gwefru weithiau’n cymryd mwy na’r 30 munud a gynigir i gerbydau eraill ar gyfer parcio am ddim yn yr ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Jones, aelod cabinet Sir Fynwy dros weithrediadau’r sir: “Mae cynnydd sylweddol yn nifer y cerbydau trydan a bydd yn cynyddu ymhellach wrth i’r dewis o gerbydau ehangu. Mae prinder pwyntiau gwefru yn anfantais sylweddol i dwf cerbydau trydan felly bydd ein cyfleusterau newydd yng Nghas-gwent yn annog gyrwyr i wneud dewis mwy cynaliadwy a chyfeillgar i’r amgylchedd.”

Gall pobl yn Sir Fynwy sy’n cychwyn, rhedeg neu dyfu eu busnes eu hunain fanteisio o gyfres o weithdai rhad ac am ddim a gyflwynir gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru. Nod y cyrsiau yw rhoi’r dulliau a’r wybodaeth i ddarpar entrepreneuriaid i ddatblygu eu syniadau ymhellach, gan wneud llwyddiant o’u busnesau.

Caiff y gweithdai eu cyflwyno gan gynghorwyr profiadol a chawsant eu cynllunio i roi gwybodaeth fanwl, datblygu sgiliau ymarferol ac ysbrydoli hyder ymysg darpar entrepreneuriaid yng Nghymru ar ddechrau eu taith fusnes. Maent yn helpu cynrychiolwyr i asesu eu sgiliau personol ac yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys cynllunio busnes ac ariannol, prisio, marchnata, canfod cyllid, recriwtio a materion cyfreithiol a chydymffurfiaeth.

Cynhelir gweithdai fel sy’n dilyn:

Cychwyn a Rhedeg Busnes – Neidio i’r Dwfn: 9.30am i 4.00pm
• Trefynwy – Dydd Llun 16 Hydref
• Casnewydd – Dydd Iau 19 Hydref

Mae Busnes Cymru hefyd yn cynnig cyrsiau ar gyfer pobl sydd eisoes yn rhedeg eu busnesau eu hunain:

Treth a Chadw Llyfrau: 9.30am i 12.30pm
• Casnewydd – Dydd Mawrth 10 Hydref
Cyfrif Maint y Farchnad: 1.30pm i 4.30pm
• Casnewydd – Dydd Llun 23 Hydref

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, Aelod Cabinet Menter Cyngor Sir Mynwy: “Un o flaenoriaethau’r cyngor yw cefnogi busnesau a chreu swyddi felly rydym yn falch iawn i argymell y gweithdai defnyddiol hyn i unrhyw un sy’n anelu sefydlu eu busnes eu hunain yn y sir.”

Ychwanegodd David apjohn-Williams, Rheolwr Rhanbarthol De Cymru ar ran Busnes Cymru: “Mae annog a chefnogi busnesau i gychwyn, tyfu a chreu swyddi ledled Cymru yn rhan ganolog o’n strategaeth yn Busnes Cymru. Credwn fod ein gweithdai yn rhoi cyfle gwych i bobl yr ardal i sicrhau dealltwriaeth o’r egwyddorion allweddol a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gychwyn a rhedeg eu busnesau eu hunain.

“Rydym yn falch iawn i fedru cynnal y gweithdai hyn ar gyfer pobl yn Sir Fynwy ac rwy’n annog unrhyw un sy’n dymuno datblygu eu syniad busnes neu dyfu ei busnes y ddod draw.”

Mae Busnes Cymru, a gyllidir gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, yn cefnogi twf cynaliadwy mentrau bach a chanolig ar draws y wlad drwy gynnig mynediad i wybodaeth, arweiniad a chymorth busnes.

I gael mwy o wybodaeth ar leoliadau ac archebu lleoedd ewch i https://wales.business-events.org.uk/, e-bost southwales@businesswales.org.uk neu ffonio 01656 868500.

I ganfod sut gall Busnes Cymru helpu i gychwyn neu ddatblygu eich busnes, ffoniwch 0300 060 3000, dilyn @_busnescymru neu @_businesswales neu edrych ar www.busnescymru.llyw.cymru/ neu www.businesswales.gov.wales/ i gael mwy o wybodaeth.

Mae gwaith diogelwch hanfodol oherwydd ymsuddiant ar ffordd yr A466 rhwng Cas-gwent a Thyndyrn yn golygu y bydd Cyngor Sir Fynwy yn gosod set o oleuadau traffig i’r gogledd o hen fynedfa chwarel Livox. Bydd goleuadau yn gweithredu o ddydd Llun 9 Hydref tan ddiwedd y mis a byddant yn galluogi’r cyngor i gynnal ymchwiliadau daear a drilio twll turio. Bydd yr ymchwiliadau yn rhoi data hanfodol fel y gall y cyngor maes o law sefydlogi’r ffordd drwy ei hailalinio i mewn i’r bryn cyfagos.

Bydd y goleuadau yn gymharol agos at set arall ger mynedfa chwarel Livox – canlyniad cwymp creigiau – felly er mwyn lleihau ymyriad caiff y ddwy set o oleuadau eu rheoli â llaw yn ystod oriau gwaith nes bydd y cyngor yn hyderus y gellir eu gweithredu’n awtomatig. Os oes problemau’n codi, bydd y goleuadau’n dychwelyd i gael eu rheoli â llaw nes cwblheir gwaith ymchwilio safle.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Jones, aelod cabinet Sir Fynwy dros weithrediadau’r sir: “Efallai y bydd ychwanegu set arall o oleuadau dros dro ar yr A466 yn achosi rhwystredigaeth i fodurwyr ond mae’r ddaeareg a natur yr ardal o gwmpas yn golygu fod yn rhaid i ni roi’r flaenoriaeth bennaf i ddiogelwch nes y gallwn sicrhau datrysiad parhaol ar gyfer y darn hwn o ffordd.”

Bydd set arall o oleuadau ar yr A466 yn agos i safle picnic Wyndcliffe yn parhau i weithredu, eto am resymau diogelwch ar ôl cwymp creigiau ac amodau daearegol anodd.

Caiff preswylwyr a busnesau yn Sir Fynwy eu hannog i fynychu cymhorthfa leol ar fand eang cyflym iawn a gynhelir gan Openreach yn Hen Ysgol Rhaglan rhwng 5.30pm-8.30pm ddydd Iau 5 Hydref.

Gyda mwy nag wyth allan o bob deg cartref a busnes yn medru derbyn band eang cyflym iawn heddiw ar draws Sir Fynwy fel canlyniad i ymestyn ffibr gan beirianwyr Openreach ar draws y sir, mae mwy o gyfle i wneud mwy ar-lein nag erioed o’r blaen.

Bydd y gymhorthfa yn rhoi cyfle i bobl sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Fynwy i holi peirianwyr a chynllunwyr Openreach am ymestyn ffibr, sut y gall eu helpu a chanfod beth yw eu hopsiynau os nad ydynt wedi’u cynnwys yn y rhaglen ymestyn bresennol.

Dywedodd Ed Hunt, cyfarwyddwr rhanbarthol Openreach, y busnes rhwydwaith lleol sy’n rhan o Grŵp BT: “Mae ymestyn band eang cyflym iawn ledled Cymru yn brosiect enfawr sy’n chwyldroi sut ydym yn byw, gweithio, dysgu a chwarae.

“Caiff mwy a mwy ei wneud ar-lein. Er enghraifft, gall busnesau ehangu i farchnadoedd newydd gyda chysylltiadau rhyngrwyd cyflym a dibynadwy neu arbed amser ac arian drwy wneud pethau fel lawrlwytho dogfennau mawr yn gyflymach.

“Gall cyflymder band eang uwch helpu teuluoedd mewn cynifer o ffyrdd. O wneud y siopa wythnosol i helpu eich plant gyda’u gwaith cartref ar-lein, mae teuluoedd yn gweld y gwahaniaeth y gall band eang cyflym iawn ei wneud i’w bywydau.

“Yr hyn sy’n bwysig ei gofio fod angen i fusnesau a theuluoedd sy’n gallu derbyn band eang cyflym iawn ei archebu gyda darparydd gwasanaeth rhyngrwyd (ISP) er mwyn dechrau derbyn band eang cyflym iawn. Nid yw’r uwchraddio yn digwydd yn awtomatig.

“Ar gyfer y rhai sy’n methu archebu ar hyn o bryd, hoffwn ddweud y byddwn yn parhau i ymestyn ffibr ar draws y sir ac y bydd ein peirianwyr yn parhau i weithio’n galed i ymestyn ffibr mor bell ac mor gyflym ag sydd modd.”

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones o Gyngor Sir Fynwy:

“Mae band eang yn fater a godwyd dro ar ôl tro gan breswylwyr a busnesau yn Sir Fynwy.

“Rwy’n falch fod Openreach wedi cytuno cynnal sesiwn galw heibio fel y gallant ateb ymholiadau gan aelwydydd a rhoi datrysiadau posibl lle mae heriau ar hyn o bryd. Rwy’n annog y cyhoedd i fynychu’r cyfarfod, bydd yn llwyfan perffaith i’n cymunedau rannu eu sylwadau gyda BT Openreach a galluogi gwella mynediad.”

Os gall aelwydydd neu fusnesau dderbyn band eang cyflym iawn, ni fydd yr uwchraddio’n digwydd yn awtomatig a dylent gysylltu â’u darparydd gwasanaeth rhyngrwyd (ISP) i archebu’r gwasanaeth.

Gofynnir i bobl sy’n dymuno mynychu cymhorthfa Openreach yn Rhaglan i gofrestru eu diddordeb gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig a chânt eu dyrannu ar sail apwyntiad yn unig. I archebu lle, cysylltwch  â openreachcymru@grayling.com.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn un o’r awdurdodau lleol sy’n perfformio orau yng Nghymru ac mae ei wasanaethau’n parhau i berfformio’n dda yn ôl data a gyhoeddwyd heddiw gan Uned Ddata Cymru, rhan o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae’r data’n cymharu perfformiad pob un o’r 22 cyngor yng Nghymru.

Mae’r cyhoeddiad yn cynnwys data ar amrywiaeth o wasanaethau ac yn dangos fod perfformiad llawer o wasanaethau’r cyngor ymysg y gorau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys addysg, ailgylchu a llyfrgelloedd. Un enghraifft o berfformiad rhagorol yw gwasanaeth gwastraff y cyngor lle mae trigolion Sir Fynwy unwaith eto wedi cynyddu faint a ailgylchant i helpu’r awdurdod i gyrraedd targedau. Mae rhai meysydd ble mae angen i’r cyngor wella perfformiad ac mae ganddo gynlluniau ar waith i wneud hynny.

Wrth roi sylw ar y data a gyhoeddwyd dywedodd Peter Fox, Arweinydd y Cyngor:

“Rwy’n falch fod y data hwn yn parhau i ddangos ein bod ymysg yr awdurdodau sy’n perfformio orau yng Nghymru. Rydym wedi gweithio’n wirioneddol galed dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i wneud y cyngor yn fwy effeithiol. Rydym wedi rheoli cyllidebau is heb ostwng gwasanaethau rheng-flaen ar gyfer y rhan o bobl ac mae perfformiad wedi gwella ymhellach mewn llawer o feysydd gwasanaeth. Er y gwnaed cynnydd sylweddol yn 2016-17, mae rhai meysydd yn dal i fod lle mae angen i ni wella a byddwn yn canolbwyntio ar hynny.

“Byddwn yn parhau i roi blaenoriaeth i’r gwasanaethau hynny sy’n cael yr effaith fwyaf ar lesiant ein preswylwyr a gosod y sefydliad ar lwybr a all sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau yn Sir Fynwy.”

Bydd cynghorwyr yn derbyn y gwerthusiad llawn o berfformiad yr awdurdod yn 2016-17 mewn cyfarfod o’r cyngor sir ar 21 Medi. Mae gwybodaeth bellach ar gynlluniau perfformiad y cyngor ar gael yn www.monmouthshire.gov.uk/improvement.

Bu Sir Fynwy yn dathlu diwrnod bendigedig o lesiant y penwythnos hwn yn Sioe Brynbuga gyda miloedd o ymwelwyr yn heidio i babell arddangosfa’r cyngor a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau i’w cadw’n iach a heini – o golff gwirion, ymchwilio’r llwybr cefn gwlad, gwirfoddoli, celf a chrefft, cerddoriaeth, dawnsio, peintio wynebau i ymlacio gyda chyfeillion dros dishgled o dde. Cafwyd adloniant drwy gydol y dydd gan berfformwyr lleol yn cynnwys Côr Menywod Allegra, deuawd acwstig Silurian a dawnswyr bola Topaz Tribal.

Roedd y babell orlawn yn cynnwys gwirfoddolwyr a staff o dimau cefn gwlad, hamdden, gwybodaeth ymwelwyr, amgueddfeydd, gwasanaeth ieuenctid a maethu y cyngor yn ogystal ag eraill o’r hybiau cymunedol, Careline, grŵp garddio Parc Mardy a gwasanaeth Gosodiadau Sir Fynwy. Cyfrannodd partneriaid o’r gwasanaeth iechyd, Dewis Cymru (mae eu gwefan www.dewis.wales yn hyrwyddo llesiant yng Nghymruj), Cymdeithas Tai Sir Fynwy, Rhannu Bywydau, Cysylltiadau Cymunedol, Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru, Masnach Deg Sir Fynwy ac Ambiwlans Awyr Cymru at lwyddiant yr arddangosfa. Cafodd preswylwyr gyfle unigryw i siarad gyda chynghorwyr sir mewn amgylchedd anffurfiol a diddorol.

Dywedodd Maureen Powell, Cadeirydd y Cyngor: “Roedd yn wych cwrdd â’n cymuned yn Sioe Brynbuga a gweld pawb yn cael hwyl, yn tynnu hunluniau a chael sgwrs am yr hyn sydd bwysicaf yng nghymuned Sir Fynwy. Cofrestrodd llawer o bobl ar gyfer ap Fy Sir Fynwy sydd ar gael o’r stôr apiau ac sy’n rhoi adborth i ni am bopeth yn ymwneud â Sir Fynwy. Roedd y caffe i hyrwyddo gwirfoddoli, crefftau gyda menywod Crefftus y Fenni a maethu, peintio wynebau gyda’r gwasanaeth iechyd a golff gwirion gan ein tîm hamdden i gyd yn boblogaidd tu hwnt. Roedd yn bleser croesawu’r gwasanaeth Ambiwlans Awyr sy’n un o fy elusennau fel Cadeirydd eleni. Hoffwn ddiolch i fy holl gydweithwyr yng Nghyngor Sir Fynwy a gwirfoddolwyr a gydweithiodd i wneud y diwrnod yn un mor llwyddiannus.”

Mae amgueddfa yn Sir Fynwy wedi ennill gwobr bwysig am ei harddangosfa gyfredol yn dangos cyfraniad menywod i gymdeithas.

Mae Amgueddfa’r Fenni wedi ennill gwobr Prosiect Hanes Cymunedol y Rhwydwaith Hanes Menywod am ei harddangosfa Menywod Sir Fynwy yn Gwneud Gwahaniaeth sy’n rhedeg tan 11 Mawrth 2018. Mae’r prosiect yn ymchwilio cyfraniad menywod y sir at ennill yr hawl i bleidleisio, ymdrech y rhyfel, amaethyddiaeth, y mudiad heddwch a sut mae ymgyfraniad parhaus mewn gwahanol faterion yn dal i wella bywydau menywod, yn lleol ac yn fyd-eang.

Dyfarnwyd y wobr i’r tîm a greodd y prosiect gan, am neu ar gyfer menywod mewn ardal neu gymuned neilltuol a gwblhawyd rhwng Ionawr 2016 a Mai 2017. Y beirniaid oedd panel o gynrychiolwyr o’r Rhwydwaith Hanes Menywod, The History Press, swyddogion treftadaeth a haneswyr cymunedol a chafodd y wobr ei rhannu gydag Amgueddfa Darganfod Newcastle am ei chynllun Tiny Sparks.

Mae prosiect Amgueddfa’r Fenni yn arddangosfa gydweithiol a guradwyd gan grŵp o wirfoddolwyr o wahanol oedran – person graddedig, dau fyfyriwr prifysgol ac aelod o’r gymuned, yn gweithio gyda sefydliadau cymunedol. Canmolodd y beirniaid dîm yr amgueddfa am y “ffordd frwdfrydig mae grwpiau cymunedol o bob oedran a diwylliant wedi cydweithio i ddod â’u deunydd eu hunain i roi goleuni ar hanesion menywod. Roedd y panel eu hysbrydoli o weld amgueddfa wledig fach yn gweithio mewn modd mor greadigol.”

Mae ffilm fer am yr arddangosfa ar gael yn www.facebook.com/MonmouthshireCC/videos/1496505690383864/. Mae cyfweliad ar gael gyda rhai o’r tîm curadwyr yn y seremoni wobrwyo ar sianel YouTube y Rhwydwaith Hanes Menywod (WM): https://youtu.be/bBVX2NYWBWo

Cynhelir cynhadledd ryngwladol bedwar diwrnod yn y Fenni y mis hwn fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu bwyd cynaliadwy. Trefnwyd y gynhadledd gan y grŵp Amaeth-Trefol lleol, a bydd yn cynnwys cynrychiolwyr o ddeg dinas Ewropeaidd ac fe’i cynhelir rhwng 14 a 17 Medi yng Nghanolfan Mihangel Sant. Bydd hefyd yn rhan o Ŵyl Fwyd y Fenni am un diwrnod.

