Skip to Main Content

Mae gan Gyngor Sir Fynwy ddyletswydd statudol i sicrhau lleoedd ysgol digonol ac addas i blant yn y Sir, ac wrth wneud hynny sicrhau bod adnoddau a chyfleusterau’n cael eu defnyddio’n effeithlon er mwyn darparu’r cyfleoedd addysg y mae ein plant yn eu haeddu.

Fel rhan o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru), mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i ymgynghori ag aelodau’r gymuned a rhanddeiliaid priodol wrth ystyried unrhyw gynigion sylweddol ar gyfer trefniadaeth ysgolion.

Ar 17eg Ionawr 2024, cytunodd Cabinet y Cyngor i gychwyn y prosesau ymgynghori statudol gofynnol ar y cynnig canlynol:

  • I adleoli Ysgol Gymraeg Y Fenni o’i safle presennol yn St Davids Road, Y Fenni, NP7 6HF, i’r safle a arferai gael ei feddiannu gan Ysgol Gynradd Deri View, a leolir yn Llwynu Lane, Y Fenni, NP7 6AR.
  • O ganlyniad i’r adleoli uchod, cynigir cynyddu capasiti Ysgol Gymraeg Y Fenni i ddarparu 420 o leoedd i ddisgyblion ynghyd â 60 lle Meithrin.

Cynhaliwyd prosesau ymgynghori statudol rhwng dydd Llun 29ain Ionawr 2024 a dydd Llun 11eg Mawrth 2024, lle cafodd ymgyngoreion gyfle i ddarllen y Ddogfen Ymgynghori a chyflwyno’u barn ynghylch a ddylai’r cynigion symud ymlaen.

Y Camau Nesaf?

Ar ôl i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben, mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gynhyrchu Adroddiad Ymgynghori sy’n ceisio hysbysu partïon sydd â diddordeb o ganlyniad yr ymgynghoriad drwy’r canlynol:

  • Crynhoi pob un o’r materion a godwyd gan ymgynghorwyr.
  • Ymateb i’r rhain drwy eglurhad, diwygiadau i’r cynnig, neu wrthod y pryderon gyda rhesymau ategol.
  • Nodi barn Estyn (fel y darperir yn ei hymateb i’r ymgynghoriad) o rinweddau cyffredinol y cynnig

Cyfarfu Cabinet y Cyngor ar 5 Mehefin 2024 i ystyried adroddiad yr ymgynghoriad a’r argymhellion a wnaed iddynt. Penderfyniad y Cabinet oedd symud ymlaen i gamau nesaf y broses statudol sydd eu hangen i adleoli a chynyddu capasiti Ysgol Gymraeg y Fenni o 1 Medi 2025.

Mae’n rhaid yn awr gyhoeddi’r cynigion a amlinellir uchod fel hysbysiad statudol. Caiff yr hysbysiad statudol (a atodir) ei gyhoeddi’n ffurfiol ddydd Gwener 21 Mehefin 2023.

Bydd cyhoeddi’r hysbysiad statudol yn agor y cyfnod gwrthwynebu statudol, felly gall unrhyw un sy’n dymuno gwneud gwrthwynebiad statudol yn erbyn y cynnig wneud hynny. I gael ei ystyried fel gwrthwynebiad statudol, mae’n rhaid i wrthwynebiadau gael eu gwneud mewn ysgrifen neu drwy e-bost, a chael eu hanfon at y Cyngor o fewn 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad.

Dylid anfon gwrthwynebiadau at yr Uned Fynediad ar gyfer Ysgolion a Myfyrwyr, Cyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, Brynbuga, NP15 1GA neu drwy e-bost at strategicreview@monmouthshire.gov.uk.

Er eglurdeb, y dyddiad cau ar gyfer gwrthwynebiadau statudol yw 19 Gorffennaf 2023.

Pwysig: Mae’n rhaid i chi ymateb yn ystod y cyfnod gwrthwynebu statudol os dymunwch i’ch pryderon a godwyd yn ystod cam ymgynghori y broses yma gael eu trin fel gwrthwynebiadau statudol. Ni chaiff adborth a gafwyd yng nghyfnod ymgynghori y broses hon eu hystyried yn awtomatig fel gwrthwynebiadau statudol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad hwn, cysylltwch â ni drwy e-bostio strategicreview@monmouthshire.gov.uk

Dogfennau defnyddiol eraill yn ymwneud â’r ymgynghoriad hwn: