Skip to Main Content

Isod ceir adnoddau a chyngor defnyddiol i bobl ifanc, yn ystod yr hinsawdd bresennol o unigedd cymdeithasol a chau ysgolion.  

Adnoddau eraill y gallwch edrych arnynt – nodwch na fydd pob un o’r rhain yn berthnasol i’ch amgylchiadau ond y gall rhai ohonynt fod o gymorth wrth reoli anawsterau emosiynol tymor byr.  

Apiau:  

Gallai’r apiau hyn fod yn ddefnyddiol wrth eich helpu i reoli eich anawsterau.  Byddant ar gael ar y rhan fwyaf o ffonau clyfar.  

  • What’s up? – ap am ddim a gynlluniwyd i’ch helpu i ymdopi ag Iselder, Gorbryder, Dicter, Straen a mwy 
  • Head Space – ap i’ch helpu i ail-fframio straen gan ddefnyddio ymwybyddiaeth ofalgar. Ymlaciwch gyda myfyrdodau dan arweiniad a thechnegau ymwybyddiaeth ofalgar. 
  • Smiling Mind – ap am ddim i’ch helpu i ail-fframio straen gan ddefnyddio ymwybyddiaeth ofalgar. Ymlaciwch gyda myfyrdodau dan arweiniad a thechnegau ymwybyddiaeth ofalgar. 
  • Calm Harm – ap am ddim sy’n darparu tasgau sy’n helpu i dynnu eich sylw, a rheoli’r awydd i hunan-niweidio. 
  • Woebot – ap am ddim sy’n darparu bot sgwrsio therapi sy’n eich helpu i fonitro eich hwyliau a dysgu mwy amdanoch chi’ch hun. 
  • Molehill Mountain – ap i helpu pobl awtistig i ddeall a hunanreoli gorbryder. 
  • Beat Panic – goresgyn ymosodiadau panig a phryder lle bynnag y byddwch yn digwydd bod 
  • Big White Wall – cael cymorth rownd y cloc gan therapyddion i’ch helpu i ymdopi â straen a phryder 
  • Blue Ice – mae’r ap hwn yn helpu pobl ifanc i reoli eu hemosiynau a lleihau’r anogaeth i hunan-niweidio  
  • Catch It – dysgwch reoli meddyliau negyddol ac edrych ar broblemau’n wahanol 
  • DistrACT – mynediad cyflym a chyfrinachgar at wybodaeth a chyngor am hunan-niweidio a meddyliau hunanladdol 
  • Feeling Good – Meddylfryd Cadarnhaol – defnyddiwch draciau sain i helpu i ymlacio eich corff a’ch meddwl a gwella eich hyder 
  • My Possible Self: Yr Ap Iechyd Meddwl – dysgwch sut i reoli ofn, pryder a straen a mynd i’r afael â meddwl diddefnydd 
  • Silver Cloud – cwrs wyth wythnos i helpu i reoli straen, gorbryder ac iselder ar eich cyflymder eich hun 
  • Stress & Anxiety Companion – ymarferion anadlu, ymlacio cerddoriaeth a gemau i helpu i dawelu eich meddwl a newid meddyliau negyddol 
  • Thrive – defnyddiwch gemau i olrhain eich hwyliau a dysgu dulliau i chi’ch hun i gymryd rheolaeth dros straen a phryder   

Gwefannau  

Mae’r gwefannau canlynol yn llawn gwybodaeth a gallant fod o fudd i chi:- 

  • Teen Body Image And Self-esteem – Canllaw Ymarferol i Rieni 

Llinellau testun:  

Shout yw gwasanaeth testun 24/7 am ddim cyntaf y DU i unrhyw un mewn argyfwng unrhyw bryd, unrhyw le.  Mae’n lle i fynd os ydych chi’n cael trafferth ymdopi.  Os oes angen help arnoch ar unwaith, tecstiwch Shout i 85258 neu ewch i giveusashout.org 

Llinellau Ffôn:  

Y Samariaid – Beth bynnag rydych chi’n mynd drwyddo, bydd y Samariaid yn ei wynebu gyda chi.  Maent ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Ffoniwch 116 123 am ddim. 

Y Ffordd i Les (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan) 

Mae’r wefan hon a’r cyrsiau yn briodol i bobl ifanc dros 13 oed  

Mae gan wefan Ffordd i Les lawer o wybodaeth ymarferol a defnyddiol am ymdopi â straen, gorbryder neu iselder, neu wella eich lles meddyliol yn gyffredinol. Ewch i www.wales.nhs.uk/roadtowellbeing er mwyn cael gwybod mwy. 

Mae gan y wefan hefyd fanylion am ddau gwrs sydd ar gael: mae “Rheoli Straen” ac Ysgogi Eich Bywyd” yn ddau gwrs, sy’n cael eu rhedeg mewn fformat nad yw’n rhyngweithiol, ar ffurf darlithoedd i unrhyw un a hoffai ddatblygu sgiliau sy’n eu galluogi i “fod yn therapydd eu hunain”, rheoli straen a byw bywyd mwy ystyrlon. 

Gallwch weld taflenni am y cyrsiau hyn ar wefan Ffordd i Les drwy glicio ar Ynglŷn â’n Cyrsiau ac yna drwy lawrlwytho’r ddwy daflen ar waelod y dudalen. Mae dyddiadau’r cyrsiau ar gael ar yr un wefan drwy glicio Dyddiadau’r Cyrsiau. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y naill gwrs neu’r llall, ffoniwch 0300 053 5596 

Cymorth Anghenion Ychwanegol:  

Magic – Yn gweithio yn Sir Fynwy a’r ardaloedd cyfagos i gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anableddau a’u teuluoedd. 

Facebook – Rhwydwaith Rhieni a Gofalwyr MAGIC 

MagicParentsAndCarers@yahoo.co.uk 

Twitter – @MAGICParents 

UNICEF: Sut i siarad â’ch plentyn am Coronafeirws  

Ar gyfer rhieni a phrif ofalwyr 

https://www.unicef.org/coronavirus/how-talk-your-child-about-coronavirus-covid-19

Ar gyfer athrawon  

https://www.unicef.org/coronavirus/how-teachers-can-talk-children-about-coronavirus-disease-covid-19