Skip to Main Content

Mae gennym ymrwymiad i atal twyll a chamgymeriadau a gweithiwn yn agos gyda Gwasanaeth Ymchwilio Twyll Sengl a sefydlwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i ymchwilio Twyll Budd-dal Tai yn ogystal â Budd-daliadau lles eraill megis credydau treth.

 

Byddwn hefyd yn dynodi twyll yng Nghynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor ac yn cynnal ymholiadau cynhwysfawr, yn cyfweld â hawlwyr ac yn erlyn troseddwyr lle’n briodol.

 

Mae enghreifftiau nodweddiadol o dwyll yn cynnwys rhai sy’n

  • gweithio ond nad ydynt yn datgan hynny pan maent yn hawlio budd-dal
  • hawlio fel person sengl ond mewn gwirionedd yn byw gyda’u partner
  • hawlio o gyfeiriad ond nad ydynt yn byw yno mewn gwirionedd
  • peidio dweud wrthym am eu holl incwm a chynilion pan fyddant yn hawlio budd-dal

Os ydych yn gwybod am rywun a all fod yn hawlio budd-daliadau drwy dwyll, gofynnir i chi ein hysbysu amdano yn un o’r ffyrdd dilynol:

  •  hysbysu’r Adran Gwaith a Phensiynau
  • cysylltu â llinell arbennig twyll 01495 766324. Mae hwn yn rhif ffôn ar y cyd, a gaiff ei rannu gyda Sir Fynwy a Thorfaen
  • defnyddio ffurflen ar-lein Torfaen i roi adroddiad am y twyll budd-daliadau
  • anfon e-bost at benefits@monmouthshire.gov.uk

Caiff yr holl wybodaeth ei thrin yn hollol gyfrinachol a gallwch aros yn ddienw os dymunwch. Gofynnir i chi roi cymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl os gwelwch yn dda.

 

Noder os gwelwch yn dda – Caiff Gwasanaeth Budd-daliadau Sir Fynwy ei ddarparu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen