Skip to Main Content

Bryn y Cwm – Cynllun Ardal Gyfan

O dan y faner Ardal Gyfan, bu i berthynas waith gydweithredol rhwng y gymuned leol, busnesau lleol, grwpiau gwirfoddol a gwasanaethau cyhoeddus arwain at ddatblygu cynllun ar gyfer y dyfodol o’r enw “Gwell Bryn y Cwm – Y Ffordd Ymlaen”. Mae’r cynllun wedi nodi 4 thema â blaenoriaeth:

1. Canol Tref y Fenni a’r amgylchedd busnes ehangach

2. Gwneud yn siŵr nad oes neb yn cael eu gadael ymhellach tu ôl / cydlyniant cymunedol

3. Cryfhau cysylltiadau addysg a busnes

4. Creu anheddiad cynaliadwy

Mae’r broses hefyd wedi nodi’r weledigaeth ganlynol:

Y Fenni a’r Cylch – Ardal gyda thref farchnad fywiog ac amgylchedd lleol gwych sy’n gofalu am bawb, yn cynnig profiadau bywyd o ansawdd i’w holl drigolion, ac yn croesawu ymwelwyr gyda breichiau agored.

Mae gwaith ar y gweill i droi’r weledigaeth yn ffaith ac mae prosiectau allweddol wedi’u nodi o fewn pob thema.

Copi o’r cynllun Gwell Bryn y Cwm; Crynodeb o’r Cynllun Ardal Gyfan

 

Prosiect Adfywio’r Fenni

Mae’r prosiect adfywio canol y dref yn cynnwys ailddarparu marchnad da byw newydd ym Mryngwyn ac ailddatblygu’r safle presennol i ddarparu siop fwyd Morrisons a llyfrgell newydd.

Mae’r prosiect erbyn hyn yn symud yn gyflym ac mae’r farchnad da byw newydd ym Mryngwyn i fod i gael ei chwblhau erbyn diwedd 2013, a fydd yn galluogi ANMAL (Abergavenny & Newport Market Auctioneers Ltd) i adleoli i’r farchnad newydd a gwaith ar yr archfarchnad Morrisons newydd i ddechrau.

Ceir dogfennau sy’n ymwneud â’r prosiect isod:

Dogfennau Cyfreithiol

Trwydded Dymchwel Adeiladau Lladd-dai 2013 Trwydded Dymchwel

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth 2012  Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth

Cytundeb A106  ar gyfer Cynllun Cydsyniedig Morrisons 2011 A106 Marchnad Da Byw’r Fenni

Heriau Cyfreithiol

Rhif achos: CO/1095/2012 R(Long) yn erbyn Cyngor Sir Fynwy Dyfarniad Wedi’i Gymeradwyo TERFYNOL

Rhif achos: CO/3488/2012 R(Long) yn erbyn Cyngor Sir Fynwy Dyfarniad Wedi’i Gymeradwyo TERFYNOL R(long) yn erbyn Gweinidogion Cymru Dyfarniad Wedi’i Gymeradwyo TERFYNOL

Gorchymyn: Gwrthodwyd caniatâd i apelio

Adroddiadau Ymgynghorwyr

Adroddiad y Comisiwn Cig a Da Byw 2002 (a elwir yn Brosiect Marchnad Da Byw’r Fenni ar hyn o bryd)

Adroddiad McGregor Smith 2004 Astudiaeth McGregor Smith

Arolwg Cyflwr y Farchnad Da Byw Bresennol 2011 Adroddiad Cyflwr, Y Farchnad Bresennol, Rhagfyr 2011