Skip to Main Content

Cynllun Adnau y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yw drafft cyntaf y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (RDLP) sydd yn cael ei lunio.

Bydd y Cynllun Adnau yn gosod Strategaeth a Gweledigaeth yr RLDP ynghyd â  Pholisïau Strategol, Polisïau ar Bynciau Penodol, cynigion a dyraniadau defnydd tir ar gyfer Sir Fynwy (ac eithrio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog). Bydd y Cynllun Adnau yn dynodi ac yn dyrannu tir ar gyfer dibenion tai a chyflogaeth ac yn nodi lle caniateir y defnyddiau hyn a defnyddiau eraill. Mae hefyd yn dynodi ardaloedd lle mae polisïau a gynlluniwyd i ddiogelu’r amgylchedd rhag datblygiadau amhriodol. Caiff Ffiniau Aneddiadau eu cynnwys o fewn y Cynllun Adnau.

Caiff Adroddiad Gwerthuso Cynaliadwyedd (ac Adroddiad Asesu Rheoliadau Cynefinoedd os oes angen) hefyd ei baratoi a’i gyhoeddi ynghyd â’r Cynllun Adnau.

Cynhelir ymgynghoriad/ymgysylltu ffurfiol ar y Cynllun Adnau fydd yn rhoi cyfle i bobl weld y Cynllun a chyflwyno sylwadau.