Skip to Main Content

Ers mis Rhagfyr 2005, bu modd i gyplau o’r un rhyw gael cydnabyddiaeth gyfreithiol o’u perthynas drwy gofrestru partneriaeth sifil.

Sut rydym yn trefnu ein partneriaeth sifil?

Yn gyntaf, dylech benderfynu ar ble a phryd yr hoffech gofrestru eich partneriaeth. Gall hyn fod yn Swyddfa Gofrestru’r Fenni neu yn un o’n lleoliadau cymeradwy.

Yna, dylech gysylltu â’r Cofrestrydd Arolygol i wneud archeb dros dro. Gellir gwneud hyn cyn gynted ag y byddwch wedi archebu’r lleoliad.

Pwy sy’n gallu cofrestru?

Dau unigolyn:

  • sydd o’r un rhyw
  • sy’n 16 oed neu drosodd (gyda chydsyniad os dan 18 oed)
  • sydd heb fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil yn barod
  • nad ydynt yn perthyn yn agos.

Sut rydym yn cofrestru?

  • Yn gyntaf, mae’n rhaid i chi roi hysbysiad o’ch bwriad i gofrestru i’ch Swyddfa Gofrestru leol.
  • Yna, ar ôl 15 niwrnod cyfan, gallwch gofrestru eich partneriaeth sifil drwy lofnodi atodlen partneriaeth sifil yng ngwydd cofrestrydd a dau dyst.
  • Bydd rhaid i chi dalu ffioedd i roi hysbysiad a chofrestru.

Sut rydym yn rhoi hysbysiad?

  • Mae’n rhaid i’r ddau ohonoch fod yn bresennol i roi hysbysiad i unigolyn awdurdodedig o ardal yr awdurdod lleol lle rydych wedi byw am y 7 diwrnod o flaen.
  • Mae’n rhaid i chi adael 15 niwrnod cyfan rhwng rhoi’r hysbysiad a cofrestru’r bartneriaeth.
  • Bydd rhaid i chi gyflwyno dogfennau i brofi eich enw, oedran, cenedligrwydd a chyfeiriad. Bydd y Cofrestrydd yn gallu rhoi cyngor i chi.
  • Os yw’r ddau ohonoch yn byw yn yr un Ardal Gofrestru, mae’n ddefnyddiol i’r ddau ohonoch fod yn bresennol pan roddir yr hysbysiad.
  • Os ydych yn byw yn Sir Fynwy, cyfeiriad y Swyddfa Gofrestru yw Coed Glas, Lôn Coed Glas, Sir Fynwy, NP7 5LE.

Nid yw un neu’r ddau ohonom yn Ddinasyddion Prydeinig

Os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd o wlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), neu sydd heb dystysgrif hawl i ganiatâu i chi fyw yn y DU, rydych yn ddarostyngedig i reolau mewnfudo a bydd rhaid i chi roi hysbysiad mewn Swyddfa Gofrestru Ddynodedig. Mae rhagor o wybodaeth ar gael oddi wrth y Cofrestrydd Arolygol (ffôn: 01873 735435) neu gan y Swyddfa Gartref.

Faint mae’n ei gostio i roi hysbysiad o bartneriaeth sifil?

Y ffi ar gyfer pob hysbysiad yw £35.00, yn daladwy wrth roi’r hysbysiad.

Oes arnom angen trefnu apwyntiad?

Oes, i drefnu apwyntiad, neu am unrhyw gyngor arall ar bartneriaethau sifil, dylech ffonio’r Swyddfa Gofrestru yn uniongyrchol ar 01873 735435.

Beth sy’n digwydd ar ôl i ni roi hysbysiad o bartneriaeth sifil?

  • Bydd y Cofrestrydd yn cyhoeddi ‘atodlen partneriaeth sifil’ yn yr ardal lle mae’r bartneriaeth i gael ei chofrestru 15 niwrnod cyfan ar ôl i’r ddau barti roi hysbysiad.

 

Mae’r atodlen yn ddilys am ddeuddeng mis yn unig o’r dyddiad pan roddwch yr hysbysiad.

Allwn ni gael seremoni?

Gallwch. Er nad yw’n angenrheidiol cael seremoni er mwyn cydnabod partneriaeth sifil, efallai y byddwch am wahodd eich teulu a’ch ffrindiau i ddathlu gyda chi ar yr adeg arbennig hon. Mae Sir Fynwy yn cynnig dewis o seremonïau y gallech wella gyda darlleniadau a cherddoriaeth. Bydd ein Rheolwr Seremonïau yn hapus i roi cyngor i chi.

Ble gallwn ni gofrestru ein partneriaeth?

  • yn y Swyddfa Gofrestru yng Nghoed Glas yn y Fenni
  • mewn lleoliad a gymeradwywyd ar gyfer partneriaethau sifil

Faint y bydd yn ei gostio?

Gweler y rhestr o ffioedd ar gyfer costau.