Mae Amaeth-Trefol, rhwydwaith Urbact http://urbact.eu/agri-urban, yn ymwneud ag ailfeddwl am ddulliau a ffyrdd o gynhyrchu bwyd ac ysgogi potensial twf drwy arloesi a modelau busnes newydd, gan ddatblygu cysylltiad rhwng gofodau trefol a gwledig gyda’r nod o ysgogi cyflogaeth. Mae’n adeiladu ar y bartneriaeth o 11 anheddiad yn cynrychioli 10 o wledydd yn yr Undeb Ewropeaidd.

Y Fenni yw’r unig dref yn y Deyrnas Unedig sy’n cymryd rhan yn y prosiect ynghyd â
Baena (Sbaen), Mollet Del Valles (Sbaen), Pyli (Gwlad Groeg), Petrinja (Croatia), Cesena (Yr Eidal), Jelgava (Latfia), Fundao (Portiwgal), Mouans Sartoux (Ffrainc), Soldertalje (Sweden) a LAG Pays De Condruses (Gwlad Belg).

Yn y digwyddiad ymylol yng Ngŵyl Fwyd y Fenni, bydd y bartneriaeth Amaeth-Trefol yn croesawu’r Athro Kevin Morgan fydd yn cynnig ei olwg unigryw ar “Pwysigrwydd agenda bwyd cynaliadwy/Yr hyn a ddywed bwyd amdanoch chi a’ch cymuned”. Bydd David Morris, Dirprwy Bennaeth Bwyd ar ran Llywodraeth Cymru, yn esbonio Amaeth-Trefol yng nghyd-destun strategaeth bwyd a chynlluniau Llywodraeth Cymru. Bydd Miguel Sousa, Prif Swyddog Gweithredol INOVA a Phrif Arbenigydd prosiect Urbact III Amaeth-Trefol yn siarad am yr arloeseddau cudd sy’n digwydd ledled Ewropa gweddill y byd, tra bydd Sidarth Sharma o Ŵyl Fwyd Shambala yn cynnig ei ddirnadaeth a’i syniadau ar “Creu System Fwyd mewn Unbennaeth Haelfrydig”.

Dywedodd John Prosser, cydlynydd y grŵp Urbact lleol: “Rydym yn falch iawn i gymryd rhan yng Ngŵyl Fwyd y Fenni, gan gynnig digwyddiad ymylol fydd yn rhoi gwybodaeth a thrafodaeth ar ‘le bwyd.”

Mae’r digwyddiad ymylol yn rhad ac am ddim ac mae tocynnau a gwybodaeth ar gael yn: http://www.abergavennyfoodfestival.com/programme/the-place-for-food/ neu drwy gysylltu â Deseriemansfield@monmouthshire.gov.uk .

Mae amserlen lawn Gŵyl Fwyd y Fenni ar gael yn: http://www.abergavennyfoodfestival.com/

Bydd hefyd gyfle i glywed am ddatblygiad bwyd y partneriaid fydd yn cynnal sesiwn holi i drafod prosiectau a ddatblygwyd mewn rhannau eraill o Ewrop.

Caiff y prosiect ei gefnogi gan Gyngor Tref y Fenni a Chyngor Sir Fynwy gyda chyllid gan raglen URBACT 111 yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n derbyn arian cyfatebol gan Gyngor Sir Fynwy.

Mae ffotograffydd hunangyflogedig o’r Fenni’n cefnogi ymgyrch newydd i hyrwyddo manteision band eang cyflym iawn ac annog eraill i fynd ati i’w ddefnyddio ar draws y sir.
Mae Leighton Morris yn cefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru yn sgil ei brofiad personol o bwysigrwydd gwasanaeth rhyngrwyd cyflym i’w fusnes a’r ffordd mae’n cyflymu ei fywyd bob dydd.

Gan ei fod yn rhedeg busnes fideograffeg teithiau rhithwir a ffotograffiaeth a bod cyflymder y band eang confensiynol yn cyfyngu ar ei allu i ffrydio rhaglenni teledu a siopa ar y we, penderfynodd Leighton newid i’r band eang cyflym iawn cyn gynted ag y darparwyd y gwasanaeth yn lleol.

Meddai Leighton: “Fel teulu, mae’n amlwg ein bod yn dibynnu fwyfwy ar y rhyngrwyd ar gyfer pob agwedd ar ein bywydau o siopa bwyd a bancio i ffrydio rhaglenni teledu a ffilmiau felly mae cysylltiad cyflym yn gwneud bywyd yn haws ac yn symlach.

“Yn hytrach nag aros am oesoedd i wefan lwytho, yn awr mae modd gwneud popeth drwy glicio botwm ac mae tasgau diflas fel siopa bwyd yn cymryd munudau yn lle oriau.

“Mae fy mab hefyd yn diddori mwy a mwy mewn gwylio unrhyw beth o fideos cerddoriaeth i bêl-droed a Minecraft ar YouTube felly mae cael cysylltiad cyflym iawn yn golygu ei fod yn gallu eu gwylio’n hawdd heb rwystredigaeth byffro parhaus. Hefyd mae modd clicio botwm i lawrlwytho ffilmiau i’r ipad ar gyfer teithiau hir yn y car ac mae hyn yn cadw Charlie yn dawel yn y car am oriau.
“Mae’n wir fod band eang cyflym iawn yn helpu i leihau’r straen o siopa a’n galluogi i fwynhau gwylio ffilmiau a set focsiau yn haws, ond hefyd mae’r gwasanaeth wedi bod yn hanfodol i mi yn fy ngwaith o ddydd i ddydd yn rhedeg busnes fideograffeg teithiau rhithwir a ffotograffiaeth, 3D-PI.

“Mae’r cysylltiad cyflym iawn yn fy ngalluogi i lawrlwytho ffeiliau fideo anferth yn gyflym a’u golygu a’u lanlwytho i’r cwmwl ar unwaith er mwyn eu rhannu â chleientiaid. Yn aml rwy’n gweithio i amserlen dynn ac mae angen imi ddychwelyd gwaith wedi’i olygu at y cleient yn gyflym iawn felly mae’r cysylltiad cyflym iawn yn fy ngalluogi i wneud hyn.

“Hefyd, byddaf weithiau yn cysylltu â chleientiaid trwy Skype i gael adborth a thrafod prosiectau ac mae’r cysylltiad cyflym iawn yn golygu bod y galwadau’n glir heb unrhyw oedi annifyr a phob dim yn gyflym a hawdd.

“Yn sicr byddwn yn argymell y gwasanaeth i bawb sydd mewn modd i’w dderbyn oherwydd yn wir mae’n gwneud gwahaniaeth i’ch bywyd mewn nifer o ffyrdd.”

Yn ogystal â chyflwyno’r dechnoleg drwy sector preifat, mae Cyflymu Cymru wedi darparu mynediad i fand eang cyflym iawn i 16,969 o fannau ychwanegol yn yr ardal.

Gyda thua 73% o raglen gyflwyno Cyflymu Cymru bellach wedi’i chwblhau yn Sir Fynwy, nod ymgyrch Llywodraeth Cymru yw hyrwyddo band eang cyflym iawn i’r trigolion er mwyn dangos manteision y gwasanaeth ac annog defnydd pellach ohono ledled y sir.

Er bod y rhan fwyaf o’r sir bellach yn gallu cael band eang cyflymach os ydyn nhw’n dymuno, dyw canran fechan o lefydd ddim yn gallu gwneud hynny. Mae cymorth ar gael iddyn nhw ar wefan Llywodraeth Cymru neu drwy gysylltu â thîm band eang Llywodraeth Cymru.*

Meddai Julie James, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru: “Er bod y rhan fwyaf o gartrefi Sir Fynwy bellach yn gallu derbyn band eang cyflym iawn os ydyn nhw’n dymuno, dyw llawer ddim yn gwbl ymwybodol o’i fanteision na sut i gael y gwasanaeth.

“Fel y dengys stori Leighton, mae cysylltiadau band eang cyflymach yn galluogi pobl i gadw mewn cysylltiad a siarad â phobl ar draws y byd yn gynt ac yn fwy effeithiol nag erioed o’r blaen. Mae hyn yn cynnwys lawrlwytho adnoddau dysgu mawr i blant, rheoli cyfrifon banc, siopa am fwyd, talu biliau’r cartref neu ddefnyddio gwasanaethau fideo fel Skype.

“Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn elwa ar y manteision hyn, a nod yr ymgyrch hon yw dangos sut mae’r dechnoleg yn effeithio ar fywydau miloedd o bobl mewn cymunedau ym mhob cwr o Gymru.”

Dylai cartrefi a busnesau yn Sir Fynwy sy’n dymuno elwa ar fanteision band eang ffibr cyflym ddewis darparwr gwasanaethau rhyngrwyd a chysylltu â’r darparwr i archebu’r gwasanaeth.

*Ewch i www.llyw.cymru/bandeang i weld pa wasanaeth band eang sydd ar gael. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth i rai nad ydynt yn gallu derbyn band eang cyflym iawn eto, oherwydd efallai bod cymorth ar gael dan gynllun Allwedd Band Eang Cymru Llywodraeth Cymru, sy’n darparu arian grant i fanteisio ar gysylltiad band eang cyflym iawn trwy ddulliau eraill.

Bydd cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru hefyd wrth law i sgwrsio â phobl leol am fand eang cyflym iawn yng Nghanol y Dref Trefynwy ar 1 Medi ac yn Sioe Brynbuga ar 9 Medi.

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i lesiant emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

Dyma rai o’r materion bydd y Pwyllgor yn eu hystyried:

  • CAMHS Arbenigol
  • Cyllid
  • Pontio i Wasanaethau Oedolion
  • Cysylltiadau ag Addysg (deallusrwydd emosiynol a dulliau ymdopi iach)

 

 

Fel rhan o hyn, mae’r Pwyllgor am glywed gan pobl ifanc am y cymorth sydd ar gael iddynt a hefyd safbwyntiau gweithwyr proffesiynol ym maes addysg sy’n gweithio mewn ysgolion am yr hyfforddiant a’r adnoddau sydd ar gael iddynt.

Mynegwch eich barn yn ein harolwg drwy glicio ar y linc isod:

Plant a phobl ifanc: https://www.surveymonkey.co.uk/r/PICAMHS

Gweithwyr proffesiynol addysg: https://www.surveymonkey.co.uk/r/GPACAMHS

Bydd ymatebion i’r arolwg yn gwbl gyfrinachol a bydd pob cyfraniad yn ddienw.

Bydd yr arolwg yn cau ar 15 Hydref.

Bydd eich sylwadau’n cyfrannu at ymchwiliad y Pwyllgor a’i argymhellion terfynol. Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dibynnu ar fewnbwn gan bobl ifanc ac athrawon a bydd eich barn a’ch profiadau yn helpu’r Pwyllgor i ddeall pa gymorth sydd ar gael ar gyfer lles emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

Cewch ragor o wybodaeth am yr ymchwiliad yma a gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor drwy fynd i Cynulliad.Cymru/SeneddPPIA neu drwy ddilyn cyfrif Twitter @SeneddPPIA.

Bydd Cyngor Sir Fynwy (gyda Trosiant Trefynwy a Cyfoeth Naturiol Cymru) yn cynnal gweithdy cyhoeddus yn Neuadd y Sir, Trefynwy rhwng 1.30pm i 4pm ddydd Gwener 8 Medi pan fydd staff o’r peirianwyr ymgynghori W S Atkins yn bresennol i drafod atal llifogydd yn yr ardal. Mae hon yn sesiwn galw heibio gyda te, coffi a bisgedi ar gael.

Mae’r astudiaeth yn cynnwys Trefynwy a’r cylch yn cynnwys Ynysgynwraidd, Dingestow, Castell Newydd a Threllech. Gofynnir i chi ddod draw a dweud wrthym os gwyddoch am ffyrdd yn yr ardal honno sy’n dueddol o brofi lifogydd. Bydd W S Atkins yn darparu mapiau a byddai’n ddiolchgar i dderbyn eich sylwadau. Maent yn awyddus iawn i gael gwybodaeth leol o ardaloedd mewn risg ac ardaloedd y gellid eu datblygu.

Edrychwn ymlaen at eich gweld, ond os na allwch fynychu byddem yn dal i hoffi i chi gyfrannu. Gallwch dagio lleoliadau ym mhorth mapio Trosiant Trefynwy

https://arcg.is/0KXfCz – yn cyfeirio at lifogydd, cyfleoedd ar gyfer atal dŵr llifogydd a chyfleoedd ar gyfer cynlluniau pwer dŵr. Gallwch hefyd anfon gwybodaeth drwy e-bost at vivienmitchell@yahoo.co.uk a Andy.Gill@atkinsglobal.com.

Bydd perfformiad cerddoriaeth uchel a byw yn Hyb Cymunedol Cas-gwent yn ddiweddarach y mis wrth hwn pan fydd y band hip hop a reggae Yam Jams yn darparu profiadau synhwyraidd therapiwtig ar gyfer pobl gydag anableddau. Bydd y gig rhwng 6.30pm a 8.30pm ddydd Iau 21 Medi yn cynnwys awyrgylch parti bywiog, rapio cyfranogol, rhannu offerynnau taro a dawnsio hygyrch, gan gynnig noswaith fythgofiadwy o hwyl y gall pawb ei mwynhau.

Bydd y digwyddiad yn hyrwyddo’r cynllun Lleoedd Diogel a sefydlwyd gan Pobl Sir Fynwy yn Gyntaf, grŵp hunan-eiriolaeth lleol ar gyfer pobl gydag anableddau. Cafodd y cynllun Lleoedd Diogel ei sefydlu mewn cysylltiad gyda siopau, sefydliadau a busnesau lleol ledled Sir Fynwy sy’n rhoi lle diogel i bobl gydag anableddau os ydynt angen cymorth pan fyddant yn y gymuned. Bydd safleoedd sy’n cymryd rhan yn dangos Lleoedd Diogel yn ffenestr y siop a bydd pob unigolyn sy’n cofrestru yn y cynllun yn derbyn ffob allwedd gyda’u henw ac enw cyswllt dibynadwy y gallant droi atyn.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Penny Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd: “Mae’r digwyddiad yn argoeli bod yn noswaith hwyliog gyda neges ddifrifol. Mae’r cynllun Lleoedd Diogel yn rhoi hyder i bobl gydag anableddau neu dementia i fynd allan, gan wybod y gallant wneud galwad ffôn, cael cyfarwyddiadau neu dderbyn help arall.”

Mae’r tocynnau ar gael gan Hybiau Cymunedol Cas-gwent a Chil-y-coed am £5 yr un, ac ni chodir tâl am ofalwyr a gweithwyr cefnogaeth. I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad, i archebu tocynnau neu drafod gofynion mynediad, cysylltwch â Fred Weston, Arweinydd Datblygu Llesiant Cymunedol Sir Fynwy ar 07890 559566 neu fredweston@monmouthshire.gov.uk

Gall ymwelwyr i’r cyngor sir a Phafiliwn Llesiant Sir Fynwy ei gyfeillion yn Sioe Brynbuga ddydd Sadwrn 9 Medi edrych ymlaen at gael eu diddanu a’u diddori. Bydd amrywiaeth o weithgareddau yn helpu i ddod â’r gymuned at ei gilydd yn ogystal â dathlu popeth sy’n wych am y sir.

Prif ffocws y pafiliwn yw cadw’n iach a chadw’n heini a bydd y dewis eang o weithgareddau yn apelio at bob oedran. Mae hyn yn cynnwys celf a chrefft, llwybr natur, peintio wynebau, gemau a chyfle i roi cynnig ar chwaraeon newydd. Gall ymwelwyr gael gwybodaeth am y llu o ffyrdd i wneud gwahaniaeth yn y gymuned, dysgu sgiliau newydd a chwrdd â ffrindiau newydd a bydd sefydliadau fel Gwirfoddoli ar gyfer Llesiant, Rhannu Bywydau a thîm maethu Sir Fynwy ar gael i drafod sut y gall newid bach wneud gwahaniaeth bach i fywyd rhywun.

Bydd cynrychiolwyr o brosiect Dewis Cymru Llywodraeth Cymru (https://www.dewis.cymru/) hefyd ar gael i rannu’r ffyrdd niferus y gall pobl gadw’n iach.

Bydd y perfformwyr lleol Silurian, Côr Menywod Allegra a Chôr Tenovus yn rhoi detholiad gwych o gerddoriaeth, a bydd dawnswyr bola Topaz Tribal yn diddanu yn ogystal â rhoi cynnig cyfle i’r gynulleidfa gymryd rhan!

Gall pobl flasu siocled Masnach Deg, gweld eitemau o amgueddfeydd Sir Fynwy a chymryd hunlun ‘allan o’r byd hwn’ yn yr ardal crefftau gofod neu gyda Huw, masgot Ambiwlans Awyr Cymru. Bydd hefyd gyfle i ymlacio a chymryd rhan yn y gweithgareddau a chael eu diddanu dros ddishgled o de a theisen yn ardal caffe Gwirfoddoli am Lesiant.

