Skip to Main Content

Caiff seremonïau adnewyddu yn aml eu cynnal i ddathlu pen-blwydd. Gall hefyd fod yn dda i gyplau y bu eu priodas dan straen. Os buoch yn wael, neu os daethoch drwy argyfwng gyda’i gilydd, efallai y byddwch yn awr am adnewyddu eich addunedau i’ch gilydd. Neu efallai i chi briodi tramor a’ch bod nawr eisiau dweud ‘Gwnaf’ gyda’ch teulu o’ch cwmpas. Gellir cynnal seremoni Adnewyddu Addunedau yn Swyddfa Gofrestru Brynbuga neu mewn safle cymeradwy. Gweler y rhestr ffioedd ar gyfer y costau diweddaraf.