Skip to Main Content

Mae’r tîm twristiaeth yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i annog twf twristiaeth gynaliadwy. Bydd hwn yn sicrhau manteision cyffredinol ar gyfer y boblogaeth leol.

Os ydych yn rhedeg busnes twristiaeth yn Sir Fynwy (neu yn meddwl am ddechrau un), neu os ydych yn chwilio am ystadegau neu wybodaeth ynghylch twristiaeth yn Sir Fynwy, gallwn eich helpu.

Gellir gweld gwybodaeth am lety, atyniadau, gweithgareddau a digwyddiadau yn Sir Fynwy ar hafan ymwelwyr ein gwefan.

Cymorth i fusnesau a chyllid

Os ydych yn meddwl am ddechrau busnes twristiaeth newydd neu wneud unrhyw welliannau/ychwanegiadau i fusnes presennol, ffoniwch 01633 644865 neu anfon e-bost at tourism@monmouthshire.gov.uk

Cyfleoedd marchnata

Ar hyn o bryd, mae Sir Fynwy a Chasnewydd yn cael eu hyrwyddo ar y cyd fel “Dyffryn Gwy a Dyffryn Wysg”, sy’n un o’r dair ardal ar ddeg o ardaloedd marchnata a ddynodwyd yng Nghymru.

Mae Twristiaeth Sir Fynwy yn defnyddio ystod lawn o ddulliau cyfathrebu marchnata i hyrwyddo’r cyrchfan, gan gynnwys:

  • Gwefan: www.visitwyevalley.com
  • Rhwydweithio cymdeithasol: Facebook a Twitter.
  • E-gylchlythyrau rheolaidd

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r cyfleoedd marchnata uchod, cysylltwch â’r Swyddog Marchnata Twristiaeth ar 01633 644842 neu tourism@monmouthshire.gov.uk

Ymchwil ac ystadegau

Mae Sir Fynwy yn cynnal monitro rheolaidd o gyfaint a gwerth twristiaeth i’r economi leol gan ddefnyddio’r model STEAM (Scarborough Tourism Economic Activity Monitor).

  • Adroddiad STEAM 2009
  • Adroddiad STEAM 2010
  • Adroddiad STEAM 2011
  • Adroddiad STEAM 2012

Am ragor o ganlyniadau ymchwil, gan gynnwys gwybodaeth am gyfraddau meddiannaeth, ewch i http://www.industry.visitwales.co.uk/

Arwyddion twristiaeth brown a gwyn

Adolygasom ein polisi ynghylch arwyddion twristiaeth brown a gwyn ym mis Mai 2011 er mwyn gwneud mwy o fusnesau yn gymwys i gael arwyddion.*

O dan y polisi newydd, er enghraifft, bydd angen i atyniadau i ymwelwyr ddenu 4,000 o ymwelwyr bob blwyddyn i gael arwyddion.

Mae’r pecyn arywddion twristiaeth yn cynnwys cyfarwyddyd cynhwysfawr ar gyfer busnesau ynghylch y polisi, ynghyd â ffurflen gais.

I ofyn am gopi caled o’r pecyn neu i gael trafodaeth anffurfiol am y polisi newydd neu’r cyllid, ffoniwch 01633 644865 neu anfon e-bost at tourism@monmouthshire.gov.uk

* Sylwer nad yw cymhwyster ar gyfer arwyddion twristiaeth yn rhoi’r hawl i chi gael un yn awtomatig, gan fod rhaid ystyried materion eraill, fel diogelwch ar y ffyrdd, ansawdd a ‘llygredd arwyddion’, cyn y gellir cymeradwyo ceisiadau.