Bydd ardal ‘Cwrdd â’r Cyngor’ yn rhoi cyfle i ymwelwyr gwrdd â gwneuthurwyr penderfyniadau’r sir a thrafod pethau sy’n bwysig iddynt a hefyd glywed sut i gofrestru a rhannu gwybodateh gyda’r cyngor drwy ap Fy Sir Fynwy.

 I gael mwy o wybodaeth anfonwch e-bost at communications@monmouthshire.gov.uk neu gofnodi ar Facebook @MonmouthshireCC neu Twitter @MonmouthshireCC

 

Bydd Tyndyrn yn dathlu gyda’i ŵyl ei hunan y mis hwn pan fydd canolfan ymwelwyr Yr Hen Orsaf yn y pentref yn cynnal wythnos o adloniant o ddydd Llun 18 Medi a gynlluniwyd i apelio at ystod eang o bobl. Cynhelir pob digwyddiad ym mhabell y digwyddiad ar y lawnt o flaen y blwch signalau.

Bydd yr wythnos yn cychwyn gyda lansiad llyfr newydd gan Sally Nex, arbenigydd ar hunanddigonolrwydd, rhwng 2pm a 4pm ddydd Llun 18 Medi. Bydd Sally hefyd yn siarad am dyfu llysiau drwy’r flwyddyn. Y trannoeth bydd Justine Scouller, perchennog meithrinfa leol, yn trafod tyfu blodau ar gyfer trefniadau cartref. Bydd y tocynnau ar gyfer y ddau ddigwyddiad yn £5.

Ar y nos Fawrth (19 Medi) bydd Rosemary Hawthorne – a gaiff hefyd ei hadnabod fel The Kinicker Lady – yn cyflwyno hanes dillad isaf menywod yn ei harddull unigryw doniol a difyr iawn. Disgwylir y bydd tocynnau ar £12.50 yn gwerthu’n gyflym a bydd perfformiad cerddorol yn ystod yr egwyl.

Bydd sesiwn cerfio pren (cost £5) ddydd Mercher 20 Medi yn cynnig cyfle i’r rhai sy’n mynychu i greu eu blodyn eu hunain yn defnyddio amrywiaeth o offer. Gyda’r nos, bydd y ffotograffydd a’r awdur lleol David Lloyd yn cyflwyno sgwrs am ei lyfr gwobrwyol Spirit of the Rose ar sut i ddangos blodau ar ffilm. Dywedodd y seren deledu Alan Titchmarsh fod llyfr Lloyd yn cynnwys y ffotograffau gorau o rosod a welodd erioed.

Bydd ystafell te nodedig Yr Hen Orsaf yn darparu te hufen rhwng 3pm a 4pm brynhawn Iau (cost £5) gyda’r holl elw’n mynd tuag at y pum elusen a gefnogir yn ystod wythnos gŵyl Tyndyrn – S.A.R.A, Gofal Canser Macmillan, Cymdeithas Alzheimer, Mencap Cas-gwent a’r Apêl Fawr, Ysbyty Plant Bryste. Y gost yw £5 ac mae’n hanfodol archebu ymlaen llaw, fel ar gyfer yr holl ddigwyddiadau.

Cynhelir tro atgofion brynhawn Iau gyda’r ffi o £6 yn cael ei gyfrannu at Gymdeithas Alzmeimer. Fin nos bydd Theatr Ieuenctid Savoy yn perfformio ei sioe ei hunan dan y teitl Inspirational Toast. Mae mynediad drwy gyfraniad, a awgrymir ar £5 y person. Mae’r holl docynnau wedi eu gwerthu eisoes ar gyfer cinio comedi nos Wener yn seiliedig ar raglen comedi teledu boblogaidd Allo! Allo!

 Bydd bore Sadwrn prysur yn cynnwys sioe hud a lledrith ar gyfer plant gyda’r dewin Wizzo a dilynir hynny gan gyfle i gael golwg agos ar naded a madfallod. Y gost yw £3 y person a gall teulu o bedwar gael mynediad am ddim ond £10. Bydd gwasanaeth dathlu byr am 6pm cyn swper Diolchgarwch yn Eglwys Mihangel Sant a noson lawen gyda’r band lleol Life of Riley – tocynnau yn £10 yr un.

Yn olaf, ar y nos Sul (24 Medi) cynhelir noswaith gyda’r cyfryngau ysbrydol, The Spirit Sisters. Y gost yw £5.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Bob Greenland, aelod cabinet Sir Fynwy: “Mae lleoliad hudolus yr Hen Orsaf yn Nyffryn Gwy yn fan delfrydol ar gyfer y digwyddiadau sy’n rhan o ŵyl Tyndyrn. Mae’n rhwydd ei gyrraedd ac mae digonedd o leoedd parcio. Mae’r cyfuniad amrywiol o adloniant yn sicr o ddenu tyrfaoedd felly fy nghyngor yw archebu’n gynnar.”

Gellir prynu tocynnau ar gyfer pob digwyddiad ymlaen llaw o’r Hen Orsaf un ai drwy ffonio 01291 689566 neu drwy e-bost i dalu drwy drosglwyddiad banc. Bydd bar yn gweini cwrw lleol, diodydd meddal a gwin ar gael drwy gydol yr wythnos.

Mae manylion pellach y rhai sy’n cymryd rhan ar gael ar dudalen Facebook Yr Hen Orsaf –

https://www.facebook.com/oldstationtintern

  • Mae Gŵyl Tyndyrn yn bosibl oherwydd haelioni Cyfeillion yr Hen Orsaf Tyndyrn a’r prif noddwr Carriages Catering, gyda chefnogaeth garedig gan County Marquees.

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn cynnal archwiliad o gerrig beddau yn ei fynwent yn Heol Matharn, Cas-gwent yr hydref hwn. Mae’n ddyletswydd ar y cyngor i sicrhau diogelwch pobl sy’n ymweld â neu’n gweithio yn ei fynwentydd ac mae gwirio sefydlogrwydd cerrig beddau yn rhan bwysig o’r oblygiad hwnnw. Caiff y profion eu cynnal gan weithwyr wedi eu hyfforddi.

Caiff cerrig beddau sy’n methu’r prawf eu cefnogi gan stanc a band fel mesur tymor byr a bydd staff mynwentydd yn gosod hysbysiad yn dweud wrth aelodau teulu fod yn rhaid iddynt gael saer maen sydd wedi cofrestru ar gyfer gwaith cerrig beddau os dymunant ailgodi’r garreg. Os oes manylion cyswllt ar gael, bydd y cyngor hefyd yn ysgrifennu at deuluoedd yn dweud beth a wnaethpwyd a’r camau sydd angen iddynt eu cymryd. Caiff cerrig beddau na chaiff eu hail-godi o fewn chwe mis o fethu’r prawf eu suddo i draean eu dyfnder ar ben y bedd.

Mae’r Cyngor yn cydnabod y gall fod yn destun pryder i aelodau teulu pan ddywedir wrthynt fod carreg fedd yn anniogel ond mae’n gobeithio y bydd pawb yr effeithir arnynt yn deall mai’r brif egwyddor yw sicrhau diogelwch pobl sy’n ymweld â’r fynwent. Dylai unrhyw un sy’n bryderus am sefydlogrwydd carreg fedd neu sydd angen mwy o wybodaeth anfon e-bost at y Swyddog Mynwentydd – rhianjackson@monmouthshire.go.uk neu ffonio 01873 735852.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Murphy, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am fynwentydd: “Y gwaith yn Amgueddfa Cas-gwent yw cam nesaf ein rhaglen dreigl i sicrhau diogelwch cerrig beddau ym mynwentydd y sir. Dylai unrhyw un gyda phryderon gysylltu â ni a byddwn yn hapus i’w trafod. Mae’r gwaith yn debyg o ddechrau ym mis Hydref a chael ei orffen ym mis Tachwedd.”

Gallai busnesau yn Sir Fynwy a rhannau gwledig o Gasnewydd fanteisio o gynllun gwyrdd a gyllidwyd dan y rhaglen datblygu gwledig lleol.

Mae Grŵp Gweithredu Lleol Dyffryn Wysg wedi cyhoeddi cynllun grant newydd sy’n galluogi busnesau i brofi pwynt siarsio cerbydau trydan am ddim am flwyddyn. Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan y llywodraeth yn gwahardd gwerthiant pob cerbyd petrol a disel o 2040 a fydd yn sicr o gyflymu’r galw am gerbydau trydan

Caiff prosiect cyffrous newydd Fully Charged ei weithredu gan fudiad cymunedol lleol CIC Ynni Gwent fydd hefyd yn monitro defnydd. Caiff busnesau sy’n cymryd rhan yn y cynllun y dewis o brynu’r man siarsio yn rhatach.

Anelir y cynllun at safleoedd lletygarwch ac atyniadau twristiaeth yn ogystal â safleoedd y mae’r cyhoedd yn ymweld â nhw am oriau ar y tro. Gofynnir i fusnesau sydd â diddordeb e-bostio fullycharged@gwentenergycic.org neu edrych ar www.gwentenergycic.org erbyn dydd Llun 11 Medi.

Llongyfarchiadau i ddysgwyr ledled rhanbarth De Ddwyrain Cymru ar eu gwaith caled a’u llwyddiant ym mlwyddyn gyntaf y trefniadau diwygiedig ar gyfer arholiadau TGAU.

Dengys ein canlyniadau TGAU rhanbarthol darpariaethol:

  • Bod canran y disgyblion a sicrhaodd y trothwy Lefel 2 yn 52.1%. Mae mesur perfformiad Lefel 2 yn dangos y canran o ddisgyblion a enillodd o leiaf bum TGAU A*-C (neu gyfwerth), yn cynnwys Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.
  • Bod canran y disgyblion a enillodd o leiaf 5 TGAU A*/A (neu gyfwerth) yn 15.6%.

 

(Nid oes unrhyw ffigurau Cymru gyfan ar gael ar hyn ar hyn o bryd ar gyfer cymharu’r ffigurau uchod.)

 

  • Mae canran y disgyblion a enillodd TGAU Iaith Saesneg A* – C yn 61.5%. Mae hyn yn cymharu gyda chyfartaledd Cymru o 64.8%.
  • Mae canran y disgyblion a enillodd TGAU Iaith Gymraeg A* – C yn 66.9%. Mae hyn yn cymharu gyda chyfartaledd Cymru o 73.6%.
  • Mae canran y disgyblion a enillodd TGAU mathemateg A* – C yn 56.9%. Mae hyn yn cymharu gyda chyfartaledd Cymru o 60.0%.
  • Mae canran y disgyblion a enillodd TGAU rhifedd mathemateg A* – C yn 55.7%. Mae hyn yn cymharu gyda chyfartaledd Cymru o 58.5%.
  • Mae canran y disgyblion a enillodd TGAU gwyddoniaeth A* – C yn 52.7%. Mae hyn yn cymharu gyda chyfartaledd Cymru o 34.8%.

Mae’r ffigurau hyn yn seiliedig ar ganlyniadau a adroddwyd yn uniongyrchol gan ysgolion. Mae’r canlyniadau yn cynnwys pob disgybl yng nghohort blwyddyn 11, yn cynnwys y rhai a addysgwyd mewn man heblaw ysgol.

Ni allwn eleni roi cymhariaeth ystyrlon o ganlyniadau rhanbarthol neu awdurdod lleol gyda blynyddoedd blaenorol gan fod yr arholiadau diwygiedig yn canolbwyntio’n rhannol ar wahanol setiau sgiliau a gwybodaeth i flynyddoedd blaenorol. Er hyn, mae’r rhanbarth eisoes yn gweithio gydag ysgolion i olrhain perfformiad disgyblion unigol dros gyfnod fydd yn golygu bod arweinwyr ysgolion a’n hawdurdodau lleol mewn sefyllfa dda i fesur lle mae ysgolion yn sicrhau cynnydd da neu lle y gallant fod angen cefnogaeth ychwanegol.

Mae’r tueddiad rhanbarthol eleni wedi gweld mwy o amrywiaeth mewn canlyniadau. Dengys cyfathrebiadau gan y corff dyfarnu arholiadau a’r rheoleiddiwr drwy gydol y flwyddyn academaidd fod yr amrywiaeth i’w ddisgwyl. Fel mewn blynyddoedd blaenorol buom yn siarad gyda darparwyr ôl-16 i sicrhau nad oes unrhyw ddysgwr dan anfantais a’u bod yn cael llwybrau priodol yn dilyn canlyniadau.

Mae’r darlun yn Sir Fynwy yn un cadarnhaol gyda dysgwyr yr awdurdod yn perfformio’n dda mewn amrywiaeth o bynciau ac yn rhagori ar y lefelau uwch.

 

  • Mae canran disgyblion Sir Fynwy sy’n ennill y trothwy Lefel 2 yn cynnwys Saesneg a Mathemateg yn 66.1%. Mae hyn yn cymharu gyda 52.1% ar draws y rhanbarth.
  • Mae canran disgyblion Sir Fynwy sy’n ennill o leiaf 5 TGAU A*/A (neu gyfwerth) yn 24.2% o gymharu gyda sefyllfa’r rhanbarth o 15.6%.

 

(Nid oes unrhyw ffigurau Cymru ar gael ar gyfer cymharu’r ffigurau uchod ar hyn o bryd.)

 

  • Mae canran disgyblion Sir Fynwy sy’n ennill TGAU Iaith Saesneg A* – C yn 73.5%. Mae hyn yn cymharu gyda sefyllfa’r rhanbarth o 61.5% a chyfartaledd Cymru o 64.8%.
  • Mae canran disgyblion Sir Fynwy sy’n ennill TGAU mathemateg A* – C yn 68.8%. Mae hyn yn cymharu gyda’r sefyllfa ranbarthol o 56.9% a chyfartaledd Cymru o 60.0%.
  • Mae canran y disgyblion sy’n ennill TGAU rhifedd mathemateg A* – C yn 71.5%. Mae hyn yn cymharu gyda’r ffigur rhanbarthol o 55.7% a chyfartaledd Cymru o 58.5%.
  • Mae canran y disgyblion sy’n ennill TGAU gwyddoniaeth A* – C yn 69.5%. Mae hyn yn cymharu gyda’r sefyllfa ranbarthol o 52.7% a chyfartaledd Cymru o 34.8%.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Richard John, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am addysg:

“Mewn blwyddyn o newid a diwygio, mae’r canlyniadau TGAU hyn yn ein hatgoffa pa mor galed mae ein myfyrwyr yn gweithio i sicrhau fod ganddynt y cymwysterau maent eu hangen i symud ymlaen i’r camau nesaf yn eu bywydau. Ar draws y sir, mae pob un o’r pedair ysgol wedi sicrhau canlyniadau cryf mewn amrywiaeth o bynciau ac rwy’n neilltuol o falch i weld fod y canran y myfyrwyr a gafodd y graddau uchaf wedi cynyddu. Rwy’n sicr fod llawer o fyfyrwyr a rhieni balch heddiw. Fel bob amser, mae’n rhaid i ni gydnabod gwaith caled athrawon yn ein holl ysgolion a chefnogaeth teuluoedd a gofalwyr i’n plant.”

Ychwanegodd Will McLean, Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc:

“Rwy’n hynod falch i weld set gref o ganlyniadau ar draws Sir Fynwy. Mae’r newidiadau i arholiadau eleni wedi achosi heriau i’n myfyrwyr ond mae gwaith caled ac ymroddiad yr athrawon ar draws ein pedair ysgol wedi sicrhau y cafodd yr effaith ei liniaru. Mae llawer o ganlyniadau eithriadol yn ein holl ysgolion ac mae nifer y myfyrwyr sy’n gadael gyda pum TGAU ar A*/A ar ei lefel uchaf.”

Bydd ymgyrch newydd sy’n dangos sut mae band eang cyflym iawn yn newid bywydau pobl yn cael ei lansio heddiw (22 Awst) yn Sir Fynwy.

Nod ymgyrch Llywodraeth Cymru yw hyrwyddo band eang cyflym iawn i drigolion Fynwy er mwyn dangos ei fanteision ac annog mwy a mwy o drigolion y sir i’w ddefnyddio.

Gyda’r rhan fwyaf o bobl Sir Fynwy’n gallu cael gafael ar y gwasanaeth erbyn hyn, bydd yr ymgyrch yn dangos sut mae band eang cyflym iawn yn gweddnewid y ffordd mae pobl yn gweithio, yn dysgu ac yn cysylltu â’u teuluoedd a ffrindiau.

Mae band eang cyflym iawn yn galluogi sawl dyfais i weithio yr un pryd, gan ganiatáu pobl i ffrydio ffilmiau, lawrlwytho cerddoriaeth, astudio neu sgwrsio gyda’u hanwyliaid heb darfu ar y cysylltiad.

Bydd yr ymgyrch yn pwysleisio sut mae’r gwasanaeth yn trawsnewid y modd mae pobl yn byw ac yn gweithio o Fôn i Fynwy.

