Skip to Main Content

Mae Gwasanaeth Addysg Awyr Agored Gwent yn wasanaeth ar y cyd a gefnogir gan Flaenau Gwent, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen. Sir Fynwy sy’n gweithredu fel yr awdurdod arweiniol.

Mae’r gwasanaeth wedi bodoli ers y 1970au cynnar. Mae’n gweithredu tair canolfan breswyl ac yn cynnig ystod eang o weithgareddau ‘stepen drws’ yn ardal De-ddwyrain Cymru. Mae mwyafrif y cyrsiau’n rhai preswyl sy’n para 3 –5 diwrnod.

Mae’r Gwasanaeth Addysg Awyr Agored yno yn bennaf ar gyfer pobl ifanc, ond mae hefyd yn cynnig cyfleoedd a hyfforddiant i athrawon ac oedolion eraill mewn amrywiaeth o leoliadau.

Gallwn gynnig ystod o brofiadau awyr agored a gweithgareddau amgylcheddol i ddisgyblion trwy gydol eu gyrfa ysgol, sy’n cwmpasu’r Cwricwlwm Cenedlaethol, cyrsiau Safon Uwch/TGAU, a datblygiad personol a chymdeithasol. Mae ein canolfannau’n magu ymagwedd hyblyg ac arloesol at fodloni eich nodau, felly cysylltwch â nhw i drafod eich anghenion. info@gwentoutdoorcentres.org.uk

Gallwn gynnig cyrsiau datblygu staff hefyd:

  • Cydlynywyr Ymweliadau Addysg ac Arweinwyr Ymweliadau
  • Dyfarniadau’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol mewn canŵio, caiacio, dringo, cerdded mynyddoedd, mynydda a llywio
  • Gwasanaethau penodol fel datblygu staff ysgol gyfan, hyfforddiant sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm, mapio safle ysgol, cynnal diwrnodau cwrdd i fwrdd

Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth.