Skip to Main Content

Gellir mynychu cymorthfeydd y gwasanaeth pensiynau trwy apwyntiad yn unig. Os hoffech wneud apwyntiad i drafod unrhyw faterion neu angen cyngor ar fudd-daliadau y gallai fod gennych hawl iddynt, ffoniwch y gwasanaeth pensiynau ar 0845 6060265. Gellir trefnu ymweliad â’ch cartref neu yn y siop un stop lle bo angen.

Gellir cael gwybodaeth am y canlynol:

  • Pensiwn ymddeol
  • Credydau pensiwn
  • Lwfans gweini
  • Lwfans byw i’r anabl
  • Lwfans gofalwr
  • Taliadau tanwydd gaeaf
  • Rhent / treth y cyngor
  • Mynd i’r ysbyty
  • Mynd dramor a budd-daliadau nawdd cymdeithasol