Skip to Main Content

Gwirfoddilo

Nod y prosiect gwirfoddoli Sport 4 Life Sir Fynwy yw cynnydd cyrhaeddiad gwirfoddoli, darparu sgiliau, a dangos y ffordd i ddatblygiad proffesiynol ac hyfforddiant parhaus mewn chwaraeon.

Trwy ein rhwydweithiau o ddarparwyr chwaraeon, cyrff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon a swyddogion allweddol, rydym yn gobeithio creu gweithlu o wirfoddolwyr i gefnogi a darparu chwaraeon cymunedol a chyfleoedd.

Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy ddarparu chwaraeon sylfaenol, trefnu gemau bach yn ddiogel, cwblhau gwiriadau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol, cyfeirio unigolion i glybiau a chymdeithasau, ac, yn bwysicaf oll, mentora unigolion pan ddechreuant gymryd rhan mewn chwaraeon.

Ewch i’r wefan i gofrestru yn yn rhaglen hon ac i gael canllawiau ar ddefnyddio’r safle.

Am wybodaeth neu gyngor pellach, cysylltwch â Geraint Roberts, Swyddog Datblygu Chwaraeon Cymunedol, Cas-gwent, 01633 644555 / 07825 845290, e-bost geraintroberts2@monmouthshire.gov.uk

CYRSIAU ADDYSG I HYFFORDDWYR

Mae’r Rhaglen Addysg i Hyfforddwyr yn Sir Fynwy yn cynnig ystod eang o gyrsiau gwych sy’n addas ar gyfer pob lefel o hyfforddiant, o ddechreuwyr i’r rhai sydd am ddatblygu eu sgiliau hyfforddi mewn nifer o chwaraeon.

Mae gan y Rhaglen Addysg i Hyfforddwyr raglen helaeth o weithdai, gan gynnwys gweithdai amddiffyn plant a chyrsiau Cymorth Cyntaf Brys.

Mae’r cyrsiau Sports Coach UK, sydd hefyd ar gael, wedi’u hanelu at bob hyfforddwr, dechreuwyr a rhai profiadol, sydd am gael mwy o wybodaeth am fater arbennig ynglŷn â hyfforddi.

Gyda chymaint o gyrsiau amrywiol ar gael, mae Tîm Datblygu Chwaraeon Sir Fynwy yn barod i helpu gydag unrhyw ymholiadau. Gallant hefyd wneud argymhellion ar ba gyrsiau sydd orau ar gyfer eich anghenion.

Yma byddwch yn gweld rhestr o Gyrsiau Addysg i Hyfforddwyr

Datblygu Chwaraeon Sir Fynwy – sport@monmouthshire.gov.uk

Ffôn 01633 644544