
Swyddog Rheoli Datblygu dan Hyfforddiant (cyutndeb 12 mis)
Mae cyfle cyffrous gan Gyngor Fynwy i unigolyn uchelgeisiol i ymuno gyda’r Tîm Rheoli Datblygu o fewn Gwasanaeth Cynllunio’r Cyngor. Mae’r Tîm Rheoli Datblygu yn prosesu ceisiadau cynllunio a pherthnasol eraill ac yn cynnig cyngor cynllunio i’r cyhoedd a datblygwyr drwy wasanaeth cyngor cyn ymgeisio a’r llinell gymorth ffôn o dan ofal y swyddog ar ddyletswydd.
Yn gweithio o fewn y Tîm Rheoli Datblygu, bydd disgwyl i’r deiliad swydd i ddelio gyda cheisiadau gan ddeiliaid tai, hysbysu a mathau llai cymhleth eraill o geisiadau ynghyd a delio gyda cheisiadau am gyngor cyn ymgeisio a’n helpu gyda’r llinell gymorth fel y swyddog ar ddyletswydd sydd yn cynnig cyngor o ddydd i ddydd i’r cyhoedd ar faterion cynllunio.
Bydd angen i’r deiliad swydd arddangos safon dda o addysg a phrofiad o weithio mewn tîm.
Cyfeirnod Swydd: RDC 38
Gradd: BAND C, SCP 5 £19,650
Oriau: 37 yr wythnos
Lleoliad: Neuadd y Sir, Brynbuga
Dyddiad Cau: 06/06/2022 5:00 pm
Dros dro: Ydy
Gwiriad DBS: Na