Skip to Main Content

eisteddfod

Bydd gwyl flaenaf Cymru’n ymweld â Sir Fynwy a’r ardaloedd cyfagos o 29 Gorffennaf – 6 Awst 2016, gyda’r Maes wedi’i leoli’n agos at dref hyfryd Y Fenni.

Yn ôl ymchwil annibynnol dros gyfnod helaeth, mae cynnal y Brifwyl yn rhoi hwb o £6-£8 miliwn i economi’r dalgylch yn ystod yr wythnos, gyda’r sector dwristiaeth a lletygarwch yn elwa fwyaf. Bydd miloedd o ymwelwyr yn tyrru i’r ardal yn ystod yr wythnos, a bydd pawb angen gwybodaeth am wasanaethau lleol a beth sydd i’w wneud yn yr ardal.

Mae’r Eisteddfod yn:

  • Prosiect cymunedol sy’n para am ddwy flynedd;
  • Gŵyl gelfyddydol sy’n rhoi llwyfan cenedlaethol i gerddoriaeth a dawns;
  • Maes lliwgar gyda phafiliwn yn ganolbwynt i’r cystadlu a’r seremonïau, a gweithgareddau o bob math o’i amgylch;
  • Dros 300 o stondinau amrywiol a Neuadd Arddangos sy’n llawn crefftwyr, gemwaith a gwaith celf.

Byddwn yn defnyddio’r dudalen yma i roi cymaint o wybodaeth ag y gallwn, pan fydd yr wybodaeth honno gennym. Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych ei angen, cysylltwch yn defnyddio’r manylion islaw os gwelwch yn dda.

CYFLE I GRWPIAU GARDDIO A CHANOLFANNAU GARDDIO SIR FYNWY I GYMRYD RHAN YN YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL

Hoffem roi cyfle i grwpiau garddio a busnesau lleol greu ardal gardd hyfryd tu allan i Babell Sir Fynwy yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni rhwng 29 Gorffennaf – 6 Awst.

 

Disgwylir 150,000 o bobl i ymweld â maes yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos felly bydd yn gyfle gwych i ddathlu busnesau a grwpiau yn Sir Fynwy. Bydd gennych lain 7x5M i’w llenwi gyda gwelyau blodau uchel, bwâu, cadeiriau siglen, llwybrau, gerddi llysiau; mae’r cyfan ar gael i chi greu a dangos yr hyn sydd gennych i’w gynnig (yn naturiol bydd lleoedd ar gyfer brandio/arwyddion i annog ymwelwyr i ddod at eich busnes). Bydd gennym hefyd lwyfan bysgio dan enw ‘Y Cornel Cwtch’ yn yr ardd lle bydd rhaglen o farddoniaeth, cerddoriaeth fyw a dawns drwy gydol y dydd.

 

Gwahoddwn chi i gymryd rhan a lledaenu’r gair drwy gysylltu â Nicky Neil yng Nghyngor Sir Fynwy yn t nickyneil@monmouthshire.gov.uk erbyn 3 Mehefin 2016.

 

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol am yr Eisteddfod neu os ydych yn ansicr gyda phwy i gysylltu, cysylltwch â:

Ar gyfer ymholiadau penodol y Cyngor, cysylltwch â: