Skip to Main Content

Cyngor a gwybodaeth

Mae gennym wefan wych ynghylch prydau ysgol o’r enw Fy Nghinio Ysgol. Mae Fy Nghinio Ysgol yn codi ymwybyddiaeth am giniawau ysgol ac yntau’n addysgu plant, rhieni ac athrawon ynghylch bwyta’n iach a byw bywyd egnïol.

Mae’r wefan yn cynnw

  • Gemau rhyngweithiol ac addysgol
  • Cystadleuthau rheolaidd
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am brydau ysgol yn Sir Fynwy
  • Adran i rieni leisio eu barn ynghylch prydau ysgol
  • Adnoddau dysgu ynglyn â bwyta’n iach
  • Bwydlen prydau ysgol bresennol
  • Y newyddion diweddaraf am fentrau bywyd iach yn Sir Fynwy

Ein Nod

Rydym yn cynnig prydau iach a maethlon. Rydym yn gweithio byth a beunydd at ddarparu amrediad da o brydau iachach i gyflawni gofynion maeth plant sy’n tyfu a datblygu.
Ein nod yw sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn cael pryd iach a maethlon a’n bod hefyd yn darparu ar gyfer llysieuwyr a’r rhai sydd ar ddeiet arbennig.  Rydym yn gweithio gyda chyflenwyr lleol a chynhyrchwyr cenedlaethol i ddarparu pryd iach a maethlon i oedolion ifanc y dyfodol.
Rydym yn awyddus i ddilyn ymagwedd ysgol gyfan at addysg bwyd, gan sicrhau cefnogaeth rhieni/gofalwyr, athrawon, staff arlwyo, llywodraethwyr a’r awdurdod addysg lleol.

Prisiau Prydau Ysgol

Lawrlwythwch neu edrychwch ar ein fwydlen prydau ysgol. Bydd y fwydlen yn dechrau ar 3 Tachwedd 2014, ar Wythnos 1.

Mae ae’r prisiau presennol ar gyfer prydau ysgol fel a ganlyn (sylwer y gall prisiau prydau gael eu hadolygu):

Disgyblion- £2

Odeolion – £3.60

Mae ysgolion Sir Fynwy yn gweithredu amryfal ddulliau o dalu am brydau ysgol, gan gynnwys taliadau dyddiol, wythnosol, misol, neu bob tymor o flaen llaw.  Gellir rhoi mwyafswm o 5 pryd credyd y disgybl, a bydd rhieni’n cael llythyrau yn rhoi gwybod iddynt am unrhyw arian sy’n ddyledus.

Ar ôl i’r credyd hwn gael ei dorri, bydd gofyn i rieni wneud eu trefniadau eu hunain i ddarparu pryd bwyd amser cinio i’w plentyn nes bod y ddyled wedi’i thalu.

Prydau Ysgol am Ddim

Meini Prawf Cymhwyster

Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol a gynhelir gan eich awdurdod addysg lleol a rydych yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol, fe allwch hawlio prydau ysgol am ddim iddynt:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
  • Cymorth yn unig â Rhan VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar Sail Incwm
  • Credyd Treth Plant, ar yr amod nad oes ganddynt yr hawl i Gredyd Treth Gwaith ac nad yw eu hincwm blynyddol yn uwch na £16,190. (Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn gyfrifol am asesu lefel incwm blynyddol.)
  • Yr elfen gwarant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth
  • Credyd Treth Gwaith di-dor – y taliad efallai y bydd rhywun yn ei dderbyn am bedair wythnos bellach ar ôl iddynt orffen fod yn gymwys am Gredyd Treth Gwaith