Skip to Main Content

Coed a Gwrychoedd

Cyfrifoldeb yr Awdurdod Cynllunio Lleol yw gwarchod coed a gwrychoedd. Rydym yn gweinyddu gorchmynion gwarchod coed, coed mewn ardaloedd cadwraeth a cheisiadau i waredu ar wrychoedd amaethyddol. Rydym hefyd yn gyfrifol am weinyddu’r ddeddfwriaeth gwrychoedd uchel, sydd i’w gael yn Rhan 8 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (2003).

Coed ar dir y Cyngor.

Nid yr Adran Cefn Gwlad sy’n gyfrifol am arolygu a chynnal a chadw coed ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor. Os ydych yn cael problemau gyda choeden mewn man agored cyhoeddus, ymyl y briffordd, parc cyhoeddus ac ati, yna cysylltwch ag Uned Tirwedd y Cyngor trwy’r prif switsfwrdd y Cyngor ar 01633 644644 neu e-bostiwch: mailto:wasteandstreetservices@monmouthshire.gov.uk Coed sydd o fewn tir ysgol yw cyfrifoldeb Pennaeth a Llywodraethwyr y sefydliad felly os oes gennych broblem gyda choeden neu wrych, dylech yn y lle cyntaf gysylltu â’r ysgol.

Gorchmynion Cadw Coed.

Mae hwn yn Orchymyn a wnaed gan yr awdurdod cynllunio lleol. Mae’n drosedd i dorri lawr, tocio, diwreiddio, difrodi’n fwriadol neu’n fwriadol ddinistrio coeden sydd o dan Orchymyn Cadw Coed, heb ganiatâd ysgrifenedig y Cyngor. Mae hyn yn berthnasol i wreiddiau, yn ogystal â’r rhannau o’r goeden sydd uwchben y ddaear. Gall Gorchymyn Cadw Coed ddiogelu unrhyw rywogaeth o goed, ond nid yw’n berthnasol i lwyni.

Sut ydw i’n cael gwybod a yw coeden yn cael ei diogelu?

Gall Swyddog Coed y Cyngor roi cyngor i chi am ba goed sy’n cael eu diogelu. I gyd sydd rhaid gwneud yw ffonio 01633 644962 neu anfonwch e-bost i mailto:planning@monmouthshire.gov.uk neu ysgrifennwch at y Swyddog Coed, Blwch Post 106, Cyngor Sir Fynwy, Cil-y-coed, NP26 9AN.

Sut i wneud cais am Orchymyn Cadw Coed

Y prif feini prawf ar gyfer gosod Gorchymyn Cadw Coed ar goeden yw ei gwerth tirwedd ac os yw’r gwerth tirwedd hynny’n cael ei leihai os yw’r goeden yn cael ei chymryd i ffwrdd. Fel arfer mae’n rhaid i’r goeden fod yn iach ac yn weladwy i’r cyhoedd yn gyffredinol. Gall unrhyw un wneud cais am Orchymyn Cadw Coed, pwy bynnag sy’n berchen y tir lle mae’r goeden wedi’i lleoli.

Os ydych yn credu y dylai coeden cael ei diogelu, cysylltwch â’r : environmentalhealth@monmouthshire.gov.uk ar 01873 735420. neu drwy e-bost neu lythyr fel yr uchod.

Gwneud gorchymyn cadw coed

Mae gorchymyn cadw coed newydd yn cael ei wneud ar sail dros dro am gyfnod o chwe mis yn unig. Cyn i’r cyfnod o chwe mis ddod i ben (yn ystod y cyfnod caiff y goeden ei gwarchod yn llawn) mae’n rhaid i ni benderfynu un ai i gadarnhau’r gorchymyn h.y. ei wneud yn barhaol; cadarnhau’r gorchymyn gydag addasiadau e.e. tynnu coed penodol neu i beidio â chadarnhau’r gorchymyn.

Pwy sy’n cael eu hysbysu pan wneir gorchymyn?

Byddwn naill ai’n ysgrifennu at berchennog y tir drwy bost cofrestredig gan amgáu copi o’r gorchymyn, neu ei gyflwyno â llaw. Y bobl eraill y mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i hysbysu yw’r rhai sydd ag eiddo sy’n ffinio ar y tir y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef.

Sut y gallaf wrthwynebu neu gefnogi gorchymyn?

Rhaid i unrhyw sylwadau cael eu gwneud yn ysgrifenedig at y environmentalhealth@monmouthshire.gov.uk naill ai drwy e-bost neu lythyr o fewn 28 diwrnod i ddyddiad cyhoeddi’r gorchymyn. Byddwn yn ystyried yr holl sylwadau wrth benderfynu a ddylid cadarnhau’r gorchymyn. Bydd pawb sydd â diddordeb yn cael eu hysbysu.

