Skip to Main Content

Mae prydau cymunedol ar gael 365 diwrnod y flwyddyn lle bynnag yn Sir Fynwy yr ydych yn byw.

Caiff prydau cymunedol eu dosbarthu yn cynnwys cerbyd wedi’i addasu o’r enw Chefmobile sy’n cynnwys ffwrn. Mae hyn yn golygu y caiff pob pryd eu dosbarthu ar y tymheredd cywir.

Efallai y bydd modd i chi gael prydau cymunedol os:

  • Ydych yn berson hŷn (dros 65 mlwydd oed)
  • Oes gennych anabledd neu amhariad synhwyraidd
  • Oes gennych broblem iechyd meddwl neu anabledd dysgu
  • Na allwch ofalu amdanoch eich hun oherwydd anaf neu salwch
  • Ydych yn ddibynnol ar gyffuriau a/neu alcohol
  • Ydych yn blentyn gydag anabledd corfforol
  • Ydych yn gofalu am rywun sydd mewn unrhyw un o’r amgylchiadau hyn

Rhaid archebu pob pryd bwyd ymlaen llaw. Caiff rysetiau eu dewis am eu nodweddion maeth cytbwys yn ogystal â’u blas i gyfrannu at ddiet iach. Gellir darparu ar gyfer gofynion dietegol unigol. Gallwn hefyd ddarparu prydau wedi’u rhewi i chi eu haildwymo yn ddiweddarach. Trafodwch yr opsiynau hyn gyda’ch gweithiwr cymdeithasol os gwelwch yn dda.

Os credwch y gallech fod yn gymwys i gael prydau cymunedol mae’n rhaid i chi gysylltu â’ch siop un stop leol.

Dim ond i bobl a gafodd eu hatgyfeirio gan y gwasanaethau cymdeithasol y mae’r gwasanaeth prydau cymunedol yn darparu prydau ar eu cyfer. Mae asiantaethau preifat sy’n darparu prydau cymunedol.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â’r swyddfa prydau cymunedol ar 01873 882910.