Skip to Main Content

Fel rhan o’r cynllun i ddiwygio’r system lles, mae llywodraeth y DU yn gwneud newidiadau sydd wedi’u cynllunio i symleiddio’r system fudd-daliadau ac i annog pobl i gael gwaith. Bydd rhai o’r newidiadau yn dechrau ym mis Ebrill 2013, a bydd eraill yn cael eu cyflwyno’n raddol dros gyfnod o dair blynedd sy’n cychwyn ym mis Hydref 2013.

Bydd rhan o’r newid hwn yn cynnwys toriad yn y cyllid sydd ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer cymorth treth y cyngor. Ochr yn ochr â hyn, mae’r llywodraeth wedi gofyn i awdurdodau lleol lunio eu cynlluniau eu hunain ar gyfer talu’r budd-dal; mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y manylion sy’n ymwneud â hyn gydag awdurdodau lleol.

Mae’r newidiadau hyn yn golygu, o fis Ebrill 2013, y bydd pawb yn gwneud taliad tuag at dreth y cyngor, hyd yn oed y rhai sydd cyn hyn wedi’u heithrio o daliadau. Bydd y cyngor yn ysgrifennu at y rhai sy’n derbyn budd-dal treth y cyngor ym mis Ionawr a mis Chwefror 2013.

Rheolau newydd ar gyfer tenantiaid sy’n tan-feddiannu eu cartref

Bydd y rhai sy’n derbyn budd-daliadau tai ac sy’n denantiaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (fel Cymdeithas Tai Sir Fynwy, Tai Siarter a Chartrefi Melin) yn gweld newid o fis Ebrill 2013 i’r hyn y maent yn eu derbyn o ganlyniad i’r rheoliadau newydd hyn.
Bydd swm y budd-dal tai a delir i denantiaid o oedran gweithio yn cael ei ostwng os oes ganddynt fwy o ystafelloedd gwely nag sydd eu hangen – sy’n cael ei alw’n ‘dan-feddiannaeth’ (yn ôl meini prawf newydd a osodwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau). Bydd budd-daliadau eraill, gan gynnwys budd-dal treth y cyngor, hefyd yn cael eu heffeithio.

Bydd hawlwyr budd-dal tai newydd a phresennol, sydd o oedran gweithio ac sy’n tan-feddiannu eu cartref, yn gweld toriad yn eu budd-dal tai o:

  • 14% ar gyfer un ystafell wely sbâr
  • 25% ar gyfer dwy neu fwy o ystafelloedd gwely sbâr

Nid yw’r rheolau newydd hyn yn berthnasol i chi os ydych chi neu eich partner o oedran pensiwn. Ym mis Ebrill 2013, bydd yr oedran pensiwn tua 61 blwydd oed a chwe mis, gan godi i 62 oed ym mis Ebrill 2014.

Er enghraifft, os ydych yn gwpl gydag un plentyn sy’n meddiannu cartref â thair ystafell wely, bydd gennych hawl o dan y rheolau newydd i ddwy ystafell wely, felly bydd gostyngiad o 14% yn eich budd-dal tai am fod gan eich cartref un ystafell wely sbâr.

Bydd y cyngor yn hysbysu’r rhai a fydd efallai yn cael eu heffeithio gan y rheolau newydd yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.

Os ydych yn meddwl y byddwch yn cael eich effeithio, yna cysylltwch â’r gymdeithas tai berthnasol:

  • Tai Siarter
  • Cartrefi Melin
  • Cymdeithas Tai Sir Fynwy

Am wybodaeth gyffredinol, edrychwch ar wefan y llywodraeth ganolog.

Yr uchafswm budd-daliadau

O fis Ebrill 2013, bydd cyfyngiad ar yr uchafswm o fudd-dal y gall aelodau cartref o oedran gweithio ei dderbyn, sef £500 ar gyfer cyplau sydd â phlant a chyplau sydd heb blant, a £350 ar gyfer oedolion sengl. Os oes gennych hawl i gredyd treth gwaith, neu os oes rhywun yn y cartref sy’n derbyn y budd-daliadau canlynol, ni fydd yr uchafswm yn berthnasol:

  • Lwfans Byw i’r Anabl / Lwfans Gweini
  • Taliad Annibyniaeth Bersonol (o fis Ebrill 2013)
  • Elfen cymorth y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Budd-daliadau Anafiadau Diwydiannol (a phensiynau a thaliadau anabledd rhyfel cyfatebol o dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog)
  • Pensiwn Rhyfel Gw?r a Gwragedd Gweddw

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nhaflen ffeithiau’r uchafswm budd-daliadau.

Credyd Cynhwysol

Budd-dal newydd yw Credyd Cynhwysol a fydd yn cael ei gyflwyno o fis Hydref 2013. Bydd yn disodli Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith ar Sail Incwm / Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Budd-dal Tai, Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith. Mae hyn yn golygu mai dim ond un cais sydd angen ei wneud a dim ond un taliad a fydd yn cael ei wneud.

Bwriad y system yw symleiddio’r ffordd y telir budd-daliadau, a bydd y mwyafrif helaeth o hawliadau yn cael eu gwneud ar-lein.

Sut y bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu?

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r hawliwr bob mis mewn ôl-daliadau. Mae hyn yn golygu na fydd Budd-dal Tai yn cael ei dalu bellach i’ch landlord, a bydd y tenant yn gyfrifol am dalu’r rhent i’w landlord. Er y bydd rhai eithriadau ar gyfer pobl sy’n agored i niwed, mae’n hanfodol bod gan bob tenant gyfrif banc fel y gallant dderbyn y taliad budd-dal a gwneud trefniadau i dalu eu rhent yn syth ar ôl derbyn eu taliad, e.e. trwy sefydlu debyd uniongyrchol.

Pryd bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno?

Bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno ym mis Hydref 2013 a bydd pob cais newydd am fudd-daliadau a chredydau presennol yn cael eu dileu’n raddol erbyn mis Ebrill 2014.

Bydd hawliadau presennol yn symud i Gredyd Cynhwysol rhwng mis Hydref 2013 a mis Hydref 2017.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nhaflen ffeithiau Credyd Cynhwysol.

, mae llywodraeth y DU yn gwneud newidiadau sydd wedi’u cynllunio i symleiddio’r system fudd-daliadau ac i annog pobl i gael gwaith. Bydd rhai o’r newidiadau yn dechrau ym mis Ebrill 2013, a bydd eraill yn cael eu cyflwyno’n raddol dros gyfnod o dair blynedd sy’n cychwyn ym mis Hydref 2013.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nhaflen ffeithiau’r sector rhentu cymdeithasol.