Mae’r Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO) yn gynllun grant sy’n galluogi gwelliannau effeithiolrwydd ynni i breswylwyr mewn tlodi tanwydd neu sy’n fregus i’r oerfel.
Nod y cynllun yw gosod mesurau effeithiolrwydd ynni mewn anheddau sy’n aneffeithiol o ran ynni ar hyn o bryd. Os yw’ch cartref chi yn aneffeithiol o ran ynni ac y cewch eich ystyried fel bod mewn tlodi tanwydd neu’n dioddef o gyflwr iechyd sy’n eich gwneud yn fregus i’r oerfel, gallech fod â hawl i grant tuag at fesurau effeithiolrwydd ynni cartref tebyg i system gwres canolog newydd, gwelliannau i system wresogi bresennol a/neu fesurau insiwleiddio.
Bydd Cyngor Sir Fynwy yn gweithio gydag Asiantaeth Ynni De Ddwyrain Cymru (SEWEA) i hyrwyddo cyngor ar effeitholrwydd ynni a gosod mesurau effeithiolrwydd ynni.
Os credwch y gallech fod yn gymwys am help dan gymhwyster hyblyg dylech gysylltu Llinell Gymorth SEWEA ar 0800 622 6110 neu e-bost advice@sewenergy.org.uk.
Mae manylion llawn y cynllun ar gael yn Natganiad Bwriad y Cyngor.