Yn gyfreithiol, rydych yn ddigartref os:
· Nad oes gennych rywle i fyw yn y wlad hon neu mewn unrhyw le arall yn y byd sydd ar gael i chi fod yno
· Nad oes gennych unrhyw hawl gyfreithiol i aros yn eich cartref
· Oes gennych rywle i fyw ond eich bod yn methu mynd i mewn i’r eiddo
· Oes gennych rywle i fyw ond nid yw’n rhesymol i chi aros yno, er enghraifft, mae’n debygol y bydd hyn yn arwain at yr unigolyn neu aelod o’u haelwyd, yn destun camdriniaeth.
· Oes gennych gwch, carafán neu gartref symudol ond heb unrhyw le i’w gadw
Gallwch hefyd wneud cais am gyngor a chymorth os yw’n debygol y byddwch yn ddigartref yn y 56 diwrnod nesaf. Gall hyn fod oherwydd eich bod:
· Wedi eich galw i’r Llys a bod y Llys yn dweud fod rhaid i chi adael eich eiddo o fewn y 56 diwrnod nesaf
· Wedi bod yn byw gyda theulu neu ffrindiau a’u bod wedi gofyn i chi adael o fewn y 56 diwrnod nesaf
Byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn eich helpu i aros yn eich cartref. Os nad yw hyn yn bosib, byddwn yn eich cynorthwyo i ddod o hyd i lety newydd.
· Protocol Argyfwng Tywydd Garw ar gyfer Cysgwyr ar y Stryd
· Rwyf wedi gweld rhywun yn Cysgu ar y Stryd
Rhif ffôn: 01633 644 644 · Cyfeiriad e-bost: housingoptions@monmouthshire.gov.uk
Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Iau 8.45 – 5.00pm, Dydd Gwener 8.45 – 4.30pm
Rhif argyfwng allan o oriau: 01633 644 644