Skip to Main Content

Mae nifer o ffurfiau o ymddygiad gwrth-gymdeithasol fel swn, difrodi eiddo, graffiti ac iaith anweddus. Rydym ni am fynd i’r afael â phobl y mae eu hymddygiad gwrth-gymdeithasol yn effeithio ar fywydau’r rhai sydd yn byw yn eu cymuned.

Nid ydym ni’n dod yn rhan o anghydfodau rhwng cymdogion oni bai bod hyn yn cael effaith ar y gymuned ehangach.

Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi dioddef ymddygiad gwrth-gymdeithasol cysylltwch â’ch tîm plismona yn y gymdogaeth neu eich siop un stop leol. Os ydych chi’n denant i landlord cymdeithasol cofrestredig fel Cymdeithas Tai Sir Fynwy, hefyd y mae modd i chi gysylltu â’r swyddog tai.

Bydd pob un o’r rhain yn cynnal ymchwiliad cychwynnol i’ch cwyn. Os yn briodol, byddant yn atgyfeirio’r achos atom ni.

Os yw’n achos o ymddygiad gwrth-gymdeithasol caiff yr achos ei atgyfeirio at un o’r pedwar tîm gweithredu diogelwch cymunedol. Os oes unigolion wedi’u cydnabod fel achos yr ymddygiad gwrth-gymdeithasol bydd yr achos yn cael ei atgyfeirio at y cydlynydd ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

Cydlynydd ymddygiad gwrth-gymdeithasol – manylion cyswllt

Cydlynydd ymddygiad gwrth-gymdeithasol
Uned y Prif Weithredwr
Y Llawr Cyntaf
Neuadd y Sir
Cwmbrân
NP44 2XH

E-bost: communitysafety@monmouthshire.gov.uk

Ffôn: 01633 644210

Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol – Unigolion

Pan fo’r heddlu neu landlord cymdeithasol cofrestredig (fel Charter neu Gymdeithas Tai Sir Fynwy) yn cydnabod unigolyn sydd yn achosi ymddygiad gwrth-gymdeithasol, yn y man cychwyn, nhw fydd yn gweithredu. Gall hyn fod ar ffurf llythyron rhybudd neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb.

Lle y mae’r achos o ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn parhau neu teimlir ei bod o natur ddifrifol, caiff atgyfeiriad at y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ei wneud.

Caiff ffeil o dystiolaeth ei chychwyn a chynhelir cyfarfod aml-asiantaeth. Cynhelir y cyfarfod hwn yn unol ag Adran 115 y Ddeddf Trosedd ac Anhrefn sydd yn caniatâu i wybodaeth bersonol a chyfrinachol gael ei rhannu cyhyd â bod hyn ar gyfer darganfod neu atal troseddu neu ymddygiad gwrth-gymdeithasol. (Gweler Protocol Rhannu Gwybodaeth Holl Went).

Caiff cynllun gweithredu ei osod mewn lle er mwyn mynd i’r afael â’r ymddygiad gwrth-gymdeithasol a bydd pob asiantaeth yn cydweithio.

Efallai y bydd hyn yn cynnwys gweithio â’r unigolyn a’i deulu er mwyn atal yr ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Gallai hyn fod ar ffurf cymorth rhianta, cymorth â chamddefnyddio sylweddau neu weithgareddau i ddifyrru.

Hefyd, gallai fod ar ffurf gorfodi fel ASBO, gwaharddeb tai neu droi allan. (Gweler y Pecyn Cymorth Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol am fanylion pellach ar yr ymyriadau gorfodi sydd ar gael).

Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol – ardaloedd

Pan fo asiantaethau yn derbyn cwynion sydd yn broblemau yn ymwneud ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol mewn ardal caiff atgyfeiriad at un o’r pedwar Tîm Gweithredu Diogelwch Cymunedol ei wneud sef:

Bryn y Cwm – Y Fenni a’r cylch

Canolog – Trefynwy, Brynbuga a’r cylch

Gwy Isaf – Cas-gwent a’r cylch

Glan Hafren – Cil-y-coed, Magwyr a’r cylch

Bydd aelodau’r tîm yn sefydlu grwp datrys problemau. Bydd y grwp hwn yn cynnwys aelodau tîm ac unrhyw un sydd â gwybodaeth am y problemau neu sydd yn gallu helpu i fynd i’r afael â’r broblem.

Bydd y grwp datrys problemau yn ystyried y dystiolaeth am yr ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn enwedig o ran beth, ble, pryd a sut y mae’r ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn cael ei gyflawni. Bydd yn gosod cynllun gweithredu er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

Efallai y bydd hyn yn cynnwys cynllun patrôl yr Heddlu ar gyfer yr ardal, gwaith allgymorth gan y Gwasanaethau Ieuenctid, teledu cylch cyfyng gosodadwy a thargedu lleoliadau neu unigolion penodol.