maethu yn sir fynwy

cydweithio i adeiladu gwell dyfodol i blant lleol

maethu yn sir fynwy

Rydyn ni’n credu mewn gweithio gyda’n gilydd i greu dyfodol gwell i’r holl blant yn ein hardal leol.

Ni yw Maethu Cymru Monmouthshire, rhan o nid-er-elw rwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

Mae maethu’n golygu gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn, gan ei alluogi i gyrraedd ei lawn botensial. Rydyn ni’n gweithio’n galed i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i blant a phobl ifanc drwy ddarparu’r holl hyfforddiant a chefnogaeth sydd eu hangen ar ein hamrywiaeth eang o ofalwyr maeth i ddiwallu eu hanghenion.

meddwl am faethu?

carer and young woman hugging and smiling
pwy all faethu?

Mae pob plentyn yn unigryw, yn ogystal â'r gofal sydd ei angen arnyn nhw. Holwch i weld a allech chi fod yn ddewis da.

mae'r atebion ar gael yma
woman and two children laughing
mathau o faethu

Mae hyn yn gallu bod yn unrhyw beth o aros dros nos neu seibiant byr, i leoliadau mwy hirdymor. Mae pob plentyn yn wahanol, ac mae’r gofal sydd ei angen arnyn nhw hefyd yn wahanol.

beth sy'n iawn i chi?

llwyddiannau lleol

Hope

pam maethu gyda ni?

Mae cyfoethogi bywyd plentyn yn gallu gwneud gwahaniaeth i’ch bywyd chi hefyd.

Rydyn ni’n darparu hyfforddiant arbenigol, cymorth bwrpasol a lwfansau ariannol i bawb rydyn ni’n gweithio gyda nhw. Fel sefydliad nid-er-elw, rydyn ni wedi ymrwymo i feithrin hapusrwydd y plant rydyn ni’n gweithio gyda nhw. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Agreement icon

y gymuned faethu

Discussion icon

cefnogaeth

Training icon

dysgu a datblygu

Social worker icon

tîm therapiwtig (Fy Nhîm Cymorth a BASE)

sut mae maethu yn gweithio

Foster carer and boy smiling at a fence
y broses

Dysgwch sut mae cymryd y camau cyntaf ar eich taith faethu, a beth i'w ddisgwyl nesaf.

dysgwych mwy
Fostering in Monmouthshire
cwestiynau cyffredin

Ond beth yn union yw maethu, a sut mae’n gweithio? Dyma’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn i ni drwy’r amser.

dod o hyd i'r atebion
Nick and Claire Foster Wales Monmouthshire

“Ydyn, maen nhw (plant) yn gallu dod â llawer o heriau, ac efallai y bydd rhai adegau pan fyddwch chi’n meddwl, ‘Dydw i ddim yn gwybod beth rydw i’n mynd i’w wneud nawr’, ond rydych chi’n ei weithio allan! Nid oes angen i chi wybod popeth, oherwydd mae’r hyfforddiant a gewch yn wych.”

Claire y Nick, gofalwyr maeth lleol

cysylltwch heddiw am sgwrs anffurfiol

Cyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Call 01291 635682

Cursor pointer icon Phone ringing icon Open envelope icon

neu gadewch eich ymholiad isod

  • Cyngor Sir Fynwy yw’r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu’ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu’n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data’n disgrifio’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Fynwy yn defnyddio’ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.