Bydd trefnwyr yr ymgyrch yn gweithio gyda llyfrgelloedd, ysgolion a chanolfannau cymunedol yn Sir Fynwy ac yn mynd i ganol Trefynwy ar y 1af o Fedi ac i Sioe Brynbuga ar y 9fed o Fedi i godi ymwybyddiaeth o fand eang cyflym iawn.

Er bod y rhan fwyaf o’r sir yn gallu cyrchu band eang cyflym iawn os ydyn nhw’n dymuno, dyw canran fach o safleoedd ddim yn gallu gwneud hynny. Mae cymorth ar gael iddyn nhw ar wefan Llywodraeth Cymru neu drwy ffonio tîm band eang Llywodraeth Cymru*.

Meddai Julie James, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru: “Mae band eang cyflym iawn yn hollbwysig i gartrefi, felly dyna pam rydyn ni’n ymrwymo i gyflwyno cysylltiad rhyngrwyd cyflymach ym mhob cwr o’r wlad. Mae gwella’n seilwaith digidol yn allweddol i lywio twf economaidd, cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a helpu pobl i gyfathrebu.

“Er bod y rhan fwyaf o gartrefi Fynwy yn gallu derbyn gwasanaeth band eang cyflym iawn, dyw llawer ddim yn ymwybodol o’r manteision na sut i elwa ar hynny. Mae cysylltiadau band eang cyflymach yn galluogi teuluoedd ac unigolion i wneud eu gweithgareddau’n gynt ac yn fwy effeithlon nag erioed o’r blaen, ac ar sawl dyfais hefyd. Mae hyn yn cynnwys lawrlwytho adnoddau dysgu mawr i’w plant, rheoli cyfrifon banc, siopa ar y we, talu biliau’r aelwyd neu ddefnyddio gwasanaethau fideo fel Skype – i enwi dim ond rhai.

“I weithwyr cartref, mae’r gwasanaeth yn golygu eu bod yn fwy effeithlon, yn hybu cynhyrchiant ac yn cyflawni i’r eithaf. Mae gallu cyfathrebu trwy gyfrwng system fideo-gynadledda HD neu Skype yn helpu cwmnïau i siarad â’u staff, cwsmeriaid a chyflenwyr unrhyw le yn y byd.

“Hefyd, mae band eang cyflym iawn yn eich cysylltu â gwasanaeth cyfrifiadura cwmwl fel cronfeydd data wrth gefn ar unwaith, sy’n golygu bod diogelwch ac uwchraddio’n haws nag erioed i ddefnyddwyr.

“Rydym am weld cymaint ag sy’n bosib o bobl yn gwireddu’r manteision hyn, a nod yr ymgyrch hon yw dangos sut mae’r dechnoleg yn effeithio ar filoedd o fywydau mewn cymunedau ar draws Cymru.

“Mae’r broses o gyflwyno band eang cyflym iawn yn parhau ledled Cymru, ac er bod y rhan fwyaf o safleoedd yn gallu’i dderbyn erbyn hyn, rwy’n gwybod am rai sy’n dal i ddisgwyl amdano neu’n ansicr a yw ar gael iddyn nhw. Mae cyngor a chymorth ar gael iddyn nhw hefyd.

Dylai cartrefi a busnesau Fynwy sy’n dymuno elwa ar fand eang ffeibr cyflym iawn gysylltu â’r darparwr gwasanaeth rhyngrwyd (ISP) o’u dewis i’w archebu.

*Ewch i www.llyw.cymru/bandeang i weld pa wasanaeth band eang sydd ar gael.

Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth i rai nad ydynt yn gallu derbyn band eang cyflym iawn eto, oherwydd efallai bod cymorth ar gael dan gynllun Allwedd Band Eang Cymru Llywodraeth Cymru, sy’n darparu arian grant i fanteisio ar gysylltiad band eang cyflym iawn trwy ddulliau eraill.

 

DIWEDD

Mae band eang cyflym iawn ar gael i’r rhan fwyaf o Fynwy diolch i gynllun Cyflymu Cymru – ffrwyth partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, BT, llywodraeth y DU a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Gyda 73% o’r prosiect bellach wedi’i gwblhau yn Fynwy, mae’r rhan fwyaf o berchnogion cartrefi a busnesau yn gallu cyrchu band eang cyflym iawn os ydyn nhw’n dymuno. Dylai perchnogion cartrefi a busnesau sydd am wybod pa wasanaeth band eang sydd ar gael fynd i www.llyw.cymru/bandeang. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth i rai nad ydynt wedi derbyn band eang cyflym iawn eto, oherwydd efallai bod cymorth ar gael trwy gynllun Allwedd Band Eang Cymru gan Lywodraeth Cymru.

Mae cynllun chwaraeon a gyflwynwyd gan y Cyngor y llynedd yn mynd o nerth i nerth ac mae Gemau Sir Fynwy bellach wedi hen ennill ei blwyf fel uchafbwynt y gwyliau ar gyfer pobl ifanc y sir. Yn ogystal ag ymarfer corfforol, mae’r manteision a gynigir yn cynnwys gwerthfawrogiad o waith tîm, bwyta’n iach ac effaith modelau rôl.

Cynhelir Gemau Sir Fynwy ym mhob un o bedair canolfan hamdden y sir yn ystod gwyliau’r ysgol ar gyfer plant 5 a 12 oed ac mae’r gweithgareddau’n canolbwyntio ar ddysgu sgiliau newydd, datblygu hyder, cwrdd â ffrindiau newydd ac, yn bwysicaf oll, gael hwyl tra’n cymryd rhan. Ymysg y 40 math o chwaraeon a gynigir mae nofio, pêl-droed, pêl rwyd, pêl-fasged, criced, hoci, rygbi, golff, rownderi a thenis. Mae staff wedi eu hyfforddi’n llawn yn goruchwylio’r cyfan gyda chymorth gwirfoddolwyr – yn aml fyfyrwyr addysg gorfforol yn dymuno cael profiad.

Mae dros 130 o blant yn cymryd rhan bob dydd yng nghanolfannau hamdden y sir ar gost o £16 y diwrnod (9am i 3pm) neu £19.50 (8am i 5pm). Mae disgowntiau ar gael ar gyfer brodyr a chwiorydd, plant sy’n cael prydau ysgol am ddim a rhieni sy’n archebu ddeg diwrnod ymlaen llaw. Mae tua 6,200 wedi mynychu’r rhaglen ers ei lansio yr hydref diwethaf.

Bu’r Cynghorwyr Bob Greenland a Maureen Powell mewn sesiwn yn y Fenni yn ddiweddar i weld gwerth Gemau Sir Fynwy drostynt eu hunain.

Dywedodd y Cynghorydd Greenland, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am hamdden: “Mae’r gwasanaeth a gynigir yn y pedair canolfan hamdden yn rhagorol a hoffwn ganmol y staff yn ogystal â’r gwirfoddolwyr. Mae Gemau Sir Fynwy yn rhaglen bwysig iawn yn y sir gan ei bod yn cyflwyno gweithgaredd ar gyfer plant a hefyd yn helpu wrth ddatblygu addysg a sgiliau bywyd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Powell: “Fel Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy rwy’n falch iawn fod ein canolfannau hamdden yn cyflwyno’r gwasanaeth gwych hwn yn ystod pob gwyliau ysgol yn ogystal â’r haf.”

Roedd Will McLean, Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc y cyngor ar yr ymweliad gyda’r Cynghorwyr Greenland a Powell. Dywedodd Will McLean: “Bydd y sgiliau a gaiff eu dysgu yng Nghemau Sir Fynwy yn helpu plant i ragori mewn chwaraeon a’u hagwedd yn eu galluogi i ddatblygu mewn meysydd eraill pan fyddant yn dychwelyd i’r ysgol ar gyfer tymor yr hydref.”

Derbyniodd Gemau Sir Fynwy yr haf hwn gyllid gan Gymdeithas Tai Sir Fynwy yn ogystal â chynghorau tref y Fenni a Chas-gwent i alluogi hyd yn oed fwy o blant i fynychu ac mae tîm hamdden y cyngor wedi mynegi ei diolch am y gefnogaeth. Mae’r sesiynau presennol yn rhedeg tan ddydd Gwener 25 Awst ond mae gemau pellach ar y gweill ar gyfer hanner tymor mis Hydref a gwyliau’r Nadolig.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn:  www.monmouthshire.gov.uk/things-to-do/monleisure/abergavenny-leisure-centre/childrens-activities-abergavenny-leisure-centre

Mae myfyrwyr lefel A ar draws Sir Fynwy yn dathlu canlyniadau ardderchog.

Yn ôl canlyniadau a gyhoeddwyd heddiw gan bob bwrdd arholiad, cafodd y nifer uchaf erioed o fyfyrwyr ym mhob un o’r pedair ysgol uwchradd (Ysgol Uwchradd Cil-y-coed, Ysgol Uwchradd Cas-gwent, Ysgol Harri VIII y Fenni ac Ysgol Uwchradd Trefynwy) ganlyniadau gwych gyda chyfradd pas y sir yn 98.8%. Cafodd nifer gynyddol o fyfyrwyr, 29%, y graddau uchaf o A*-A.

Bu cynnydd pellach yn nifer y myfyrwyr yn cyflawni trothwy Lefel 3 (dwy lefel A graddau A-E) i 100% – dyma’r tro cyntaf y cyflawnwyd hyn ar draws y sir.

Mae staff holl ysgolion uwchradd Sir Fynwy hyderus y bydd mwyafrif helaeth y myfyrwyr yn cael mynediad i’r cyrsiau a ddymunant.

Dywedodd y Cynghorydd Richard John, aelod cabinet Plant a Phobl Ifanc: “Mae’r canlyniadau hyn yn ddangosydd gwirioneddol o ba mor galed mae myfyrwyr, athrawon a phawb sy’n cefnogi dysgwyr yn ein hysgolion wedi gweithio. Mae’n rhaid i ni hefyd gydnabod y gefnogaeth a gaiff ein myfyrwyr gan eu rhieni a’u gofalwyr. Mae’r canlyniadau hyn yn rhoi cyfleoedd gwych i fyfyrwyr wrth iddynt ddechrau ar gam nesaf eu bywydau.”

Ychwanegodd Will McLean, Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc: “Rwy’n falch iawn gyda’r llwyddiant ym mhob un o’n pedair ysgol. Gwelsom rai canlyniadau unigol eithriadol ac unwaith eto mae canlyniadau Sir Fynwy yn cymharu’n ffafriol gyda chanlyniadau cenedlaethol a gwn y bydd ein hysgolion yn falch iawn gyda hyn. Gall ein hysgolion fod yn falch iawn o’r sylfeini maent wedi ei roi i fyfyrwyr i edrych i’r dyfodol a chyflawni eu huchelgais.”

Caiff myfyrwyr sy’n edrych am gyngor, beth bynnag eu canlyniadau, eu hannog i ymweld â gwefan Gyrfa Cymru ar: www.gyrfacymrucom/

Bydd yr awdur lleol Matt Johnson yn trafod ei waith diweddaraf Deadly Games yn Hyb Cymunedol Cas-gwent am 7pm ddydd Iau 17 Awst. Mae Deadly Game yn dilyn ei thriler Wicked Game, a fu ar frig y rhestr gwerthiant ac ar y rhestr fer am wobr John Creasey Dagger y Gymdeithas Awduron Nofelau Ditectif.

Gwsanaethodd Matt fel milwr a phlismon am 25 mlynedd. Roedd un o’r swyddogion cyntaf i gyrraedd safle bomio Regent’s Park yn 1982 ac roedd yn bresennol yn y saethu  yn 1984 ym Miwrô Pobl Libya a hebryngodd ei ffrind a’i gydweithwraig Yvonne Fletcher i’r ysbyty lle bu farw o’i hanafiadau. Cafodd ei chwythu oddi ar ei draed yn y bomio yn y Gyfnewidfa Baltig yn Llundain yn 1993 a maes o law bu’n dioddef o anafiadau cudd. Cafodd ei ryddhau o’r heddlu yn 1999 gydag anhwylder straen ôl-drawmatig.

Pan oedd yn cael triniaeth, cafodd ei annog gan ei gwnselydd i ysgrifennu am ei yrfa a’i brofiad o lofruddiaethau, saethu a therfysgaeth. Defnyddiodd Matt y deunydd craidd hwn i greu ffuglen ac mae’n dweud i hynny gael effaith gathartig enfawr ar ei gyflwr ei hun.

Bydd Matt yn gwerthu ac yn llofnodi copïau o’i lyfr diweddaraf yn y digwyddiad rhad ac am ddim hwn. Mae gwybodaeth bellach ar gael gan Hyb Cymunedol Cas-gwent ar 01291 635730.

Cafodd cynllun addysgol a gynlluniwyd i annog plant i ddarllen dros wyliau hir yr haf groeso brwd yn Sir Fynwy. Mae gwasanaethau llyfrgell ym mhob rhan o Brydain yn cyflwyno Her Darllen yr Haf ac er mwyn cymryd rhan dylai plant ddarllen chwe llyfr a mynychu hybiau cymunedol neu lyfrgelloedd y cyngor ar dri achlysur. Thema eleni yw anifeiliaid.

 Mae Her Darllen yr Haf yn hollol rad ac am ddim ac i gychwyn arni mae plant yn cofrestru ar gyfer ffolder i gynnwys y sticeri arbennig a dderbyniant wrth orffen pob llyfr. Gallant ddatrys y dirgelwch a achosir gan yr her unwaith y byddant wedi casglu’r holl sticeri.

Ymysg y gweithgareddau a drefnwyd yn y sir mewn cysylltiad gyda Her Darllen yr Haf mae sesiwn straeon a chrefftau dydd Iau yn Hyb Cymunedol Cas-gwent, pan fo hyd at ugain o blant yn mynychu gyda’u rhieni. Daeth Jenny Hunt o Gas-gwent â’i phlant James (5), Nadia (8) a Ted (9) draw i hyb Cas-gwent ddydd Iau diwethaf (3 Awst). Mae pob un o’r tri ar fin dechrau Her Darllen yr Haf ac yn hoff iawn o ddarllen. Mae Ted yn hoffi llyfrau C S Lewis ac mae Nadia’n hoff o Humphrey, y bochdew dosbarth gan Betty Birney,

Hefyd yn bresennol oedd Carys Pearce gyda’i mam Jessica o Dyndyrn. Mae’r ddwy yn mwynhau’r sesiynau darllen a chanu yn yr hyb cymunedol yn ogystal â’r ddarpariaeth cyn-ysgol. Dywedodd Carys (4) ei bod yn hoffi darllen am dywysogesau.

Roedd y sesiynau darllen, a arweinir gan Sallyanne Powell a Sarah Delahunty sy’n gweithio yn yr hyb cymunedol, yn cynnwys Hairy Maclary Lynley Dodd, The Dog who could Dig Jonathan Long, Dr Xargie’s Book of Earthhounds (Jeanne Willis a Tony Ross) a Smelly Bill Daniel Postgate. Yn ddiweddarach bu’r plant yn gwneud masgiau cŵn yn unol â thema anifeiliaid Her Darllen yr Haf.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Bob Greenland, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am hybiau cymunedol: “Gall darllen gael yr ail le yn ystod gwyliau hir yr haf os nad yw plant yn cael mynediad rheolaidd i lyfrau a chael eu hannog i ddarllen er pleser. Gall hyn achosi problemau i ysgolion yn y tymor newydd ond mae Her Darllen yr Haf yn uchafbwynt y gwyliau ar gyfer llawer y plant ac yn sicr o fod yn fuddiol os yw’n eu hysbrydoli i ymgolli mewn llyfr da. Mae Her Darllen yr Haf yn parhau tan 16 Medi felly mae digonedd o amser i gymryd rhan.”

Cynhyrchir Her Darllen yr Haf gan yr Asiantaeth Darllen ac fe’i cynhelir yn hybiau cymunedol a llyfrgelloedd y cyngor yn y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent, Gilwern, Trefynwy a Brynbuga. Mae mwy o wybodaeth ar gael o’r safleoedd hyn neu drwy gysylltu â:

FionaAshley@monmouthshire.gov.uk – ffôn 01633 644906.

Bydd yr awdur lleol Matt Johnson yn trafod ei waith diweddaraf Deadly Games yn Hyb Cymunedol Cas-gwent am 7pm ddydd Iau 17 Awst. Mae Deadly Game yn dilyn ei thriler Wicked Game, a fu ar frig y rhestr gwerthiant ac ar y rhestr fer am wobr John Creasey Dagger y Gymdeithas Awduron Nofelau Ditectif.

Gwsanaethodd Matt fel milwr a phlismon am 25 mlynedd. Roedd un o’r swyddogion cyntaf i gyrraedd safle bomio Regent’s Park yn 1982 ac roedd yn bresennol yn y saethu  yn 1984 ym Miwrô Pobl Libya a hebryngodd ei ffrind a’i gydweithwraig Yvonne Fletcher i’r ysbyty lle bu farw o’i hanafiadau. Cafodd ei chwythu oddi ar ei draed yn y bomio yn y Gyfnewidfa Baltig yn Llundain yn 1993 a maes o law bu’n dioddef o anafiadau cudd. Cafodd ei ryddhau o’r heddlu yn 1999 gydag anhwylder straen ôl-drawmatig.

Pan oedd yn cael triniaeth, cafodd ei annog gan ei gwnselydd i ysgrifennu am ei yrfa a’i brofiad o lofruddiaethau, saethu a therfysgaeth. Defnyddiodd Matt y deunydd craidd hwn i greu ffuglen ac mae’n dweud i hynny gael effaith gathartig enfawr ar ei gyflwr ei hun.

Bydd Matt yn gwerthu ac yn llofnodi copïau o’i lyfr diweddaraf yn y digwyddiad rhad ac am ddim hwn. Mae gwybodaeth bellach ar gael gan Hyb Cymunedol Cas-gwent ar 01291 635730.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cefnogi cynllun ac wedi cytuno ar gyllid i symud ymlaen i adeiladu pwll newydd 25 metr a chanolfan hamdden wedi’i ailwampio’n llwyr yn Nhrefynwy.

Yn ei gyfarfod yr wythnos ddiwethaf (dydd Iau, 27 Gorffennaf), cyflwynwyd pedwar opsiwn i’r cyngor i gyflenwi’r prosiect. Roedd tri yn debyg ond yn gwahaniaethu’n bennaf yn niwrnod cwblhau’r prosiect. Mae’r penderfyniad y cytunwyd arno yn rhagweld y bydd y ganolfan hamdden a’r pwll yn agor gyda’r oedi arfaethedig byrraf ar ddiwedd y flwyddyn nesaf.

Cafodd opsiwn i beidio darparu gofod arall yn lle neuadd chwaraeon bresennol ar gyfer disgyblion Ysgol Gyfun Trefynwy i gymryd arholiadau cyhoeddus tra bod y ganolfan hamdden a’r pwll yn cael eu hadeiladu ei wrthod yn unfrydol.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, Dirprwy Arweinydd y Cyngor gyda chyfrifoldeb am y prosiect: “Rwy’n falch iawn fod aelodau wedi cefnogi’r opsiwn yr oeddem yn ei ffafrio i ail-agor y pwll newydd a’r ganolfan hamdden yn y cyfnod byrraf posibl. Dim ond darparu pwll newydd oedd ar y gweill pan wnaethom ddechrau’r prosiect yma. Yn awr mae cynghorwyr wedi cefnogi ein cynlluniau i ddarparu pwll 25 metr fel yr addawyd. Wedi’i gynllunio i safonau’r Gymdeithas Nofio amatur, bydd yn addas ar gyfer galâu lleol gydag ardaloedd gweld gwell a mwy o gyfleusterau i bobl ifanc ddysgu nofio. Ond nawr byddwn yn rhoi llawer mwy na dim ond y pwll i Drefynwy. Bydd canolfan hamdden wedi ei hailwampio gyda’r cyfleusterau a’r offer diweddaraf. Yn amlwg, bydd hyn yn golygu cyfnod ail-adeiladu hirach na phan mai dim ond pwll newydd oedd dan ystyriaeth, ond rwy’n sicr y bydd yn werth aros amdano. Gyda’r ysgol newydd gyfagos, sy’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, mae’r buddsoddiad enfawr hwn o fwy na £50 miliwn yn Nhrefynwy yn dangos ymrwymiad y cyngor hwn i lesiant ein cenhedlaeth bresennol a hefyd genedlaethau’r dyfodol.”

Bydd y ganolfan newydd yn cynnwys mwy o ystafelloedd ffitrwydd a throelli, sba, cyrtiau sboncen, uned synhwyraidd arbennig ac ardal chwarae antur gyda chaffe cyfagos. Yn ychwanegol, caiff neuadd chwaraeon newydd o fewn yr ysgol newydd gyfagos ei rhannu gyda’r ysgol.

Mae Cyngor Sir Fynwy a Heddlu Gwent wedi cytuno argymell terfyn gyflymder diwygiedig ar hyd yr A48 o fewn pentref Pwllmeurig ger Cas-gwent. Yn ogystal â’r cyfyngiad arfaethedig i 30mya, mae’r cyngor a’r heddlu yn bwriadu monitro’r darn ffordd i benderfynu os gall fod angen camau pellach i sicrhau fod modurwyr yn cadw at y terfyn cyflymder.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am briffyrdd: “Bu traffig yn gyrru a diogelwch ffordd ym Mhwllmeurig yn broblemau ers amser maith o fewn y gymuned ac mae’r cyngor a Heddlu Gwent yn credu yr aiff terfyn 30mya ymhell i drafod y pryderon hyn, yn ogystal â rhoi amgylchedd ffordd mwy diogel. Bwriedir cyflwyno’r gorchymyn newydd ar gyfer terfyn 30mya gyda mân newidiadau yn unig i gyflawni gofynion cyfreithiol. Fodd bynnag, byddwn hefyd yn monitro’r sefyllfa a gall fod angen i ni ailedrych ar y sefyllfa ac ystyried mesurau pellach megis tawelu traffig.”

Caiff y terfyn cyflymder a argymhellir ei hysbysebu cyn hir i ganiatáu i’r ymgynghoriad fynd yn ei flaen ac mae’r cyngor yn rhagweld y cyflwynir y mesur newydd yn yr hydref, os caiff ei gytuno.

Ar lefel ehangach, mae grŵp gorchwyl a gorffen cynghorwyr wrthi’n edrych ar y ffordd orau i’r cyngor drin y nifer fawr o bryderon am ddiogelwch ffordd a godwyd gan breswylwyr ym mhob rhan o’r sir. Bydd y grŵp yn cyflwyno adroddiad terfynol ac argymhellion i’r aelod cabinet eu hystyried yn ddiweddarach yn eleni.

Yn y cyfamser, dylai preswylwyr Pwll Meurig sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli ar gyfer grŵp gofal cyflymder cymunedol ffonio’r cyngor ar 01633 644644 neu e-bost:

highways@monmouthshire.gov.uk

Ydych chi wedi cofrstru ar gyfer diweddariadau e-bost Fy Hysbys? A yw’ch manylion yn gyfredol? Os nad yw’ch cyfeiriad e-bost yn ddilys, ni ellir dosbarthu diweddariadau FyHysbys i chi.

Bwriadwn fynd ati yn y dyfodol agos i lanhau’r gronfa ddata, gan dynnu cyfrifon gyda chyfeiriadau e-bost annilys.

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn darparu amrywiaeth eang o weithgareddau i ddiddanu pobl ifanc drwy gydol gwyliau’r haf. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau chwarae, digwyddiadau chwaraeon a Her Darllen yr Haf a gynigir gan hybiau cymunedol y cyngor.

Unwaith eto, bydd pedair canolfan hamdden y sir yn rhedeg Gemau Sir Fynwy sy’n boblogaidd ar gyfer plant 5 i 12 oed. Mae’r gweithgareddau yn seiliedig ar ddysgu sgiliau newydd, datblygu hyder, cwrdd â phobl newydd ac, yn bwysicaf oll, gael hwyl tra’n cymryd rhan. Mae chwaraeon yn cynnwys nofio, pêl-droed, pêl-rwyd, pêl-fasged, criced, hoci, rygbi, golff, rownderi a thenis. Mae Gemau Sir Fynwy’n rhedeg rhwng dydd Llun 24 Gorffennaf a dydd Gwener 25 Awst a’r costau yw £16 y diwrnod (9am i 3pm) neu £19.50 (8am a 5pm). Mae disgowntiau ar gael. I gael mwy o wybodaeth each i www.monmouthshire.gov.uk/things-to-do/monleisure/abergavenny-leisure-centre/childrens-activities-abergavenny-leisure-centre

Cynhelir mwy o weithgareddau chwarae mewn chwe lleoliad cymunedol ledled y sir ar gyfer plant 5 i 11 oed. Mae’r rhain yn rhad ac am ddim, a chânt eu cyflwyno mewn partneriaeth gyda Chwarae Torfaen a’u hariannu gyda help cynghorau tref a chymuned.

Mae’r cynlluniau chwarae yn rhedeg rhwng dydd Llun 31 Gorffennaf a dydd Iau 24 Awst (dyddiau’r wythnos yn unig) yn y mannau dilynol:

  • Ysgol Gynradd Deri View, Y Fenni – 10am i 12 canol-dydd
  • Ysgol Gynradd Kymin View, Trefynwy – 1.30pm i 3.30pm
  • Canolfan Gymunedol Bulwark, Cas-gwent – 10am i 12 canol-dydd
  • Ysgol Gynradd Thornwell, Cas-gwent – 1pm i 3pm
  • Ysgol Gynradd Magwyr, Magwyr – 10am i 12 canol-dydd
  • Clwb Rygbi Cil-y-coed – 1pm i 3pm

Nid yw’n rhaid cofrestru ymlaen llaw ond gofynnir i rieni/gofalwyr ddod gyda’u plentyn ar y diwrnod cyntaf y maent yn mynychu a llenwi’r broses gofrestru gyda goruchwyliwr y safle. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â’r tîm Chwarae ar 01495 742951 neu e-bost: andrea.sysum@torfaen.gov.uk.

Mae tîm gwasanaeth ieuenctid Sir Fynwy yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau cyffrous – rhai’n rhad ac am ddim a rhai sydd angen talu amdanynt. Mae’r rhain yn amrywio o dripiau i’r Bathdy Brenhinol, yr ŵyl aml-chwaraeon yn Stadiwm Principality, Caerdydd a Parc Thema a Sw Chessington i bartïon gwn Nerf, barbeciws a thripiau gwersylla. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:

katiejones@monmouthshire.gov.uk neu 07827 880055 (Y Fenni)

philippajenkins@monmouthshire.gov.uk neu 07768 671651 (Trefynwy)

darrylwhite@monmouthshire.gov.uk neu 07990 788998 (Cil-y-coed a Chas-gwent).

Mae hybiau cymunedol a llyfrgelloedd Sir Fynwy yn galw ar blant i gofestru ar gyfer Her Darllen Haf blynyddol 2017. Mae’r Her Darllen Haf yn gofyn i rai 4 i 11 oed fenthyca a darllen unrhyw chwech llyfr llyfrgell yn ystod gwyliau’r haf, amser pan mae sgiliau llythrennol plant yn gostwng yn draddodiadol.

I gymryd rhan yn thema Asiantau Anifeiliaid eleni mae angen i blant fynd i’w hyb neu lyfrgell leol lle byddant yn derbyn ffolder casglu i gadw cofnod o’u taith ddysgu. Bydd plant sy’n darllen o leiaf chwe llyfr llyfrgell dros yr haf yn casglu sticeri i’w helpu i ddeall y cliwiau a helpu’r Asiantau Anifeiliaid i ganfod beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen tu ôl i’r llenni!

Lansiwyd Asiantau Anifeiliaid mewn llyfrgelloedd ar draws Sir Fynwy ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf ac mae’n rhedeg tan ddydd Sadwrn 16 Medi.

Mae Canolfan Hamdden y Fenni yn cynnal gweithgareddau i gynnwys merched 5 i 12 oed mewn chwaraeon. Mae rhaglen boblogaidd iawn Gall Genethod yn rhedeg bob dydd Gwener rhwng 28 Gorffennaf 1 Medi ac yn cynnig hoci, pêl-rwyd, pêl-droed, nofio, badminton, codi hwyl, caiacio a thenis. Y costau yw £16 y dydd (9am i 3pm) neu £20.90 (8am i 5pm).

Hefyd yng Nghanolfan Hamdden y Fenni mae dyddiau hyfforddi pêl-droed ar gyfer plant 5 i 11 oed a gaiff eu rhedeg gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd gyda hyfforddwyr gyda chymwysterau UEFA. Cynhelir y rhain rhwng 9am a 3pm ar 28 Gorffennaf, 11, 18 a 25 Awst. Mae diwrnod hyfforddiant ychwanegol ar y gweill ar gyfer rhai 12 i 16 oed ar ddydd Gwener 1 Medfi. Cost y dydd yw £18.

Mae mwy o wybodaeth am weithgareddau gwyliau ar gyfer plant ar gael o wefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd y cyngor: http://www.monfis.org.uk/

Mae Cyngor Sir Fynwy i gynnal archwiliad o gerrig beddau ym Mynwent Llanelli ger y Fenni yr hydref hwn. Mae’n ofyniad gan y cyngor i sicrhau fod diogelwch pobl sy’n ymweld neu’n gweithio yn ei fynwentydd ac yn gwirio sefydlogrwydd cerrig beddau yn rhan bwysig o’r oblygiad hwnnw. Caiff y profion eu cynnal gan staff wedi’u hyfforddi.

 Caiff cerrig beddau sy’n methu eu cefnogi gyda pholyn a band fel mesur tymor byr a bydd staff y fynwent yn rhoi hysbysiadau’n dweud wrth aelodau teulu bod yn rhaid iddynt gael gwasanaeth saer maen cofebau cofrestredig os dymunant ail-godi’r garreg. Os bydd manylion cyswllt ar gael, bydd y cyngor hefyd yn ysgrifennu at deuluoedd am y camau a gymerwyd a’r hyn sydd angen ei wneud. Caiff cerrig beddau na chaiff eu codi o fewn chwe mis o fethiant mewn prawf eu suddo i draean o’u dyfnder wrth ben y bedd.

 Mae’r cyngor yn cydnabod y gall aelodau teulu ddod yn bryderus pan ddywedir wrthynt nad yw carreg bedd yn ddiogel ond mae’n gobeithio y bydd pawb yr effeithir arnynt yn deall egwyddor bennaf i sicrhau diogelwch pobl sy’n ymweld â’r fynwent. Dylai unrhyw un sy’n bryderus am sefydlogrwydd carreg bedd neu sydd angen mwy o wybodaeth anfon e-bost at y Swyddog Mynwentydd – rhianjackson@monmouthshire.go.uk – neu ffonio 01873 735852.

 Dywedodd y Cynghorydd Phil Murphy, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am fynwentydd: “Y gwaith ym Mynwent Llanelli yw cam nesaf ein rhaglen dreigl i sicrhau diogelwch cerrig beddau ym mynwentydd y sir. Dylai unrhyw un gyda phryderon gysylltu â ni a byddwn yn hapus eu trafod. Mae’r gwaith yn debyg o ddechrau ym mis Medi a’i orffen y mis dilynol.”

 

Mae Cyngor Sir Fynwy yn ymateb i’r her a osodwyd gan Cymraeg 2050, targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn byw yn y wlad erbyn canol y ganrif. Ar hyn o bryd mae tua 560,000 o bobl yng Nghymru yn siarad yr iaith – bron 20% o’r boblogaeth.

Mae’r cyngor hefyd wedi gwneud camau cadarn i hyrwyddo’r iaith yn dilyn cyflwyno Mesur y Gymraeg (Cymru) yn 2011. Dyrannodd y ddeddfwriaeth hon 176 safon i’r cyngor ar gyfer cydymffurfiaeth, gyda’r mwyafrif i gael eu cwblhau erbyn 1 Ebrill 2016.

Mae’r cynnydd ers hynny wedi cynnwys:

  • Gwefan hollol ddwyieithog
  • Cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Facebook a Twitter y cyngor yn Gymraeg a Saesneg
  • Pob datganiad i’r wasg yn ddwyieithog
  • Gosodwyd llinell ffôn arbennig ar gyfer galwadau Cymraeg
  • Asesir fod dros 98% o’r swyddi gwag fel rhai lle byddai’r Gymraeg yn ddymunol
  • Bu’r Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn y Fenni ar wahoddiad y cyngor yn haf y llynedd yn llwyddiant enfawr gan ddenu dros 140,000 o ymwelwyr
  • Cynnydd enfawr yn nifer y bobl sydd eisiau dysgu Cymraeg; mae nifer y dysgwyr wedi mwy na dyblu o 225 yn 2016 i 467 eleni a nifer y dosbarthiadau wedi cynyddu o 19 i 47
  • Mynychodd 65 aelod o staff y cyngor ddosbarthiadau Cymraeg yn y gweithle.

Hefyd mae’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn sir Fynwy yn parhau i dyfu.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am y Gymraeg: “Mae hyrwyddo’r iaith a chydymffurfio gyda Safonau’r Gymraeg yn heriau enfawr, ac felly hefyd gynllun Cymraeg 2050 y Llywodraeth, ond mae’r cyngor yn gweithio’n galed i sicrhau llwyddiant. Mae mwy o bobl yn dangos bod galw am yr iaith yn ein rhoi mewn sefyllfa well i fodloni’r galw hwnnw.”

I gael mw o wybodaeth ar bolisi iaith Gymraeg Sir Fynwy cysylltwch ag Alan Burkitt, Swyddog Iaith Gymraeg – alanburkitt@monmouthshire.gov.uk

 

 

Gafodd ardal parc chwarae newydd Brynbuga ei agor yn swyddogol fel rhan o Basiant Tref Brynbuga ar 16 Gorffennaf. Cafodd Kay Peacock, sy’n byw ym Mrynbuga ac sy’n gwneud cymaint ar gyfer plant lleol yn cynnwys arwain ‘Gang Garddio’ Ysgol Gynradd Brynbuga a enillodd wobr Cymru yn ei Blodau ac sy’n aelod allweddol o’r clwb criced ei chymeradwyo wrth iddi dorri’r rhuban a phlant yn rhuthro’n gyffrous i’r parc. Mae’r ardal chwarae newydd yn cynnwys offer newydd cyffrous a byrddau picnic. Cyrhaeddodd Prosiect Parc Brynbuga ei darged codi arian, drwy godi dros £120k drwy nifer fawr o ddigwyddiadau ac ymdrechion grwpiau cymunedol, busnesau lleol, unigolion a sefydliadau hael, ynghyd â grant o £100k gan y Gronfa Loteri Fawr a wnaeth y prosiect yn bosibl.

