Dweud Eich Dweud
Rydym nawr wedi llunio’r ROWIP Drafft 2019-29 ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus a hoffem wybod eich barn er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion a’n cwrdd â’r disgwyliadau sydd gan drigolion Sir Fynwy. Mae modd i chi rannu eich barn neu’ch sylwadau drwy e-bostio countryside@monmouthshire.gov.uk neu’r cyfeiriad isod.
Gweledigaeth y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy yw darparu rhwydwaith o Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Safleoedd Gwledig o safon uchel ac sy’n cael ei gynnal, ac sydd yn cefnogi economi Sir Fynwy, yn annog ffyrdd o fyw llesol a dewisiadau teithio cynaliadwy, ac yn cyfrannu at wneud Sir Fynwy yn le gwych i fyw, gweithio ac ymweld. Mae’r strategaeth Ddrafft ar gael i’w lawrlwytho isod ar y cyd gyda’n Gwerthusiad o Gydraddoldeb a Chenedlaethau’r Dyfodol. Mae Atodiad 5 o’r Adroddiad Polisi a Phrotocolau Mynediad at Gefn Gwlad a Rheolaeth Weithredol, yn datgan sut y byddwn yn rheoli’r gwasanaeth ac mae’r adroddiadau asesu ROWIP eraill, a oedd wedi darparu’r dystiolaeth ar gyfer y ROWIP Drafft, hefyd i’w gweld isod.
Bydd eich ymatebion yn ffurfio rhan o adroddiad ar yr ymgynghoriad, ac yn helpu llywio fersiwn derfynol y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy.
Noder os gwelwch yn dda fod yr ymgynghoriad yn dod i ben ganol nos ar 26ain Tachwedd 2019.
Er mwyn derbyn copïau caled o’r dogfennau ymgynghori, neu am unrhyw fformat arall, e-bostiwch: countryside@monmouthshshire.gov.uk neu ffoniwch: 01633 644850
Cyfrinachedd
Mae Cyngor Sir Fynwy yn parchu cyfrinachedd unigolion ac yn ceisio sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei gasglu yn deg, yn gyfreithiol, a thrwy gydymffurfio gyda’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol.
Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Drafft
Asesiad Gwerthuso Cydraddoldeb a Chenedlaethau’r Dyfodol
Atodiad 5 Adroddiad Polisi a Phrotocolau Mynediad at Gefn Gwlad a Rheolaeth Weithredol
Atodiad 1 Asesiad Crynodeb o gyflenwi’r ROWIP 2007 – 2017
Atodiad 2 Asesiad Anabledd ac Iechyd Awyr Agored
Atodiad 3- Adroddiad Asesu Cyflwr y Rhwydwaith a Chyfleoedd 2017/18
Atodiad 4 Ymatebion Ymgynghoriad ROWIP 2017 a 2018
Cyfeiriad Cyswllt: Seilwaith Gwyrdd a Chefn Gwlad, Y Rhadyr, Brynbuga, Sir Fynwy NP16 1GA