
Uwch Swyddog Polisi Cynllunio a Swyddog A106
Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at weithredu, monitro, adolygu a diwygio Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy yn cynnwys paratoi, mabwysiadu a gweithredu unrhyw Gynllun(iau) newydd, ynghyd â Chanllawiau Cynllunio Atodol ac arolygon eraill cysylltiedig.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn cymryd rôl arweiniol wrth gydlynu, negodi a rheoli goblygiadau ariannol A106 a sicrhawyd drwy geisiadau cynllunio i gynorthwyo gyda chyflenwi prosiectau seilwaith cymunedol allweddol i gefnogi cymunedau o fewn Sir Fynwy.
Bydd elfen Polisi Cynllunio y swydd yn cyfrif am fwyafrif amser y swyddog (0.8), gydag elfen A106 yn cyfrif am 0.2 o’u hamser. Gall hyn amrywio yn dibynnu ar anghenion meysydd gwasanaeth a disgwylir i’r swyddog gymryd ymagwedd hyblyg ar hyn.
Cyfeirnod Swydd: RDP06
Gradd: BAND I SCP 31 – SCP 35 £35,336 - £39,571
Oriau: 37 yr wythnos
Lleoliad: Neuadd y Sir, Brynbuga
Dyddiad Cau: 26/05/2022 5:00 pm
Dros dro: NA
Gwiriad DBS: NA