
TECHNEGYDD TRAFFIG A DIOGELWCH FFYRDD
Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Priffyrdd a Rheoli Llifogydd ar gyfer Technegydd Traffig profiadol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddylunio, paratoi a gweithredu cynlluniau traffig, ac yn prosesu Gorchmynion Rheoleiddio Traffig parhaol a dros dro. Bydd yn gweithio o fewn tîm bach o Beirianwyr sy’n darparu gwasanaeth proffil uchel sy’n darparu amgylchedd priffyrdd mwy diogel i holl ddefnyddwyr ffordd.
Cyfeirnod Swydd: ROHT22
Gradd: BAND E SCP 14 – SCP 18 (£25,409 - £27,344 y flwyddyn)
Oriau: 37 yr Wythnos
Lleoliad: Man gwaith arferol deiliad y swydd yw swyddfeydd Cyngor Sir Fynwy ym Mrynbuga, a allai newid yn y dyfodol os oes angen adleoli’r gwasanaeth ac ni chaiff treuliau aflonyddu eu talu. Mae natur y rôl yn gofyn am deithio o fewn a thu allan i'r sir.
Dyddiad Cau: 08/12/2022 12:00 pm
Dros dro: Nac Ydy
Gwiriad DBS: Nid oes angen Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon