Skip to Main Content

Gall eira, llifogydd, gwyntoedd cryfion, eithafion tymheredd ac ati i gyd achosi difrod helaeth i eiddo, gwasanaethau lleol a bywyd dynol. Mae gennym rôl bwysig i’w chwarae yn y fath amgylchiadau, fel y mae gan gymunedau lleol hefyd.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y rhybuddion tywydd garw sydd mewn grym ar hyn o bryd, ewch i wefan y Swyddfa Dywydd.

Ffyrdd a hygyrchedd

Yn ystod tywydd garw, gall ffyrdd droi’n beryglus ac yn anhygyrch yn gyflym ac hefyd cael eu rhwystro. Rydym yn cyd-drefnu’r broses o glirio’r ffyrdd ac yn ceisio cadw’r priffyrdd ar agor. Mae traffyrdd (M4, M48) a chefnffyrdd yn eiddo i Lywodraeth Cynulliad Cymru ac yn cael eu cynnal a cadw gan Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA). Gall ddal i fod yn anodd teithio ar ffyrdd mân a phreswyl, felly gyrrwch yn ofalus.

Caiff cyngor yr heddlu ei ddarlledu ar radio lleol – os cewch eich cynghori i adael eich car gartref, yna gwnewch felly. Os ydych yn sownd yn yr eira, arhoswch gyda’ch cerbyd am gyhyd ag y bo’n ddiogel i wneud hynny. Os oes rhaid i chi adael eich car, rhowch wybod i’r heddlu am ei leoliad.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyflwr y ffyrdd yn ystod argyfwng, ffoniwch:

AA Roadwatch – 0906 84322

Llinell Wybodaeth Traffig Cymru – 0845 602 6020 – neu ewch i wefan Traffig Cymru.

Cau ysgolion

Efallai y bydd angen cau ysgolion oherwydd tywydd garw, diffyg cyflenwad pŵer neu hygyrchedd.

Methiannau pŵer

Gall tywydd garw arwain at golli cyflenwad pŵer. Os effeithir ar gyflenwadau pŵer am gyfnod hir o amser, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r bobl hynny yn y gymuned sy’n agored i niwed ac efallai y bydd angen eich cymorth arnoch.

Mewn argyfwng, ffoniwch y rhifau argyfwng 24 awr a restrir isod i gael cyngor am eich cyfleustodau:

  • Argyfyngau Nwy – 0800 111 999
  • Dŵr Cymru – 08000 520 130
  • SWALEC – 0800 052 0400
  • Adrodd am Nam (BT) – 0800 800 151
  • Llinell Gymorth Genedlaethol Network Rail – 08457 114141