Cynnal gwaith ar goed a warchodir

Rhaid cyflwyno cais ffurfiol i’r awdurdod cynllunio lleol cyn tocio neu dorri lawr coeden. O bryd i’w gilydd efallai bydd yn ofynnol i goed cael eu cynnal a chadw i’w cadw mewn cyflwr da. Mae ffurflen gais ar gael ar gais neu gallwch ei lawrlwytho drwy’r ddolen ganlynol: https://ecab.planningportal.co.uk/uploads/appPDF/E6840Form031_wales_cy.pdf

Mae nodyn arweiniad esboniadol ar gael yma.

Er mwyn cefnogi’ch cais, rydym yn argymell eich bod yn cael cyngor proffesiynol. Mae rhestr o Ymgynghorwyr Coedyddiaeth ar gael yma.

Alla’i wneud y gwaith fy hunan?

Gallwch, ond mae’r Cyngor yn gosod amod wrth roi caniatâd bod rhaid i bob gwaith coed cael ei wneud yn unol ag arfer gorau’r diwydiant. Yn achos gwaith coed mae hyn yn golygu bod yn rhaid gwneud gwaith tocio coed yn unol â Safon Brydeinig 3998 (2010) Gwaith Coed Argymhellion. Mae rhestr o gontractwyr sy’n gweithio i’r safon hon ar gael ar gais. Fel arall, gellir ei lawrlwytho Ymgynghorwyr Trin Coed.doc

A yw’r Cyngor yn ymgynghori â’r cyhoedd pan wneir cais?

Na nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i ni wneud hynny. Fodd bynnag, rydym yn rhoi gwybod i’ch cyngor tref neu gymuned a’ch aelod lleol pan fydd ceisiadau’n cael eu derbyn.

Beth os wyf yn docio fy nghoeden heb gael caniatâd yn gyntaf?

Gallech gael dirwy o hyd at £20,000 yn Llys yr Ynadon os ydych yn torri lawr, diwreiddio, neu’n fwriadol dinistrio coeden, neu’n fwriadol ddifrodi neu docio coeden mewn modd sy’n debygol o’i dinistrio. Gall dirwyon fod yn sylweddol uwch os ydych yn cael eu herlyn yn Llys y Goron.

Bydd y llys yn ystyried unrhyw fudd ariannol gwirioneddol neu debygol sy’n deillio o’r trosedd e.e. os ydych yn ystyried y gall y goeden neu’r coed fod yn niweidiol i gais a fwriadwyd am ganiatâd cynllunio, ac yn eu tynnu cyn i’r Cyngor allu ystyried y mater yn briodol.

Gallech gael dirwy o hyd at £2,500 am droseddau eraill nad ydynt yn arwain at ddinistrio coed, e.e. cael gwared ar gangen. Bydd gofyn i chi i ailblannu unrhyw goed sydd wedi cael eu dinistrio.

GWAITH I GOED MEWN ARDALOEDD CADWRAETH:

Mae coed sydd mewn ardaloedd cadwraeth eisoes yn cael eu diogelu gan Orchymyn Cadw Coed yn barod yn dod o dan amodau rheolaethau Gorchymyn Cadw Coed arferol. Ond mae’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 hefyd yn gwneud darpariaeth arbennig ar gyfer coed mewn ardaloedd cadwraeth nad ydynt yn destun Gorchymyn Cadw Coed.

O dan adran 211 y Ddeddf mae angen i unrhyw un, sy’n bwriadu torri lawr neu ymgymryd â gwaith ar goeden mewn ardal gadwraeth, rhoi chwe wythnos o rybudd ymlaen llaw (sef ‘hysbysiad Adran 211) yn ysgrifenedig i’r Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl). Diben y gofyniad hwn yw rhoi cyfle i’r ACLl i ystyried a ddylid cyhoeddi GCC o ran y goeden/coed.

CYFLWYNO HYSBYSIAD I’R ACLl

Gellir cyflwyno hysbysiadau o’r bwriad i wneud gwaith i goed mewn ardal gadwraeth ar yr un ffurflen â’r un a ddefnyddir i wneud cais am waith i goeden sydd â Gorchymyn Cadw Coed, y ceir y ddolen iddi uchod. Ticiwch y blwch Ardal Gadwraeth yn Adran 5 ar y ffurflen ac yna disgrifiwch y gwaith rydych yn bwriadu ei wneud. Nodwch: ni all yr ACLl wneud penderfyniadau os yw eich cyflwyniad yn rhy amwys, e.e. mae’n datgan eich bod yn bwriadu dim ond i docio neu dorri’n ôl eich coeden/coed. Gall fod yn ddefnyddiol i chi gyflogi arbenigwr gwaith coed i gyflwyno’r hysbysiad ar eich rhan gan na fydd gwybodaeth annigonol neu amwys yn cael ei hystyried fel rheol.

Gwrychoedd

Mae gwrychoedd cefn gwlad yn nodwedd annatod o Dirwedd Sir Fynwy o ran eu hapêl weledol, gwerth hanesyddol neu ddiwylliannol a’u pwysigrwydd ar gyfer bioamrywiaeth.

Mae’r rhan fwyaf o wrychoedd tir fferm Sir Fynwy yn cael eu gwarchod o dan Reoliadau Gwrychoedd 1997. Mae’r Rheoliadau yn cynnwys cyfres o feini prawf ar gyfer penderfynu a yw gwrych yn Bwysig. Am fwy o fanylion cysylltwch â’r environmentalhealth@monmouthshire.gov.uk

Beth os ydw i am gymryd i ffwrdd rhan neu’r cyfan o’r gwrych?

Mae angen cais cynllunio ffurfiol er mwyn tynnu gwrych. Gallwch lawrlwytho’r ffurflen gais yma Hedgerow removal application form.pdf. Fel arall, mae ffurflenni cais a nodiadau canllaw ar gael oddi wrth y tîm environmentalhealth@monmouthshire.gov.uk

Mae cymorth gyda chwblhau’r ffurflen gais ar gael i’w lawrlwytho yma:

https://ecab.planningportal.co.uk/uploads/appPDF/Help021_wales_cy.pdf

Beth os byddaf yn cael gwared ar wrych heb wneud cais am ganiatâd cynllunio?

Mae’r Rheoliadau yn datgan, os ydych yn cael gwared ar wrych heb yn gyntaf wneud cais i wneud hynny, yna caiff y gwrych yn awtomatig ei ystyried i fod yn Bwysig, os oedd ai peidio. Efallai byddwch yn cael dirwy drwm mewn llys yr ynadon, yn derbyn Hysbysiad Ailosod Gwrychoedd sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y gwrych yn cael ei ailblannu, neu’r ddau.

Gwrychoedd uchel

Mae’r ddeddfwriaeth sy’n cyfeirio at wrychoedd uchel o fewn Rhan 8 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y daflen High hedges: Complaining to the Council. Mae dolen i’r daflen yma

Nid rôl yr awdurdod lleol yw cyfryngu neu negodi rhwng yr achwynydd a pherchennog y gwrych ond i ddyfarnu – yng ngeiriau’r Ddeddf – os yw’r gwrych yn effeithio’n andwyol ar fwynhad rhesymol yr achwynydd o’i eiddo. Wrth wneud hynny, mae’n rhaid i’r awdurdod ystyried yr holl ffactorau perthnasol ac mae’n rhaid sicrhau cydbwysedd rhwng buddiannau sy’n cystadlu o’r ddwy ochr, yn ogystal â buddiannau’r gymuned ehangach. Os byddwn yn ystyried bod yr amgylchiadau yn cyfiawnhau hynny, byddwn yn rhoi rhybudd ffurfiol i berchennog y gwrych a fydd yn nodi’r hyn y mae’n rhaid iddynt wneud i’r gwrych er mwyn unioni’r broblem, ac erbyn pryd. Bydd methu â gwneud y gwaith, sydd ei angen gan yr awdurdod, yn drosedd sydd ar erlyn yn gallu arwain at ddirwy o hyd at £1,000.

Fe ddylech drin dod at y Cyngor i ddatrys eich problem gwrych fel y cam olaf, dim ond os yw popeth arall wedi methu. Mae’n rhaid i chi allu dangos i ni eich bod wedi rhoi cynnig ac wedi methu ar yr holl ffyrdd eraill i ddatrys eich anghydfod gwrych. Os byddwch yn methu â dangos hyn, mae gennym yr hawl i beidio derbyn eich achos. Mae peth gwybodaeth ddefnyddiol am sut i fynd at eich cymydog i drafod eich pryderon i’w gweld yn y daflen gynghori Over the Garden Hedge y gallwch lawrlwytho yma.

Os nad ydym yn derbyn eich achos, bydd yn rhaid i chi dalu ffi na ellir ei ddychwelyd o £320 am y gwasanaeth hwn.

Sut ydw i’n gwneud cwyn?

Os ydych wedi ceisio ar bob ffordd arall a dal i fod â phroblem gyda gwrych uchel eich cymydog, yna cysylltwch â’r Swyddog Coed a fydd yn anfon ffurflen gais i chi.

Y gwir o ran gwrychoedd

  • Nid yw’r ddeddfwriaeth yn mynnu bod rhaid i bob gwrych cael eu torri lawr i uchder o ddau fetr.
  • Nid oes rhaid i chi gael caniatâd i dyfu’ch gwrych dros ddau fetr.
  • Pan fo gwrych yn tyfu dros ddau fetr, nid ydym yn cymryd camau yn awtomatig oni bai bod cwyn, y gellir ei gyfiawnhau, yn cael ei wneud.
  • Os byddwn yn derbyn eich cwyn fel un dilys, nid yw’n dilyn yn awtomatig y byddwn yn gorfodi’ch cymydog i leihau uchder y gwrych. Mae’n rhaid i ni bwyso a mesur yr holl faterion ac ystyried pob achos o fewn y canllawiau sydd ar gael i ni.