CRONFA I FUSNESAU DAN GYFYNGIADAU – DIWEDDARIAD
Mae Llywodraeth Cymru heddiw (21 Rhagfyr 2020) wedi cadarnhau y caiff y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau ei hymestyn i roi cymorth benodol ychwanegol i fusnesau NDR manwerthu heb fod yn hanfodol a gafodd eu gorfodi i gau gan y rheoliadau diweddaraf.
Os ydych yn fasnachwr heb fod yn hanfodol a dderbyniodd grant cysylltiedig â NDR (Ardrethi Annomestig) dan y cynllun Cyfnod Clo Byr diweddar yna ni fydd angen i chi ail wneud cais am y grant newydd hwn. Caiff taliad o naill ai £3,000 neu £5,000 ei dalu’n awtomatig i chi yn yr wythnos yn dechrau 4 Ionawr 2021.
Bydd angen i fusnesau manwerthu heb fod yn hanfodol a gafodd eu gorfodi i gau na wnaeth gais am y grant Cyfnod Clo Byr NDR lenwi ffurflen gais fer. Bydd y ffurflen hon ar gael ar ein gwefan yn wythnos gyntaf mis Ionawr 2021.
Os ydych eisiau wneud cais am y grant hwn peidiwch âllenwi’r ffurflen gais sydd ar ein gwefan ar hyn o bryd. Bwriedir y ffurflen hon ar gyfer busnesau lletygarwch, hamdden a twristiaeth y mae’r cyfyngiadau a gyhoeddir ar 4 Rhagfyr 2020 yn effeithio arnynt.
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio’r Gronfa i Fusnes dan Gyfyngiadau i gefnogi busnesau y mae’r cyfyngiadau ychwanegol a gafodd eu rhoi yn eu lle ar 4 Rhagfyr i reoli lledaeniad COVID-19 wedi effeithio yn uniongyrchol arnynt. Diben y grant yw rhoi cymorth llif busnes i fusnesau a’u helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau a gyflwynwyd. Mae’r grant yn anelu i ategu mesurau eraill ymateb i COVID-19 i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru.
Mae’r gronfa yn cynnwys dau grant ar wahân, Grant Ardrethi Annomestig y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau a Grant Dewisol y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau. Ni all busnesau wneud cais am y ddau grant. Os oes gennych rif ardrethol ar gyfer eich busnes yna dylech wneud cais am y Grant Trethi Annomestig. Os na chodir ardrethi ar eich busnes, yna gallwch wneud cais ar gyfer Grant Dewisol.
Grant Ardrethi Annomestig y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiad
Gwerth ardrethol eich busnes fydd yn penderfynu’r swm o grant a gaiff ei ddyfarnu fel sy’n dilyn:
Grant A:
Taliad grant ariannol o £3,000 ar gyfer busnesau lletygarwch gyda heraditament gyda gwerth ardrethol o £2,000 neu lai sy’n cymhwyso am SBBR.
Grant B:
Taliad grant ariannol o £5,000 ar gyfer busnesau lletygarwch gyda heraditament gyda gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000.
Grant C:
Taliad grant ariannol o £5,000 ar gyfer busnesau lletygarwch gyda heraditament gyda gwerth ardrethol rhwng £51,001 a £150,000.
Os ydych yn fusnes lletygarwch sy’n cymhwyso a dderbyniodd grant Ardrethi Annomestig dan y Cynllun Cyfnod Clo Byr yna nid oes angen i chi wneud cais am y grant hwn. Caiff taliad ei wneud i chi’n awtomatig yn defnyddio’r wybodaeth y gwnaethoch ei anfon yn eich cais Cyfnod Clo Byr.
Y rhai sydd angen iddynt gofrestru yw’r rhai na wnaeth gais am grant Ardrethi Annomestig yn ystod y cyfnod clo byr.
