
Technegydd Cerbydau Modur
Ymgymryd yn llawn â gwaith atgyweirio gan gynnwys gwaith mecanyddol, trydanol a’r gwaith o ofalu am ystod eang o gerbydau, cyfarpar ac offer arbenigol. Ymgymryd â’r dyletswyddau yma yn ddiogel, yn effeithiol ac yn effeithlon yn unol â safonau’r DVSA, deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, amseroedd atgyweirio gweithgynhyrchwyr a’n diwallu anghenion Trwyddedau Gweithredydd y Cyngor.
Mae meddu ar ethos gwasanaeth cwsmer ardderchog yn hanfodol, ynghyd ag agwedd frwdfrydig a chytbwys tuag at Iechyd a Diogelwch.
Mae’r gallu i weithio fel rhan o dîm ac ar ben eich hun a dal i fedru gweithio o fewn terfynau amser yn hanfodol.
Mae’n rhaid medru cwblhau’r holl waith papur ar amser ac mae cydymffurfio â’r safonau yn hanfodol.
Cyfeirnod Swydd: RTRMEC
Gradd: Band F SCP 19 (£25,927) – SCP 23 (£28,226)
Oriau: 37 awr yr wythnos
Lleoliad: Depo Rhaglan
Dyddiad Cau: 19/05/2022 5:00 pm
Dros dro: Na
Gwiriad DBS: Na