Skip to Main Content

Anfonir Tystysgrif Cwblhau ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau i safon boddhaol. Os nad ydych wedi derbyn eich Tystysgrif Cwblhau, cysylltwch â’ch syrfëwr sy’n gwirio cofnodion y cais. Gall fod angen i chi gael archwiliad terfynol cyn y cyhoeddir y Dystysgrif.

Os ydych wedi colli eich Tystysgrif Cwblhau, cysylltwch â buildingcontrol@monmouthshire.gov.uk neu ein ffonio ar 01633 644833 / 01633 644836 / 01633 644837.  Codir ffi o £30.00 am gopi o Dystysgrif.