
Swyddog Statudol Anghenion Dysgu Ychwanegol
Rydym yn chwilio am Swyddog Statudol brwdfrydig a phrofiadol i ymuno gyda’n tîm cyfeillgar a chefnogol. Rhaid eich bod yn deall deddfwriaeth, prosesau a gweithdrefnau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a’n gallu delio yn bwyllog ac yn effeithlon gydag ysgolion, teuluoedd ac asiantaethau allanol. Fel rhan o’r rôl, bydd angen defnyddio ystod eang ac amrywiol o sgiliau gan gynnwys defnyddio dulliau sydd yn canoli ar y person wrth reoli’ch llwyth gwaith, a’r gallu i ddefnyddio systemau rheoli TG a thaenlenni ‘Excel’. Mae hon yn rôl heriol ond gwerth chweil ac yn rhoi’r cyfle i chi weithio o fewn Tîm Statudol blaengar ar adeg o newid cyffrous
Cyfeirnod Swydd: LLSIS32
Gradd: BAND I SCP 31 – SCP 35 £35,336 – SCP 37 £39,571 (pro rata)
Oriau: 14.48 yr wythnos
Lleoliad: Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Dyddiad Cau: 16/05/2022 12:00 pm
Dros dro: NA
Gwiriad DBS: Oes (Gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)