Skip to Main Content

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi’r hawl i unrhyw un ofyn i ni ryddhau gwybodaeth sydd gennym ar unrhyw bwnc penodol.

Mae’n rhaid i ni ddarparu’r wybodaeth oni bai bod rhesymau da dros beidio â gwneud hynny. Mae dros ugain o resymau a gydnabyddir gan y ddeddf, gan gynnwys:

  • Bydd yn costio gormod i gasglu’r wybodaeth
  • Mae’r wybodaeth ar gael mewn mannau eraill
  • Rydym yn bwriadu cyhoeddi’r wybodaeth yn y dyfodol
  • Mae’r wybodaeth yn ymwneud â rhywun sy’n fyw
  • Cafodd y wybodaeth ei chasglu at ddibenion ymchwiliadau neu achosion y mae gennym yr hawl i’w cynnal, megis gorfodi

Mewn sawl achos, bydd rhaid i ni benderfynu a yw budd y cyhoedd wrth beidio â rhyddhau’r wybodaeth yn gryfach na’r budd i’r cyhoedd o’i datgelu.

 

Gwneud cais ac edrych ar geisiadau eraill

Gallwch weld ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth pobl eraill ac ein hatebion i’r ceisiadau hyn ar y wefan ‘What Do They Know?’.

Gallwch wneud cais Rhyddid Gwybodaeth mewn sawl ffordd:

Gallwch ddarllen canllaw defnyddiol am wneud cais am wybodaeth ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.