Skip to Main Content

Gall defnyddio ein gwasanaeth Carlam ar gyfer eich cais eich helpu i gyflawni penderfyniad ynghynt na’r arfer. Cynigiwn y gwasanaeth hwn ar gyfer pob math o gais, er enghraifft ceisiadau aelwydydd a Thystysgrifau Datblygu Cyfreithiol (presennol ac arfaethedig). Bydd y gwasanaeth Carlam yn cyflymu gweinyddiaeth a phrosesu eich cais am dâl ychwanegol (50% o’r ffi statudol). Yn dilyn cyflwyno cais dilys, byddwn yn rhoi eich cais ar y llwybr carlam i gael ei benderfynu o fewn 28 diwrnod ar gyfer deiliaid tai a byddai Tystysgrifau Datblygu Cyfreithiol hefyd yn cael eu penderfynu o fewn 10 diwrnod gwaith. Pe byddai’r annisgwyl yn digwydd ac na fedrwn gyflawni’r targed hwn gallwn ofyn am estyniad byr (1 wythnos) neu ad-dalu elfen Carlam y ffi.

Mae’r gwasanaeth Carlam ar gyfer mathau eraill o geisiadau, cysylltwch â ni i drafod.

Mae angen ffurflen ar wahân, yn ychwanegol at y ffurflen cais cynllunio, cliciwch yma ar gyfer y ffurflen gais Carlam.

Cofiwch fod o hyd angen i chi gyflwyno cais cynllunio. Mae hwn yn wasanaeth ychwanegol. Gellir gwneud cais yma.