Opsiwn 1:Dylai busnesau lletygarwch gyda gwerth ardrethol hyd at £51,000 lenwi’r
Dylai busnesau lletygarwch lenwi’r ffurflen hon
Mae busnesau lletygarwch sy’n cymhwyso yn cynnwys:
Tafarndai
· Bwytai
· Caffes
· Bariau a bariau gwin
· Gwestai
· Sinemâu
· Theatrau
· Safleoedd cerddoriaeth
· Mannau chwarae awyr agored
OPSIWN 2: Gall busnesau eraill na chaiff eu cynnwys yn y rhestr uchod
Mae hyn yn cynnwys busnesau gyda gwerth ardrethol rhwng £51,001 a £150,000
tebyg i’r gadwyn gyflenwi lletygarwch, twristiaeth a hamdden (yn cynnwys eu cadwyn gyflenwi) a manwerthu wneud cais am grant drwy’r ffurflen Ardrethi Annomestig yma
Ar y ffurflen hon bydd angen i fusnesau roi tystiolaeth (ar sail hunanddatgan) y bu gostyngiad o fwy na 40% yn eu trosiant fel canlyniad i’r cyfyngiadau newydd.
I gael mwy o wybodaeth darllenwch y Ddogfen Canllawiau Grant Ardrethi Annomestig y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau
Ar gyfer busnesau heb fod ar y system ardrethi busnes: Grant Dewisol i Fusnesau dan Gyfyngiadau:
Gall busnesau nad ydynt ar y system Ardrethi Busnes wneud cais am Grant Dewisol y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau. Mae £2,000 ar gael yn y grant dewisol hwn i gynorthwyo busnesau sydd:
- Wedi eu gorfodi i gau neu y bu’n ofynnol iddynt gau fel canlyniad i’r cyfyngiadau cenedlaethol a roddwyd yn eu lle ar gyfer busnesau lletygarwch
- NEU sy’n amcangyfrifir y bydd y cyfyngiadau diweddaraf a gyflwynwyd yn arwain at ostyngiad o 40% o leiaf yn eu trosiant ar gyfer mis Rhagfyr 2020 o gymharu gyda mis Rhagfyr 2019 (neu drosiant mis Medi 2020 os nad oeddent yn masnachu ym mis Rhagfyr 2019).
I gael mwy o wybodaeth darllenwch y Ddogfen Canllawiau ar Grant Gorddewisol y Gronfa i Fusnesau gan Gyfyngiadau:
OPSIWN 3: Os dymunwch wneud cais, llenwch y cais Grant Dewisol Busnesau dan Gyfyngiadau yn defnyddio’r ffurflen hon os gwelwch yn dda
Bydd y tabl dilynol yn helpu busnesau i benderfynu pa grant y dylent wneud cais amdano
Math o fusnes | Statws | Gwerth Ardrethol | Hanes grant blaenorol | Camau sydd eu hangen |
---|---|---|---|---|
Busnesau Lletygarwch | Â rhif ardrethi · Ar y rhestr ardrethi Ardrethi Annomestig fel ar 1 Medi 2020 · yn meddiannu’r eiddo fel ar 30 Tachwedd 2020 | Mae Gwerth Ardrethol yr eiddo rhwng £1 a £51,000 | Wedi gwneud cais a derbyn Grant Cyfnod Clo Byr | Dim angen gweithredu – gwneir taliadau awtomatig ar gyfer Grant Ardrethi Annomestig y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau |
Busnes Lletygarwch | Â rhif ardrethi · ar y rhestr ardrethi Ardrethi Annomestig fel ar 1 Medi 202 · yn meddiannu’r eiddo fel ar 30 Tachwedd 2020 | Mae gwerth ardrethol yr eiddo rhwng £1 a £51,000 | Heb wneud cais am Grant Cyfnod Clo Tymor Byr | Angen llenwi ffurflen gais fer Ardrethi Annomestig Lletygarwch (Opsiwn 1 uchod |
Lletygarwch, twristiaeth, hamdden (yn cynnwys eu cadwyn gyflenwi) a manwerthu | Â rhif ardrethi · ar y rhestr ardrethi Ardrethi Annomestig fel ar 1 Medi 2020 · yn meddiannu’r eiddo fel ar 30 Tachwedd 2020 | Mae gwerth ardrethol yr eiddo rhwng £1 a £150,000 | Ymgeiswyr newydd neu flaenorol | Llenwi ffurflen gais Ardrethi Annomestig fer (Opsiwn 2 uchod) |
Pob busnes arall sydd naill ai wedi ei gorfodi i gau neu sy’n amcangyfrif gostyngiad o 40% mewn masnach fel canlyniad i’r cyfyngiadau diweddaraf | Dim rhif ardrethi ac heb fod ar y system ardrethi busnes | Dim gwerth ardrethol | Ymgeiswyr newydd neu flaenorol | Llenwi ffurflen gais fer Dewisol (Opsiwn 3 uchod) |