Sefydlwyd Parc Prosiect Brynbuga gan grŵp o rieni Brynbuga a ddaeth ynghyd dair blynedd yn ôl i ddechrau codi arian i greu ardal chwarae newydd ar gyfer plant Brynbuga. Mae Prosiect Parc Brynbuga wedi cofrestru fel elusen gyda’r nod o ddarparu Ardal Genedlaethol gydag Offer Chwarae (NEAP) sy’n rhad ac am ddim, hygyrch, diogel a chroesawgar i bawb ei mwynhau. Fe wnaeth yr elusen ymgynghori’n helaeth gyda theuluoedd Brynbuga, yna bu’n gweithio gyda Chyngor Sir Fynwy i gynllunio ac adeiladu ardal chwarae newydd yn agos at Neuadd y Mileniwm a Neuadd Canmlwyddiant Brynbuga. Mae Cyngor Sir Fynwy yn cefnogi’r grŵp drwy roi’r tir, gosod yr offer, gweinyddu’r cyllid a chymryd cyfrifoldeb am yr ased a chynnal a chadw parhaus.

Dywedodd Naomi Horsley, Cadeirydd Prosiect Parc Brynbuga “Mae mor gyffrous gweld ein parc chwarae newydd hardd ar agor. Bu’n dair blynedd o waith caled ond mae gweld y cyffro a’r gwenau ar wynebau’r plant a’r hwyl a gânt wedi’i wneud yn gymaint o werth chweil. Bydd y genhedlaeth hon a’r genhedlaeth nesaf yn mwynhau’r lle rhyfeddol, hwyliog a chynhwysol yma lle gall plant fwynhau diwrnod hwyliog hudolus gyda’u teuluoedd. Ar ôl tair blynedd o godi arian a chynllunio, mae hyn yn wirioneddol yn gamp wych i bawb yng nghymuned Brynbuga, Cyngor Sir Fynwy a’r Loteri Fawr, sydd wedi cymryd rhan. Mae’n fendigedig gweld sut y cafodd cynlluniau ein plant em sut le fyddai eu parc delfrydol yn awr wedi ei wireddu.”

Gan danlinellu pwysigrwydd y rhaglen Pawb a’i Le, dywedodd Rona Aldrich, Aelod Pwyllgor Cymru ar ran y Gronfa Loteri Fawr, “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le’n gwneud gwahaniaeth i fywydau cynifer o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru.”

Ychwanegodd y Cyng Bryan Jones, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am barciau “Mae hon yn enghraifft wych o sut mae cymunedau Sir Fynwy yn cydweithio i’w wneud yn lle gwell byth i fyw. Bydd yr haf hwn yn wirioneddol arbennig ym Mrynbuga. Byddwn yn annog teuluoedd lleoedd i ddod i’r dref hardd hon i fwynhau’r parc a galw heibio siopau, caffes, bwytai a thafarndai hyfryd Brynbuga.”

Meddai Kay Peacock: “Roeddwn ar ben fy nigon pan ofynnwyd i mi agor y parc gwych hwn, aeth llawer o waith caled i godi arian. Bydd y plant yma wirioneddol yn gwerthfawrogi’r parc y maent wedi’i gynllunio. Mae’r pwyllgor yn grŵp rhyfeddol o rieni, i fod wedi troi’r ardal yma’n lle mwy deniadol i chwarae ynddo mewn tair blynedd – da iawn bawb.”

Roedd nos Wener yn noson wych yng Nghastell Cil-y-coed. Perfformiodd y band gwerin indi Rusty Shackle i’w gig fwyaf erioed yn eu tref gartref tu mewn i waliau hardd Castell Cil-y-coed. Cafodd y dyrfa lleol eu gwefreiddio gan berfformiad egni uchel rhyfeddol a pharhaodd naws gŵyl wrth i lawer o bobl wersylla yn y parc gwledig bendigedig ar ôl y gig.

Aelodau’r grŵp chwe dyn yw Liam Collins, Baz Barwick, Owen Emmanuel, Ryan Williams a’r brodyr Scott a James McKeon. Maent yn cyfuno gitarau, ffidil, banjo, bas, mandola, trymped, gitâr tenor a harmonïau lleisiol tyn i greu sain unigryw iddynt hwy ac un sy’n eich llenwi’n syth gydag emosiwn.

Roedd awyrgylch wych gan fod llawer o’r gynulleidfa wedi dilyn y band o’u dyddiau cynnar yn tyfu lan yng Nghil-y-coed a’r cylch. Roedd yr ymateb yn wych i’r alawon hoff a ysbrydolwyd gan gyfuniad o ganu gwerin, roc a Cheltaidd.

Roedd gwenau’r gynulleidfa yn amlwg iawn wrth iddynt edrych ar y bechgyn lleol yn chwarae o flaen eu tyrfa fwyaf erioed ond eto yng nghanol eu tref enedigol.

Ymunodd gwesteion arbennig The Apple Tree Theory a Siôn Russell Jones â Rusty Shackle.

Dywedodd Scott McKeon o Rusty Shackle:

“Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i deithio a chwarae yn rhai o’r safleoedd a gwyliau mwyaf eiconig ar draws Prydain. Ond mae’r gig enfawr yma yn ein tref ein hunain yn teimlo fel carreg filltir fawr ac yn neilltuol o deimladwy i ni. Mae’n dangos i ni yn union faint y mae Cil-y-coed wedi’n cefnogi ar ein taith.”

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am arloesedd, menter a hamdden: “Mae heno wedi dangos Sir Fynwy ar ei gorau – bandiau lleol gwych, wedi’u geni a’u magu yn y sir, gyda thyrfa leol yn eu cefnogi ym Mharc Gwledig bendigedig Castell Cil-y-coed. Mae hyn yn cadarnhau ein cred am Sir Fynwy – mae’n fwy na’r lle, mae’n ymwneud â’r bobl.’

Cafodd 15,000 o ddilynwyr pybyr eu hudo gan y sêr pop Little Mix yng Nghastell Cil-y-coed neithiwr.

Perfformiodd grŵp merched mwyaf poblogaidd y byd gân boblogaidd ar ôl cân boblogaidd i gynulleidfa lawn i’r ymylon tu mewn i barc gwledig hardd y castell.

Yn enwog am eu brand unigryw o alawon pop bachog, cyflwynodd Little Mix berfformiad gwych yn llawen egni ac angerdd.

Nid yw pedair aelod y grŵp sef Perrie Edwards, Jesy Nelson, Leigh-Anne Pinnock a Jade Thirlwall wedi edrych yn ôl ers ennill yr X Factor yn 2011 ac maent wedi sicrhau enw i’w hunain am eu sioeau egnïol a difyr. Yn sir ni wnaethant siomi neithiwr.

Gyda gwesteion arbennig Sheppard a Louisa Johnson yn cynhesu’r dorf, cyflwynodd Little Mix berfformiad bythgofiadwy gyda harmonïau gwych a symudiadau dawns clyfar.

Mae’r grŵp yn teithio o amgylch Prydain ar hyn o bryd gyda’u sioeau Summer Shout Out ac roedd perfformiad neithiwr yn bendant yn cyflawni’r teitl, gyda miloedd o’r dyrfa yn cyd-ganu eu hoff ganeuon.

Dywedodd yr aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am arloesedd, menter a hamdden, y Cynghorydd Bob Greenland: “Nid ydych yn cael cyfle i weld grwpiau fel Little Mix yn perfformio mewn amgylchiadau mor odidog yn aml ac rwyf wrth fy modd gyda’r ffordd y gwnaethant fwynhau perfformio yn un o safleoedd mwyaf eiconig Cymru.

“Mae diddanu yn amlwg yn eu DNA ac, yn ôl eu perfformiad heno, mae’n amlwg fod dyfodol disglair o’u blaenau.

“Y sioe ysblennydd hon oedd y ddiweddaraf yn ein rhaglen gyhoeddus amrywiol a deinamig o ddigwyddiadau yma yng Nghastell Cil-y-coed.

“Rydym eisiau arwain y ffordd mewn cynnal digwyddiadau celf a diwylliant cyfoes yn ne ddwyrain Cymru ac nid oes dim byd yn fwy o arwydd o’r bwriad hwn na chroesawu un o grwpiau pop y byd.”

Perfformiad Little Mix oedd y cyntaf o bedair wythnos o berfformiadau byw yn y lleoliad eiconig, gyda Rusty Shackle, Ocean Colour Schene ac Only Men Aloud yn cynnal sioeau rhwng nawr a dydd Sul.

I gael mwy o wybodaeth ewch i visitmonmouthshire.gov.uk

Bu Ocean Colour Scene, un o grwpiau amlycaf Britpop, yn canu eu caneuon tu mewn muriau llawr awyrgylch castell Cil-y-coed ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf 2017. Bu’r band roc indi, sy’n enwog am ganeuon fel The Day We Caught the Train a The Circle, yn canu hen ffefrynnau a chaneuon newydd i dyrfa gefnogol mewn safle gwirioneddol ryfeddol.

Ar ôl blwyddyn brysur iawn yn teithio’r byd yn 2016 yn dathlu 20fed pen-blwydd yr albwm enwog Moseley Shoals, daeth Ocean Colour Scene i weld eu ffans cartref yn Sir Fynwy.

Mwynhaodd y gynulleidfa yr holl ganeuon o’r albwm eiconig yn cynnwys The Riverboat Song a ddaeth i enwogrwydd ar raglen TFI Friday Chris Evans a dod yn sain y 90au ar gyfer y genhedlaeth Britpop.

Bu llawer o bobl yn ail-fyw eu profiadau o wyliau’r 90au a chodi pebyll yng ngerddi’r Castell. Roedd yn ffordd berffaith i bobl leol a hefyd rai a ddaeth ymhell i weld y band i fwynhau’r gig.

Roedd dawnsio yng ngolau’r lleuad i seiniau Toploader a Space, grŵp arall Britpop amlwg iawn, a ymunodd â’r band am brofiad hudolus o fewn muriau’r castell hanesyddol.

Dywedodd Bob Greenland, aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am arloesedd, menter a hamdden: “Bu hwn yn benllanw wythnos wych o ddigwyddiadau yng Nghastell Cil-y-coed. Mae’n wych gweld cynifer o fandiau a’u ffans yn dod i’r sir. Rydym yn lwcus iawn i gael gofod mor hyblyg i alluogi pobl o bob oed i brofi cerddoriaeth fyw. Rwy’n edrych ymlaen at lawer mwy o ddigwyddiadau.’

Bydd Little Mix, grŵp merched mwyaf poblogaidd y byd, yn dychwelyd i Gymru yr haf hwn ar gyfer sioe awyr agored yng Nghastell Cil-y-coed fel rhan o gyfres sioeau Summer Shout Out y grŵp.

Aiff y band, sy’n cynnwys cyn ymgeiswyr X-Factor Perrie Edwards, Jesy Nelson, Leigh-Anne Pinnock a Jade Thirwal, ar y llwyfan ym mharc gwledig hardd y castell ddydd Iau 13 Gorffennaf.

Mae grwpiau pop fel Little Mix yn brin. Gyda phob albwm newydd yn well ac yn fwy beiddgar na’r un o’i blaen, maent yn deall cerddoriaeth pop i’r dim a sut i gysylltu gyda’u dilynwyr angerddol a theyrngar.

Bu 2016 yn flwyddyn anhygoel i’r band gyda sengl rhif 1 enfawr arall ‘Shout Out To My Ex’ a’u halbwm ‘Glory Days’ yn mynd yn syth i Rif 1 yn y Siart Albymau Swyddogol. Treuliodd y record gyfanswm o bedair wythnos ar y brig a dyma’r albwm a werthodd gyflymaf yn siartiau Prydain gan grŵp merched ers albwm Survivor gan Destiny’s Child yn 2001. Dyma hefyd yr albwm rhif 1 a fu ar y brig am y cyfnod hiraf gan grŵp merched yn y mileniwm hwn.

Yn yr haf bydd Little Mix yn perfformio eu caneuon mwyaf poblogaidd yn cynnwys ‘Shout Out to My Ex, ‘Move’ a ‘Touch’ ynghyd â chaneuon o’u halbwm newydd ‘Glory Days’ yn y catel.

Mae enwau’r gwesteion arbennig i’w cyhoeddi.

Mae tocynnau yn £38.50 yr un, yn cynnwys ffioedd, ac ar gael o 9am ddydd Iau 19 Ionawr yng nghanolfannau hamdden Sir Fynwy, ar-lein yn

www.caldicotcastle.co.uk neu o’r swyddfa docynnau 029 2022 4488.  Mae tocynnau Cylch Aur hefyd ar gael ar £60.50 yr un, yn cynnwys ffioedd, ar-lein neu o’r swyddfa docynnau.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am arloesedd, menter a hamdden: “Rwyf wrth fy modd y byddwn yn cynnal cyngerdd gwych arall gydag artistiaid safon byd ym mharc gwledig hardd Castell Cil-y-coed yn ystod yr haf. Edrychwn ymlaen at groesawu miloedd o ymwelwyr, yn ogystal â phobl leol, o bob oed i Sir Fynwy eto.”

Ychwanegodd Dan Davies, sy’n gyfrifol am ddigwyddiadau Sir Fynwy: “Mae hyn yn gyffrous iawn ac edrychwn ymlaen at gynnal cyngerdd gwych. Mae gennym safleoedd anhygoel yn y sir i’w dangos.”

Mae gwybodaeth lawn am y digwyddiad ar gael yn  www.caldicotcastle.co.uk

Gallai darpar entrepreneuriaid yn Sir Fynwy sy’n ystyried sefydlu eu busnes eu hunain fanteisio o weithdai am ddim ar ddechrau busnes newydd y mis hwn.

Mewn partneriaeth gyda gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnal cyfres o weithdai newydd gyda’r nod o roi’r wybodaeth i gynrychiolwyr i ddatblygu eu syniadau ymhellach a’u llywio at wneud eu busnes yn llwyddiant.

Wedi’i gyflwyno gan gynghorwyr profiadol, nod y gweithdai yn Nhrefynwy a Chasnewydd yw rhoi gwybodaeth fanwl, datblygu sgiliau ymarferol ac annog hyder ymysg darpar entrepreneuriaid yng Nghymru ar ddechrau eu taith fusnes. Bydd y gweithdai yn eu helpu i asesu eu sgiliau personol ac yn cynnwys amrywiaeth o bynciau yn cynnwys prisio, marchnata, canfod cyllid, materion cyfreithiol, cynllunio ariannol a chynllunio busnes.

Cynhelir gweithdai yn Hyb Cymunedol Trefynwy (Stryd Whitecross) a swyddfa Business in Focus yng Nghasnewydd (89 Lower Dock St) fel sy’n dilyn:

Cychwyn busnes: Mentro arni: 9.30am i 4pm

Casnewydd – Dydd Llun 17 Gorffennaf

Trefynwy – Dydd Mercher 26 Gorffennaf

Gellir archebu lleoedd yn y gweithdy ar: https://wales.business-events.org.uk/ neu ffonio 01656 868500.

Dywedodd David apjohn-Williams, Rheolwr Rhanbarthol De Cymru ar ran Busnes Cymru: “Rhan o’n strategaeth yn Busnes Cymru yw annog a chefnogi busnesau newydd a chreu swyddi ledled Cymru. Credwn fod ein gweithdai yn rhoi cyfle gwych i entrepreneuriaid yn Sir Fynwy i sicrhau dealltwriaeth o’r egwyddorion allweddol a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gychwyn eu busnes eu hunain.

“Rydym yn wirioneddol hapus i gyflwyno’r gweithdai hyn yr ardal ac annog pawb sydd eisiau trafod eu syniad busnes ymhellach neu, yn wir, eu hofnau a’u heriau, i ddod draw.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Bob Greenland, Aelod Cabinet Menter yng Nghyngor Sir Fynwy: “Mae cefnogi busnesau a chreu swyddi yn un o flaenoriaethau’r cyngor felly rydym yn hynod falch i argymhell y gweithdai defnyddiol hyn i unrhyw un sy’n anelu sefydlu eu busnes eu hunain yn y sir.”

Mae Busnes Cymru, a gyllidir drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, yn cefnogi twf cynaliadwy busnesau bach a chanolig ar draws y wlad drwy gynnig mynediad i wybodaeth, arweiniad a chymorth busnes.

I ganfod sut y gall Busnes Cymru helpu i gychwyn neu ddatblygu eich busnes, ffoniwch 0300 060 3000, dilyn @_busnescymru  neu @_businesswales neu edrych ar www.busnescymru.llyw.cymru/ neu www.businesswales.gov.wales/ i gael mwy o wybodaeth.

Mae digwyddiad seiclo Velothon Cymru ddydd Sul 9 Gorffennaf yn argoeli bod yn gyfle ardderchog i breswylwyr Sir Fynwy weld 10,000 o seiclwyr yn croesi’r sir. Gyda nifer o fusnesau arlwyo lleol yn agor yn gynnar, bydd hefyd yn gyfle gwych i bobl fanteisio i’r eithaf ar y bore tra’n mwynhau brecwast swmpus. Er enghraifft, bydd tafarn y Nags Head, Sgwâr Twyn, Brynbuga yn gweini coffi a theisennau, bydd gwesty’r Three Salmons ar agor am ei frecwast adnabyddus a bydd y Castle Inn, Green Flute Café a siop goffi Blossoms i gyd ar agor o 10am – dechrau gwych i’r dydd tra bydd y seiclwyr sy’n mynd heibio’n llyncu’r milltiroedd. Bydd y New Court Inn a Hall Inn hefyd ar agor am ginio hyfryd.

Dylai preswylwyr sy’n dymuno edrych ar y digwyddiad nodi’r amserau allweddol y bydd seiclwyr yn dechrau cyrraedd yn Sir Fynwy:

o   Magwyr: Disgwylir y seiclwyr amatur 140km cyntaf am 7:58am

o   Brynbuga: Disgwylir y seiclwyr amatur 140km cyntaf am 8:40am

o   Nant-y-Deri: Disgwylir y seiclwyr amatur 140km cyntaf am 8:55am

o   Llan-ffwyst: Disgwylir y seiclwyr amatur 140km cyntaf am 9:07am

o   Copa’r Tymbl: Disgwylir y seiclwyr amatur 140km cyntaf am 9:17am

o   Felinfach: Disgwylir y seiclwyr amatur 110km cyntaf am 10:14am

Dywedodd y Cyng Bob Greenland, aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am hamdden: “Hon yw’r drydedd flwyddyn i ni groesawu seiclwyr i hyfrydwch Sir Fynwy. Bu’n wych gweld cynifer o ymwelwyr yn ymchwilio ein sir wrth hyfforddi ar gyfer yr achlysur a byddwn yn annog preswylwyr i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle gwych hwn i weld y digwyddiad hynod yma ar garreg ein drws. Bu hefyd yn wych gweld creadigrwydd ac ysbryd ein preswylwyr ym Mrynbuga – y strydoedd, siopau, caffes, tafarndai a busnesau yma’n edrych yn hardd gyda beiciau mewn crochet, wedi’u peintio a gyda thema yn ategu arddangosiadau blodau Brynbuga.”

Mae tîm gwastraff ac ailgylchu’r cyngor sir wedi cyfrannu hen feiciau i’r gymuned leol i gael eu haddurno a’u dangos o amgylch y dref i ddathlu cyrhaeddiad Velothon. Cafodd llawer gartrefi newydd ar reiliau, tu allan i siopau, tai, adeiladau dinesig a thafarndai, mewn parciau ac wrth y mynedfeydd i’r dref.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: “Rwy’n falch iawn fod pobl Sir Fynwy yn croesawu ac yn dathlu cyrhaeddiad y Velothon mewn ffyrdd mor amrywiol a chreadigol. Mae’n sicr y bydd y croeso yma yn gwneud argraff ar y seiclwyr ac yn eu sbarduno ac yn creu awyrgylch gwych i bobl leol yn ystod y digwyddiad. Mae cynulleidfaoedd yng Nghymru fel arfer yn rhoi croeso cynnes Cymreig i gystadleuwyr lleol a rhai sy’n dod ymhellach i ffwrdd a gallant ychwanegu awyrgylch gwych, ac rydym yn edrych ymlaen at Velothon Cymru rhagorol eleni.”

 

Ychwanegodd y Cyng Isobel Brown, Cyngor Tref Brynbuga: “Mae Cyngor Tref Brynbuga wrth ei bodd gyda’r ffordd y mae Ysgol Gynradd Brynbuga, preswylwyr a busnesau wedi cefnogi’r cynllun yma i groesawu seiclwyr Velothon 2017 a’n neges i ‘Seiclo Brynbuga!’ Rydym eisiau iddynt wybod fod Brynbuga yn gyrchfan seiclo wych drwy’r flwyddyn gydag amrywiaeth o lwybrau seiclo gwych yn addas ar gyfer pob lefel a gallu o fewn cyrraedd rhwydd i’r dref. Mae gennym hefyd ddewis gwych o westai, tafarndai a siopau coffi ar gyfer seiclwyr sydd eisiau llety neu alw heibio ar eu ffordd. Rydym i gyd yn edrych ymlaen a byddwn ar y strydoedd i gyfarch y Velothon ar 9 Gorffennaf.”

I gael gwybodaeth i breswylwyr a manylion llawn cau ffyrdd cysylltwch â:

Velothon Cymru eleni fu’r orau eto yn Sir Fynwy gyda phobl leol yn cymryd rhan, gwirfoddoli a chymeradwyo seiclwyr wrth iddynt deithio drwy’r sir hardd.

Roedd y gefnogaeth ym Mrynbuga a Goetre, er enghraifft yn rhyfeddol gyda phobl leol yn cynnal partïon stryd gyda’u cymdogion ac yn crwydro i dafarndai a chaffes. Roedd yn wych gweld cynifer o bobl yn cymeradwyo, chwarae cerddoriaeth ac yn cyhwfan baneri i gefnogi’r 9,000 o seiclwyr yn mwynhau cefn gwlad Sir Fynwy. Gwirfoddolodd preswylwyr yn yr orsaf fwydo ym Mrynbuga i gefnogi seiclwyr gyda snaciau a dŵr. Roedd y dref yn edrych yn wych wedi’u haddurno gyda beiciau addurnedig lliwgar ac arddangosiadau blodau hardd.

Cafodd ffyrdd eu cau mewn trefn ar gyfer y digwyddiad pro eleni gan olygu fod ffyrdd y sir am gau am gyfnod byrrach i leihau ymyriad ar breswylwyr.

Dywedodd y Cyng Bob Greenland, aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am hamdden: “Hoffwn ddiolch i holl breswylwyr a staff Sir Fynwy a fu’n ymwneud gyda’r Velothon eleni. Roedd yr awyrgylch yn y sir yn syfrdanol gyda phobl yn cymeradwyo, cyhwfan baneri, dangos baneri wedi’u haddurno a baneri – am ffordd wych i annog mwy o bobl i fynd ar eu beiciau. Mae Sir Fynwy yn rhagorol wrth groesawu a chynnal digwyddiadau mawr ac edrychaf ymlaen at fwy o ddigwyddiadau chwaraeon i ddathlu popeth sydd gan Sir Fynwy i’w gynnig yn y dyfodol.”

Mae swyddog safonau masnach blaenllaw yn Sir Fynwy wedi cael cydnabyddiaeth am gyfraniad rhagorol i’r Sefydliad Siartredig Safonau Masnach (CTSI) a’i gynhadledd flynyddol. Cyflwynwyd y wobr i Gareth Walters gan Peter McVeigh, rheolwr gyfarwyddwr y noddwr Status International yng nghynhadledd flynyddol CTSI, a gynhaliwyd eleni yn Harrogate.

Enillodd Gareth y wobr am ei waith gwirfoddol yn helpu rhedeg cynhadledd flynyddol Materion Defnyddwyr a Safonau Masnach y CTSI, yn defnyddio ei amser ei hun gyda chefnogaeth y cyngor, wrth ochr ei rôl broffesiynol yn y maes safonau masnach, i weithredu fel rheolwr blaen tŷ. Mae’r gynhadledd, un o’r fwyaf o’r fath yn Ewrop, yn darparu datblygiad proffesiynol a datblygiad parhaus i swyddogion safonau masnach o bob rhan o Brydain drwy nifer fawr o weithdai a sesiynau llawn yn trin diogelu defnyddwyr a chanllawiau busnes.

Mae Gareth wedi delio gyda nifer fawr o siaradwyr adnabyddus ers iddo ddechrau fel gwirfoddolwr ar ddechrau’r mileniwm, rôl a gyflawnodd bob blwyddyn ers hynny. Maent wedi cynnwys gweinidogion y llywodraeth a phrif weithredwyr corfforaethau cenedlaethol. Mae hefyd wedi bod yng ngofal cynnal Gwobrau Arwr – gwobrau a gyflwynir i ddefnyddwyr sydd wedi gweithio gyda’r gwasanaeth safonau masnach i ddadlennu masnachwyr twyllodrus a helpu gyda diogelu defnyddwyr.

Dywedodd Leon Livermore, prif weithredwr y Sefydliad Siartredig Safonau Masnach: “Bu Gareth yn wych, gan ddod â holl awdurdod ei waith fel swyddog safonau masnach i fod yn rheolwr blaen tŷ. Mae rhedeg y gynhadledd hon yn llyfn, sy’n rhoi datblygiad proffesiynol a phersonol parhaus i swyddogion safonau masnach o bob rhan o Brydain drwy weithdai a sesiynau llawn, yn cael budd enfawr drwy amser hael a gwirfoddol aelodau’r CTSI fel Gareth. Rwy’n hynod falch fod ein prif noddwr, Status International, wedi creu’r wobr newydd yma am ei gyfraniad i’r CTSI a’r gynhadledd.”

Mae tîm hamdden Cyngor Sir Fynwy yn cynnig hyrwyddiad aelodaeth arbennig yn rhoi’r allwedd i ffitrwydd haf! Os ymunwch â Hamdden Mynwy cyn 23 Gorffennaf cewch chwe wythnos o aelodaeth am £45. Mae’r hyrwyddiad yn cynnig popeth sydd ei angen i ragori ar ddisgwyliadau iechyd a ffitrwydd.

Mae HamddenMynwy yn darparu llawer o weithgareddau a dosbarthiadau gwych gyda chynlluniau ffitrwydd personol  a sesiwn hyfforddiant personol am ddim gyda phob aelodaeth. Gyda hyfforddwyr cyfeillgar a gyda chymwysterau llawn yn ogystal ag offer o’r math diweddaraf rhwydd ei weithredu, mae ei bedair canolfan hamdden yn cynnwys popeth mae pawb sydd wedi hen arfer â mynd i gampfa a dechreuwyr llwyr ei angen mewn amgylchedd croesawgar.

Mae aelodaeth HamddenMynwy yn rhoi mynediad i dros 160 o ddosbarthiadau ffitrwydd, tri phwll nofio (i gyd gyda hoistau a grisiau hygyrch), pedair campfa, cyfleusterau newid ar gyfer pobl gydag anableddau a pharcio am ddim mewn pedair canolfan hamdden yn y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy.

Mae’r cyfleusterau eraill yn cynnwys:

  • 1 llain 3G a gymeradwywyd gan FIFA yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed
  • 6 cwrt sboncen (Y Fenni x 2, Cil-y-coed x 2 a Threfynwy x 2)
  • 4 llain AstroTurf maint llawn·       2 campfa amlbwrpas (Y Fenni a Threfynwy)
  • ·       3 ardal gemau aml-ddefnydd awyr agored pedwar cwrt (Y Fenni, Cil-y-coed a Chas-gwent)
  • ·       4 neuadd chwaraeon amlbwrpas pedwar cwrt
  • 2 llain gemau aml-ddefnydd awyr agored ar gyfer pêl-droed, pêl-fasged, pêl-rwyd neu denis (Y Fenni a Threfynwy)·       1 mur dringo yng Nghanolfan Hamdden Trefynwy·       Gwahanol leiniau glaswellt awyr agored
  • ·       4 ystafell newid arbennig i’r anabl gyda hoist, bwrdd newid y medrir addasu ei uchder a chawod hygyrch
  • ·       3 sauna (Y Fenni a Chas-gwent)

Mae pob un o’r pedair canolfan hamdden yn agor yn ddigon cynnar i roi amser ychwanegol i bobl cyn diwrnod prysur a rhoi croeso cynnes gyda chefnogaeth yn ogystal â chyfleusterau cymunedol cyfleus sy’n cynnig gymaint am bris gwych.

I gael manylion aelodaeth cysylltwch â’ch canolfan leol:

  • Canolfan Hamdden y Fenni 01873 735360
  • Canolfan Hamdden Cil-y-coed 01291 426850
  • Canolfan Hamdden Cas-gwent 01291 635745
  • Canolfan Hamdden Trefynwy 01600 775135

 

I gael mwy o wybodaeth ewch i http://www.monmouthshire.gov.uk/promotions-at-monleisure

Gyda llai nag wythnos i fynd, gall rhai sy’n dwlu ar roc yr Wythdegau fanteisio ar y cyfle i ail-fyw eu hieuenctid coll pan fydd pump o grwpiau a pherfformwyr clasurol o’r cyfnod yn ymweld â Chastell Cil-y-coed ddydd Gwener, 7 Gorffennaf. Yn perfformio yng Ngŵyl Retroactive undydd fydd y grŵp poblogaidd iawn The Human League gyda chefnogaeth gan Tony Hadley o Spandau Ballet, Jason Donovan, Imagination gyda Leee John a’r grŵp teyrngedf One Night of Queen. Mae tocynnau’n gwerthu’n gyflym felly mae trefnwyr wedi cynghori pobl sy’n bwriadu mynd i’r gig i brynu’n gynnar neu wynebu siom.

Mae’r clwydi yn agor am 3pm a bydd y gerddoriaeth yn dechrau ddwy awr wedyn. Mae gwersylla ar gael ar nos Wener yn y parc gwledig cyfagos.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am hamdden: “Mae hwn yn gyfle prin iawn i weld perfformwyr amlwg o’r 1980au mewn lleoliad gwych – ac ar garreg ein drws. Bydd y gerddoriaeth yn dechrau am 5pm felly gall pobl orffen gwaith a manteisio i’r eithaf ar y min nos.”

Mae tocynnau ar gael drwy:

Mae gwybodaeth lawn ar y digwyddiad ar gael yn www.caldicotcastle.co.uk

Ddydd Mercher 28 Mehefin ymwelodd Judy Murray, hyfforddydd tennis cenedlaethol adnabyddus a mam pencampwr Wimbledon Andy Murray, â Chanolfan Hamdden y Fenni i ddechrau rhaglen tennis She Rallies. Sefydlwyd She Rallies i gynyddu nifer y menywod a’r genethod sy’n chwarae tennis a chreu mwy o gyfleoedd iddynt mewn chwaraeon.

Cymerodd dros 45 o ddisgyblion o Ysgol Brenin Harri VIII y Fenni a 30 o blant o ysgolion cynradd lleol ran yn y prynhawn ynghyd â 20 o hyfforddwyr tennis lleol. Cynhaliwyd dwy sesiwn, y gyntaf gyda disgyblion a gymerodd ran mewn amrywiaeth o weithgareddau difyr a gofyn cwestiynau perthnasol iawn i Judy. Cymerodd hyfforddwyr lleol ran yn y sesiwn ddiweddarach a gweithio ar sgiliau allweddol yn ogystal â derbyn geiriau doeth gan Judy ar sut y gellir annog mwy o fenywod a genethod i gymryd rhan mewn tennis.

Cymerodd y Cyng Maureen Powell, Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy, ran yn y sesiwn cynhesu lan gyda disgyblion o ysgolion lleol. Dywedodd y Cyng Maureen Powell: “Roedd yn bleser cael fy ngwahodd i lansiad She Rallies. Mae chwaraeon lleol yn ffordd mor bwysig i alluogi ein plant, pobl ifanc a’u teuluoedd i fod yn egnïol. Mae cynifer o gyfleoedd i chwarae amrywiaeth o chwaraeon ar garreg eu drws. Roedd yn hyfryd cwrdd â Judy Murray a hoffwn ddiolch iddi am ddod â chynllun She Rallies yn Sir Fynwy.”

Trefnwyd y digwyddiad gan yr hyfforddydd tennis lleol Carys Howard-Rees o Glwb Tennis y Fenni sy’n angerddol ar gael genethod a menywod i gymryd rhan mewn chwaraeon.

I gael mwy o wybodaeth am dennis neu’r rhaglen She Rallies yn Sir Fynwy cysylltwch â Paul Sullivan, Swyddog Datblygu Chwaraeon –  07825 853882 – neu ymweld â gwefan She Rallies: www.sherallies.com

 

Yn dilyn yr etholiadau diweddar i’r cyngor sir mae Sir Fynwy wedi penodi cadeiryddion i’w bum pwyllgor dethol, y cyrff sy’n archwilio ac yn craffu fel rhan o beirianwaith gwneud penderfyniadau.

Yn yr un modd â phob cyngor sir arall yng Nghymru, mae Sir Fynwy wedi mabwysiadu model cabinet o lywodraethiant i gynorthwyo gwneud penderfyniadau yn gyflym a chadarn. Fodd bynnag, mae craffu ar yr holl benderfyniadau a gymerir gan aelodau cabinet a chaiff aelodau’r cabinet eu dal yn atebol am eu perfformiad a’u gweithredoedd. Gall aelodau pwyllgorau dethol herio swyddogion ac aelodau’r cabinet ar effeithlonrwydd gwasanaethau a gyflwynir yn y sir a gallant hefyd wahodd cyrff eraill i gyfarfodydd y pwyllgorau dethol i drafod gwasanaethau megis y ddarpariaeth band eang sydd ar gael i breswylwyr Sir Fynwy. Gallai hynny gynnwys galw darparwyr gwasanaeth sector cyhoeddus ac asiantaethau llywodraeth i’r cyfarfodydd i sicrhau fod y gwasanaethau a gyflwynir i’r trethdalwr yn effeithlon, effeithiol ac o ansawdd uchel.

Mae pwyllgorau dethol yn cwrdd mewn cylch chwe wythnos ac mae pob un yn cynnal fforwm cyhoeddus 15 munud ar ddechrau’r cyfarfod. Mae croeso i’r gymuned fynychu ac awgrymu materion ar gyfer eu craffu yn y dyfodol neu i gynnig eu sylwadau ar y pynciau i gael eu trafod yn y cyfarfod. Dylai preswylwyr sy’n dymuno ymwneud â chyfarfod craffu gysylltu â chadeirydd y pwyllgor dethol perthnasol.

Cadeiryddion pum pwyllgor dethol y cyngor yw:

  • Plant a Phobl Ifanc – Cyng Martyn Groucutt
  • Oedolion – Cyng Simon Howarth
  • Cymunedau Cryf – Cyng Jane Pratt
  • Economi a Datblygu – Cyng Paul Pavia
  • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus – caiff y pwyllgor hwn ei gadeirio ar sail rota gan gadeiryddion y pedwar pwyllgor aelod arall

Dywedodd y Cynghorydd Paul Jordan, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am lywodraethiant: “Rydym yn ymroddedig i sicrhau’r safonau uchaf o lywodraethiant ac atebolrwydd ar draws portffolio y cyngor a byddwn yn gweithio gydag aelodau a swyddogion i godi perfformiad mewn darpariaeth gwasanaeth.”

I gael mwy o wybodaeth ar y swyddogaeth craffu, ewch i: www.monmouthshire.gov.uk/scrutiny

Mae diwrnod gweithredu a gynhaliwyd yn Sir Fynwy yr wythnos ddiwethaf (dydd Iau 22 Mehefin) wedi tynnu sylw at natur wrthgymdeithasol baw cŵn a adewir ar balmentydd, parciau, ardaloedd chwarae a llwybrau. Mae ymgyrch Rhoi’r Cerdyn Coch i Faw Cŵn – partneriaeth rhwng timau iechyd yr amgylchedd, gwastraff a glanhau strydoedd y cyngor sir yn ogystal â nifer o gynghorau tref a chymuned a’r heddlu – wedi cynnal digwyddiadau yn y sir gyda’r nod o ostwng faint o faw cŵn a adewir mewn ardaloedd cyhoeddus, un o’r materion amgylcheddol y sonnir amdano amlaf.

Ymwelodd staff y Cyngor â Threfynwy gan ymuno ag aelodau o grwpiau cymunedol mewn ardaloedd a ddynodwyd fel mannau gwael ar gyfer baw cŵn. Buont yn trafod y broblem gyda cherddwyr cŵn lleol, yn dosbarthu bagiau baw cŵn am ddim a thaflenni am ymgyrch Rhoi’r Cerdyn Coch i Faw Cŵn, y mae Cyngor Tref Trefynwy yn bartner ynddi. Codwyd arwydd ychwanegol am faw cŵn ym maes pêl-droed Rockfield lle mae baw cŵn yn broblem fawr.

Yn ne’r sir, bu cynghorwyr ym Magwyr a Gwndy yn annog perchnogaeth ci cyfrifol drwy ddosbarthu bagiau baw cŵn a ddim i’w defnyddio a’u rhoi yn y 30 bin caw ci sydd yn yr ardal.

Er bod y pwyslais ar geisio cefnogaeth perchnogion cŵn, rhybuddiodd swyddogion fod yr ychydig dygn sy’n parhau i weithredu’n anghyfrifol yn wynebu hysbysiad cosb sefydlog o £75. Gall person sy’n gwrthod talu ddisgwyl cael eu herlyn mewn llys lle gall y ddirwy fod hyd at £1,000. Gellir hysbysu’r cyngor ar

http://www.monmouthshire.gov.uk/home/streets-parking-and-transport/recycling-and-waste/dogfouling/ am berchnogion cŵn nad ydynt yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid, ac mae’n opsiwn i ddefnyddio ap Fy Sir Fynwy a gyflwynwyd yn ddiweddar gan y cyngor i gofnodi problemau am faw cŵn.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Jones, aelod Cabinet dros Weithrediadau ar Gyngor Sir Fynwy: “Mae pawb ohonom yn casáu gweld baw cŵn ar ein strydoedd, ac mae achosion o blant yn dod adref gyda baw ar eu hesgidiau neu offer chwaraeon yn gwylltio pobl. Mae dyddiau gweithredu fel hwn yn gyfle gwirioneddol ddefnyddiol i godi proffil y pryder parhaus yma ac i bawb ohonom wneud yn siŵr ein bod yn berchnogion cŵn cyfrifol. Yn syml ddigon – bagiwch a biniwch ef!”

Bydd gwaith yn dechrau yn y dyfodol agos ar y mynediad i ganolfan ailgylchu gwastraff cartref (HWRC) Brynbuga i wella diogelwch ar gyfer ymwelwyr, preswylwyr a staff y safle.

Bydd y cyngor yn codi ffens a chlwyd wrth y fynedfa i’r safle ger maes parcio Stryd Maryport yn y dref i sicrhau y caiff gwaith yn ymwneud â sgipiau ei gadw ar wahân i’r cyhoedd. Yn ychwanegol, bydd lleoedd parcio arbennig ar gael ar gyfer ymwelwyr i’r safle. Mae’r mesurau hyn yn dilyn astudiaeth gan y contractwyr Viridor a ddangosodd fod gan y trefniadau presennol risg go iawn o ddifrod damweiniol.

Bydd newid arall yn cynnwys neilltuo llwybr arbennig yn y maes parcio ar gyfer cerbydau HGV sy’n gadael y safle. Bydd hyn yn dileu’r perygl i gerddwyr a cheir wedi parcio a achosir gan gerbydau mawr wrth iddynt ymdopi gyda gofod cyfyng a chorneli tyn. Caiff wyth lle parcio eu symud i ddarparu ar gyfer yr allfan hon.

Bydd tîm ailgylchu a gwastraff Sir Fynwy yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r newidiadau o fewn y maes parcio ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Disgwylir y bydd gwaith yn cychwyn ddydd Llun 3 Gorffennaf.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Jones, aelod cabinet Cyngor Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am ailgylchu a gwastraff: “Mae diogelu’r cyhoedd yn hollbwysig i ni felly rydym yn cymryd camau i symud unrhyw beryglon. Mae HWRC Brynbuga yn gyfleuster poblogaidd iawn sy’n dod â llawer o ymwelwyr i’r dref a bydd y gwelliannau hyn yn sicrhau y gall barhau i weithredu’n ddiogel ar gyfer y dyfodol.”

Mae mwy o wybodaeth ar HWRC Sir Fynwy ar gael yn:

http://www.monmouthshire.gov.uk/recycling-and-waste/household-waste-recycling-centres

Wrth i’r prif dymor ar gyfer priodasau agosáu, mae swyddogion safonau masnach Sir Fynwy yn rhybuddio preswylwyr i osgoi sgamiau tra byddant yn gwneud paratoadau.

Yn ôl un ffynhonnell ar-lein www.bridesmagazine.co.uk mae cost gyfartalog priodas dros £30,000 sy’n cynnwys gwasanaethau nifer o gyflenwyr fel ffotograffwyr, arlwywyr, mannau cynnal derbyniad a chwmnïau teithio. Mae angen trefnu llawer ohonynt fisoedd ymlaen llaw gyda rheidrwydd i dalu ernes neu hyd yn oed y swm llawn. Gallai’r holl drafodion hyn fod yn agored i dwyllo gan sgamwyr.

Mae rhai cwmnïau’n rhedeg eu busnesau’n llwyr drwy safleoedd cyfryngau cymdeithasol, gan gynnig gwasanaethau rhatach. Mae’r rhan fwyaf yn ddilys er y gallai rhai fod heb yswiriant neu a gallai rhai fod dwyllodrus hyd yn oed. Ond gallai bod yn ymwybodol o’r risgiau posibl a dilyn y cyngor atal canlynol leihau tebygrwydd twyll:

 

  • Cael cyfeiriad daearyddol a manylion cyswllt ar gyfer y cyflenwr a dilysu’r wybodaeth hon. Bydd hyn yn ei rhoi cyfle i wneud cwyn i Safonau Masnach neu ystyried dilyn y mater drwy’r Llys Hawliadau Bach.

 

  • Cael contract cyn talu arian am wasanaethau. Dylid darllen yn llawn a deall yr hyn a gynigir cyn llofnodi a nodi telerau canslo.

 

  • Ystyried prynu yswiriant priodas – mae polisïau yn amrywio o ran eu cynnwys a gellir eu prynu hyd at ddwy flynedd ymlaen llaw. Gallant ddiogelu rhag digwyddiadau na ddaw o fewn y Ddeddf Credyd Defnyddwyr.

 

  • Ymchwilio pob cyflenwr, gan sicrhau eu bod yn cynrychioli person neu gwmni bona fide. Edrychwch ar y rhyngrwyd am adolygiadau a barn a gofyn i’r cyflenwr roi manylion cyn-gleientiaid y gallwch siarad gyda nhw. Mae swyddogion safonau masnach yn argymell gwneud hyn hyd yn oed os cafodd cwmnïau eu cynnig gan gyfaill neu ffynhonnell ddibynadwy.

 

  • Ar gyfer gwasanaethau fel ffotograffiaeth priodasau, gochelwch rhag gwefannau sy’n defnyddio lluniau ffug. Edrychwch am anghysonderau mewn arddull, cwrdd â’r ffotograffydd a gofyn am weld samplau o albymau.

Mae swyddogion safonau masnach yn cynghori ymhellach fod talu am wasanaethau yn defnyddio cerdyn credyd yn rhoi diogeliad dan Adran 75 Deddf Credyd Defnyddwyr ar gyfer prynu eitemau sengl dros £100 a dan £30,000. Hyd yn oed os yw’r cwmni yn mynd i fethdaliad cyn y diwrnod mawr, gellir hawlio ad-daliad drwy’r cwmni cerdyn credyd.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am ddiogelu’r cyhoedd: “Os yw rhywbeth yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod! Byddwch yn ofalus bob amser ac ymchwilio fod y dewisiadau sydd ar gael yn rhai go iawn pan fyddwch yn gwario symiau mawr o arian ar wasanaethau.”

I gael mwy o gyngor neu roi adroddiad i Safonau Masnach am unrhyw broblemau ffoniwch 03454 04 05 06.

Bydd arddangosfa gyhoeddus yn Nhrefynwy yn rhoi sylw i gynlluniau arfaethedig i wella cyffordd A40/466 Pont Gwy yn cysylltu’r dref gyda Dyffryn Gwy a Fforest y Ddena. Cynhelir yr arddangosfa mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Fynwy a Llywodraeth Cymru yn Neuadd y Sir, Sgwâr Agincourt ddydd Gwener 7 Gorffennaf rhwng 11am a 7pm a dydd Sadwrn 8 Gorffennaf rhwng 10am a 5pm.

Bydd yr arddangosfa yn dangos mesurau i ostwng tagfeydd traffig a gostwng oedi yn ogystal â gwelliannau i fynediad cerddwyr drwy gysylltu’r dref gyda chymunedau sy’n byw a gweithio ar y lan ddwyreinol. Sicrheir gwelliannau drwy adeiladu trydydd lôn ar yr A40 i gyfeiriad y de ac uwchraddio rampiau dynesfa’r danffordd. Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Fynwy, Llywodraeth Cymru a’r peirianwyr ymgynghori WSP/Parsons Brinkerhoff yn bresennol i siarad a gwrando ar y cyhoedd am y cynigion.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Bryan Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am briffyrdd: “Deallwn y rhwystredigaeth y mae tagfeydd traffig ac oedi ar gyffordd Pont Gwy yn ei achosi i yrwyr a chymunedau yn Nhrefynwy, Dyffryn Gwy a Fforest y Ddena. Rwy’n croesawu’r cynigion hyn ac yn annog y cyhoedd i neilltuo amser i weld yr arddangosfa.”

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â: Peter Woodrow, Swyddog Prosiect, Cyngor Sir Fynwy drwy ffonio 01633 644781 neu e-bost peterwoodrow@monmouthshire.gov.uk.

 

Dim ond dau contractau na threfnwyd cludiant iddynt hyd yma ac mae rhieni’n gwybod ein bod yn gweithio ar ddatrys y cludiant  iddynt cyn gynted ag sy’n bosibl.

Trefnwyd contractau dros dro i’r holl fyfyrwyr eraill ar gyfer gweddill y flwyddyn academaidd. Aiff y contractau i dendr am y flwyddyn academaidd newydd ond ein blaenoriaeth fydd sicrhau fod gan y plant gludiant addas yn ei le cyn gynted ag sydd modd.

Gwaith rhagorol gan staff ein Huned Cludiant Teithwyr!

Mae cynnydd cyffrous ar safle ysgol gyfun newydd Cyngor Sir Fynwy yn Nhrefynwy wedi dod yn amlwg wrth i’r gwaith adeiladu ddechrau ar gyfnod hollbwysig. Caiff y brif ffrâm a wnaed yn llwyr o ddur Prydeinig ei chodi ac mae’n dilyn peirianneg safle a logisteg hynod i baratoi ar gyfer yr ysgol uwchradd newydd, a fydd yn disodli’r ddarpariaeth bresennol ar gyfer pobl ifanc 11 i 18 yr ardal.

Mae’r gwaith ar yr ysgol uwchradd newydd £47m ar amser a bydd yn barod i’w defnyddio ddechrau mis Medi 2018. Caiff yr ysgol newydd ei hadeiladu dan raglen Ysgolion 21ain Ganrif ac Addysg – a gaiff ei chyllido ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a’r cyngor sir – ac mae’n rhan o agenda sydd eisoes wedi sicrhau ysgol gynradd newydd ar gyfer Rhaglan yn ogystal â’r ysgol uwchradd newydd yng Nghil-y-coed. Bydd hyn yn barod ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Richard John, aelod cabinet Sir Fynwy dros Blant a Phobl Ifanc: “Rwy’n hynod falch i weld cynnydd mor wych ac edrychwn ymlaen at lansio’r cyfleuster dysgu o’r math diweddaraf yma ar gyfer Trefynwy a’r cylch.”

Ychwanegodd Richard: “Mae’r rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif yn ymwneud â mwy na dim ond brics a morter. Mae hefyd am ychwanegu gwerth i’r gymuned a’r economi lleol drwy ei Raglen Buddion Cymunedol. Mae ein partner contractio, Interserve Construction PLC, yn gweithio gyda’r cyngor, aelodau’r gymuned leol a’r ysgol i ddynodi cyfleoedd drwy’r rhaglen sy’n cynnwys prosiectau lleol a phrentisiaethau yn ogystal â hyfforddiant a chyfleoedd galwedigaethol.”

Mae mwy o wybodaeth ar raglen Ysgolion y 21ain Ganrif a Budd Cymunedol Addysg ar gael yn: http://21stcenturyschools.org/guidance/community-benefits/?lang=en

Mae Cyngor Sir Fynwy a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) yn gwahodd enwebiadau i ddiolch i bobl sy’n rhoi’n hael o’u hamser a rhannu eu sgiliau er budd y gymuned. Bydd y ddau sefydliad yn ymuno i gynnal noswaith ddathlu Gwobrau Llwyddiant Gwirfoddolwyr Sir Fynwy gyda digwyddiad gala yn Neuadd Côr Cil-y-coed ddydd Gwener 27 Hydref.

Y categorïau ar gyfer y gwobrau yw Gwirfoddolwr Ifanc, Oedolyn, Grŵp, Amgylcheddol, Ymddiriedolaeth, Taith Ysbrydoledig a Thaith Bersonol. Bydd yr enwebiadau yn cau ddydd Gwener 28 Gorffennaf.

Dywedodd Clare Jones, Rheolwr Tîm a Chydlynydd Gwirfoddoli GAVO (Sir Fynwy): “Drwy gydweithio, anelwn wneud y digwyddiad hwn yn ddathliad mwy a phellgyrhaeddol, gan gydnabod y bobl neu grwpiau hynny sy’n buddsoddi eu hamser a’u hangerdd yn ein cymunedau. Os gwyddoch chi am rywun sy’n gwirfoddoli yn Sir Fynwy ac yn haeddu ‘Diolch yn Fawr’, enwebwch nhw os gwelwch yn dda.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am arloesi: “Mae gwirfoddolwyr yn rhannu miloedd o oriau ar draws ein sir, gan wella bywydau pobl a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt. Mae noswaith Gwobrau Llwyddiant Gwirfoddolwyr yn rhoi cyfle i gydnabod a rhoi sylw i waith gwirfoddolwyr a’r effaith a gânt”.

Gellir enwebu ar www.gavowales.org.uk/recognition. Gwahoddir enillwyr ac enwebiadau cymeradwyaeth uchel a’u gwesteion eu gwahodd i’r seremoni wobrwyo ym mis Hydref.

I gael mwy o wybodaeth neu dderbyn ffurflen enwebu ar bapur, ffoniwch 01633 241550 neu e-bost volunteering@gavowales.org.uk.