
Therapydd Galwedigaethol Cymunedol
Ar ôl gweithredu’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru),
mae cyfle cyffrous wedi codi i Therapydd Galwedigaethol profiadol ymuno
â’n Gwasanaethau Integredig blaengar ar gyfer oedolion. Gan ymarfer ar
draws cymunedau amrywiol, byddwch yn dod yn rhan o dîm integredig
cyfeillgar o therapyddion galwedigaethol/ffisiotherapi, gweithwyr
cymdeithasol a nyrsys ardal sy’n cefnogi pobl hŷn ac anabl a’u gofalwyr yn
Nhrefynwy, Rhaglan, Brynbuga a’r ardaloedd gwledig cyfagos. Mae Monnow
Vale yn elwa o gael gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol o
bob disgyblaeth yn cydweithio’n agos i fynd ar drywydd ‘yr hyn sy’n bwysig’
i’r unigolyn a chanlyniadau personol cadarnhaol.
Cyfeirnod Swydd: SAS042
Gradd: £37,261 - £41,496
Oriau: 37.0 yr Wythnos
Lleoliad: Cyfleuster Iechyd a Gofal Cymdeithasol Monnow Vale, Trefynwy
Dyddiad Cau: 24/11/2022 5:00 pm
Dros dro: Nac Ydy
Gwiriad DBS: Oes