Skip to Main Content

Cynllun Twyll Cenedlaethol – Hysbysiad Prosesu Teg

Fel awdurdod cyhoeddus, mae’n ofyniad cyfreithiol arnom i ddiogelu’r cyllid cyhoeddus a weinyddwn. Gallwn rannu gwybodaeth a roddir i ni gyda chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddu cyllid cyhoeddus, er mwyn atal a chanfod twyll.

Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn gyfrifol am gynnal ymarferion paru data dan ei bwerau dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.

Mae paru data yn cynnwys cymharu cofnodion cyfrifiadurol a gedwir gan un corff gyda chofnodion cyfrifiadurol a gedwir gan yr un corff neu gorff arall i weld i ba raddau y maent yn paru. Mae hyn yn wybodaeth bersonol fel arfer. Mae paru data cyfrifiadurol yn ei gwneud yn bosibl dynodi hawliadau a thaliadau twyllodrus. Lle canfyddir gwybodaeth sy’n paru dengys fod anghysondeb sydd angen ei ymchwilio ymhellach. Ni ellir gwneud unrhyw dybiaeth p’un ai oes twyll, camgymeriad neu esboniad arall nes y cynhelir ymchwiiliad.

Mae’n ofyniad gan yr Archwilydd Cyffredinol ar hyn o bryd ein bod yn cymryd rhan mewn ymarferiad paru data i gynorthwyo wrth atal a chanfod twyll.  Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod ddarparu gwybodaeth sydd ganddo ar gyfer y diben hwn. Mae’n ofynnol i ni ddarparu setiau neilltuol o’r data i’r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer paru. Nodir manylion ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru, www.audit.wales/cy/ein-gwaith/menter-twyll-genedlaethol

Gan y caiff defnydd data gan yr Archwilydd Cyffredinol mewn ymarfer paru data ei wneud gydag awdurdod statudol (Rhan 3A Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, nid oes angen caniatâd yr unigolion dan sylw dan Ddeddf Diogelu Data 1998.

Mae paru data gan yr Archwilydd Cyffredinol yn amodol ar God Ymarfer. 

Darllenwch fwy o wybodaeth am y Fenter Twyll Genedlaethol yma –  Menter Twyll Genedlaethol / Archwilio Cymru.

Cysylltwch gyda Chyngor Sir Fynwy a gofyn am y Prif Archwilydd Mewnol neu e-bostiwch  InternalAudit@monmouthshire.gov.uk

Ffôn: 01633 644258

Tîm archwilio mewnol

Rydym yn cynnal adran Archwilio Mewnol yn unol ag Adran 151 Deddf Llywodraeth Leol 1972 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005.

Diffiniwyd Archwilio Mewnol fel “swyddogaeth sicrwydd sy’n rhoi barn annibynnol a gwrthrychol i’r sefydliad ar yr amgylchedd rheoli drwy werthuso ei effeithlonrwydd wrth gyflawni amcanion y sefydliad. Mae’n archwilio, gwerthuso ac adrodd yn wrthrychol ar ddigonolrwydd yr amgylchedd rheoli fel cyfraniad at ddefnydd cywir, darbodus, effeithiol ac effeithlon o adnoddau.”

Mae’r tîm yn gweithredu yn unol â Safonau Archwilio Mewnol Sector Cyhoeddus  y Deyrnas Unedig.

Mae’r tîm yn defnyddio methodoleg cynllunio seiliedig ar risg i gynhyrchu Cynllun Gwaith Archwilio blynyddol, mewn ymgynghoriad gyda phrif swyddogion y Cyngor a’n Pwyllgor Archwilio. Yn ogystal â’r gwaith a gynlluniwyd, rydym yn cynnal ymchwiliadau arbennig ar gais aelodau’r uwch dîm arweinyddiaeth.

Mae’r berthynas rhwng archwilio mewnol ac archwilio allanol yn rhoi ystyriaeth i’w gwahanol rolau a chyfrifoldebau.

  • Mae archwilio mewnol yn swyddogaeth gwerthuso annibynnol o fewn y sefydliad.
  • Mae gan archwilio allanol gyfrifoldeb statudol i fynegi barn annibynnol ar y cyfrifon, rheoli perfformiad ac agweddau ariannol llywodraethiant gorfforaethol.

Mae gan y Pwyllgor Archwilio un ar ddeg o aelodau etholedig y Cyngor a Chadeirydd allanol, annibynnol. Yn ogystal â chymeradwyo’r Cynllun Gwaith Blynyddol Archwiliad Mewnol, mae’r Pwyllgor Archwilio yn adolygu gwaith archwilio mewnol ac allanol ac yn derbyn datganiadau ariannol cyfrifon ac adroddiadau eraill (os yw’r archwilwyr neu aelodau’r pwyllgor yn gofyn am hynny).

Mae gan y Prif Archwilydd Mewnol hawl annibynnol o fynediad i Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio.

Archwilio allanol

Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru archwilydd allanol annibynnol a benodir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Mae’n rhaid i archwilwyr allanol wneud eu gwaith yn unol â Chod Ymarfer.

Ein harchwilwyr cyfredol a apwyntiwyd yw Swyddfa Archwilio Cymru.

I gysylltu â’n harchwilwyr allanol, ysgrifennwch at:

Mr. Richard Harries
Arweinydd Ymgysylltu

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500