
Swyddog Cymorth Prosiect – Teithio Llesol
Dyma rôl gyffrous i ymuno gyda MonLife a chyfrannu at lywio’r agenda Teithio Llesol ar draws Sir Fynwy. Bydd y rôl yn chwarae rhan allweddol yn cydlynu prosiectau a meysydd gwaith ar draws nifer o wasanaethau er mwyn sicrhau canlyniadau sydd yn gyson gyda’n ffocws strategol ar gyfer Teithio Llesol.
Cyfeirnod Swydd: ROHT54
Gradd: BAND G, SCP 23 – SCP 27 (£27,741 - £31,346)
Oriau: 37 yr wythnos
Lleoliad: Neuadd y Sir, Brynbuga
Dyddiad Cau: 30/04/2021 12:00 pm
Dros dro: Cyfnod Penodol o 24 mis gyda’r posibilrwydd o estyniad
Gwiriad DBS: Nid oes angen gwiriad (Gwiriad Datgelu a Gwahardd)