Skip to Main Content

Mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir Fynwy 2011-2021 ar 27 Chwefror 2014, gan ddisodli Cynllun Datblygu Unedol (CDU) Sir Fynwy, i ddod yn gynllun datblygu mabwysiedig ar gyfer y Sir (ac eithrio’r rhan honno o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog).

Mae’r Hysbysiad Mabwysiadu a’r Datganiad Mabwysiadu ar gael i’w gweld.

Mae’r LDP Mabwysiedig ar gael i’w weld ar-lein, a chaiff y Mapiau cysylltiedig eu rhestru islaw. Dylid nodi y cafodd rhai o’r Ardaloedd Cadwraeth eu hadolygu yn dilyn mabwysiadu Gwerthusiadau Ardal Cadwraeth, dylid darllen y Map Diwygio Ardal Cadwraeth mewn cysylltiad gyda’r mapiau LDP:

 

Mae Atodiad i’r Adroddiad ar Werthuso Cynaliadwyedd (Chwef 2014) ac Adroddiad Rheoliadau Cynefinoedd (Mehefin 2011) ac Atodiad i’r Adroddiad ar Asesu Rheoliadau Cynefinoedd (Chwef 2014) wedi eu cyhoeddi hefyd..

Paratowyd y CDLl yn unol â’r Cytundeb Darparu, y cytunwyd ar fersiwn diwygiedig ohono gyda Llywodraeth Cymru ym Medi 2011.

Mae’r fersiwn argraffedig terfynol o’r Cynllun ar gael i’w brynu oddi wrth y Tîm Cynllunio Polisi ar gost o £35 a £5 cludiant (£25 a £5 cludiant ar gyfer preswylwyr Sir Fynwy).